Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
Gwreichion.
Gwreichion. IT UN prydnawn, pan oedd yn tebygu i wlaw,go- fynai cymydog i ffarmwr, Mae'n debyg eich bod yn ofni iddi wiawio, John Parry ?' Ofni gwlaw,' ebe Parry, 'na, mi leiciwn yu y ngalon pe b'ai hi'n gwlawio trwy'r nos, er fod gen i ddau give o yd yn barod i'w gario. Mae'r ddaear yn llefain am wlaw.' IT Galwodd trafaeliwr ar fusnes yn y Gwallgofdy V dydd o'r blaen, a digwyddodd weled hen gydnabod iddo yn mhlith y lloerigion. Helo,' ebe'r drwg ei hwyl, Er's faint ydech chi yma, ?' Er doe,' atebai'r ymwelydd. he sy miter arnoch chi ?' g sfynai y gwirion eilwaith, fel pe buasai'n llawen- ychu o'i gydymaith ond pm atebodd y trafaeliwr —' 'Does dim byd y mater arna i pe cawn i fyn'd oddiyma gan y warders yma.' Yr ydw i 'run fath a chi'l1 union—yr ydw i'n gallach na nhw i gyd hefo'u gilydd pe cawn i ddim ond myn'd o'u gwin- edd nhw rwsut. Waeth i chi neud y'ch hunan yn hapus, yma byddwch chi beilach.' IT Ar yr un ymweliad gwelodd un arall a ad- waenai, ac ebe fe wrtho, 'Helo, ffrynd, y chi sydd yma?' Ie,' ebe yntau yn ddigon call, ac y mae'n dda gen i fod chi'n 'peini i mi—er's faint ydeoh chi yma?' 'Fr heddvw,'ebe'r ymwelydd, pan ych- wanegodd y Hoerig, dan chwerthin yn galonog, Felly yr oedd hi gyda minau—ar visit i wel'd y He y dois ine yma, ond mae'r cnafon wedi nghadw i yma heb symud fer er's tair blynedd. Tragwydd- oldeb ydi heddyw diawled y 'Sylum yma. Un- waith y dowch chwi ewch chi byth o'a gwinedd nhw.' Erbyn hyn yr oedd yr ymwelydd yn dech- reu amheu ei hunan, ac yn Uygadu am y drws. IT Yr ydw i'n rhoi mis o rybudd i ymadael, mam,' ebai morwyn Brynffynon dranoeth wedi iddi ddyfod i'w lie. Sut hyny ?' ebe'r feistres yn syn- edig, tydech chi ddim wedi bod yma i wybod leieiwch ai peidio eto.' Ydw, imm, yr ydw i'n gwybod nad alia i byth ddyodde y c'oc ffasiwn newydd (larwm) yna sy'n fy rhwystro i gysgu yn y bore O'r gore,' ychwanegai y feistres, mi gymera i y larwm i ffwrdd, Mary, i chi gael codi ohonoch y'ch hun.' Cododd y feistres tranoeth, cyneuodd dan, glanhaodd y ty, &c., a phan oedd y brecwest drosodd daeth Mary i lawr naw o'r gloch I IT Rhoddodd y wraig dda ei brecwest i Mary (er nad oedd yn ei haeddu) ac a ddywedodd wrthi, Yn awr, Mary, mi ellwch chi fyn'd rwan. Nid i gysgu yn y bore yr oeddwn i yn eich cyflogi.' IT Ychydig o Wyddelod sy'n dyfod i Gymru y blynyddau yma i weithio'r cynbauaf rhagor oedd yn yr amser a fu. Daeth bagad ohonynt i Garth gynan yn amser Griffiths, a chysgent ar draws eu gilydd yn ngwellt yr ysgubor, a beth ddarfu'r di- reidus Dafis y Llan ond rhoi perfeddyn dafad yn llawn gwaed yn y gwn a saethu'r cynwys trwy dwll y glicied am eu penau nes oeddynt yn waed vr oil, Wedi clywed yr ergyd rhuthrasant allan a meddyliasaut oil eu bod wedi eu lladd wrth weled v gwaed. Wedi dyfod atynt eu hunain, modd bvnag, a difwyno yr afon ger law, ffoisant o'r ardal heb eu cyflogau na pheth. Pobpeth a rydd dyn am ei einioes. IT Y dydd o'r blaen dywedai gwr y Llwyn wrth ymwelyddes o wyres fechan oedd yn arcs yno er's ychydig ddyddiau, I E(lie,' ebe fe, 'edrychwch ydi y ceffyl yn y trap i ni gychwyn i'r shou ddangos.' y fechan at y drws, ac a ddaeth yn ol gan .'ywedyd, Na, tydi o ddim yn y trap, taid, ond "He o'n sefyll rhwng dau bolyn yn ei ymyl 8'1 Dywedwah chwi a fynoch, y mae rhyw was- firldiwcb rbyfedd yn perthyn i amaethwyr Cymru. Y dydd o'r blaen cymerodd un gardod cildwrn 0 sofren am beidio dangos merl/n oedd ganddovn yr arddangosfa amaethyddol yn erbyn un my lord,' ac enillodd my lord y brif wobr—dair gwaith gymaint a'r gardod cildwrn-y buasai'n sicr o'i henill onib'ai am ei waseiddiwch. Pa bryd yr enilla y ffermwyr eu hannibyniaeth, dywedwch? IF Yr oedd Tom Evans yn cadw cwmpeini i ferch y Plas er's blynyddau, a dywedodd ei dad wrtho un noson, Pam na phriodwch chi, Tom?' i Mi leiciwn, y nhad, ond yn anffortunus iawn y mae atal deyd arni hi.' 'Beth ydio ?' gofynai y tad pryderus, pryd yr atebodd Tom, Fedr hi ddim deyd, Gwnaf.' ? Weles i rioedshwn beth, y mae gwraig y Tierthen yn tretio'r gwr fel ci,' ebe cymydoges y el dydd o'r blaen. Beth ? yn ei guro fo ?' gofyuai y Hall Nage, yn ei anwesu ac yn lolian gyda fo.' IF Jac, awn i ddim allin ar y fordaith yma tawn i chi,' ebe'r capten wrth un o'i ddwylaw. 4 Pam, capten ?' ebe hwnw yn bur sarhaus. 'Wel, Jac, yn tydech chi mor dew.' Os ydw i'n dew, ydech chi'n meddwl deyd nad alia i ddim .handlo'r t'haff cystal a dyn tene ?' Nid hyny ydi'r pwnc, Jac,—onid yden ni'n rhwym i'r Cannibal Islands?' ychwanegai y capten tan weau, a chymerodd Jac yr awgrym-llongwr tir sych fu wedi hyny am hir amser. CYFARWYDD.
BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD.
-0 Beth yw eich gwr—Wig neu Tori ?" ebe dyn a golwg pwysig arno y dydd o'r blaen wrth wraig yn Rhyl. "Yr un o'r ddau-teiliwr ydio," ebe hithau. BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD. lim oes amheuaeth nad peth da a defnyddiol yw blwch o'r fath. Ond mae llawer teulu nas gallant fforddio ei gadw, a llawer eraill na allent wneud y defnydd priodol ohono pe caent un. Mae ei restr poteli, y blychau pills, y powdrau, &c., yn nghyda'r cyfarwyddia.dau manwl pa fodd i'w defnyddio, yn rhy ddyrus i bobl gylfredin. Darllenwn yn ami am gamsyniadau angeuol yn cael eu gwneud wrth gym- vsgu a pharotoi cyfferi. Bydd gronyn neu ddau yn ormod o un, neu rhy fach o'r llall, neu gamsynied wrth ddarllen ysgrifen aneglur y meddyg yn anil yn esgor ar ganlyniadau angeuol. Po symlaf fyddo'r blwch meddyginiaeth goreu oil ywiu Osgoir pob perygl i syrthio i un o'r camsyniadau uchod wrth ddefnyddio meddyginiaeth symi ac effeithiol nas gall dan unrhyw amgylchiad wneud niwed, ond sydd bob amser yn llesol, trwy helpu natur i symud ymaith y drwg. Meddyginiaeth o'r fath yw Quinine Bitters Gwilym Evans, ac etyb boll ddybenion Blwch Meddyginiaeth. Ceir yn y Quinme Bitters hyn—yr hyn gliria'r pen, ysgyfnha'r cylla, symuda glefydau gieuol, effeithia ar yr afu a'r arenau, bura'r gwaed, ac a rydd iechyd, nerth, a chysur newydd heb un perygl camsynied na photel, na blwch, na phowdr, na chyfarwyddyd. Ni ddylai yr un teulu fod bebddo. Pan yn ei brynu edrycher fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp a'r bo tel. Mae ar werth gan bob fferyllwr mewn potsli 2" 9c a 4s 60 yr un, neu gellir ei gael drwy y post oddiwrth y perehenogion-Quinine Bitters Manu- facturing Co., Ltd., Llanelly, S. Wales. I
NocSion o'r Ddinas
NocSion o'r Ddinas [Gan CWILSYNJ. DDIWEDD y mis nesaf bydd Miss Annie Williams, Anfield, yn gadael y ddinas ac yn gwynebu ar yr India Bwriada ymgysegru i'r gwaith cenadol, ac nid oes a'i hedwvn a amheua nad yw yn meddu cymhwysderau neillduol i'r gwaith. Mae i'r wyryf weithgar, wylaidd hon lu o gyfeillion bu yn nei 1- duo! ffyddlawn gyda'r Gymdeithas Ymdrech Gref- yddol, a deallaf fod yn mwriad yr aeIodau gyfi wyno tysteb iddi fel arwydd o'u parch tuag ati a'u gwerthfawrogiad o'i llafuius ymroddiad. -0-
[No title]
Diolch i'r awenber Trefor am ei ddymuniadau da,. Bron nad yw nodion fel yr ciddo ef mor brin ag yw heulwea yn mis Taihwedd, a sicr wyf eu bod mor anaml ag ymweliadau angylion. Diolch, gymrawd hoff, ac o waelod calon mi ddymuaaf finau iechyd da i chwithau ddyddiau'ch oes. -0- Faint o'm darllenwyr welodd awdl arobryn
[No title]
Pedrog ar Ddedwyddwch," enillodd iddo Gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelli? Nid oes nem. awr ei gwell yn yr iaith-awr o ddedwyddyd yw ei darllen a thrwyddi y mae'r cyfaill p%rchus a diymhongar wedi sicrhau iddo ei hun safle amlwg yn mysg prif-feirdd y genedl. ftyda llaw, gwelais rywun yn un 0 bapyrau Seisoigy De yn ceisio rhoi ei lathen ar y cyfansoddiad rhagorol a nodwyd ond y mae llathen y beirniad hunangar hwnw gan fyred a'i allu, ac ni raid wrth specti.1 i ganfod ei fod yn un o'r ymgeiswyr siomedig yn yr ornest Den yn un o'r genfaint wenwynig sydd yn eiddigeddu wrth lwydd pawb ond yr eiddynL eu hunain. Da genyf weled fod Pedrog wedi ei benodi yn un o feirniaid y farddoniaeth yn ngwyl genedlaethol y flwyddyn nesaf, a phwy mwy teg a medrus i ddal clorian awen ? Henffych well iddo. -0- G\yr llawer o'm darllenwyr fod John Thomas y
[No title]
photographer wedi troi yn lienor, a bod ei ysgrifau lawn mor ddyddorol a'i ddarlunian. Yr wythnos hon, sicrhawyd fi fod un o feib Barddas yn y ddinas wedi troi i dynu lluniau gyda phwyntil ei awen. Barned y cyhoedd ei deilyngdod fel y cyf. ryw. Dyma ei ddarlun cyntaf, ac un o bre- gethwyr y ddiraas yw ei wrthrych, gallwn dybio :— Mi welais 'gethwr ifanc (?) yn treio bod yn mash Wrth dori ei wisgars gwyoion i gyd ond ei fwsriash Fe wisgai 'sgidisiu cochion a chlamp o fflinen wen, A chot 'run fath a 'ffeiriad, a het wellt am ei ben. O.Y.-Deallat fod y beirdd wedi bo4 mewnoyng- hor yn ystyried yr uchod. Wedi trafodaeth brwd penderfrnwyd diarddel awdwr y pill (neu'r pill?) o'r urdd, ac y mae dau o'r frawdoliaeth wrthi yn brysur yn cyfansoddi duchangerdd iddo. --0- Yr wyf yn dyfynu a ganlyn o'r Weekly Mail,
[No title]
Caerdydd Y dynion mwyaf llwyddianus yn y pen draw yw y rhi oedd yn fethiant yn eu mebyd, Fel prawf o hyn gellir cyfeirio at y Parch D, M Jenkins, Lerpwl, Llywydd yr Undeb Cynulleidfaol Cymreig. Pan draddododd Mr Jenkins ei bregeth gvntaf, cafodd gynghor gan hen ddiacon i roi ei ffidil n y to.' Colled i wlad ac i grefydd fuasai iddo dderbyn y cynghor hwnw. —0— Hen dro oedd i'n cor meibion golli yn y Waun
[No title]
(Chirk) ddydd Sadwrn, ac i'r cor y buont gyfartal ag ef yn Ngorwen eu gorchfygu. Clywais fod am. ryw o aelodau ein "cor ni wedi myned adref am seibiant, ac felly nad oeddynt yn rhoddi eu gwas ■enaeth ddydd Sadwrn. Wrth gwrs, canodd y cor yn dda—all hogia Lerpwl ddim canu'n sal mewn cystadleuaeth, wyddoch, oblegyd y mae brwydr yn eu hysbrydoli a brwdfrydedd cynhyrfus yr ornest yn pereiddio eu llais. -0- Clywais am hen bregethwr rywdro oed 1 wedi
[No title]
cael hwvl neillduol yn oedfa'r bore mewn cwrdd misol, a'i glodydd ar wefuspawb. Ond pan ofyn- wyd iddo bregethu yn oedfa'r hwyr, ebe'r hen efengylwr, "Na, diolch—yr wyf wedi plesio'n o lew yn y bore, ac yr wyf am fyned adref a nghoron ar y mhen. Hwyrach na chawn i ddim hwyl o gwbl heno." Fechgyn Lerpwl, mynwch y goron yn ol cyn iddi golli ei gloywder. -0- Gwelaf fod cyfeillion Fitzclarence Street yn
[No title]
bwriadu cynal cwrdd cystadlu. Cefais drem ar y rhaglen, ac mae'r testynau yn dda-y rhyddiaeth a'r farddoniaeth yn neillduol felly. Gwelaf fod amryw eglwysi a chymdeitbasau yn pa,rotoi at ad- loniant meddyliol y gauaf. -0- Ddydd Sadwrn, yn ei phreswylfod, 5, Abercrom-
[No title]
by Square, bu farw Magdalene Esther, gweddw y diweddar feddyg hyglod Dr Robert Gee, yr hwn oedd yn un o wyr mwyaf blaenllaw eglwys M.C. Chatham Street, ac a fu farw tua chwe blynedd yn ol. Bu Mrs Gee yn nychu yn hir. Boneddiges hael a charedig ydoedd, a theimlir ei cholled mewn ami gylch.
-0--Arwest Farddonol Clan…
-0-- Arwest Farddonol Clan Ceirionydd. YN lied foreu Awst 13 hwyliodd y Cofiadur, Ifan Dafydd, loan Gwyr, Penfro, a'r Prif fardd Pendant i fyned yn mlaen gyda gweithrediadau y dydd ar adfail Llys Taliesin. Cyrhaeddodd y Cofiadur erbyn tua 10 v bore, a gostegwyd pair Ceridwen ac ar at ychydig seibiant galwyd pob un a fynai urdd yn ngorsedd 0 ryw radd i ddyfod yn mlaen, ac arholwyd hwy mewn cerddorheth gan Mr Geo. R. Ashley, Y.H. (Qivaenydd) mewn barddoniaeth gan v Prironau Ifan Dafvdd, Penfro, a loan Gwyr ac fel ofyddion, bu'r Cofiadur yn rhoi help llaw. Aeth y rhai hyn yn llwyddianus trwy yr arholiad ar y Trifaen trwv bair Ceridwen:—John 0. Jones (Hyfraithon), Blaenglasgwm, Penmachno Robert Jones (Trebor Aled), Crest View, Dinbych. Cerdd- orion Miss Margaret E. Williams (Arfonfercli), Central Buildings, Conwy Robert Edwin Batten (liJo. Geirion), Llanrwst; Ernest Winter (Cerddor Gogarth), Church Walks. Llandudno Miss Pris- cilla Ann Williams (Eos Comvv), Central Buildings, Conwy Charles Eyton (Eos Lleifiad), Llynlleifiad; George R. Ashley (Givrtenydd), Llugwy Cottage, Bettwsvcoed Miss Jennett E. Davies (Llinos Iddon), Station Terrace, Bettwsycoed. Ofyddion Robert H. Williams (Robin Cungla«) Geo. Rigby Rothwell (Sior Caerhirfryn), Bolton Miss S. Bar. rett (Mair Ludd), Clapham, Llundain; John R. Jones (Dyfnwal), Sheffield House, Llanrwst; Misses Frances M. Jones (Qwenrydd), Florence H. Jones (Blodeuwtdd), Winifred A. Jones (Gvienllian Gwynedd) Owen Hugh Davies (Glyndwr), Gor- phwysfa, Trefriw; Mrs Louisa Jane Morgan {Oeimven Ceredig), Llansantffraid Glan Conwy Mr A. N. Morgan {Ab Penfro). Glan Conwy. Ar ol myned trwy'r arholiad, ymflurfiwyd yn A. N. Morgan (Ab Penfro). Glan Conwy. Ar ol myned trwy'r arholiad, ymflurfiwyd yn orymdaith ac aed i'r Orsedd a thrwy y gweithned- iadau arferol, a rhoddwyd y siars i'r oil gan y Prif- fardd t'endant. Anerchwyd y gwyddfodolion gan Trebor Aled, Hyfraithon, Penfru ac Ifan Dafydd. Bu raid gadael y gweddill o'r gweithrediadau hyd nes y ceir gwell hin. Ni fu un math o gystidleu- aetb. Wele anerchiad barddol Penfro :— 0 ferw blin llefau'r blaid Ferwina fyfyr enaid, Troi wnawn i'n tir ein hunain- Mangre hedd ein gorsedd gain Yn y fun hon cawn fwynhau 0 rin y gwir awenau, Awenau'n ta,dau, fU'1) teg Adioni mwyn delyneg, 1 ddi-ing, beraidd yngan Am wir lwydd hen Gymru lan. Er dwys 'stwr. diystyru Tir Gwynedd a'i Gorsedd gu, Eto mawl ein teml i'n Tad Ar dda ystwyth gerdd wastad, A ganwn i'w ogoniant, Heb lid, fel ei ufudd blant; Yn hen Orsedd Gwynedd, gwel Ein Duw rhyw drigfan dawel. Mwyn yw hedd y mynyddau, Awyr bur dramwya'r bau, A sieryd am gysuron Sydd o rad Gorsedd yr Ion Diau Coleg Duw Celi 0 soedd 'nol fu'n Gorsedd ni, Y nun lie bu yn llu lion Rhyw fyrda o gvwir feirddion, Yn dorf ?;1d, Cadair Fedydd, A Bin Gor yr lor yw hi Heddyw i'w wyl addoli. Mae hon uwchlaw damweiniau- Byw yw'r gwir er berw gau Ac er cynhwrf twrf tyrfa, T)41 wna dysg dylanwad da Hen gylch gwirionedd heddyw A mawrhad i Gymru yw. E' daw ffol honiadau ffug O'n gwydd ant 0 dan gaddug Nych i'r drwg-ni cheir rhyw dro Heblaw gwir yn blaguro, Tra meini llu. tra maen llog Sy'n annedd lesu Eneiniog, Ein Gorsedd hen, gywir sail, Ddeil eto heb siglo'i sail. Fe ddeil hon fyw ddylanwad Awen lwys yn mron y wlad, A'i hawliau bvth fel y bu Arosant dan £I,fr lesu— Sanctaidd air,—arwyddair hon Yw'r Gwr a biau'r Goron A'r lesu hael a roes hedd A gynal Orsedd Gwynedd. E. O'R NANT. -0--
Dyffryn Clwyd,
Dyffryn Clwyd, BYBHAU mae'r dvdd. Cysgod hwyrnos a gauaf nid yw nepQll. Rhaid wrth leuad gwyr lal i fvned adref o'r tneusydd wedi mvdylu'r yd, ac erbyn hyn mae llawer maes yn foel a llawer cadles yn llawn. Daw dydd y diolch yn y man ac er bvred y gwelltyn, tvwydd anwadal y dyddiau diweddaf, a llawer cwyn o galon v ffermwr diwyd, aiff y cyfan yn annah^f wrth abertbu diolch i "Dad y trugar- eddan." D'fl,nod(i llawer hen a,rfer er dyddiau'r hen .Glwvdiaid, ond pel'y'r cwrdd diolch yn boblog- aidd o hyd, a rhaid i vsbryd a chalon y Dyffrynwyr newid llawer cyn y diftana'r cwrdd hwn, DAMWAIN Na-wn rldydd Gwener yr oedd llanc bychnn tair blwydd a haner oed i Mr Cadwaladr Hughes, Glas mor, ISsntErlyn, ar v meusydd gyda'r medelwyr. C dlwyd y llanc, ond daeth ei waedd i glyw'r dyn- ion. Aed "to, a chaed fod ei droed wedi ei dori ynv'ith oddiwrth ei sfoes. Cludwyd meddygon, a bu raid vsgaru'r aelod er arbed bywyd y bychan ac y mae'n dyfod ýn mlaen yn dda ag ystyried ei oed a'r loes a gafodd, YN RHUTHYN ceir swyddi afrifed, ac ychvdig yw nifer y gwyr cymhwys i'w llanw. Rhaid rhoi amryw swyddi i'r un rhai, a dyryswch bar hyny ar brydiau. Dau ddvn pwys; yn Rhuthyn ydynt Mr J. W. Lumley a Mr Ezra Roberts, y maer-boes na bwrdd na chynghor, pwyllgor na chymdeithas, nad ydynt hwy yn aelodau ohonynt. Mae'r ddau yn ynadon, ac yn v llys diweddaf daeth achos cysylltiol i'r Bwrdd Ysgol dan svlw. Mr Lumley yw llywydd y Bwrdd hwnw, a Mr Roberts yw'r ysgrifenydd. Teimlai'r ynadon fod y Bwrdd Ysgol yn rhy lar- iaidd at v rhai esgeulusent anfon eu plant i'r ysgol; ond gan fod d'u aelod o'r Bwrdd yn ddau aelod o'r Fainc, sut oedd bosibl i'r Bwrdd na'r Fainc weith- redu yn unol i gondemnio neu erymeradwyo yr hyn a wna'r Daill neu'r llall ? Gwelir felly fod cvm- hwvsderau weithiau yn rhwvstr i ddyn gyflawni swyddogaeth ddwbl yn effeithiol; 9c yn Rhuthyn tvbiwn mai da fuasai mabwysiadu egwyddor "un dyn-un swydd yn gyffelyb i egwyddor un dyn -un bleidlais." EISTEDDFOD Y PUMP! Bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn mhen tref y sir yn 1882. Lleithiwvd y babell yr adeg hono gan wlaw, ac nid yw effaith y cawodydd wedi llwyr vmadael oddiwrth yr Eisteddfodwyr lleol hyd yn hyn. Ychydig ddvddiau yn ol, arwyddwvd deiseb. gan 36 o drigolion Dinbych yn gofvn i'r Maer alw cyfarfod cvhoeddus i ystyried v priodoldeb o gynal Eisteddfod DsJaethol yn y dref. Gwnaed hyn. Nos Wener oedd dyddiad v cwrdd a daeth y rhif aruthrol o BUMP yn nghyd. Wrth weled y naill ar ol v Hall yn dvfnd. tybiwyd unwaith mai doeth fuasai llogi v Drill Hall. neu yn wir ei gynal yn yr awyr agored vn y Smithfield neu faes eang "arall. Ond yn ystfel1 y Cvnghor y bu'r drafodaeth, a phump yn unig oedd vn bresenol Penderfvnwvd mai. v peth goreu oedd gadael y mater yn llonydd, a hvny wnaed Meddyliwn bob amser mai Dinbych oedd y gronfa lie cedwid yr vsbryd cenedl- aethol, a'r crochon lie yr oedd brwdfrydedd Cymro. aidd yn berwi mai yma yr oedd Cymru benbaladr yn cael y gwladgarwch mwyaf aruchel, a bod ysbrydion Eisteddfodau pob oes wedi crynhoi i'r dref. Ond ow fe'm siomwvd. Mae mwy o gen- edlaetholdeb dan weryd yr Eglwys Wen, mwy o wladsrarwch yn y beddau yno, a mwy 0 vsbrydion yn cyfaneddu yn yr ywen ganghenog sydd vn y fvnwent, nag yn nghalonau oer mwyafrif y trefwvr. Tvbiwn glywed ysbrydion Twm o'r Nant. Bardd Nartglyn. Golyddan, a Thaliesin Hiraethog yn arllwys melldithion uwchben cenedlaetholdeb gwag a gwladgarwch pwdr o'r fath. Cywilydd i bobl Dinbych, meddaf finau. CLYWEDOG.
Gwyddoniaeth.
Gwyddoniaeth. Y TELAUTOGRAPH. MAE yr offeryn hwn, fel y mynega ei enw, wedi ei adeiladu er mwyn trosglwyddo i bellder ys- gogiadau yr ysgrifbin. Y dyfeisydd yw y Proflf Elisha Gray, Lake County, Illinois, U.S.A. Fe ddaeth yr offeryn o flaen y cyhoadd tuaV flwyddyn 1891, ac erbyn hyn one cwmni wedi ei ffurfio i'w law-weithio a'i wertbu. Eglur yw mai nid peth hawdd ei gyrbaedd yw trosglwyddiad cywir o ysgogiadau amrywiog yr ysgrifell ac i'r neb a'i gwelodd hawdd yw can- fod mai nid heb wir draffjrtb a h'r amynedd y llwyddwyd i gynllnnio yr offeryn prydfertb sy'n awr ar werth. Mae'r offeryn yn ddyrys yn ei adeiladwaith, ac o ganlyniad yn ucbel ei bris. Nis gellir, oherwydd hyny, ddisgwyl iddo ar hyn o bryd le mor eang yn ngweithrediadau- dyfodol cymdeithas ag a roddir i'r pellebyr a'r pellseinyr, y rhai sydd o adeiladwaith gymbarol syml Beth bynag am hyny, mae y ffaith ddy- ddorol yn aros, sef ei bod yn bosibl trosglwyddo' gyda pherffeithrwydd rhyfeddol unrhyw law- ysgrifen yn nghyda'r holl nodweddion a berthyn iddi. Fel y pellseinyr a'r pellebyr, mae i'r offeryn ddwy ran a elwir yn sender a receiver, ac fe gy- sylltir y ddwy ran gan wifren fechan ar hyd yr hon y llifa ffrwd o drydan. M'1e manylion y sender a'r receiver mor ddyrus fel. mai difudd hollcl fyddai anturio desgrifiad ohoijynt yn y fan hon. Digon yw rlweyd fod y cyfan yn ber- ffaith automatic fel peirianau telegraff Hughes. Nid oes gan y derbynydd ddim i'w wneuthur ond gwylio'r neges yn cael ei ysgrifenu. Mae'f anfonydd—yn Lerpwl dyweder-yn eistedd wrth ei beiriant fel yr eistedda dyn wrth ei ysgrifen-fwrdd, gydag ysgrifell y peiriant yn ei law ac ar bapyr a berthyn i fwrdd y peiriant efe a ysgrifena lythyr at ei frawd yn Llundain. Ar yr un pryd-yr un eiliad yn wir-mae peir- iant y brawd yn ysgrifenu mewn inc gopi cywir o'r llythyr gwreiddiol. Mae'r adgynyrchiad mor berffaith ag i'w wneud yn orchwyl anhawdd i benderfynu pa un o'r ddwy ysgrifen yw y wreiddiol. Felly, fe ysgrifenir dau lytbyr ar yr un adeg, y naill gan yr anfouydd o Lerpwl a'r llall yn mhresenoldeb y derbynydd yn Llun- dain. Fe ellir trosglwyddo brisluniau hefyd yr un mor hawdd a'r lawysgrifen. Bydd hyn yn gaffaeliad mawr i'r galwedigaethau—y beirianol yn arbenig. Drwy gyfuno telautograph a'r telitfon-yr hyn ellir wneud gyda llwyddiant-fe ffurfir off- eryn tra rhagorol i drosglwyddo negesau, ob- legyd fe all yr anfonydd siarad a'i gyfaill yn y pellder, ac ar yr un adeg gadarnhau neu egluro ei neges trwy gymhorfch darluniau. I beirian- wvr, fe ddaw y cyfuniad hwn cyn hir mor angen- rheidiol, ni gredwn, ag yw y teliffon yn bresenol i fasnachwyr. Yr oedd y telautograph i'w weled mewn- ar- ddangosfao eiddo y Royal Society yn Llundiin fis Mehefin diweddaf, a thna'r un adeg defnydd- iwyd ef arlinell deliffon Llundain a Paris. Fe drosglwyddwyd llawysgrifen a brasluniau (sketches) o Lundain i Paris ac 0 Paris i Lundain I gyda boddhad bollol. Sylwer mai trwy gym- horth trydan y gwoeir hyn oll, ac hebddo an- mhosibl fyddai cyrhaedd yr amcan. Ymddengys fod Cwmni y Telautograph wedi dod i gytundeb a'r National Telephone Company yn nglyn a, defnyddio llinellau y teliffon at waith y telautograph hefyd, fel lie bynag y mae teliffon eisoes mewn gwaith bvdd yn bosibl cael y telautograph heb nemawr o dr,- BENJAMIN DAVIES.
--i o--1-Ar Finion y Ddyfrdwy.
i o 1- Ar Finion y Ddyfrdwy. OAU FFYNON. YN nghwrdd diweddaf Rhaith Dosbarth Edeyrnion hysbyswyd fod Ffynon Grufifydd yn Nghynwyd wedi ei chau fel nad allai'r Cynghor gael dwfr ohoni. Yr Arolygydd a ddywedodd iddo ymweled a'r lie a chael llidiart gloedig ar v ffordd arweiniai i'r ffynon. Gwelodd Wm.Williams, y tirfeddianydd, yr hwn a sylwodd na thynai y clo i ffwrdd ar un cyf- rif. Yn ol rhai o drigolion hynaf y plwyf, cludid dwfr o'r ffynon er's haner can mlynedd. Sylwodd y clerc fod y ffynon yn eiddo'r cynghor os gellid profi ei bod yn cyflenwi dwfr i'r trigolion er 1875. Y diwedd fu nodi pwyllgor i ymchwil i'r mater; ac os yw pethau fel y dywed yi Arolygwr, dylid rhoddi terfyn buan ar raib pob un fyn amddifadu'r cyhoedd o'u hawl i ddwfr y ffynon. GLYNDYFRDWY. Erbyn hyn mae gan y pentref tlws hwn gronfa ddwfr i gyflenwi angen ei drigolion. Nid oes llawer o berygl i'r Ddyfrdwy fyned yn hesp, er ei bod wedi sychu llawer yr wythnosa.u diweddaf ond da yw'r gwaith i sicrhau dwfr pur, gloyw, a chroyw o'r mynyddoedd. CORWEN. O'r diwedd y mae Cynghor Dosbarth Corwen wedi trefnu i amddiffyn y dref rhau tan trwy brynu hydrants, &c O'r blaen, pe digwyddai anffawd felly, nid oedd ond dibynu ar fwcedi, ac offerynau digon anhylaw yw rheiny mewn achos o'r fath. Bellach, bydd yn rhaid ffurfio adran o dan-ddiffodd- wyr, ac yn ddiau bydd rhai o fechgyn glewion Corwen yn awyddus i ddangos eu medr a'u gwrol- deb pan fydd galw am hyny. Bu Methodistiaid y dref a'r cylch ddydd Mercher yn mwvnhau'r te blynyddol. Ar y maes y caed v difyrwch penal, ac yr oeld hen ac ieuanc mewn llonder yno. IS-BERWYN.
[No title]
--0-- Yr elw oddiwrth Eisteddfod Genedlaethol Llan- elli, 1895, yw 260p.
-0-YFWYR TE-DALIWCH SYLW.
-0- YFWYR TE-DALIWCH SYLW. Llwyddiant mwyaf tarawiadol y dyddiau diweddar yw Te Kardomah." Mae'r gymysgfa yn gyfryw fel y cyfunir bias Te yr hen amser gyda melusder y te a dyfir yn Cachar, Sylhet, Darjeelmg, a Ceylon, a cheir ei fod yn cynyrchu cwpanaid 0 De o'r mwyaf blasus. Gwerthir gan Grocers ac eraill yn mhob man, neu yn y Kardomah Exhibition Caf^, 52a, Church-street, 46 a 48, Church-street, a 131, London-road. Hefyd yn Nghaerdydd, Abdawe, Llundain, a Paris.