Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y Cynadledd Wesleyaidd.

Ffestiniog.

Darganfod Clo ger Fflint.

Ebion o Nant Conwy.

Fe ddywedir

Achos o Ysgariad o Ogledd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Achos o Ysgariad o Ogledd Cymru. YN Llys Ysgariad, ddydd Sidwrn, gerbron Syr Francis Jeune, daeth achos yn mlaen yn yr hwn y ceisiai Pauline Harriett Emma Davies ysgariad oddiwrth ei gwr, Edward Davies, ar y tir o greu- londeb a godineb. Tystiodd y wr&ig iddi briodi ei gwr Mawrth 21, 1891, mewn swyddfa cofrestru yn Machynlleth, a bu iddynt ddau o blant. Aeth ei gwr i yfed, a phan yn feddw yr oedd yn greu- lawn iawn. Tarawodd hi droion nes ei gwneud yn anymwybodol. Dro arall bygythiodd ei llofruddio gyda chyllell, a bu raid iddi redeg am ei hoedl, Mewn canlyniad i hyn, ymwahanodd oddiwrtho yn 1894, ac aeth i fyw at ei thad. Clywodd wed'yn fod ei gwr yn cydfyw a gwraig arall. Lizzie Griffiths, Dolgellau, morwyn gyda'r pleidiau yn y Bermo, a dystiodd i'r creulondeb arferai y wraig ddyoddef.—Caniatawyd yr ysgariad gyda chostau, y fam i gael gofal y plant. o

Arholiadau Undeb yr Annibynwyr.