Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the town, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT. HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and uburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, <FCO. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- aimically managed. Sales and Purcnases eftected wit fiomptitude. Mortgages arranged and Insurances enectea.(J HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL Rents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited 9 TO BUILDERS, &c.—To be Sold, Freehold and 99 years' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers,in ftarston tarkdaie, Walton, Bootie, and Seaforth. Liberal advances will be made to Builders, Property letting well m all the localities.—Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0. & D. WILLIAMS, toss & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS rilZES IN STOCK, Tool Makers, (fee., MVTAL AND HARDWARE MERCHANTS Works— TAYLOR f, rfi ce and • -f'ce and A02 & 4.0/i„ Scotland Rd. Show Rooms M <> LIVERPOOL. Kitchen Range*, Cast Warer, Green Houses, and isaii^tarj o1"*3 Extent Winding and Adjusting bun Shaue for Shops &c Bakers Oven Stocks, Confectioners Ovens, CiioHer*, Boxes, Fi?e Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &c. CYRN! GYRN CY RN I MAE 10 TXT BUNODION BENSON EVANS Yn rhoddi esmwythad ar unwaith i GYBN t'. poenuB, ac yn eu symnd yn holMmewn ?chydie -klyddiau. Symuda hefyd DDEFAID ar v dwylaw a'r bysedd, tyn yinait-ii enytnad a awces o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a aiboen. Gwerthir loewn potelau 7$c a Is. lfc. yr un. Banfonweh am lhJ(;ei-mae'n feddygin- iaeth anffaeied'g. GASTROOYNE BINSON EV lJTS, Yr unig feddyginiaeth effeithiol i Ddiffyg Treuliad, Poerau ar 01 Prydiau, Llosg-galon, Miousness, &c. Derbyciwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithioltwydd rhyfeddol. Mewn Foteli, Is. lie. a 2s. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dsnbych. R. W HITTINGTON Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), 45, BYRJM STREET LIVERPOOL. All: Garments Cut and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymry! dewch at Gymro, CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS R,20,000 000 AGENTS addasychwanegol yn eisiau-Y mofyner A & J. W. JONES, 0 Prudential Offiice Caernarfo Messrs GRIFFITHS &-DUIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Draper in the North End of Liverpool, are now conr jntrating all their attention to the following Depa? nments, viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhaiiging. Underclothing. Furs. —AND— Milliner y. II T,1 1 thu e De partments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F XA CUBE FOR BRONCHITIS y for the Young and Old, A THINK of the thousands of Children "who suffer every year with Bronchitis without receiving permanent relief. Notwithstanding mauy remedies given them. their systems are still weak, and every spell of had weather brings anxiety to the parents. In all damp climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The climate taxes those who are strong, while the weak suffer. TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and the Finest Vegetable Preparations. In no other form is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. ARGEST SALE OF ANY COUGH j^jEDICINE IN THE WORLD. QVEKWHELMING TESTIMONY. IT IS MORE THAN GOLD TO ME. Mv wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and Cuughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief. Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions require.—Yours faithfully, JOHN WALTER MORGAN, Brynheulog- House, Hirwain. Sold by all ChemisTs and Stores in Is, lld., 2s. 9d., and 4s. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 1, 3s., and 5s.; from the Inventor- 1). TUDOR WILLIAMS MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAYANNI STEAMSHIP flMMftr. LARGE. AND POWERFUL BRITISH STEAMED S Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEt, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterrai ean Ports, taking the following two routes alternately:— (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA., CYPECfe EEYROUT, and ALJEXANBRISTTA. Calling occasionally en fehs homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty wall ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and uo extra charge for living on board during ships'stay at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this LIES « ill find it most enjoyable and interesting For further parties ars, apply to PAP AYANNI & CO., Penwick Chambovs, Liverpoo I- LLINELL Y WHITE STALS. ROYAL MAIL STEAMERS, LERPWL I NEW YORK via QUEENSTOWN, BOB DYDD MERCHER:— *TEUTONIC Awst 26 Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr BRITANNIC Medi2 A arwydda y cludir yn yr Ail GabaD ar y forda ith P, is y cludiad ydyw L7 5s i 410 yn ol yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagoiol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllnc » threfniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni chair gwell cyflousdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner i R. Owen, Ship & In surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu â R. Roberts, Bethesda; Owen E. Parry, masnaehydd llechi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penygraig; W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn R. G oberts ,Rock Cottage, Cnugiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. ,.T. Williams Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. 0 Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu ig ISMAY IMRIF &Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E.C., a Water Street, Lerpwl. HAS. R. HALL, GENERAL LETTERI GUTTER &] ENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &c.
CATRIN PRISIARD
CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXIX. COFIA, CATRIN." Y DTWRNOD ar ol marwolaeth John Prisiart daeth Martha yn ei hoi o'i hymweliad, ac yn ddiarwybod o'r cyfan ddigwyddasai yn ei habsenoldeb cyfeir- iodd ei chamrau -it y ty lie yr oedd Catrin wedi gwneud ei chartref. Ond fel y dynesai ato gwelai y tai oddiamgylch a. lleni ar eu flenestri, a cheisiai ddyfalu pwy oedd wedi marw. Cyn iddi gyrhaedd y drws, fodd bynag, daeth un o'r ddwy wraig oedd yn aros gyda Chatrin i'w chyfarfod. Yr oedd Martha am ofyn iddi beth oedd yr achos fod pob ffenestr yn yr heol wedi ei thywyllu ond cyn y gallai wneud hyny dywedodd y Hall, Mae yn dda iawn gin i bo' chi wedi dwad, Martha. Tydi hi'n sobor ar y beth bach dlawd ?' J Edrychodd Martha arni yn syn-am beth 'roedd hi'n son, tybed ? Be sy ?" gofynodd yn gwta. Diar anwyl, 'dach chi ddim wedi clywad?" ac yna adroddodd yr hyn a wyddai am y diwrnod blaenorol-heb adael allan hanes myned a Robin i Aberdoldy am roi teisi gwair Ty Fry ar dan. Yr oedd gwyneb y gwrandawr wedi llwydo wrth glywed fel yr oedd Catrin wedi ei gadael mor am- ddifad ond pan orphenodd y wraig hanes Robin yr oedd yn welw, ac ni allai ddweyd gair. Gafael- odd y Ilall yn ei braich wrth ei gweled wedi cyffroi cymaint, ac arweiniodd'hi i'w chartref ei hun oedd wrth ymyl, ac ni adawodd iddi fyned at Catrin nes gwneud iddi yfed cwpanaid o de a chymeryd tamaid o fwyd. Dystaw iawn oedd y cofleidio rhwng Cabrin a'r un y bu gyda hi ar hyd ei hoes ond yr ychydig wythnosau diweddaf. ond deuai tipyn o gynes- rwydd i fynwes ddrylliog yr eneth amddifad wrth deimlo dwylaw eelyd yr hen forwyn yn ei chofleid- io a gweled v dagra,u yn rhedeg i lawr ei gruddiau rhychlyd. 0! fel yr oedd wedi hiraethu yn ystod y tair wythoos ddiweddaf am gael rhoddi ei phen ar fynwes rhywun a theimlo cydymdeimlad yn tywallt ei falm dyner i'w chalon a phan welodd Robin yn cael ei gymeryd i Aberdoldy yehwaoegai hyny at ei thristwch, oherwydd yr oedd yr hwsmon yn ei ffordd ddystaw, ddirodres, wedi bod yn fwy o gvnorthwy iddi yn ystod gwaeledd ei thad nag oedd Catrin erioed wedi fecldwl hyd nes y collodd ef. Yr oedd Abednego wedi bod yn hynod gar- edig wrthi yn trefnu pobpeth angenrheidiol, ond rywfodd yr oedd yr agosrwydd hwnw sydd yn dod c fvw yn yr un teulu yn eisiau. Nid oedd Catrin am eayd yn credu fod Robin wedi tanio teisi Tv Fry. a chredai y deuai yn rhydd ar ol iddynt fyned drwy yr achos ond synai braidd wrth wel"d fel y fflach;ai llygaid Martha 'da wrth son am yr hyn ddigwyddasai iddo. Y ffyliaid 1" meddai mewn llais ysgornllvd, Robin neud ffasiwn beih Mae raid na tydyn nhw ddim yn gall i feddwl i fod o wedi gneud." Ar yr un adeg ag yr oedd Robin yn sefyll o flaen gwyr y fainc, ednchai gwynebau rhwng y Ilea a'r givydr yn mhob ty yn Nglanygors i weled cynheb. rwng John Prislart vn myned yn araf tua'r hen fynwent. Cynhebrwng bach ydoedd. Pedwar yn unig ddilynai y ffermwr i dy ei hir gar,tref- Catrin a'i hewythr. Abednego a Martha. Yr oedd Leulwen wanaidd Chwefror yn tywynu ar wyneb gwelw yr ereth fel yr edrychai i lawr i'r bedd y gwelsai ei agor am y tro cyntaf rhyw ddeuddeng mis byr yn ol. Nid oedd y geiriau ddywedid mor dyner gan yr hen weinidog panwyn ddaethai o Aberdoldy i gladdu yn cael yr un dylanwad ar Catrin. Nid oedd yn meddalu dim ar ei chalon. Yr Arglwydd yn drla wrthi pan yn ei gadael heb gysur yn unman I Yr oeddynt i gyd yn camgym- eryd. Druan ohoni, yr oedd ei llygaid heb eu hagor i'r addfwynder gymerai ymaith yr hyn a hoffai er mwyn iddi adnabod y cariad tragwyddol na phalla byth a mwynhau cwmni yr un sy'n ffydd- lon hyd a thubwnt i angau a'r bedd. Dystaw iawn oedd hi pan eisteddai gyda'i hewythr wrth y tan yn y gegin wedi i Abednego droi gartref, a phsn oedd Martha yn golchi llestri yn yr ystafell fechao tucefn i'r gegin. Disgleiriai goleu'r tan ar ei gwyneb llwyd, ar y gwallt du ddisgynai yn drwehus ar y talcen gwyn disgleiriai i ddyfnderoedd y llygaid tywyll, ond nid oedd yn eu goleuo, eithr yn gwneud y tywyll- wch yn fwy amlwg. Synai ei hewythr wrth ei gweled mor ddystaw a hunan-feddianol, a cheisiai ddyfalu beth oedd yn rhedeg trwy feddwl ei nith ac yn peri i'r gwefusau teneuon gael eu gosod yn llinell mor syth. Yr oedd am fyned yn ei ol foreu LJun-arn fyned i Fanoeinion, lie yr oedd yn byw, ac yr oedd am fyned a Chatrin gydag ef. Edrychai yn mlaen gyda phleser at y gwaith o'i haddysgu yn egwydd orion ei hoff gelf, ac at yr anrhydedd ddeuai iddo pan ddygai allan gantores newydd ar y llwyfan. Gwyddai yn well na neb oedd wedi clywed Catrin yn canu beth oedd yn alluog i wneud pe cawsai addysg. Nid oedd wedi son wrth Catrin eto. Yr oedd bron yn meddwl ei fod yn ddiangenrhaid gofyn iddi. Cymerai yn ganiataol nad oedd yr un rhwystr ar ei ffordd Yr oedd yn fuan. fodd bynag, i wybod ystyr llineliau gwynebpryd Catrin. Er mwyn dweyd rhywbeth. gofynodd a pha dren yr hoffai gychwyn ddydd. Llun. Trodd Catrin dywyllwch ei llygaid arno. "Cvchwyn i b'le, f'ewyrth?" meddai, a nodyn o syndod yn y llais isel. Ond adra. Mi dach yn gwybod mai fi ydi'r unig berthynas agos sy gynoch chi rwan, Catrin, ac hefo pwy gwnewch chi'ch cartref ond hefo ni ? Mi fydd dda gin y'ch modryb a'r genod i chi ddwad acw, a rhaid i ni'ch gwneud chi'n gantores ar; dderchog—mae'n bechod fod y'ch llais wedi cael ei esgeuluso cyhyd." Neidiodd fflam sydyn i'r llygaid tywyll fel y troai hwy mewn syndod ar wyneb ei hewythr, deuai ei hanadl yn fyr ac yn fuan, a chodai gwrid gwanaidd i'w gruddiau. A oedd un o'i breuddwyd- ion am ddod yn wir ? Ond fel yr oedd ei chalon yn neidio o'i mewn, clywai lais tyner yn ei chlust-clywai ef mor glir ac mor eglur fel y ciliodd y gwrid mor sydyn ag y daeth, diffoddodd y fflam yn ei llygaid, a throai ei phen gan haner ddisgwyl gweled rhywun wrth ei hochr. Ond ni chanfu ei llygaid ffurf, eto sibrydai y llais o hyd, a dyma y ddau air ddeuent yn ddi- baid-" Cofia, Catrin," "Cofia, Catrin." Am enyd gwrandawai arnynt nes iddynt feddianu ei chalon. nes iddynt godi 116n ei chof i ddwyn o'i blaen hen ystafell yn Ty Fry, ac ar y gwely yno ffurf gwraig a'i llygaid tyner yn syllu arni. a'i gwefusau sychion yn ffurfio y geiriau Cofia, Catrin." Yna trpdd at ei hewythr, ac mewn ychydig eiriau eg- lurodd iddo nad oedd modd iddi adael Glanygors. Daeth digofaint mawr dros y cerddor. Digofainfc y celfyddwr yn cael ei rwystro yn ei hoff waith, Wrth weled nad oedd geiriau celyd yn newid dim ar unffurfdeb gwyneb Catrin, ceisiai ymresymu a. hi ar y ffolineb gyflawnai trwy aros yn y pentref bach i haner newynu ar yr ychydig enillai gyda'i nodwydd ond ofer oedd yr oil. Yr oedd Catrin yn ddiysgog. Bob tro yr oedd ar fin rhoddi ffordd swniai y ddau air yn uwch, uwch yn ei chlustiau fel caniad udgorn, ac mewn digofaint dwfn yr ym- adawodd ei hunig berthynas a hi y bore Llun di- lynol, heb bron ateb ei chyfarchiad o ffarwel. Ychydig wyddai am yr ymdrech yr oedd yr eneth wedi bod ynddi y ddwy noson fiaenurol-fel yr oedd wedi troi a throsi ar ei gwely yn gweled holl swynion y bywyd gynygiai iddi, ac yn teimlo holl atdyniad ei natur ato fel yr hiraebhai hefyd am adael Glanygors, lie yr oedd pob llecyn yn llawn adgofion poenus, yn sibrwd am y rhai oedd wedi ei gadael, au fel y gwelai y posiblrwydd o annghofio ei serch ofer at Morris yn nghanol gwynebau a lleoedd newyddion, yn nghanol gwaith wrth fodd ei hysbryd ac yn erbyn hyn oil y swniai y ddau air H Cofia, Catrin." Pa sawl gwaith y disgynodd ar ei chlust fel y syllant arni mewn llythyrenau o dan, ac fel yr oedd wedi gwthio y darluniau teg oddiwrthi, ac y dystawodd geiriau ei mham i fur- mur tyner. Yna ceryddai ei hun am adael i'w meddwl gael ei gyffroi gymaint fel y gallai annghofio ei bod ychydig oriau yn ol yu sefyll wrth fedd ei thad. Aeth Catrin yn ei hoi yn araf ar hyd y tair mill- dir o Aberdoldy, lie yr aethai i ddanfon ei hewythr, yn ei hoi i ddisgwyl, ond yn ddiobaith, am Gruffydd. Ond yr oedd y gwaith yn drwm, oherwydd nid oedd ganddi y Diddaaydd. Geiriau ei mam yn unig oedd yn ei dal at y ffordd yr oedd am ei throedio. 0 na fuasai yn gallu ceisio ei chysur yn y man y gwyddai ei mam mor dda am dano. Bywyd unig iawn y dechreuodd Catrin arno ya awr-heb gydymaith ond yr hen gi Prince. Yr oedd Martha wedi crefu arni ddod gyda hi i'r bwthyn bach ychydig latheni o wyddfo i Ty Fry, ond yr oedd yn well gan Catrin aros yn y ty ar fin y pentref, gan feddwl y buasai Gruffydd yn debyc- ach o ddod ati os byddai ei hun, pe digwyddai ddyfod yn ol rhyw dro i Lanygors ac yno y dech- reuodd ar ei gwaith drachefn, ac yr elai o gwmpas a phrudd-der disgwvl yn edrych o'i llygaid. Gwel odd llawer yr edrychiad trist, a thosturiai llawer un tyner-galon wrth unigrwydd yr eneth lygad- brudd. Gwelai Morris yr edrychiad fel yr eistedd- ai yn ei hen le yn gwynebu ar sedd Ty Fry, oher- wydd yr oedd gartref er pan ddigwyddasai y ddamwain i'w dad noson y tan yn yr hen ffermdy. Yr oedd y ffermwr erbyn hyn wedi gwella digon iddo ei adael, a chychwynai yn mhen yr wythnos i'w le newydd. Trwy y boreu Sul crwydrai ei lygaid o hyd at wyneb Catrin, a deuai gwen iddynt fel y sylki arno. Ond nid oedd yr eneth yn ym wybodol o hyr. Yr 'edd er's amser maith wedi rhoi heibio meddwl fod Morris yn cymeryd gronyn mwy o o ddyddordeb ynddi nag mewn rhyw eneth arall o'r pentref. Cymerai lai o sylw hyd yn nod na'r cymydogion o arngylch. Yr oedd bron bob un oedd yn gydnabyddus yn y mesur lieiaf wedi dod i ofyn am ei thad yn ei salwch o!af, ac i ymweled a hi pan yn y tristwch ddaeth wed'yn, )nd nid oedd efe wedi bod yn agos ac yr oedd Catrin yn cofio'r darlun bwnw. Yr oedd yn gwybod y byddai loes yr ofer serch hwnw yn ei chanlyn o hyd, ond nid oedd ond un baich mwy i'w ddyoddef, a phe gofyn- esid i Qatrin yn y dyddiau hyn roddi deffiniad o'r gair bywyd, buasai yn dweyd mai dyoddef yd- oedd. Gwelodd Abednego hefyd yr edrychiad diobaith yn y llygaid adnabyddai mor dda, ac yr oedd rhyw deimJad dyeithr yn ymsymud drwy ei galon. (I barh.au).
[No title]
--0-- COLEG Y BRlFYSGOL, ABERYSTWYTH. Y n mysg rhestr ymgeiswyr llwvddianus yn arholiadnu Intermediate Arts' a Science' Gorphenaf Prif- ysgol Llundain, ymddengys enwau yr efrydwyr canlynol o'r Athrofa uchod :-Dosbarth Anrhyd- eddus Miss J M Bayv)es. Dosbarth cyntaf: Miss A M Bodkin, Miss N H Bodkin, a Miss H S Judd Yr Ail Ddosbarth Miss Edith Barratt, Miss E A G Bullock, W E Davies, Miss G M Dodson, Miss Ada F Evans, E P Evans. Miss Tydfil E Evans, Miss K Hawkes, Miss F How, David Jones, Ernest Jones, S M Lewis, Miss L E Lloyd, Miss E J Newitt, Miss J M Reed, T J Rees, Miss M P Sim- mons, Miss E B Taylor, a Rees R Williams (hen efrydwr). Arholiad mewn Gwyddoriaeth-Dos- barth Anrhvdeddus M E White. Dosbarth cyn- taf Evan Jones, B.A., Miss A H Smith, a Miss C J Young. Ail ddosbarth Miss Rachel Barratt, A H Bartlett, Miss E M Conder, Miss A A Flet- cher, Miss E Henley, F N Tinkler, Miss M E Winn a T L Humberstone (hen efrydwr). Preliminary Scientific M. B. (ail ddosbasth) David Ellis, II P.Evans, a W H Jones. Llwyddianus mewn Chemistry and Experimental Physics, Brynmor Evans (hen efrydwr). Llwyddiauus mewn Bio- logy Miss M E H Morris a Morgan J Rees (hen efrydwr). Cvnaliwyd arddangosfa flodau a chystadleuaeth seindyrf pres yn y Drenewydd ddydd Gwener. Cynygid gwobr o 20p i'r seindorf oreu, a barnwyd eiddo Gossage, Widnes, yn oreu West Houghton yn ail a Llan Ffestiniog yn drydydd. Gossage hefyd enillodd am chwareu wrth ymdeithio.
---0---RHAGFARN.
-0- RHAGFARN. MAE yn ffaith hynod, ond gwir, fod canoedd o bob! yn glvnu mor gyndyn wrth yr hen syniadau fel na roddant brawf ar unrhyw nwydd neu gynllun newydd gynygir i'w sylw, beth bynag fydd ei ragoriaeth. Nid yw hyn yn iawn. Dylai pawb ohonorn ystyried a cheisio sylweddoli ein bod yn byw mewn oes gyn- yddol, oes y gweliiantau, ac oes y darganfyddiadau. Mae lledaeniad cyffredinol addysg wedi dwyn dargan- fyddiadau lluosog a phwysig yn y gwahanol wyddorau. Dvmunwn alw sylw pawb sydd yn canfod mal yn y blaen mae yr oes yn myned at y meddyglyn anmhris- iadwy hwnw sydd yn gyd-gasgliad godidog o'r hyn sydd feddyginiaethol yn holl brif-lysiau y byd llys- ieuol, sef Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae pawb sydd wedi rhoddi prawf teg arno yn gorfod cydnabod ei rinweddau a 1 deilyngdod, ac yn rhoddi y ganmoliaeth uehaf iddo. Meddyglyn hollol lysieuol yw, a chynwysa rinweddau iachaol ac adgryf- haol Quinine, Sarsaparilla. Saffrwn, Lafant, Danty- llew, Cynghaw, Crwynllys, ac amryw chwerw-lysiau a melus-lysiau rhagorol eraill. Gocheler efelychiadau ohono. Gwerthir mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, gan bob fferyllydd, neu drwy y post am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddiwrth y gwneuthurwyr- Quinine Bitters Manufacturing Co., Limd., Llanelly, South Wales. I