Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cyffredinol- I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyffredinol- Mae teulu Mr Gladstone yn aros yn Mhenmaen- mawr. Bwriedir adeiladu Ysgol Ganolradd Llanrwst rhag blaen. Dychwelodd Mr Assheton Smith 15 y cant o renti haner-blynyddol ei denantiatd ddydd Sadwrn. Ddydd Sadwrn, tarawyd ty Mr Meredith Da vies, groser, Rhosddu, gun fellten, a gwnaeth gryn niwed. Mae'r Parch W. A. Ellis, curad EglwysGymraeg Gwrecsam, wedi gwrthod y swydd o gaplan Eg- lwys Gymraeg Manceinion. Caed corph Sarah Swift, 12 oed, un o'r pedair foddodd wrth hel cocos yn y Ddvfrdwy, ddydd Mawrth. Marwolaeth ddamweiniol' oedd rheith- farn y trengholydd. Yn arwerthiant ceffylau Mr Frank Lloyd, Gwrecsam, yr wythnos ddiweddaf, newidiodd gwerth 10,000p o geffylau ddwylaw. Caed prisiau uchel am rai ohonynt. Yn chwarel Penyrorsedd, Nantlle, ddydd Iau, syrthiodd darn o graig ar W. T. Jones, Rock Terrace, Talysarn, a bu farw yn mhen chwe' awr. Nid oedd ond 27 oed. Traddododd y Parch Jonathan Evans ddarlith ar Y Pwlpud Cymreig yn y Wyddgrug nos Lun i gynulleidfa dda. Llywyddwyd gan y Parch J. J. Morgan. Derbyniodd gol. newyddiadur hysbysiad am briodas i'w chyhoeddi, ac ar ei diwedd yr attodiad a ganlyn :— "Bydded i gariadon fod cystal a derbyn yr awgrym." Gadawodd y diweddar Barch Canon Powe 1> Henffordd, y swm o 4,000p. tuag at adeiladu t'yfrgell yn y ddinas hono, ac y mae agos i 2,000 o gyfrolau mewn Haw yn barod. Mr T. Griffiths, o Goleg Bradford, fydd gwein- idog newydd eglwysi Bethania a Tynymaes, Bethesda, a dechreua lafurio yno yn gynar y mis nesaf. Ddiwedd y mis nesaf bydd y pregethwr adni- byddus a'r darlithydd riyddorol, Parch Thomas Evans, Llundain, yn dechreu ar faes newydd ei weinidogaeth yn eglwys Annibynol East Cliff, Bournemouth. Teimlir anhawsder mawr i gael rhandiroedd yn Mon, a'r wythnos ddiweddaf bu pwyllgor o'r Cyng- hor Siryn gwneud ymchwiliad yn y Gaerwen i gais y cynghor plwy am fesurau gorfodol er sicrhau tir i'r gweithwyr ddymunant ei gael. Nos Wener, cynaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch Wm. Thomas yn Mhwllheli, ac anrhegwyd y gweinidog parchus a'i briod a darluniau heirdd ac anerchiad. Llanrwst fydd maes nesaf ei weini dogaeth. Bu Cynghor Dosbarth Rhyl yn trafod cynygiad a wnaeth Mr Mostyn Williams ddydd Llun i'r perwyl fod terfynau'r dref yn cael eu hestyn fel ag i gynwys rhanau o blwyf Rhuddlan. Penderfyn- wyd nodi pwyllgor i ystyried y mater. Mae Mr J. Arthur Price, Lincoln's Inn, Llun- dain, yn un o'r ysgrifenwyr i'r Encyclopedia of the Laws of England,"—gwaith mawr a gyhoeddir yn fiaan. Yr oedd Mr Price yn un o awduron Cynllun Dadgysylltiol Bangor," fel ei gelwid; mae yn Genedlaetholwr Cymreig, ac edrychir arno yn awdurdod uchel ar hanes Cymru. Y mae diffyg gofal mawr yn Nghymru gyda chadw pylor a nwyddau ffrwydrol, ac amryw achos- ion wedi eu dwyn i'r amlwg yn ddiweddar. Ddydd Sadwrn, dirwywyd D. Washington Davies, Taly- sarn, i 5s a'r costau gan ynadon Caernarfon am gadw pylor mewn caban heb ei drwyddedu i'r S\lllPA-n Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Ryddfryd- ol Rhiwabon nos Iau, ail etholwyd Syr G. O. Mor- gan, A.S., yn gadeirydd Mr J. Jones, Church Street, yn drysorydd Mr W. Williams yn ysgrif- enydd a Mr B. A. Jones yn gadeirydd pwyllgor- au. Addawa Syr George fod yn bresenol adeg sgoriad ystafelloedd newyddion y gymdeithas. Ddydd Mawrth, cychwvnodd Mr Solomon Andrews a nifer o gyfeillion mewn cerbyd o Gaer- dydd gan deithio i Bwllheli. Teithiwyd y dydd cyn- taf i Aberhonddu, lie yr aroswyd am y noson, nos Fercher, cyrhaeddwyd Llanidloes, nos Iau i Fach- ynlleth, nos Wener i'r Bermo, a chyrhaeddwyd pen y daith i Bwllheli nos Sadwrn. Yn y Bermo y cynelir cymanfa aelodau ysgolion Sul Lloegr. Bydd tymbor yr ymweliad yn estyn o'r 8fed cyfisol i'r 22ain, ac y mae'r rhaglen yn un ddyddorol. Cynwysa gynadleddau, darlithiau, cyrddau crefyddol, a gwibdeithiau ar fynydd, mor, a maes. Cymerir rhan gan amryw lenorion adna- byddus, a darllenir p-spyr ar nodweddion yr ardal gan y Parch Z. Mather, ac eraill o weinidogion y cylch, Bydd Cymdeithas Henafiaethol Cymru yn dathlu ei jiwbili eleni yn Aberystwyth. Dechreuir Medi 7fed a phery am bum diwrnod. Bwriedir ymweled â amryw fanau o ddyddordeb i'r hynafiaelhydd. Bydd llyfrgell Peniarth yn agored, a chaiff yr ael- oda.u gyfle i weled yr hen lawysgrifau geir yno. Bydd Mr J. Willis-Bund yn darllen papyr ar Llan- badarn Fawr Mri Edward Laws a Henry Owen yn darllen papyrau ar ffrwyth eu hymchwiliadau yn sir Benfro. Yr ysgrifenydd yw Canon R. Trevor Owen. Yn Llys Sirol Llanelwy ddydd Gwener, gerbron y Barnwr Syr Horatio Lloyd, gwnaeth J.W. Shaw, ei wraig, a'i fab, hawl am 21p o iawn gan Edward Thomas, saer maen, Gronant, am niweidiau a wnaed trwy iddo ymosod ar William Dowel], y mab.—Rhoddwyd tystiolaeth dros yr erlynydd gan Dr R. T. Davies, Prestatyn, diweddar o Dreffynon; ond yr oedd wedi yfed cymaint fel y gwrthodai'r barnwr adael iddo fyned yn mlaen, a gorchymyn- odd iddo adael y llys. Yn ddilynol dyfarnwyd 5p o iawn, i'w talu yn ol 10s y mis. Dydd Llun, dygwyd Hugh A. Edwards gerbron ynadon Gwrecsam am y trydydd tro ar y cyhudd- iad o geisio llofruddio ei wraig ac hefyd o geisift cyflawni hunanladdiad. Hysbysodd y meddyg fod y wraig yn llawer gwell, ond nas gallai ymddangos yn y llys am bythefnos.—Pan glywodd y cyhudd edig hyn, dywedodd: Gadewch i mi gael fy rhyddid hyd nes bydd fy ngwraig yn well. Nis gallaf oddiwrthyf fy hun-rhowch fy rhyddid i mi. Ni ddymunais gyflawni'r weithred, a dyma'r cyhuddiad cyntaf yn fy erbyn. Gohiriwyd yr achos eto am wythnos.

Nodion Amaethyddol,

Marchnadoedd.

---0---PWLPUOAU CYMREIG, Awst…

-0-YFWYR TE-DALIWCH SYLW.

iLleol.

Advertising

Family Notices