Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

-0-CHWAREL Y CAE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0- CHWAREL Y CAE. UNWAITH eto y mae cymylau duon yn hofran uwchben Chwarel y Cae. Bu dir- prwyaeth o'r chwarelwyr ar ymweliad a'u meistr, Arglwydd Penrhyn, ddydd Llun. Yr oedd yn gyfarfod rhyfedd yn ngoleuni'r oes hon. Nid ydym yti barod i ddatgan ar ba du y mae'r bai ni a gymerwn yr hyn a ddarllenwyd gan ei arglwyddiaeth wrth y dynion aethant ar ran eu cydweithwyr ar ymweliad ag ef, fel gwir bob gair. Ni a gydnabyddwn y dylasai'r dynion fyned ato trwy gyfrwngwriaeth ei stiwardiaid nad yw achos y Rybelwyr lawn cyn waethed ag y gosodid ef allan gan y ddirprwyaeth fod eu ffigyrau parth enillion rhai o'r dyn- ion vn annghywir mewn manion dibwys a chaniatau hyn oil, a mwy, pe bae modd, nis gellir cyfiawnhau dull trahaus, unben- aethol ei uchelder o siarad a'r dirprwywyr, a byddai yn burion iddo fyned am ychydig ddyddiau i fwthyn rhai o'i weithwyr i ddysgu moesgarwch (manners). Dyma ei eiriau yn yr iaith y llefarwyd hwynt (nid yw Arglwydd Penrhyn yn ddigon gwybod- us i allu siarad a'i weithwyr yn eu hiaith €U hunain), pe buasii, odid fawr y gwelsid cymylau duon mor fynych uwchben Chwarel y Cae. Meddai — NOTWITHSTANDING this readiness on my part to deal with you with the utmost fairness, you who have signed this memorial are not ashamed to show your ingratitude, and I am loth to believe that what vou say represents the true feelings of all my workmen. Nid yw edliw a dondio fel hyn yn debyg o chwalu'r cymylau ac ar ran y dynion a'i arglwyddiaeth, mae yn ddrwg genym eu gweled. Wrth y meistr dywedwn Bonedd- igeiddrwydd wrth y gweithwyr, Amyn- edd.

--0--CWRS Y BYD

Colliad yr " Ibis."

Syr G. 0. Morgan ar Ddiwygiad…

[No title]

Llenyddiaeth.!

Arddangosfa Amaethyddol Dinbych…

:o: Cyff redinol.

o CYNLLUN NEW DD ADDYSG.