Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
CWRS Y BYD
CWRS Y BYD Siars y Parch. Hugh Jones. MEWN colofn arall, ceir anerchiad Cadeirydd y Dalaith Ogleddol, i'r erwyr ieuainc a ordeiniwyd i gyflawn waith y weinidogaeth gyda'r Wesley- aid yn Nghymru. Bnasai yn anbawdd gosod y Cyngbor mewn dull tynerach, ac eto mwy cryno ac effeithiol. II Kilsbv." UN doniol oedd Kilsby. Efe alwodd Ohehydd Llundain y Faner yn Bobman," a Chynddelw y Cellweirddvn Cynddelw." Yr oedd un- waith ar y stwmp yn etholaethu, a chrach- foneddwr o haner Cymro, baner Sais, gydag ef. yr bwn a ddywedai wrtb ddechreu ei arawd. "Cnafiisiarad a cbi yn Sasneg-enaiff Mr Jones siarad a cbi yn Cymraeg-m-edr o siarad Cymraeg yn gwell na fi." Medra, a Sasneg hefyd, diolch i'r Brenin Mawr," ebe'r wit yn ddigon hyglyw. Dvwed gohebydd yn y Western Mctil ei fod 'Wedi rhoi gorchvrayn rhvfedd yn nghylch ei srladdedigaetb. Dewisodd ei le bedd ar ei dir ei hun tua 250 Hath o Glenview, ei gartref yn Llanwrtyd, llanercb neillduedig yn ymyl llwyn o goed. Yr oedd hefyd wedi deisvf ar fod y cynbebrwng yn un hollol breifafc (dim ond pedwar dvn, y rhai a enwai) i fod yno fel clud- wyr, ac i gael bara a chaws a chwrw cyn cychwyn, a ebxniaw dao ychsdg wedi dychwelyd, j yn nohyda. 2/6 yr un, gan nad oeddynt ond llaf- urwyr yn gweithio fesul dydd. Cvnhauaf Glanau'r Mor. TYNODD yr ychydjor sylwadau a wnaed yn y eolofn hon yr wythnos ddiweddaf gryn sylw a daeth saith nen wyth o Ivthyrau i law yn dweyd nad cywir fod y cynhanaf elerti vn brinach nasr arfer. er yn ddiau yn fyrach. Dvwed gohebvdd o r Rhyl na fu'r dref hono yn nghof neb sy'n cyn llawned ag ydoedd y Sadwrn o flaen brwvl y Banc eleni. Dvwed fod vno luaws yn <5erd.(Jed yr heolydd trwy'r nos o ddiffyg cael ettv. Mae'n syn na fuasai rhai o lettvwyr j wedi gweitbredn ar gynllun "Box ,n(*, ,x>" y printar a'r barbwr, un yn gweitbio'r ?'r Hall v nos, a'r hen wreigan a'i llettyai n diarwybod i'r naill na'r llall yn cael tal gan y ddau. Mae'n dda odiaeth genyf glywed fod Awst ~^ril_(3vnifer o bobl y dref i ganol y a ^aT1aa'r mor a llechweddau'r mynydd- "Woln w'ac^ vn °rlawn o ymwelwyr. er An i eu ca^ mewr. llawer bwthyn, <>c yn bethau digon pyticlar a thraflferth- us yn ami. Mae en tipyn pres yn dod i mewn at y rhent. Er's talm, 'roedd y bythynwr yn cadw mochyn i'r perwyl hwnw ond 'roedd digon o helbul i gael bwyd a'i gludo gartref, i'r creadur grwgnachlyd bwnw befyd, a chym ydog go annymunol ydoedd, canys mochyn ydyw mochyn wedi'r cwbl. Newid Awyr. MAE Dr Louis Robinson, yn un o gylchgronau'r mis, yn dadleu nad oes dim yn cryfhau iechyd ac yn estyn hoedl dyn gymaint a newid awyr, hyd yn nod pan fyddo hyny o awyr bur i awyr anmhur. Er prawf o'r olaf, dywed ei fed ef yn adwaen hen foneddwr yn byw mewn ardal hynod o iachus yn Surrey, ac yn cael ei boeni gan ddiffyg anadl a bronceitys a fyddai yn cael esmwythad pan ddeuai i drigianu yn nghymyd- aeth Seven Dials. Mae Dr Robinson yn ym- helaethu ar yr achos paham y gwna symud o'r unfan les. Bu ein bynafiaid, meddai, am oesau lawer, yn dilyn y bywyd crwydrol nes y daeth yn ail natur yuddynt. Naturiol fod y reddf hono yn ail-ddangos ei hun, ac nas gallai nac arferion, na gwareiddiad, na diwylliant mo'i diwreiddio yn hollol. Dadleuai'r Dr hefyd y dylai gwylltfilod y Zoological Gardens gael newid awyr, a bod hyny Hawn mor angenrbeidiol iddynt hwy ag ydyw i'r hil ddynol. Ac yn rhj-fedd iawn, yn nghylcherawn Cassell am Orphenaf, rhydd Arglwydd George Sanger ei brofiad fel per- chenog y filodfa fwyaf sydd yn ymda;th o'r naill fan i'r llall yn y wlad hon. Y maent yn trafaelio o Chwefror hyd Tachwedd, ac yna yn llocbesu yn misoedd byraf y gauaf ac er yn fynych yn nghanol eira dwfn tra ar daith, deil y dynion a'r anfeiliaid yn eu cynefin iechyd ond gynted yr stnt "i mewn am y gauaf, daw anwyd ar un, rhyw wavw neu gilydd ar v llall, a bydd rhyw bip arnynt o byd nes yr ail gychwynant i'w pererindod. Y Rhodwyr. RHAID gwneud rhywbeth i arbed ein ffyrdd rhag syrthio'n llwyr i feddiant rhodwyr. Mae'n berygl en croesi gan mor lluosog ydyw'r ys- prydion hyn ac mor ddystaw y rhuthrant ar eich traws. Nid ffyrdd y wlad na ffyrdd y brenin ydyw ein ffyrdd erbyn hyn, ond ffvrdd crwydriaid ar olwynion, difater o aelodau a bywydau eu cvdgreaduriaid chwaithach yr eidd- ynt eu hnnain. Y mae'r brif-ffordd fawr sydd yn rbedeg trwy Langollen, &c., tua Chergybi yn frith ohonynt Sul, Gwyl, a Gwaith. er's wytbnosau a ffyrdd eraill rywbeth yn debyg. Y lleiaf ellir wnend a hwy ydyw ea cofrestru, a chodi treth fechan arnynt Ond dylai'r drwydded, pa bryd bynag y daw, gynwys dan os nid tri dosbarth sef y dosbarth gweithio], sy'n defnyddio'r peiriant i fyn'd a dod i'w gwaith y rhai sy'n eu harfer i gludo nwyddau a'r sawl sydd yn eu defnyddio er eu pleser yn unig. Gorliflad Corwen. DYWED Mr John Hughes, gynt o Dan v Graisr, Rhuthin, ei fod ef yn myn'd i nol defaid i Lan- drillo dridian ar ol y trychineb uchod, at yr hyn y eyfeiriwyd yn ein rhifyn diweddaf. Ni welodd erioed y fath alanasdra. Y farn y pryd hwnw ydoedd mai cwmwl oedd wedi tori yn y mynydd uwcblaw'r dref, ac i gefnllif ruthro i lawry gori- waered gan ysgubo pobpeth o'i flaen. Llwyr faluriwyd capel y Wesleyaid, yr hwn cedd ar gyfer y Crown Bach ac yr oedd y llaid a glud- wyd oddeutii capel yr Annibynwyr, lie y mae sw^ddfa'r Wythnos yn awr, bron cyn uched a'r tô. Yr oedd y ffyrdd yn nghyfeiriad Cynwyd o glawdd i glawdd yn orlawn o rwbel wedi ei gludo yno gan y Ilifddyfroedd. Yr hen wr a'r wningen, YR wythnos ddiweddaf, dygodd hen wr 70 mlwydd oed, sydd yn byw yn Lloc, pentref yn rhywle ar derfynau etifeddiaeth Arglwydd Mostyn yn sir Fflint, gynghaws yn erbyn cipar ei arglwyddiaeth am ymosod arno. Dechreuodd y cweryl trwy i gi bychan yr hen wr pan oedd y ddau yn rboi tro, gael hyd i wningen fechan wedi marw, a'i dwyn hi at draed ei berchenog. Ar hyn neidiodd y cipar o'i gnddfan, ac aeth yn ymgiprys rhyngddynt am y pryf marw. Yn yr ymdrech syrthiodd yr hen wr i lewyg. Yr ydym yn methu deall pa hawl oedd gan na chipar na neb arall i gymeryd cwningen na dim arall oddiar ddyn trwy orthrech ar y ffordd fawr a bu yr hen wr yn ddigon anffodus i feddwl yr un modd. Gwysiodd ei ymosodydd, fel y dywedwyd. i ymddangos mewn Ilys barn ac vn yr adroddiad a welsom, cafodd y llys ddifyrwch rhyfeddol wrth wrando arno yn traethu ei achos. Mae "(laughter)" a "(much laughter)" yn britho'r adroddiad, er fod yn anhawdd gweled p'le mae'r digrifwch yn dyfod i mewn. A'r diwedd fu, taflodd yr ynadon yr achos allan, gan orchymyn i'r hen wr dalu costau'r diffynydd. Gwell i bawb adael cwn- ingen fyw neu farw yn llonydd; a chydnabod y ffaith mai eiddo Arglwydd Mostyn a'i gipar y I y ddaear a'i gwningod yn sir Fflint.
Cwisg yr Archdderwydd.
Cwisg yr Archdderwydd. DYWED y Guardian Ymwelodd y Proff. Her- komer a. Hwfa Mon ddoe, gan ddwyn gydaw ef y fantell a gynlluniodd i'r Archdderwydd. Mae'r fanteIl yn gorchuddio'r holl gorph ac yn rhoddi gwedd urddasol ar y sawl a'i gwisga. Crepe gwyn yw ei defnydd. Mae'r sandalau wedi eu gwneud o hid gwyn ystwyth, ac yn birach yn y goes nag esgidiau'n gyffredin. Y goronbleth o ddail derw sydd'yn engraipht ysblenydd o waith y Proffeswr mewn copr. Y darn mwyaf taraw- iadol o'r wisg yw'r ddwyfroneg, yr hon sydd o aur pur ar ffurf haner cylch gyda dwy stud yn mbob pen. Costiodd tua 76p. Oaed y defnydd o Amueddfa Dublin. Mae'r gwaith ar y ddwy- froneg yn goeth. Mae'r wisg yn wir ddarlu n- iadol, ac ychwanega lawer at ddyddordeb v r olygfa yn yr Orsedd.
Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor.
Gwibnodlon o Ddyffryn Maelor. WEL dyma Wyl y Ba.nc yn mhlith y pethau a fu. Gwaghawyd Dyffryn Maelor bron yn gyfan- gwbl y tro hwn, ac eithrio y Ffair Flodau a Gwagedd yn Mharc Wynnstay; am y bobl gall, aethant hwy tua Chorwen a Glynceiriog i fwvn- bau gwledd o fwyniant i'r meddwl a'r glust. Am y di-chwaeth a'r di-athrylith, en cyrchfan oedd glan y mor a'i dwrw. Ac am y dosbarth rhwng y ddau uchod, sef y dosbarth di-ddrwg I di dda, di ddim, aethant i Bare Wynnstay. Fel rhwng pobpeth chwi welwch nad oedd llawer wedi aros yn ol i warchod yr hen Ddyffryn. Am danaf fy hun, nid oedd ond un atdyniad i mi yn yr holl fyd mawr llydan, ac mi wyddai pawb arall hefyd y lie bnaswn, ac nid oes angen i mi ddweyd mai 'Steddfod Corwen oedd hwnw. Aethum yno y tro hwn ar nos Sadwrn i gael trenlio y Sabboth yn y fro dawel hono, ac ni bu edifar genyf. Cefais dywydd cystal ag y dy- munwn, a phregetbau a chanu rbagorol iawn. Yr oeddwn wedi meddwl i-epoi-tio y 'Steddfod i'r Cymro, ond canfyddais Obebydd Arbenig wrtb y gwaith, ac mi roddodd adroddiad cryno ddigon i chwi, ond efallai y goddefwch i minau wneud ychydig sylwadau neu wibnodion brysiog arni. I ddechreu yn y diwedd, cefais lon'd fy nghalon o fwynhad yno. Un o'r Eisteddfodau I goreu a mwyaf gwresog y bum o'i mewn fawr 11 erioed. Yr oedd trefniadau y pwyllgor bron a bod yn berffaith, Llifon yn arwain yn gartrefol dros ben, a da fuasai i rai o'r arweinyddion cenedlaethol yma gymeryd tudalen o'i lyfr. Gwyr pa bryd i siarad a phryd i dewi Dy- wedai ddigon a dim gormod. Fel yna yn union y dylai fod. Dynion c ill oedd yn llywyddu hefyd. Anerch- iidau byr a brwd—digon o Gymraeg. Esiampl deilwng eto i lywyddion Llandudno. Mae Cymraeg Kuno Meyer yn ystwytho yn dda, a'i yspryd yn dechreu cael ei drwytho a, brwdfryd- edd y Celt. Da genyf oedd ei weled yn cael derbyniad mor dywysogaidd yn JNTghojrwen. A diolch iddo am ei arawd ysblenydd. Yr oedd Hwfa yn dda iawn, ac ar y Mesur Byr. Diolch. Ond, aroswch funyd Onid yw'n ddeddf yn rheolau Gorsedd Beirdd Ynys Prydain nad oes yr un o'r aelodau i gymeryd rhan mewn unrhyw Orsedd o'r tuallan i'r "Orsedd Genedlaethol ? Oni ofynodd yr Hwfa am ganiatad yr awdurdodau i gynal Gor- sedd fach yn Chicago ddwy flynedd yn ol ? Ac oni alwyd sylw arbenig at y rheol hon mewn cyfarfod o'i heiddo yn Llandudno ? Do, 'rwyf yn meddwl. Ac eto, pwy ganai uchaf ar betryal y farcbnad yn Ngborwen fore Linn, ond yr Archdderwydd ei hun ? Pwy a eilw y pen- ddeddfroddwr i gyfrif, tybed ? Hefyd, gwrthododd Hwfa yn bendant ddefn- yddio y cledd wrth gadeirio yn Ngwrecsam,— ei bod yn groes i'r (idedrlf. Ond yr oedd wrth ei fodd yn ei chwyfio yn Ngborwen ac yn bloeddio Heddwch." Cysondeb, Hwfa Yr oedd Ilu mawr o feirdd a cherddorion yn bresenol, a da oedd genyf weled un o feibion Maelor yn cael y fath dderbyniad cynes a'i alw i'r llwyfan. Yr oedd R. Bryan yn haeddu yr oil. Nid oedd y cystadleuaethau cerddorol cystal ag yr oeddynt yn Maelor y Groglith diweddaf, er cymaint a folai y Do, re, mi," o'r South arnynt. Cyffredin iawn oedd yroll o'r unawdau, oddi- gerth David Ellis o'r Cefn Mawr. Gresyn garw fod Carrie Wright allan 0 hwyl, neu buasai wedi enill yn hawdd. Llongyfarchaf D. Ellis, Bob Jones, ac Edward .Y Jones ar eu buddugoliaethau. Ni fu Dyffryn Maelor ar ol yn yr wyl hon eto, fel arfer na, daeth y prif wobrwyon yma eleni. Canodd cor mawr y Cefn, dan arweiniad y cyfaill G. W. Hughes, yn ardderchog iawn. Ond nid felly y cor peryglus," cawsant haner y wobr, mae'n siwr, ond i Tom Tom mae iddynt ddiolch am hyny. Pe na buasai ef yno, Padarn Lewis a'i ddewrion fuasai oreu o ddigon, er nad oeddynt hwythan agos cystal ag y canasant yr un dernyn yn Ngwrecsam. Israddol oedd y gystadleuaeth hon. Synais weled Tom yn y cor hefyd a chlywed ei lais mal udgorn arian. Onid yw ef yn "professional," dywedwch ? Yr wyf yn synu at G. W. Hughes ei fod yn engagio datganwr proffesedig fel hyn i ganu unawd ac yn y ped- warawd yn e^byn bechgyn Bootle. Tori deddf moesgarwch os nad dim arall. I Paham nad elai y cor, ac yntau yn un mor beryglua i gystadlu yn deg 'rwan ? Peryglus wir peryglus fuasai pob cor ond cael bechgyn i lawr o'r R.C.M. i'w cynorthwyo. Tom enillodd ac nid y cor, ac am hyny Padarn Lewis ddylasai gael yr oil. Da genyf fod W. T. Samuel, G. & L.T.S.C., and I.S.M." (betb yn y byd mawr ydyw ystyr y llythyrenau breision yma ?) wedi rhoddi bodd- lonrwydd mor gyffredinol i'r cantorion. Ond caraswn glywed ei Gymraeg dipyn coethach. Yr ydych yn disgwyl cael Cymraeg go lew gan 11 y siaradwr cyhoeddus, onid ydych ? Ond fath iaith ydyw peth fel hyn :—" Yn usia y gair wrong, &c. idea reit dda;" "trydydd boneddiges;" yn nghystadleuaeth y sopranos, y goreu, ydyw y d,iice(lrla a ganodd;" ac am un arall "yn canu un part yn ro araf (beth yw hyny ?). Mae lie i ddiwygio. Am y cynghsrdd buasai yn addurn i unrhyw Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Maggie Davies fel angyles fach yno Maldwyn yn siglo'r nefoedd a'r ddaear hefyd; ac "Emlyn dowch i'r amlwg," chwedl Hwfa, cyn gystal a'r un baswr a glywais erioed Yr oedd y caneuon Cymreig yn trydanu y dorf fawr. Diolch i gyfeillion Corwen am ddarparu gwledd fel hon. Ychydig a glywais am Eisteddfod y Glyn. Wilfrid Jones oedd yn beirniadu yno, a symol oedd yr hwyl. Drwg iawn gan fy nghalon i ddeall am an- ffawd Pwyllgor Eisteddfod Llandudno. Mae fy nghydymdeimlad gyda hwy. Ond dyma chwi gan mai Salm Bvwyd fq yn achos angau i'r Eisteddfod, onid teg fuasai disgwyl i awdwr y "Salrn" hono droi i anadlu yn ffroenan try sorfi y pwyligor hwn ? Dylasai ar bob cyfr:f gynal cyngherddau ar nnwaitb yn y gwahanol ardaloedd lie mae adranau o'r cor mawr, a gwneud y pum' cant i fynu. Nid gweithred o drugaredd ond gweithred o ddyledswydd fuasai byny. N08 Sadwrn. SAMWEL JONES. --u--
Cymru yn y Senedd.
Cymru yn y Senedd. CYLLID Y TIR AC EN ADAETH. YN Nhy'r Cyffredin nos Lun, gofynodd Mr Her- bert Lewis i Ysgrifenydd y Trysorlys a oedd Dir- prwywyr y Coed a'r Fforestydd, yn unol a chymer- adwyon y Pwyllgor Detholedig, wedi eu galluogi i ymddwyn at bob enwad crefyddol yn gydradd gyda'r rhoddion o gyllid y tir at amcanion addysg a chrefydd ?—Mr Hanbury a atebodd fod y gallu hwnw wedi ei gorphori yn y Dirprwywyr yn ol cymeradwyon y Pwyllgor Detholedig. GALLUOEDD CYXGHORAU SIR. Yn y bleidlais o 116,997p i Fwrdd Llywodraeth Leol, galwodd Mr Lloyd George sylw at y ffaith fod gan y Bwrdd hwnw yr hawl i drosglwyddo galluoedd neillduol o'i eiddo i nifer 0 gynghorau sirol unedig, a gofynodd a oedd y Bwrdd yn bwr- iadu gwneud hyny. Dyna'r cwestiwn 0 derfynau, er engraipht. Anmhosibl oedd i'r Bwrdd bender- fynu yr holl fanylion yn nglyn a hwy, ac yr oedd anhawsder cfyffelyb yn nglyn a benthycion. Yn Nghymru gellid penodi cyd. bwyllgor i ymwneud a'r pethau hyn. Cynygiai fod y bleidlais yn cael ei gostwng lOOp. Syr G. 0. Morgan a gefnogodd awgrym Mr Lloyd George. Pan wneid apel at y Bwrdd ar un- rhyw fater, anfonid dirprwy i wneud ymchwil- iad,ac nid oedd gan hwnw ddim gwybodaeth leol o gwbl. Ca'i ei wybodaeth gan y bobl hyny y cyn- ygid yn awr eu ffurfio yn gyd-bwyllgor. Nid oedd y dirprwy chwaith yn deall yr iaith Gymraeg, ac felly yr oedd dan anfantais fawr. Mt Chaplin a ddywedodd fod dau rwystr ar y ffordd. Yn gyntaf, rhaid oedd cael deddfwriaeth i ddwyn hjn oddiamgylch, a'r ail anhawsder fyddai penderfynu yn mha faint o'r cynghorau hyn y gellid corphori'r galluoedd. Fodd bynag, rhoddai ystyriaeth fanwl i'r mater, a gwnai fynegiad llawn- aeh yn mhen amser. PERYGLON PORTHLYDD CAERGYBI. Nos Fawrth galwodd Mr Herbert Lewis sylw at yr angen am wella porthladd Caergvbi. Mater ydoedd hwn effeithiai nid yn unig ar fuddianau lleol, ond ar longwriaeth y cyffiniau gorllewinol, ac yn neillduol ar fasnach llongau Lerpwl. Gwnaed apel droion am i greigiau'r Platters gael eu symud. Gwariwyd o l,500,000p i 2,000,000p i adeiladu'r breakwater, ond yr oedd ei ddefnyddioldeb yn cael ei anmharu gan y creigiau a nodwyd. Credai fod Cwmni'r L. & N. Western wedi cynyg symul y creigiau ar amodau neillduol, ond gwrthododd Bwrdd Masnach ddod i gytundeb a'r amodau hyny. Mr Ellis J. Griffith a gefnoga.i Mr Lewis yn yr apel. Gan fod cymaint o arian wedi eu gwario yn barod, credai y dylai'r Llywodraeth wario rhyw gymaint er gwneud y porthladd yn gymhwys i'r. Llynges. Mr Ritchie a gadarnhai yr oil ddywedwyd parth y niwed i'r porthladd a Nvnar ereigiau. Amcan. gyfrifid y gost o chwythu'r creigiau yn 250,000p. Os gellid argyhoeddi Bwrdd Masnach, buasai yn falch ganddo ef yoogynghori â Changhellvdd y Trysorlys er gweled beth ellid wneud. Byddai iddo hefyd wneud ymchwiliad personol i'r mater pan ymwelai â Chaergybi. Mr Griffith a ddywedai y byddai iddo ddwyn y mater i sylw y rhai sydd ganddynt fudd ynddo, a rhoddi pob gwybodaeth angenrheidiol i Mr Ritchie. Y GYMRAEG MEWN YSTADEGAU AMAETHYDDOL. Mr H. Lewis a argymhellai'r pwysigrwydd o barhau i gyhoeddi rhagolygon y tywydd yn ystod amser y cynhauaf. Hefyd argymhellai fod tir- fesurwyr y Llywodraeth yn nodi y tir cyffredin ar eu parthleni. Gwasgai hefyd ar fod y papyrau sydd i'w llanw gan Gymry yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg. Mr Herbert Roberts a ddymunai roddi pwys ar yr anngyfleustra mawr a deimlid yn Nghymru, yn y rhanau amaethyddol yn enwedig, oherwydd fod y papyrau anfonid i lawr gan y Llywodraeth i gael eu llanw yn Saesneg gan rai nas gallant siarad ond y Gymraeg. Mr Long a gredai nad oedd angen mawr am flY- hoeddi rhagolygon y tywydd. Gallai'r sawl ddy- munai eu cael yn ddyddiol am gost o 6c. Ni chlyw- odd o'r blaen am yr anhawsder a deimlai'r Cymry i lanw'r pipyrau anfonid iddynt, ac addawai rcrtidi sylw personol i'r mater. Yn bresenol ni welai un- rhyw reswm paham na ellid cyhoeddi'r papyrau mewn iaith ddeallid gan y bob!. Nis gallai Bwrdd Amaethyddiaeth weled ei ffordd yn glir i'r tirfesur- wyr nodi y tir cyffredin ar eu parthleni. COFNODION A LLAWYSGRIFAU CYMREIG. Mr William Jones, Mr Herbert Lewis, -a Major Pryce-Jones a argymhellent gyfundrefn well o restru cofnodion a llawysgrifau Cymreig. Mr Hanbury a ddywedodd y buasai'n dda gan- ddo roi pob cynorthwy a allai yn unol a. dymuniad yr aelodau Cymreig. Yr oedd y gwaith mor fawr fel na chofrestrid cofnodion lleol. Ond am lawys- grifau yn cyfeirio ac yr oil o Gymru, yr oedd ganddo ddymuniad i gydsvnio a'r cais, ond yr oedd yn anmhosibl eu dwyn allan yn y drefn y d'aethant i law. COEDIO BRYNIAU CYMRU. Mr Herbert Lewis a gymbellai fod bryniau Cymru yn cael eu coedio. Hefyd, pan fyddai tiroedd y Goron ar osod neu ar werth, dymunol fyddai ei osod neu ei werthu trwy arwerthiant cyhoeddus. Mr Hanbury a gydsyniai mai buddiol fyddai rhoddi eiddo'r Goron yn agored i gystadleuaeth gyhoeddus ond nid oedd hyn yn bosibl bob amser. Parth coedio'r bryniau, ni feddai'r Goron ond ychydig eiddo yn Nghymru oedd yn hollol rydd- ddaliadnl. Ar brydles yr oedd llawer o'r eiddo. ne nis gellid planu coed arno heb ganiatad y S'lwl osodai'r brydles. Ymddygiad caled fuasai cymeryd ha-wliau y bobl hyny oddiarnynt; a phe rhoddid iawn iddynt ni foddlonid hwy am y golled am yr amddifadid hwy o'u cynefin defaid.
"TY WEDI YMRANU "
ddaw ffyniant byth o siomi, ac anmhosibl yw i werin ddeallus ymddiried mewn Llyw- odraeth sydd wedi ei thwyllo ag addewidion teg. Hyn yn ddiau yw'r rheswm crvfaf dros y cyfwng y mae'r Llywodraeth ynddo'n awr. Ac os ydys i farnu oddiwrth y digwyddiad- au a gymerasant le yn Nhy'r Arglwyddi yn ystod yr wythnos ddiweddaf, gyda phriodoldeb y gellir dweyd am y Ty breint- iedig a gormesol hwnw tynged a'i har- wain i ddinystr, ei nerth a balJodd, ac yn ngvvrthryfel ei dylwyth ei hun y mae sicrwydd ei dranc yn amI wg yn fuan neu'n hwyr. Er's llawer blwyddyn bellach, teimlwyd nerth y ddn werinol yn Nhy'r Cyffredin, ac y mae ei dylanwad wedi newid llawer ar agwedd y Ty hwnw at y bobl. Nid oes graig na chlawdd all atal cwrs cyf- iawnder ac nid yw'r cyfwng y mae'r Ar- glwyddi ynddo ond prawf o hyn. Gorch- fygwyd y Llywodraeth bedair gwaith mewn un wythnos-ffaith sydd bron yn ddigy- ffelyb yn hanes y Ty annghyfrifol. Gyda Mesur Llafurwyr y Werddon y caed yr anhawsder cyntaf. Yn y mesur hwn ceid un adran a wrthwynebid yn gryf gan Ryddfrydwyr a dosbarth o Doriaid yn Nhy'r Cyffredin. Er mwyn ei ddwyn yn ddeddf, diddymwyd yr adran hono. Ond pan aeth y mesur i'r Ty pendefigaidd, mynai larll Arran ddodi'r adran yn ol. Gwrth- odwyd dod i un cytundeb, ac aed i bleidlais arno. Y canlyniad oedd i'r Wrthblaid gael mwyafrif o chwech. Nid oedd hyn yn ddigon o wers i'r tirfeddianwyr, a mynent eilwaith fyned i ormod rhysedd. Nos Iau, daeth Mesur Tir y Werddon gerbron, a gorchfygwyd y Llywodraeth deirgwaith gyda'r mwyafrif i'r Wrthblaid yn 58, 47, a 19. Nid oedd y mwyaf aiddgar yn disgwyl hyn, a daeth cwmwl o bryder i wyneb y Prif Weinidog wrth weled ei gefnogwyr yn rhengau'r gelyn ac yn gwneud y fath ddifrod ar fesur oedd wedi derbyn ei fendith ef a'i Weinyddiaeth. Llwyddwyd i basio'r mesur-neu'r gweddillion ohoio-nos Lun, pan y darllenwyd ef am y drydedd waith ond os mai mesurau clytiog, darniog fel hyn yw ffrwyth athrylith y Weinyddiaeth a chynyrch y peiriant Toriaidd, goreu po gyntaf i lywodraeth y wlad gael ei newid ac i'r awenau gael eu rhoddi yn nwylaw rhai svdd mewn cydymdeimlad liawnach a chyffyrddiad agosach ag angenion a dyheu- adau v werin- Boed y gweaCl mor gywram N ag y bo, nid yw unrhyw fesur ddaw drwy ddwylaw'r Toriaid o nemawr fudd ond i'r tirfeddianydd. y person, neu'r tafarnwr. A foddlonir ysbrvd gwerinol yr oes hyd nes y dychwel y Rhyddfrydwyr i awdurdod ? Gwers fawr y cyfwng diweddafhwn yw "Ty wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, ni saif." -0