Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y Cynadledd Wesleyaidd.

Ffestiniog.

Darganfod Clo ger Fflint.

Ebion o Nant Conwy.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ebion o Nant Conwy. MARWOLAETH MR REFS ROBERTS. Nos Sul bu farw Mr Rees Roberts, Rhiwb.ich Ter- race, Cwm Penmachno, ar ol naw niwrnod o af- iechyd, yn 58ain oed. Yr oedd wedi gweithio ei hun i fynu i safle o bwys ac anrhydedd. Pan ddaeth Deddf-lywo iraeth 1894 i weithrediad, etholwyd ef yn aelod o Gynghor Dosbarth Gwledig Bettws-y-coed yn un o'r tri dros Fachno, ac ethol- wyd ef yn aelod o Gynghor Plwyf tros Fachno eil- waith. Daliodd y ddwy swydd hyd ei fedd, ac nid hyny yn unig, ond gweithiai yn egniol ac ym- drechgar. Ystyriai ei hod yn ddyledswydd, gan iddo gael ei ethol, wneud yr hyn oil a allai i gwbl- hau y gorchwyl a ymddirierlwyd iddo Yr oedd yn Rhyddfrydwr da a goleuedig, a phob amser yn effro-yn cadw'r pylor yn sych. Yr oedd yn flaenor gweithgar gyda'r Wesleyaid, ac ni chollai yr un o'r cyfarfodydd. Hebryogwyd ei weldiHion i fynwent plwyf Penmachno ddydd Mercher, y 5ed. Cafodd angladd lluosog. Ar ol cvrhaedd v Llan aed i mewn i'r capel Wesleyaidd, pryd yr arwein- iwyd gan y Parch J. 0. Parry, gweinidog yr enwad yn y lie, a siaradwyd gan y Parchn Morris Roberts,, rheithor J. Morris Jones (M.C ); Wm. Roberts, Maentwrog D O. Jones, a Mr T. Williams,Y.H., Dolyddelen, a chadeirydd Cynghor Dosbarth Bettws-y-coed. Gadawodd yr ymadawedig wraig, dwy ferch, a phedwar m&b i alaru eu colled ar ei ol. Mae y mab hynaf, Mr R. R. Roberts, yn masnachu. yn Lord Street, Lerpwl. PYSGODFEYDD TRE'RGOG i ddyfod tan gyfnewidiad trylwyr. Mae'r bonedd- wr a ddaeth i breswylio i'r Benar View wedi llwyddo i sicrhau agos ein holl ddyfroedd i'w afael,. ac y mae yn penderfynu eu ffirmio yn y modd mwyaf diwyd a manwl. Bwriada gael maglau i ddal yr holl lysywod, y rhai ydynt yn dra difaol i'r brithylliaid. Ceir nad ydyw am ganiatau i neb bysgota ond gyda pblu yn unig-dim pry' o gwbl. Mae ganddo saith neu wyth o reolau manwl. Enw y boneddwr yw Mr W. B. Halhedi E. O'R NANT. --0--

Fe ddywedir

Achos o Ysgariad o Ogledd…

Arholiadau Undeb yr Annibynwyr.