Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y Cynadledd Wesleyaidd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Cynadledd Wesleyaidd. Y CYNGHOR a draddodwyd gan y Parch HUGH JONES, yn nghapel Mynydd Scion, Lerpwl, nos Sadwrn, Awst laf, ar yr achlysur o ordeiniad tri o weinidogion i gyflawn waith y weinidogaeth. YR ydych wedi eich neillduo heddyw i gyflawn waith y weinidogaeth Gristionogol ac mae yn un o ddigwyddiadau pwysicaf eich bywyd. Diau eich bod yn teimlo hyny; ac y bydd unrhyw air a thuedd ynddo i'ch cynorthwyo i gyflawni eich gwaith yn eHeithiol a llwyddianus yn werthfawr genych. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi eich gwir ddychwelyd at Dduw ac yn meddu profiad o wir grefydd. Yr ydych wedi dwyn tyskiolaeth o hyny ar eich derbyniad fel ymgeiswyr ac ar yr achlysur presenol. Dyma nod angen y swydd. Beth bynag am gymhwysderau eraill, os heb hwn mae yr oil yn ofer. Rhaid adnabod lesu Grist yn Waredwr, a phrofi yr iachawdwriaeth sydd ynddo cyn y gellir bod yn gymhwys i'w gvnyg yn Waredwr i eraill. Mae hyny yn hanfod er cael awdurdodiad i'r swydd. 0 blith ei ddisgyblion mae lesu Grist yn dewis ei genadon. Rhaid bod yn blant cyn bod yn weision. Y rhai a gymododd Duw fig ef ei hun, ac a wnaed yn greadigaeth newydd yn Nghrist, yw y rhai yr ymddiriedir gweinidogaeth y cymod iddynt. Un o ddywed- iadau y diweddlr Barch Edward Anwyl ydoedd Nid yw Duw yn gosod bleiddiaid i ofalu am y praidd.' Dameg oedd hyny i ddweyd nad yw Duw yn gosod rhai annychweledig i ofalu am yr eglwys. Nid yn unig nid oes awdurdodiad i'r swydd heb brofiad o grefydd, ond nid oes cymhwysder ychwaith. Rhaid cael profiad o'r iachawdwriaeth sydd yn Nghrist er bod yn alluog i'w hegluro i eraill. Mae yn well disgyblaeth ar gyfer egluro y drefn na'r efrydlaeth dduwinyddol fwyaf llwydd- ianus. Profiad o'i gwerth sydd yn cynyrchu tosturi tuag at y rhai sydd hebddi, ac yn cymhell i geisio enill .raill i'w chofleidio. Iaith yr Apostol oedd A ni yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell ni,' &c. Gyda hyny mae proflid o grefydd yn gymhwysder hanfodol i ddeall cyfrin- ion bywyd ysbydol, ac i borthi a bvgeilio praidd Duw. I IFithr y dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd Ysbryd Daw, canys ffolineb ydynt ganddo ef ac nis gall eu gwybod, oblegyd yn ysbrydol y bernir hwynt.' YN MEDDU'R CYMHWYSDERAU ANGENRIIEIDIOL. Yr wyf yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi eich cynysgaeddu a chymhwysderau naturiol at y gwaith—gallaoedd meddyliol uwchraddol, graddau o ddiwylliant, a dawn ymadrodd. Mae miloedd o bobl sydd yn meddu profiad o grefydd, ond nad ydynt yn gymhwys ar gyfer y weinidogaeth am nad yw y cymhwysderau hyn ganddynt. Bydd genych chwi i fod yn athrawon ac yn arweinwyr crefyddol; a chyn y gallwoh gyflawni eich gwaith rhaid fod ynoch allu i ganfod ac amgyffred gwirion- eddau mawrion yr efengyl, gallu i weled eu cyd- berthynas a'u cysondeb, a gallu i'w hegluro i eraill, ac i'w cymhwyso at gydwybod a ehalon. Mae amryw ddoniau gyda hyn fel gyda pethau eraill, Maent yn wasanaethgar i gyfarfod gwahanol angen- ion ac amgvlchiadau, ond rhaid cael doniau. Mae yn well ymgymeryd & phob gwaith na gwaith y weinidogaeth heb gymhwysderau naturiol. WEDI EU GALW I'R GWAITH. Yr wyf yn cymeryd yn ganiatnol hefyd eich bod wedi eich galw t'r gwaith. Nid yw profiad per- sonol o grefydd, a meddianu cymhwysderau natur- iol, yn ddigonol heb hyn. Mae llawer sydd yn feddianol ar y naill a'r llall, ond sydd heb fod yn y weinidogaeth am nad ydynt wedi cael yr alwad. Nid wyf yn sicr y gallaf egluro beth yw yr alwad i foddlonrwydd eraill, er fy mod yn sicr fod y fath beth yn bod. Argraph fewnol ydyw, yn cael ei chynyrchu gan yr Ysbryd Glân, fod Daw ynewyll- ysio i'r hwn sydd yn ei derbyn ymgymeryd k gwaith y weinidogaeth. Mae yn alwad union- lyrchol oddiwrth Dduw, ond yn cael ei hategu Ian alwad oddiwrth yr eglwys. Eithnad ydyw i Dduw alw heb i'r eglwys ymgymeryd ftg ategu yr alwad a diau mai eithriad ydyw i'r eglwys alw heb fod Duw vn galw yn uniongyrchol hefyd. Y rheol yw fod Daw a'i eglwys yn cydweithredu. Mae yr alwad yn cynwys penodiad ac awdurdodiad i'r swydd. Ni ddylai neb ymgymeryd a'i swydd heb yr alwad ac os gwnant, ni bydd llewyrch arnynt. Dylai pawb sydd yn cael yr alwad ufudd- hau iddi. Mae anufudd-dod yn peryglu iach- awdwriaeth bersonol. Paul a ddywedai, 'Gwae fydd i mi oni phregethaf y Efengyl,' ac mae yr un gwae yn aros pawb arall a anufuddhant. Ond mae yr alwad yn cludo gyda hi ddawn neillduol ar gyfer y gwaith. Dywedai Paul wrth Timotheus, « Oherwydd pa achos yr ydwyfyn dy goffhau i ail enyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw i.' Yr oedd arddodiad dwylaw yr Apostol yn arwydd allanol o gyflead rhyw ddawn neiliduol ar gyfer y gwaith. Derbyniodd ryw ysbrydiaeth a nerth nad oedd yn eiddo iddo o'r blaen. Mae yr un peth yn cael ei wneuthur eto, Mae Duw wrth alw at waith yn rhoddi cymhwysder ar ei gyfer. PWYSIGRWYDD Y SWYDD. Am fy mod yn credu y pethau hyn am danoch chwi, mae'n weddus i mi geisio cyffroi eich meddwl puraidd i ymgysegriad adnewyddol i'ch swydd a'ch gwaith. Cymhellaf chwi i ddechren i ystyried pwysigrwydd eich swydd. Mae'n swydd urddasol. Nid yw'n bosibl i ddyn gael safle fwy anrhydeddus na bod yn llysgenad y Brenin Goruchaf. Mae bod yn llysgenadon breninoedd ac ymerawdwyr y ddaear yn ddistadl mewn cydmariaeth. Nid wyf yn gwahardd i chwi feddwl am urddas eich swydd, ond gwneud hyny mewn ysbryd priodol; ond yr hyn ddymunwn alw eich sylw neillduol ato ydyw pwysigrwydd y swydd. Mae'n cludo gyda hi'r cyf- rifoldeb mwyaf aruthrol. Yr ydych yn gynrych- iolwyr Duw gyda dynion. Mae'rsyniado tod yn gyn- rychiolwyr Duw yn un cyffrous wrtho ei hun, Megys pe byddai Daw yn deisyf, yr ydym yn erfya dros Grist.' Yr ydych yn gynrychiolwyr Duw gyda dynion yn nglyn i'r pethau pwysicaf- pethau gogoniant Duw a iachawdwriaeth eneidiau. Mae bywyd tragwyddol dynion yn eich dwylaw chwi mewn ystyr bwysig iawn. Mae gweini- dogaeth y cymod' wedi ei hymddiried i chwi. Dibyna llawer arnoch chwi pa un fydd yn 'arogl bywyd i fywyd,' neu yn 'arogl marwolaeth i farwolaeth.' Bvdd a fynoch chwi a chadw neu golli eneidiau anfarwol. Mae y syniad yn un ofnadwy gyffrous. Dylech ymroddi i fod yn 'Ian oddiwrth waed pawb oil.' Yr ydych i fod yn athrawon ac yn fugeiliaid yr eglwys. Bvdd genych i ofalu am y rhai crwydredig, y llesg, y llwfr, a'r esgeulus Dibyna llwyddiant neu af- lwyddiant y (Jristion a'r eglwys lawer arnoch chwi. Byddwch yn gyfrifol i Dduw am yr oil. Mae cyfrifoldeb y meddyg, y cyfreithiwr, ac hyd yn nod y penadur, yn myned yn ddim yn ymyl eich cyfrifoldeb chwi. Dylai ystyried pwysigrwydd eich swydd fod yn gymhorth i chwi i dderbyn y gair nesaf, sef YMGYFADDASIAD AR GYFER Y GWAITH. Dylai gweinidog yr efengyl gyfaddasu ei hunan ar gyfer ei waith os am ei wneud vn Ilwyddianus. 1. Byddtvch ofalui o'ch iechyd. Mynwch ddigon o awyr bur ac ymarferiad. Gweithwch wrth reol Ni wna llawer o waith niwaid i neb. Mae mwy yn dioddef oddiwrth segurdod nag oddiwrth or- lafur. Gweithio afreolaidd sydd yn nychu. 2. Ymroddweh i feithrin dynoliaeth dda. Wrth ddynoliaeth dda y golygir dynoliaeth yn gwisgo nodweddion teilwng o ddyn fel dyn. Y ganmoliaeth a roddir i ambeil un ydyw fod llawer o'r dyn ynddo.' Mae dynoliaeth dda, gref, lydan a chyf lawn, yn werthfawr i bawb. Dylai gweinidog fod yn ddyn o argyhoeddiadau clir a chryf, ac yn meddu digon o benderfyniad i sefyll drostynt, ac 1 lynu wthynt, nes cael goleuni gwahanol. Dylai fod yn syml ac unplyg ei feddwl, yn ddihoced a diddichell, er yn gall fel y sarph, eto yn ddi- niwaid fel y golomen. Dylai enill ymddiried a bod yn ffyddlon iddo, yn gyfan i'w air, ac yn bur i'w gyfeillion. Dylai fod yn deg ac anmhleidgar, Mae yr amlygrwydd lleiaf o bartiaeth yn ddinystr i ddylanwad y gweinidog. Dylai fod yn agored heb fod yn chwedleugar, yn garuaidd heb fod yn wenieithus, ac yn onest heb fod yn llym. 3. Olynwck wrth efrydiaeth. Os am fod yn weinidogion llwyddianus, rhaid i chwi fod yn efryd- wyr ar hyd eich oes. 4. Meithrinwch grefydd bersonol. Os am fod yn weinidog llwyddianus rhaid i chwi fod yn dduwiol iawn. Mae cymeriad yn meddu mwy o ddylanwad na dim arall. Gall duwioldeb dwfn wneud i fynu i raddau am wendid mewn cyfeiriadau eraill, ond nid oes dim a all wneud i fynu am ddiffyg duwiol- deb. Mae pob gweinidog gwir lwyddianus wedi bob yn amlwg am nerth cymeriad crefyddol. Rhai felly oedd Luther, Calfin, Wesley, Spurgeon, ac eraill. Yr oedd hyn yn nodweddiadol o'r gweini dogiou mwyaf adnabyddus-Howel Harris, Row. lands, Llangeitho Christmas Evins, Williams o'r Wern, Jones, Bathafarn John Jones, Talsarn, a llawer mwy allesid enwi. Am hyny yr wyf yn dywedyd, byddwch ddyfal i feithrin crefydd ber- sonol. Darllenwch y Beibl er eich budd a'ch man- tais eich hunain. Cynghor hen bregethwr i wr ieuanc yn cychwyn ar waith y weinidogaeth ydoedd Darllen y Beibl i ti dy hun. Gall hyn ymddangos yn gynghor diangenrhaid, am y rhaid i ti ddarllen y Beibl er cael testyn, a chyfansoddi y bregeth oad un peth ydyw i ti ddarllen y Beibl ar gyfer y bobl eraill, peth arall ydyw i ti ei ddarllen fel moddion gras i ti dy hun. Gelli ddarparu ym- borth i bobl eraill, a gadael i'th enaid dy hun farw o newyn.' Mae yr ystyriaeth yn un bwysig iawn. Perygl y coginydd ydyw colli archwaeth at ymborth wrth ddarparu ymborth i eraill. Mae hyn yn bosibl i'r pregethwr hefyd. Am hyn yr wyf yn dywedyd, byddwch ddyfal i ddarllen y Beibl i chwi eich hunain. Penderfynwch fod yn rhai mawr mewn gweddi. Wrth gyfrinachu llawer a Duw mae bod yn llwyddianus gyda dynion. Rha mawr mewn gweddi oedd Bramwell a Collins yn mhlith y Saeson, a rhai felly oedd John Evans, New Inn Richard Owen y diwygiwr, a llawer eraill gyda'r Cymry. Nid oes dim y teimla cynull- eidfa oddiwrtho yn gynt na nerth cymeriad cref- yddol. Os yn derbyn argraph fod y pregethwr yn byw yn agos at Dduw, a'i fod yn teimlo ei genad- wri, mae yn gymhelliad cryf i'w derbyniad. NATUR Y GWAITH A'R MODD I'W GYFLAWNI. Goddefwch i mi eich cymhell i wneud eich meddyliau i fynu i fod yn weithwyr—yn weithwyr caled, cyson, a dyfal-barhaol. Nid yw y weinidog- aeth i fod yn segur-swydd. Y rhan bwysicaf o'l'h gwaith ydyw 1. Pregethu y Gair. Uwchlaw pobpeth dylai y gweinidog fod yn bregethwr. Gwirioneddau yr efengyl ydyw moddion yr Ysbryd Glan i argy- hoeddi y byd, a thrwy yr un moddion y mae yn perffeithio credinwyr, fel ag y rhaid i bregethiad y Gair gael y lie blaenaf yn ngwaich y gweinidog. Nerth Protestaniaeth ydyw yr amlygrwydd a rydd i Air Daw ac mae llwyddiant Ymneilldnaeth vn Nghymru, fel yn mhob man, yn fwy dytedus Fr pwlpud, nag i'r un offerynoliaeth arall. Nod angen purdeb yr eglwys ydyw fod Gair Duw yn uwchaf. Mae gan y Sacramentau eu lie a'u gwasanaeth. Ond unwaith y rhoddir y flaenoriaeth i'r Sacra- mentau ar air Duw mae dirywiad yn canlyn, fel y prawf eglwysi Groeg a Rhufain, ac adran bwysig o Eglwys Sefydledig ein gwlad. Nid heb bryder y dylem sylwi ar yr osgo sydd yn y dyddiau pres- enol i gyfyngu ar le y bregeth er mwyn rhanau eraill y gwasanaeth crefyddol. Honir y dylai mwy o le gael ei roddi i ddefosiwn, ac yn arbenig canu mawl-ei fod yn angenrheidiol i wneud y gwasanaeth yn fwy at-dynol. Mae i ddefosiwn ei le, a dylai ei gael; ond os rhaid cyfyngu ar amser a lie y bregeth hyd yn nod er mwyn defosiwn. mae pregethu y gair yn cael cam. Y bregeth oedd yn cael y lie amlycaf yn yr eglwys foreuol. yn ol dysg- eidiaeth Llyfr yr Actau, ac mae wedi cael y lie blaenaf yn nglyn a phob adfywiad yn hanes yr eglwys yn mhob oes a. gwlad. Fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.' Dyma offerynoliaeth benaf adferiad y byd. Am hyny yr wyf yn dweyd, penderfynwch fod yn bregethwyr. Gwnewch bregethu vn brif waith eich bywyd. Treuliwch eich nerth a'ch amser yn benaf arno. Y mroddwch i barotoi ar gyfer y pwlpud. Os na bydd y bregeth yn werth ei pharotoi, ni bydd yn werth ei gwrando gan ddvnion na'i harddel gan yr Ysbryd Glan. Y rhan arall o'ch gwaith ydyw buqeilio. Mae genych i ofalu am vr eglwys. Gofalwch am ei chymeriad. Gofalwch hefyd am fuchedd yr eglwys. Gofalwch am bob dosparth sydd yn perthyn i'r eglwys-v plant a'r bebl ieuainc, Ewch hefyd ar ol y defaid crwydredig. Ewch yn fuan, cvn yr elont yn rhy bell i ddychwelyd. Bydded i'r claf a'r profedigaethus gael eich cyd- ymdeimlad a'ch gofal. Byddwch dyner a char- edig wrth y tlawd. Byddwch yn onest gvda'r cyfoethogion. Rhoddodd Paul adran bwysig o'i epistol cyntaf i gyfarwyddo Timotheus pa fodd u ymwneud & chyfoethogion. Mae ganddynt ei peryglon neillduol eu hunain, ac mae'n werth cym- eryd trafferth i sicrhau eu dyogelwch. Gofalwch hefyd am waith yr eglwys, a cheisiwch sicrhau gwaith o dan ddylanwad y cymhellion penaf. Dysgwch fod pob gwa,sanaeth i gael ei wneud i Grist, ac nid i chwi-er mwyn gogoneddu Crist, ac nid i'ch boddio chwi. Un o beryglon mwyaf yr eglwys yw ufuddluu i gymhellion hun- anol a bydol. Ond gofalu am i waith gael ei wneud, cael pwb i wneud y gwaith, a phawb i wneud y gwaith hwnw o dan ddylanwad y cym- hellion penaf, ni all na lwydda yr eglwys o dan eich gofal. CYMHELLION. Mae y cymhellion i ymgysegru i'r gwaith yn lluosot; a nerthol. Nid y lleiaf yw yr anrhydedd a osodir arnoch. Yr ydych mewn ystyr neillduol a phwysig yn cael y fraint o fod yn gydweithwyr a Duw. Mae natur a chynwys y gwaith hefyd yn cynyrchu y mtuynhad uwchaf. Ymroddwch mor 11 wyr i'ch gwaith fel y galloch yn y diwedd ddy- weyd;—'Mia ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a. gedwais y ffydd. 0 hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr Cyfiawn, i mi yn y dydd hwnw." H. *.o:

Ffestiniog.

Darganfod Clo ger Fflint.

Ebion o Nant Conwy.

Fe ddywedir

Achos o Ysgariad o Ogledd…

Arholiadau Undeb yr Annibynwyr.