Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Modioli o'r Bdlnas

BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD.

Ar Finion y Ddyfrdwy.

DyfTryn Clwyd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DyfTryn Clwyd. TORT'R DJJEDDF. Gerbron ynadon Llanelwv, ddydd Mercher, cy- huddwyd David Roberts o ddal 17 o fan eogiaid o'r afon Elwy ar y lOfed o Fehefin.-Tystiodd ceid- wad yr afon iddo weled y pecbadur yn dal dau bysgodyn annghyfreithlawn, iddo redeg ymaith, a chuddio 17 o'r pysgod y tu ol i dwmpath ger yr afon.—Dirwywyd Roberts i 5s a'r costau. YNADLYS PWYSIG. Ddydd Gwener, daeth amryw achosion lied bwysig gerbron ynadon Dinbych.—Cyhuddwyd Robert Jones, Stryd Henllan, o herwhela. Caed deg o wningod, saith o faglau, a 70 llath o rwydi yn ei feddiant, a chan ei fod yn hen bechadur, ac wedi ymddangos o flaen ei well 52 tro o'r blaen, dirwvwyd ef i 20s a'r costau neu fis o garchar.- Edward Jones, o'r un heol, ac am yr un trosedd, a gyhuddwyd, a chafodd yntau ei ddirwyo i 20s a'r costau neu fis o garchar.-Dirwywyd John Harns- by, Caerwys, i 15s 6c neu 14 diwrnod o garchar am feddwi tra'n gofalu am geffyl.-Bu gwrandawiad maith ar achos a ddygid yn erbyn John Parry am werthu cig drwg yn marchnad Dinbych ar y 24ain cynfisnl. Tystiodd Mr Robert Roberts a Dr Griffith Roberts mai cig tramor oedd yr hyn y cwynid o'i blegyd, a bod ei ddrygsawr yn ddychrynllyd. Bu raid ei ddinystrio. Dirwywyd i 4p 4s neu fis o garchar. HEL CAWS LLYFFAINT A'R CANLYNIAD. Yn blygeiniol iawn fore'r SOain cynfisol, aeth William Slater a'i ddau fab, George a John, i hel caws llyffaint. neu mushrooms, i faes W. Campion, Caerwys. Ni fuont yno nemawr cyn i Campion ddol ar eu gwarthaf. Rhoes gynghor iddynt fyned adref, gwrthodasant ei dderbyn bloeddiodd yn uwch, hwythau oeddynt ystyfnig a'r diwedd fu iddynt ddechreu ymosod arno gyda cheryg. Tarawyd ef ddwywaith yn ei ben, a bu raid cael meddyg i wella'r archoll. Gerbron ynadon Llan- elwy ddydd Meroher cyhuddwyd y tri pechadur o ymosod ar berchenog y maes, a chafodd y tad ei ddirwyo i 2p a'r costau neu 14 diwrnod o garchar, John Slater 10s a'r costau, a gollyngwyd George yn rhydd oherwydd ei ieuenctyd. DEWIS AROLYGYDD. Yn nghwrdd diweddaf Cynghor Dosbarth Rhuthin, y prif waith oedd dewis arolygydd i'r rhanbarth. Y cyflog yw 80p y flwyddyn, ac ym- geisiai 13 am y swydd. Pleidleisiwyd bed.%ir gwaith, ac yn y diwedd caed mai Mr William Jones, Orient House, Llanrhaiadr, a etholwyd.— Hvsbyswyd fod dwy sedd yn wag ac i'w Ilanw ar fyrder, sef eiddo Mr Jones a ddewiswyd yn arol- ygydd, ac eiddo Mr W. G. Rigby. MEL YN Y To. Cafodd Sauna m f6l yn nghrombil Hew, a'r wyth- nos ddiweddaf cafwyd mel mewn lie bron mor an- hebygol, sef yn y to uwchben y Castle Hotel, Rhuthin. Epiliodd dafad, eiddo Mr Evan Owen, Pen. porchell, Henllan, dri oen yn mis Chwefror di- weddaf, ac epiliodd dri oen drachefn ddydd Mawrth, y 4ydd o'r mis hwn. CLYWEDOG. -0-

[No title]

Cwreichion.

Cyflogau'r Clerigwyr,I

Ystadegau'r Annibynwyr.

[No title]

Advertising