Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Modioli o'r Bdlnas

BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD.

Ar Finion y Ddyfrdwy.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar Finion y Ddyfrdwy. EISTEDDFOD dan gamp gaed yn Nghorwen ddydd Llun Gwyl y Bane, ac yr ydym ni-bobl Edeyrn- ion-yn fawr ein hymffrost o'r herwvdd. Gwnaed mwy o elw nag erioed, caed cystadleuon lluosocach ft theimladau mwy brwd nag ydym yn gofio o'r blaen, ac am wn i na wnaeth y beirniaid eu gwaith yn ddigon didramgwydd. Ychwanegu at ei glod blaenorol wnaeth Llifon fel arweinydd, a buwyd yn ffodus iawn i sicrhau tri llywydd rhagorol. Cyn rychiolid y werin gan Mr Thomas Jones, Bryn- melyn, ac fel y gofynai rhywun Lie ceir dyn bach Yn tramwy a. phen trymach ? Cafodd dysg gynrychiolydd teilwng yn y Dr Kuno Meyer; a'r bonedd ucheldras yn y Mil. Parr- Lynes. Cynydd yw ha'nes yr Eisteddfod er yjjdech- reu, ac y mae ei rhagolygon dyfodol yn ddisglaer iawn. OES HIR. Ddydd Gwener, claddwyd yr hyn oedd farwol o Jane Hughes, Tynllechwedd, Llandderfel. Cyr- haeddodd yr oedran teg o 87 mlwydd bu yn briod am 62 mlynedd, ac yn aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr am 59 o flynyddoedd. Cystuddiwyd hi am fisoedd, ond yr oedd wedi bod yn wraig gref, iach, a bywiog. YN NGWANWYN OEg, ac efe ond 22 oed, bu farw un o fechgyn mwyaf hawddgar y Bala, sif Mr R. Meredith Evans, Castle Street. Bu yn aros yn Llundain, yno y clafychodd, a daeth adref i farw. Bu yn aelod diargyhoedd gyda'r Annibynwyr, a pherchid ef gan bawb. Claddwyd ef ddydd Mawrth yn mynwent Llanfor, pryd y gweinyddwyd gan y Parch W. E. Morris. YFED TE a llenydda y bu Methodistiaid Llansantffraid ddydd Mercher. Wrth gwrs, mvvynhaodd pawb y te a'r danteithion-fu erioed de cyhoeddus nad oedd pawb yn ei fwynhau. Cyfarfod da. gafwyd yn yr hwyr dan lywyddiaeth Mr John Davies, Dee Bank, gyda Mr Williams, ysgolfeistr Cynwyd, yn beirn- ladu'r adroddiadau a'r gerddoriaeth. Y CliWARE" Y mae cwmni'r reilffordd wedi cwblhau'r gwaith o adgyweirio y siding yn Bonwm, a bywiog yw gweithwyr y chwarel yn adgyweirio y Uinell gul ar yr hon y cludir y llechi o'r chwarel i'r orsaf. Bwr- iedir cymeryd llawer o weithwyr i mewn wedi y gwneir pobpeth yn barod. ac y mae'r rhagolygon yn dra addawol am lwyddiant mawr. Gobeithio na siomir y gobaith. IS-BEKWYN.

DyfTryn Clwyd.

[No title]

Cwreichion.

Cyflogau'r Clerigwyr,I

Ystadegau'r Annibynwyr.

[No title]

Advertising