Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE, ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL- Tuning & Repairing a i Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, MASNACHDY CERDDOROL Y CYMRY Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o 10s. 6ch. y mis ac uchod, Gan y gwneuthurwyr 5goreu bob amser ar law; Broadwood, Brinsmead, Collard, Neumeyer, Ward, Monington & Weston, Justin Brown, &c. AMERICAN ORGANS, 5S. y mis, &c. Mason & Hamlin, Bell & Co., Smith, Story & Clark, &c., &c, HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. 0 waith Trayser, Christophe, Alexander, &c., &c. VOICE TRAINING, &c., &c. SCHOOL OF MUSIC. Prospectus on application. NOW IN STOCK FIRSTCLASS SECOND-HAND HARP By the Celebrated Maker, ERARD. TELYN WIR DDA. D.. R. JONES & Co., 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL, F CONCERT AGENTS, &c. Eto ar y Blaen. -TERW ERI No TE A CHOFFI PUR. Gwerthiant yn cynyddu bob wythnos o gan pwys i dunelli. PURE "WATER IS ESSENTIAL TO HEALTH." 4 THE New Aeraied Beverage arid Buffet Co., Ltd.. Irexliaiii, Manufacturers and Proprietors of HIGHEST AWARD SILVER MEDAL LONDON, 1881. RIG REST AWARD GOLD MEDAL NEW YORK, 1882. THE RENOWNED NON-ALCOHOLIC BEVERAGE. Also Manufacturers of High-Class Mineral Waters, Cordials, &c., &c. PRfCE Ln7' AND TESTIMONIALS SENT ON APPLICATION. | LONDON. "'I GLASLYN HOUSE, E V AN S' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. Y mwyaf canolog i bob rhan o Lundain. Yn agos i Station Euston (L. & N.W. Ry.). Dwy fynyd o gerdded o Stations St, Pancras (Midland Ry), neu King's Cross (G.N. Ry). Deg mynyd 0 dren 0 Padding-ton (G.W. Ry.) gyda'r Metropolitan Ry. i Station Gower Street, yna ymofyner am Euston Square. D. EVANS, Perchenog. D. EVANS, Perchenog. -ARGRAPHU- o bob math, Cymraeg a Saesneg, yn Swyddfar "CYMRO," 8, Paradise Street, Liverpool. Tocynau, Rhagleni, Cylcblythyrau, Mur-leni, Tafleni, Adroddiadau, Ystadegau, &c &c., Ar fyr Rfbudd, Yn ddestlus, Ac am Brisiau Rhesymol. Prospectuses, Circulars, Handbills, &c., translated into Welsh, RICHARD E. EVANS, House and Estate Agent, la, PRESTON STREET (0pp^tfolice),! LIVERPOOL, And 2, TREGANNA TERRACE, LISCARD ROAD, LISCARD. ESTATES CAREFULLY MANAGED. RENTS COLLECTED PROPERTY BOUGHT, SOLD, OR LET MORTGAGES EFFECTED. Ysgol Sabboiljol Fitzclareqce Street, Lerpwl. CYNELIR TEA PARTY A CHYFARFOD CYSTADLEUOL mewn cysylltiad a'r uchod, NOS FAWRTH, lonawr 26, 1897. Rbestr o'r Tr stynau i'w cael trwy anfon Stomp i'r Ysgrifenydd, J. LLOYD WILLIAMS, 46, Stanfield Road. Eisteddfod Gadeiriol Rlraddlan A CYNELIR YM Y CAST ELL DDYDD CWENER, Awst 21ain, 1896. GRAND CHORAL, MALE VOICE AND JUVENILE CHOIR COMPETITIONS. QUARTETTE, DUET, AND SOLO COMPETITIONS. BRASS BAND CONTEST. OVER 300 COMPETITORS. Tre 's rhad o bob cyfeiriad. Gwel Railway Bills.. Mr. W. JONES, Church Gates, v Mr. E. ROBERTS, Ty Gwyn. J ys°- Myg' Mr. E. G. MORRIS, Plas Madoc, Ysg.Cyff. C, JONES (Late Jones & Davies), Tailor & Habit Maker, 83, Victoria Street, LIVERPOOL FIT, STYLE and WORKMANSHIP guaranteed for Reasonable Prices. I THOS JONES&Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3, 1/7, and 2/- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 201- and upwards sent carriage paid by .Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. THOS JONES & Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL.
CYNHAUAF YSCAFN.
CYNHAUAF YSCAFN. ANAML yn wir y cafodd unrhyw Lywodr- aeth gynhauaf mor brin a'r un ddaeth i ran Llywodraeth Arglwydd Salisbury y flwydd- yn hon. Yn iaith yr amaethwr, teneu vdvw'r cnwd ac vsffafn vdvw'r Den a'r J J J CD J J 1 7 ychydig rawn sydd yn y pen, bara mall geir ohono mae'n fwy na thebyg. Mae diareb Yspaenig yn dweyd mai ychydig wlan geir ar fochyn wedi'r holl waeddi a'r ysgrecba:n ac y mae llu o wirebau gan genedloedd eraill sydd yn profi nad yw'r Weinyddiaeth bresenol, er ei holl fost, ond meidrol a chyd stad a. phethau cyffredin is- loerawl eraill, megys y mynydd mawr a'r llygoden fach," y llestri gweigion a'u trwst mawr," a'r u sawl aned i rot nid a byth i bum ceiniog." Ac wrth feddwl fod mwyafrif y Toriaid ar ddechreuad y Genedd-dymhor yn 150, a chyn lleied a wnaethant, gellid bathu diareb newydd, os cywir y gair, sef mai Gwaethaf mwyafrif, y mawr." Swm a sylwedd y cynhauaf a grybwyll- wyd yn nghyntaf ac yn benaf ydyw y mesur i esmwythau beichiau'r amaethwyr. Yr ydym yn barod i gydnabod lluosog- rwydd y dosbarthiadau yn y wlad hon sydd mewn angen ysgafnhad o'u beich- iau ond y mae lie i amheu ai ein hamaethwyr ydyw'r dosbarth mwyaf angenus ar ol y cwbl, ac ai'r dull a fabwysiadwyd yn y mesur hwn ydyw'r cymhwysaf i gyfarfod yr angen hwnw. Fe gofir nad yw nifer y rhydd-ddeiliaid yn Mhrydain, bychain a mawr, sy'n byw ar eu tir eu hun yn nemawr llai na'r lleill, ac yn ol dysgeidiaeth un dosbarth o athrawon dyma y dosbarth mwyaf cefnog a chysurus arnynt yn y deyrnas- Os felly, iro'r hwch dew a. bloneg ydyw'r Mesur. Ond ni a gan- iatawn fod lluaws o'r dosbarth gwerthfawr hwn yn cael eu* gordrethu, a bod y Ceid- wadwyr wedi ysgafnhau eu baich, bychan ydyw'r diolch a haeddant gan yr amaeth- wyr am hyny, canys pwy ond hwy y llynedd oedd â'u holl egni yn cadw baich mawr y degwm ar y ffermwyr ? Yr argl- wydd tir, meddent hwy y pryd hwnw, gai'r holl elw o ddilead y degwm ac ar yr un cyfrif yn union y gellir dweyd mae'r meistr tir gaiff yr holl elw oddiwrth Fesur Trethu Tir. Nid oedd ryfedd yn y byd i'r mesur hwn fyned mor rwydd trwy Dy'r Argl- wyddi oni chafwyd enghraipht o hunan- garwch y Ty hwnw yn y modd cyndyn y gwrthwynebent bob ymgais i ffrwyno aw- durdod tirfeddianwyr Iwerddon ? Ond dywedir ei fod yn fesur a wnai beth daioni, tros amser o leiaf, i amaethwyr cytyng arnynt ai dyma'r holl gynhauafy gellid yn naturiol ddisgwyl oddiwrth blaid a chanddi fwyafrif o gant a hailer yn Nhy'r Cyff- redin, heblaw'i Ty arall ar amnaid ei bys ? Na, chwareu teg hefyd, mae Llywodraeth y mwyafrif mawr wedi cario penderfyn- iad i wario tua phum' miliwn o bunau ar longau rhyfel. Rhydd hyn waith i luaws o seiri llongau yn y porthladdoedd lie yr adeiledir y cyfryw ac esiampl dda i lywodraethau eraill Ewrob ac America i'w hefelychu. Buont hefyd yn ddiwyd iawn gyda'r gorchwyl o dynu dryghin yn eu penau -ond gvaa gallitoedd bychain. Mae gan y Prif Weinidog ofn yr ellyll sy'n llywodraethu Twrci trwy ei galon, a bu agos 'iddo fyned i ysbryd gweddigar am unwaith pan oedd cymylau iled fygythiol rhwng y wlad hon a'r Unol Daleithiau ond yn ol pob ymddangosiad, ni phryderodd ond ychydig yn nghylch gwneud rhyfel mewn tri lie ar dylwythau anwar yr Affrig. Mae Mesur mawr y Senedd-dymhor, fel y gwyddis, wedi ei dynu yn ol y mesur yr oedd y mwyafrif tros ei ddarlleniad yn 267—ac addewir ei ail ymddangosiad y flwyddyn nesaf, wedi trwsio tipyn arno. Nid ydym erbyn hyn yn mysg y bobl sy'n annghredu yn ei ail ymddangosiad. Cyn- wysa gymaint o elfenau annghydfod i'r blaid Ryddfrydol, fel nad yw'n debyg y gadewir ef man y mae gan y blaid arall. Cawsom brawf o hyn pan giliodd y Gwydd- elod oddiwrth eu cynghreiriaid naturiol yn yr ymraniad diweddaf ac ni ryfeddem nad y Mesur hwn fydd testyn yr ymgom gymer le ar ymweliad Mr Balfour a. Phenarddlag. Nid yw Mr Gladstone erioed ond Ymneill- duwr gwan.
o CYNLLUN NEW DD ADDYSG.
o CYNLLUN NEW DD ADDYSG. MEWN colofn arall ceir braslun o Gynllun Addysg a ffurfiwyd gan Mr. Gee, Dinbych. Edrychir ar y mesur a gyflwynwyd i'r Senedd gan Syr John Gorst yn anfoddhaol a diffygiol o safbwynt Ryddfrydol a gwneud y diffyg hwnw i fynu yw amcan y cynllun dan sylw. Prin y credwn fod y cyfryw amcan yn cael ei gyrhaedd ac er yn cydnabod fod nodweddau teilwng a chy- meiadwy gan Mr. Gee, nid yw ei ragoriaeth ar eiddo Syr John Gorst yn fawr, ac ni chyfunir ynddo yr egwyddorion Rhydd- frydol na'r rhagwelediad eang allesid yn rhesymol ddisgwyl gan wr o graffder a phrofiad Mr. Gee. Hyd y gwelwn oddi- wrth ei ffurf bresenol, nid yw darpar- iadau y ddau gynllun yn gwahaniaethu nemawr oddiwrth eu gilydd ond yn unig gyda'r trefniant i gyfranu addysg grefyddol. Cydnebydd y ddau fod angen rhoddi gwersi Beiblaidd i'r plant, ond yn y trefniant ar gyfer hyn ceir hwy yn gwahaniaethu fel y canlvn SYR JOHN GORST. 1. Cyfyngir y fraint yn yr "Ysgolion Cenedl- aethol" i glerigwyr Eg- lwys Loegr. 2. Gadewir yr amser i'r gwaith hwn yn agored. 3 Ni sonir am ortodi'r plant i dderbyn addysg grefyddol. 4. Nid oes amod na chosb i'r athrawon gadw atynt gyda hyn. Gad- ewir hyn at eu doeth- ineb. MR GEE 1. Rhoddir yr un fraint i weinidog pob enwad. 2. Nodir nawn dydd Gwener yn v nig I'r gwaith. 3 Gorfodir yr holl blant i fod yn bresenol nawn dydd Gwener i'r amcan hwn. 4 Diswyddirpib athraw geir yn euog o broselytio wedi iddo gael ei ry. buddio i ymatal ddwy- waith. Gwelir fod yr ail golofn yn rhagori llawer ar y gyntaf. Ond a yw egwyddor y naill neu'r llall yn unol ag ysbryd Rhyddfryd- iaeth ? Niddisgwylir i'r cyntaffod felly ac ni chredwn fod yr ail chwaith yn corphori teimlad yr hen Ryddfrydwyr. Mewn erthygl ymddangosodd yn ein colofnau rai misoedd yn ol dangoswyd fod barn ddiam- wys hen arweinwyr y blaid yn wrthwyn- ebol hollol i gyfranu addysg grefyddol o gwbl yn yr ysgolion dyddiol. Nid i hyny .y sefydlwyd hwy nid yr athrawon yw'r dynion cymhwysaf i'r gwaith ac nid yw gorfodi crefydd ar neb yn debyg o ddwyn canlyniadau da. Cynal math o Ysgol Sul ar nawn ddydd Gwener yw darpariaeth Mr Gee Onid llawer iawn gwell, a chaniatau fod yr amcan yn cyfreithloni'r moddion, fyddai ceisio gwneud yr Ysgol Sul ar y dydd sanctaidd yn fwy poblogaidd ? ac os oes mesur o orfodaeth i fod, onid gorfodi'r plant i fyned i'r cyfryw ar y dydd Sab- both fyddai fwyaf effeithiol ? Yn ein dinas- oedd a'n trefi mawrion ceir miloedd o blant yn hollol ddiymgeledd mewn ystyr gref- yddol. Treuliant eu Suliau ar yr heolydd gan ddysgu iaith a gweithredoedd aflan a llygredig, a bendith fyddai eu cynull trwy fodd neu anfodd i gyrhaedd breintiau a manteision a ddylanwadai er eu dyrchafiad moesol. Cyfraner yr addysg fydol oreu i'r plant yn yr ysgolion ddyddiau'r wythnos, cymhwyser hwy i fod yn aelodau defnydd- iol a goleuedig o gymdeithas, a chan fod dyledswydd a chyfrifoldeb i gyflenwi eu hangenion moesol ac i roddi iddynt addysg grefyddol, ceisier eu denu i'r man, ar yr amser, ac at y bobl, gymhwysaf i'w diwyllio yn yr ystyr hwn. Yn sicr, mae llawer mwy o duedd yn y dyddiau hyn i fydoli crefydd nag i grefyddoli'r byd. Cvmeradwy yw'r trefniant i gael yr holl ysgolion yn unffurf a chydradd, a'u galw ar un enw megys ''Ysgolion y Llywod- raeth," neu Ysgolion Cenedlaethol." Amcan hyn-ac y mae'n amcan teilwng— ydyw dileu pob arliw o enwadaeth a ddichon fod arnynt. Ond braidd na theimlwn fod cryn annghysondeb yn y cynllun gyda hyn eto. Tra y mae'r adran a nodwyd yn amcanu dileu enwadaeth, ceir trefniant arall yn darpar i blant pob enwad fod ar wahan. a than arolygiaeth gweinidog yr enwad y perthynant iddo. Cuddir pob arliw o enwadaeth am y pedwar diwrnod a haner cyntaf o'r wythnos, ond 'ar nawn ddydd Gwener, enwadaeth fydd amlycaf o bobpeth, a bydd yr enwadau wrtli gael eu dosranu i'w hystafell neillduol yn sicr o chwanegu rhagfarn a chulni sectol. Adran arall sydd yn fwy gwreiddiol na doeth yw'r hon a rydd hawl i bob enwad i