Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Arglwydd Penrhyn a'i Chwarelwyr.
Arglwydd Penrhyn a'i Chwarelwyr. YMWELIAD Y DDIRPRWYAETH. DDYDD Llun, ymwelodd dirprwyaeth o weithwyr Chwarel Bethesda ag Arglwydd Penrhyn er gosod eu cwynion gerbron a chael atebiad iddynt. Cyn rhoddi'r atebiad ffurfiol i'r cwynion, sylwodd y pendefig fodyn rhaid i bob cwyn fyned trwy law ei brif oruchwyliwr nas gallai ganiatau i un- rhyw bwyllgor na dyn unigol ymyryd rhwng y gweithwyr a'r perchenogion yn y chwarel mai nid gelyniaeth at Undeb y Chwarelwyr oedd yn peri iddo ddweyd hyn, oblegyd yr oedd y ffaitb eu bod yn aelodau yn brawf fod ganddynt arian wrth eu cefn. Yna rhoes yr atebiad a gaulyn i'r cwynion gyflwynwyd i'w sylw:- Safon Cyflog.—mai 4s yw safon y cyflog dydctiol, ceir rhai dynion yn enill 5s 3o y dydd a rhai dros 6s. Ni allaf godi'r safon, ,oblegyd nid yw llawer o'r chwarelwyr yn werth mwy na 4s y dydd. Gosodir bargenion iddynt ar deierau ffafriol, a'u hangymwysder yw'r rheswm na enillant gyflogau gwell. Rhaid i mi wrthod codi'r safon i 5s 6c. Gofynwch am 4s 6c y dydd pan fydd y gweithwyr yn metbu cyrhaedd safon y fargen. Byddai hyny yn gcsod pris ar segur- bod, ac nis gallaf ei wneud. RybeU-yr.—Yn Ebrill, 1893, dywedodd Mr Young y rhoddid bargeinion i rybelwyr, ac addawodd roddi gwaith iddynt mor hir ag yr oedd yn bosibl. Deallaf fod tua 90 o rybelwyr wedi cael myned yn fargeinwyr er yr adeg hono. Gofynwch am fargeinion misol iddynt: nid yw ystad y chwarel yn caniatau i ni wneud hyn. Yn mheilach gwell gan rai rybelwyr beidio cy- meryd bargen ceir eraill wedi gadael bargein- ion er mwyn myned yn rybelwyr, tray mae eraill yn rybelwyr na chymerai y bargeinwyr hwy yn bartneriaid. Am y rhesymau hyn y mae'n anmhosibl i mi roddi bargeinion i'r holl rybel- wyr yn ol eich dymuniad. Nid wyf yn gweled tir dros godi 10 y cant yn nghvflogau'r rhai weithiant yn y melinau, sef gofaint, seiri coed a maen, peirianwyr, &c. Perbynia'r seiri meini 4s 2tc y dydd, yr hyn sy'n gyfartaledd teg am waith sefydlog. Rhaid cofio hefyd i'r oil dderbyn y codiad o 5 y cant a wnaed yn Rhagfyr 1895. Gosod Bargeinion.—Rhaid i mi alw eich sylw at annghywirdeb yn eich deiseb pan ddywedir genych fod y gyfundrefn o osod bargeinion a fabwysiadwyd yn ddiweddar yn "achosi llawer o ddrwg-deimlad yn inysg y dynion, a'i fod yn annghytiawn at luaws ohonyiit. Hysbysir fi fod y gyfundrefn bresenol mewn grym er 1882, felly nid teg yw awgrymu fy mod wedi achosi y drwgdeimiad hwn, ac yr wyf yn gwrthdystio'n gryf yn erbyn y fath awgrym. Mewn atebiad i'ch cwynion dymunaf ddywed: (a) A chydnabod fod y bargeinion yn amrywio mewn maint, beth sydd a wnelo hyny a'r mater ? (b) Nad wyf yn gweled grym yn eich cwyn yn erbyn "canolwr (middleman.) Gall y geiriau "canolwr," "anngyfiawnder," a "cholled i'r cyflogwr" swnio'n arwyddocaol ar glyw pobl nad ydynt yn gwybod y gwir, ond yn ofer y disgyna'r geiriau hyn ar fy nghlustiau i. (c) Pan y eeisiwch wneud allan fod bargeinion yn "cael eu gosod i ddynion anmhrofiadol,"a bod "llawer 0 weithwyr medrus a phrofiadol yn gorfod dibynu ar eu salacb," rhaid i mi alw sylw at y ffaith fod y rhan fwyaf o'r bargeinion ar graig ddrwg, ac y mae'n amlwg fod an cyfarwydd a chraig ddrwg yn fwy cymhwys i gymeryd bargen o'r fath nag eraill, ac nis gallaf gydnabod fod y bargeinwyr yn anmhrofiadol gyda'r gwa'th a osodir iddynt. (d) Dywedwch fod y gyfundrefn bresenol yn achosi colled i'r cyflogwr trwy fod dynion anmhrofiadol yn dyfetba y llechfaen. Yr wyf mewn safle i'ch gwrtbddweyd, yn gymaint a bod mwy o lechi wedi eu cynyrchu dan y gyfundrefn bresenol na chynt. Ar y cyfan, y mae'n anmhosibl rhoddi ystyr i'ch iaith ar fater y bargeinion arall na chyhuddiad ysgubol yn erbyn effeithiolrwydd y rheolwyr, ac nis gallaf lai na gweled fod teimlad cudd ar waith yn y cynhyrfiad presenol, a da fyddai i chwi a'ch cyd-weithwyr gadw yn glir oddiwrtho. Ansicrtvydd cyflog.—Dywedwch Yr ydym wedi gwneud ymchwiliad mor ofalus ag y gallem i'r gwyn gyffredinol yn mysg ein cydweithwyr parth cyfarta.ledd isel ac ansicrwydd eu henillion. Yr ydym yn cael fod nifer mawr o weithwyr cym- hwys yn analluog i gyrhaedd safon cydnabyddedig cyflog y ""chwarel, ac hefyd yn methu eriill lp yr wythnos, sefyllfa a deimlir yn ddwys gan y dynion yn wyneb bywiogrwydd presenol y fasnach." Dy- wedwch hefyd pe gwnawn ymchwiliad y cawn fod llawer mwy o sicrwydd i'r gweithwyr dderbyn gwobr am eu llafur mewn chwareli eraill na hori. Gofynodd Mr Young i chwi ei gyflenwi a'r manyl- ion i gadarnhau eich honiad. Y cwbl wnaethoch oedd cvflwyno yr hyn a alwch yn rhestr cyflogau isel 24 criw, yn cynwys 71 o ddynion allan o agos i 1,400 a weithiant. Nid yw'r rhestr chwaith vn dangos enillion y dynion am fwy na mis, oddigerth mewn saith o achosion, chwech am ddau fis, ac un am dri mis. Wedi archwilio eich rhestr yr wyf yn cael (a) mewn pedwar achos eich bod wedi gorgyfrif nifer y dynion weithiant yn y criw. (b), Fod cam- gymeriadau a diffygion yn cgholofn y dyddiau gollwyd." Effeithia hyn, wrth gwrs, ar gyfartal- edd y cyflog enillwyd. (c) Wrth archwilio, ceid fod y rhestr yn gamarweiniol ar bwyntiau eraill, dengys y llyfrau fod cyflogau tair rhan o bedair ohonynt yn uwch na'r safon am y chwe' mis, a cheir fod dynion un criw a nodir genych wedi derbyn cymaint a 5s 8c y pen bob dydd yn yr oil o'r chwe' mis. 0 berthynas i'r rhai sy'n methu enill lp yr wyth- nos, dau griw yn yr holl chwarel sydd heb wneud hyn, er yn dod yn lied agos at lp. Am y ddau griw hvnv wele adroddiad ddaeth i'm llaw Rhif 302 Nid oes un gweithiwr da yn y criw hwn; mae nn wedi niweidio ei gyfatssoddiad trWy vfed,' ac wedi cael ei ddirwyo a'i gau allan droion." Am y llall—"Rhif 266: Dyma griw gwael iawn-heb fod yn gryf eu cyfansoddiad nac yn abt i enill yr hyn a wnai eraill mewn lie cyffelyb.' Ceir pedwar criw eraill ychydig gwell, ond nad ydynt wedi cyrhaedd y safon o 4s y dydd, sef rhif 371, 331, 190, 132. Er hyny, y mae cyfartaledd cyflog dydd- iol y chwe' criw hvn fel y canlyn am y chwe' mis Hiweddaf:—P>h f 371, 3s 4c; 331, 3s /Jc 190, 2 4 3s gc; 132 3s S'fc; 1, 3s 7c; 45, 3s 10s. Dengys y cyfrifon hyn fod eich cwynion, nii yn unig yn annghywir, ond yn chwerthinllyd. Rybel,tvyr.-(a), Ceir fod y dosbarth hwn yn gwneud cystal ac weithiau well cyflogau na'r cyfar- taledd o fargeinwyr, felly n;s gellir desgrifio eu sefyllfa fel yn hollol anfoddhaol." (b), Annghywir yw dweyd fod y "poundage yn eu plith yn ffigiwr penodol bron wastad." Yr oedd 14 o wahanol poundages y mis diwedda*, ac mae'r prisiau delir iddynt wedi cynyddu llawer yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. (cl), Nid wyf yn barod i wneud unrhyw gyfnewidiad yn y gyfundrefn o roddi poundage ar flociau gymerir i'r felin. Nid wyf yn barod i wneud unrhyw gyfnewidiad yn y g) fundrefn dan yr hon y gweithia'r chwarelwyr, Anrasol i'r eithaf yw'r anfoddlonrwydd ddangos- wch yn ngwyneb codiad y cyflogau. Yr wyf yn wirfoddol wedi codi pump y cant dair gwaith yn eich cyflogau yn ystod y pedair blynedd a haner diweddaf; ac y maent yn uwch heddyw o agos i 30 y cant nag oeddyr.t yn 1887, er fod y safon o 4s y dydd yn aros heb ei gyfnewid. Er i mi ddangos parodrwydd i ymwneud a chwi gyda'r tegwch mwyaf, nid ydych chwi ddarfu ar- wyddo'r ddeiseb hon yn cywilyddio dangos eich anniolchgarwch. Nid wyt yn credu fod yr hyn ddywedwch yn ddatganiad o wir deimlad yr oil o'm gweithwyr, ac fel prawf o hyn y mae genyf bleidlais o ddiolchgarwcb a basiwyd yn mhob bone yn y chwarel wedi i mi wneud- y codiad diweddaf yn eich cyflogau. Bu'r ddirprwyaeth gydag Arglwydd Penrhyn, Mr Young, a M.r D. Pritchard, y goruchwylwyr, am agos i bedair awr. Cyfansoddid y ddirprwy- aeth gan saith o chwarelwyr, ac yn y swyddfa yn Mhorth Penrhyn y cymerodd y drafodaeih le. Ar ol gorphen, bu'r ddirprwyaeth a Mr D. R. Daniel, tretnydd, a Mr W. J. Williams, ysgrifen- ydd Undeb y Chwarelwyr, mewn cynghor, ond nid yw eu gweithrediadau yn hysbys.
:o :----Nodion Amaethyddol,
:o Nodion Amaethyddol, [Gan FAB Y TYDDYN.] HAINT YN MEIILION. DDYDD Gwener, bu pwyllgor o Gynghor Meirion yn eistedd yn Nhrawsfynydd er gwneud ym- ebwiliad i achos a natur yr baint sydd wedi tori allan yn mys"; y gwartheg ar fferm Tyddyn Gwladys. Caed allan fod saith o wartheg wedi marw o'r haint a elwir anthrax yn ystod y dyddiau diweddaf, a gorchymynwyd lladd anifail a,-all dan yr un haint. Parwyd i'r tenant i symud yr holl anifeiliaid iach oddiar y fferm, a rhoed rhybudd i amaethwyr a bugeiliaid gadw defaid rhag pori ar y tir am 28 niwrnod. GWERTH DADANSODDWR. Faint o siroedd Cymru sy'n manteisio oddi- wrth Ddeddf Gwrteitbiau ac Ymborth ? Da i bob amaethwr fyddai cael barn dadansoddwr ar y gwrteitbiau a brynir ganddo, oblegyd y mae cymaint o ysbwrial diwerth yn cael ei gynyg fel y mae'n hawdd twyllo y mwyaf gochelgar. Yn sir Leicester dro yn ol gwerthid gwrtaith am 5p 10s y dunell, a phan wnaeth y dadansoddwr brawf arno cafodd nad oedd yn werth ychydig sylltau. Ni chynwysai ond 1 y cant ophosphate of lime nac ond ychydig ammonia. Felly nid oedd yn werth y draul o'i gludo. AMAETHYDBIAETH YiN MANITOBA. Daeth adroddiad Swyddfa Amaetbyddol Mani- toba i'm llaw, a chynwysa fanylion dyddorol. Yr arwynebedd o dir dan gnwd yn 1895 oedd 1,887,796 acr, 295,402 acr mwy nag yn 1894. Ceid 140 276 acr dan wenith, 482,658 dan geirch, a 153,839 dan haidd. 0 dda byw ceir yno 91,194 o geffylau, 192 525 o wartheg, 35,766 o ddefaid, a 59,457 o foch. Y SENEDD A'R FFARMWR. Daeth y Senedd-dymhor i derfyn ddydd Gwener, ac nid difudd yw ymofyn betb a wnaed er budd amaetbyddiaeth. Pan agorwyd y Sen- edd dygwyd i mewn fesurau gan y Llywodraeth i wella Deddf Trethiant Tir i gyfaewid Deddf Clefydon Heintus ar Anifeiliaid i ddarpar y rhwyddineb mwyaf i reilffyrdd ysgeifn ac i wella Deddf Meddianau Amaethyddol. Mab- wysiadwyd tri o'r mesurau, ond y mae'r olaf yn aros erbyn y dyfodol. Hefyd newidiwyd y dull o drethu ffermwyr gyda Tbreth yr Incwm gos- tyngwyd Treth y Tir i swllt y bunt yn mhob lie yr oedd y dieth uwchlaw hyny ac yn olyf pasiwyd Mesur Tir y Werddon. Gyflwynwyd rhan o adroddiad y Ddirprwyaeth Frenhinol ar Amaethyddiaeth, ac adroddiad llawn y pwyllgor fu'n gwneud ymchwiliad i lygriad bwydydd. Penodwyd dirprwyon i chwilio i mewn i tuber- culosis ac i Dretbiant Lleol. Gwelir fod y ffermwr wedi cael llawer o sylw, ond ofnaf mai ycbydig o fndd dderbynia. Er hyny, diolch am fendithion bychain. Y LLAFURWR. Ysgrifena gohebydd i ddweyd mai cyflog wythnosol llafurwr amaethyddol 70 mlynedd yn 01 oedd bwshel 0 wenith a Is at y rhent. Yr oedd hyn yn gyfartal i 9s yr wythnos, gan mai 8s y bwshel oedd cyfartaledd pris y gwenith y pryd.hyny. Yn y gauaf ceid mwy o 2s yr wyth- nos am ddyrnu, tocio'r gwrychoedd, a gwneud ffosydd. Cai'r llafurwr tlawd lawer o help i fyw trwy loffa. Caniateid i'w wraig a'i blant fyned i'r maes wedi i'r llwyth olaf gael ei gludo adref, ac os byddai percben y maes yn wr hael o galon byddai wedi gadael nifer o ysgubau i'r anghenus eu cynull. Faint o loffa sydd yn Nghyinru y dyddiau hyn, tybed ? Byddai'n ar- fer gyffredm ar finion y Ddyfrdwy ychydig flynyddau yn ol, ond prin y gwelir neb yn lloffa'n awr. GWYRDD FWYD I DDOFEDNOD. I fagu dofednod yn briodol, dylid rhoddi gwyrdd-fwyd iddynt ar adegau. Y maent mewn llawn cymaint 0 angen am dano ag yw ceffylan a gwartheg. Pan ganiateir iddynt fyned i faes gwyrddlas i bigo lluniaeth, dylid cofio nad oes ond ychydig os dim maeth mewn glaswellt. Rhodder iddynt fresych, lettuce, neu adail eraill, a cheir gweled yn fuan fod ieir y. a dofednod eraill nid yn unig yn eu hoffi ond y I bydd gwell gwedd arnynt. Cymeradwyir pyta- tws hefyd, a'r unig reswm dros beidio eu rhoddi yw y drafferth o'u berwi. GWARTHEG TEWION. Yn ystod yr wythnosau diweddaf y mae pris y math goreu o bifl yn tueddu at godi, ac eto gwael iawn ydyw, Clywais ddweyd fod llawer o wartheg a brynwyd yn niwedd Ebrill a dechreu Mai yn cael eu gwerthu'n awr am y pris roed am danynt. Ni wna hyn drymhau llogell y porth- wr, a'r unig rai sy'n derbyn rhyw gymaint o elw ydyw y magwyr. Y LLAETHDY. Difywyd iawn fu y fasnach laeth. Y chydig fisoedd yn ol ymgymerwyd â gwerthu llefrith I am 4c i 4ic y galwyn, ac yr oedd raid talu y 2 cludiad hefyd allan o hyny. Gwellhaodd pethau, ac yn Llundain aeth y prisiau i fynu i Is y galwyn. Cwynir nad oes cydweithrediad rbwng y llaethwyr. Ceir y naill yn sathru ar fuddiant y llall, a'r wrthymgais mor angerddol fel nad yw yn ddichonadwy cadw safon prisiau i fynu. PYTATWS. Hyd yn hyn, mae'r cnwd pytatws yn doreith- iog ac iach. Ni chlywais fod haint arnynt yn unman ac yn ol y rhagolygon presenol, bydd 1:1 y cynyreh o leiaf 5 y cant uwchlaw'r cyfartaledd arferol. v
Marchnadoodd.i
Marchnadoodd. YD Lerpwl Awst 18. Alarchoacl gadarn er nad oedd y prisiau wedi newid nemawr. Gwerthai gwenith CalifTornaidd, am 25s 3e. Indrawn Americanaidd wedi codi Ie y centat oherwydd prinder; mathau eraill yn dal heb newid eu pris. Blawd yn dawel; ffa yn ddrutach blawd ceirch yn farwaidd am brisiau diweddar. Ceirch yn gwerthu'n dda. Tlilundain, Awst 18. Gwenith-Califfornia, 26s ] e Walla Walla, 2 25s 60 La Plata, 23s 6c. Indrawn yn gadarn- La Plita, 12s 4e; Danube, 15s 6c Galatz, 14s 9c; 2 dim Odessa na Chymysg Americanaidd ar werth. Haidd yn sefydlog ac yn tueddu at godi-Azoff, 13s 3c. Ceirch-Rwsialdd, 10s 3c i lis 3c Amet- icanaidd, 13s 3c. Ffa—Saidi, 24s Smyrna, 23/9. I ANIFEILIAID Lerpwl, Awst 17. Cyflenwad da, galwad gweddol, a'r prisiau yn 2 tueddu at ostwng. Biff, 4e i 6c y pwys mollt- gig, 5c i 7 £ c; cig oen, 7c i 8c. Gwrecsam, Awst 17. Biff, 5c i 6c molltgig, 6Jc i 7Jc cig oen, 7ic i 8^c cig lloi, 7^c i 8jc. Mooh baewn, 7s i 7s 9c 2 2 perchyll, 6s 6c i 7s 6c. Gwartheg godro, 18p 10s. Salford, Awst 18. Biff, 4c i 6c mol'tgig, 6e i 7c; cig oen, 6c 1 2 2 i 8c cig lloi, 5c i 6Jc. Birmingham, Awst 18. Riff, 6c i 6c molltgig, 6c i 7ic cig oen, 7c i 2 2 8c moch baewn. 7s 9c i 8s perchyll, 8s i 8s 4c hychod, 4s i 5s y scor.
- *U I - Gohebiaeth.
U I Gohebiaeth. YR YSGOL SUL. SYR,—Ar ol troi'r Ysgol Sul yn siop lyfrau eir yn mlaen mewn manau i'w pherffeithio yn mhellach trwy gasglu vnndi at Dysteb Boliticaidd neillduol. Pa ryfedd fod yn anhawdd cael sylw yr ieuenctyd at bwnc yr ysgol oddiwrth football matches y diwrnod cvdt a bod un athraw mewn Ysgol Sul Gymraeg wedi gweled mai doethach iddo ganiatau i'w dosbarth chwarter awr yn nechreu yr ysgol i'r gwaith o siarad am y Bel Droed, ar y telerau eu bod yn ymroi at y wers am y gweddill o'r amser ?- Yr eiddoch HEN YSGOLOR. SAMWEL JONES AC EISTEDDFOD CORWEN SVR,-Byddaf bob amser yn cael pleser wrth ddarllen erthyglau doniol Samwel, ac fel rheol credaf nas gellir end cydweled a'i sylwadau. Dywed mai "cyffredin iawn oedd yr unawdau oddigerth D. Ellis yn yr Eisteddfod uchod. Wei, yn fy marn i (a chredaf, pe gallesid cymeryd barn y cannoedd pobl oedd yn bresenoll y dywedent hwythau yr un peth) yr oedd y gystadleuaeth ar yr unawd bass yn llawer gwell na'r uchod. Fath lol yw dweyd fod "Carrie Wright allan o hwyl, neu buasai wedi enill yn hawdd." Oni allai yr hon a enillodd ddweyd yr un mor briodol y buasai hithau wedi canu yn well o lawer pe buasai mewn gwell hwyl. Ond pan y dywed Samwel na chanodd v "cor peryglus (sef Cor Meibion Cefnmawr) yn dda, ac na chaw- sent y wobr onibae fod Tom Tom gyda hwynt, y mae yn sicr yn mhell o fod yn gwnfud cyfiawnder a'r cor hwnw. Nid wyf yn cofio fod y beirniad wedi dweyd gair am ganu Tom Tom yn yr unawd, ac yn sicr ni ddywedodd ei fod yn eu gosod yn gyfartal am fod yr unawd a'r bedwarawd wedi canu yn dda, ond yn hytrach fod datganiad v cor fel cor yn eu gwneud yn gyfartal a chor Lerpwl. Fy marn i am y gystadleuaeth oedd, mai y cor per- yglus oedd y goreu o ddigon, ond wrth gwrs yr oedd y beirniad yn gwybod y darn yn dda, ac yn gwylied pob symudiad, pryd nad oeddwn i ond yn unig yn cymeryd i mewn y general effect," felly yr wyf yn hollol foddlon i'r feirniadaeth. EISTEDDFODWR.
(o) Cau Clofeydd Brykinallt.
(o) Cau Clofeydd Brykinallt. DDYDD Sadwrn, gosodwyd hysbysiad i fynu yn Nglofeydd Brynkinallt, ger Rhiwabon, i'r perwyl y byddai'r gwaith yn cael ei gau yn mhen pythefnos. Y rheswm am hyn, meddir, yw ymddygiad y glowyr yn peidio dilyn eu gor- chwvlion yn rheolaidd. gan fod rhai obonynt yn gweithio ond tri diwrnod yn yr wythnos. Dy- wedir fod y draul o weithio'r glofeydd yn an- nghyfartal i'r glo a godir.
[No title]
o Yn B Arholiadau Lleol Rhydychain" eleni yr oedd y Gymraeg yn un o'r testynau am y tro cyn- taf, a darfu i bron yr oil o'r ymgeiswyr foddloni'r arholwyr. Cyfarfyddodd Michael, yr rhodwr Cymreig, yr hwn a vstyrir yn gampwr am farchogaeth, a dam- wain ddifrifol yn Potter's Bar ddydd Mercher trwy fyned i wrthdarawiad a cherbyd.
Enwogion Awst.
Enwogion Awst. AR yr ail o'r mis hwn, yn 1891, y bu farw y Parch Dr Owen Thomas ar yr wythfed, yn 1759, y Parch Peter Williams ar y degfed yn 1825, y Parch Joseph Harris; ar y deuddegfed, yn 1805, Ann Griffiths ar yr ail ar bymtheg, yn 1858, Parch John Jones, Talysarn ar y pedwerydd ar hugain, yn 1683, Dr John Owen ariy pumed ar hugain,:yn 1837, Parch E. Jones, Bathafarn ar y degfed ar hugain, yn 1717, Dr William Lloyd, Esgob Llan- elwy ac ar yr unfed ar ddeg ar hugain, yn 1709, Hugh Morrus, y bardd. Ar y seithfed o'r mis, yn 1756, y ganed y Dr Wiliiam Owen Pughe, awdwr y Geiriadur.
o Lleol.
o Lleol. DEALLWN fod perchenogion y Hong Gw/jnedd wedi ei rhoddi yn nghofal ein cyd-drefwyr Mri Roberts, Owen & Cyf., o 19, Oldhall Street. Yn sir Gaernarfon yr arolygid hi o'r blaen eiddunwn i'r llong tan ei harol- ygwyr newydd bob llwydddiant. Priodas Cyfreithiwr Cymreig 0 Lerp?vl.-Dydd Mercher, Awst 12, unwyd y Cymro ieuanc aiddgar a'r cyfreithiwr addawol Mr Hugh Lloyd Jones, perthynol i ffirm Tudor Jones & Jones, Yictoria Street,mewn glan briodas a Miss Mary Savage, merch hynaf y diweddar Mr John Savage, Pwllglas, Tref- eglwys. Yn nghapel City Road, Caer, y cymerodd y seremoni ddyddorol le, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch Hugh Jones, Cadeirydd Talaeth Wesley- aidd Gogledd Cymru (tad y priodfab,) yn nghyda'r Parch W. Caenog Jones, Bootle. Mr Tudor Jones oedd y gwas priodas, a Miss Rosa Savage, chwaer y briodasferch, oedd y forwyn. Yr oedd gwledd rag- orol wedi ei pharotoi ar gyfer y parti priodasol yn y Westminster Hotel. Aeth y parieuanc i dreulio eu mia mel i ardal swynol a barddonol y Lake District."
PWLPUDAU CYMREIG, Awst 23.…
PWLPUDAU CYMREIG, Awst 23. LERPWL. Y METHODISTIAID CALFINAIDD Princes rd-Am 10, W Jones, am 6, J S Roberts. David street-Am 10, J S Roberts, am 6, W Jones. Fitzclarence st-Am 10, H Jones, D.D., am 6. J Hughes, M.A Netherfield road-Am10, J Hughes, am 6, H Jones. Chatham street-Am 10 a 6, R J Williams. Ffesticiog. Crosshall street-Am 10 a 6, E 0 Davies, B.Sc. Anfield road-.im 10 a 6, T Rees Jones. Newsham park-Am 10 a 6, Thoa Jones. Bootle-Am 10 a 6, R R Hughes, Brynsiencyn. Birkenhead-&m 10.30 a 6, D Jones. Seacombe-Am 10.15 a 6, 0 J Owen, Garston-Am 10 a 6, T Gray. Rock Ferry-Am 10.30 a 6, T Evans, Brynsiencyn. Walton park-Am 10 a 6, E J Evans. Waterloo-Am 10 a 6. T J Wheldon, Bangor. lIuyton Quarry-Am 10.30 a 6, John Morris. Peel road-Am 10 a 6, 0 Hughes, Talsarn. Holt road-Am 10.30 a 6, G Kllis, M.A. Webster road-Am 10 a 6, John Williams, Anfteld. New Brighton-Am 10 a 6, L Lewis. West Kirby-Am 11 a 6.30, J H Morris. Yates street-Am 6 15, Howel Hughes. Market street Birkenhead-Am 6, J Evans, Seacombe. Brassey street, Birkenhead—Am 6, St. Ilølens-Am 10 a 6 H Jones. Siloh Whiston -Am 10 30 a 6, W Roberts. YR ANNIBYNWYR. Taberneycl-,A.m 10.30. P Price, am 6 E Owen. Clydach. Grove ¡;t- 4 m 103.0, Mr Jones, Hawen, am 6, P Howells, Ffes- tiniog. "a?7r rd-Am 10-30, D W Evans, Llanelli, am 6, D MJenklns Great Mersey st-Am 10-30, D Ad-im-, am 6, D Roberts. D.D Keninffton- A m 10-30, E A Pic' enr-g, am 6.15, J 0 Williams Trinity rd 10-go, J 0 Williams, am 6, E Pickering Marsh lane—Am 10.30 a 6. W Jones, Llanelwy. Clifton ra B'head- Am 10 30, D M Jenkins, am 6, D W Evane acombe -A m 10.30 11."6 S Roberts. Vittoria st, B'head-Am 10-30 a 6, J D Williams, Fflint. BEDYDDWYR. Everton village-Am 10 a 6, D Powell. Windsor street-Am 10-30 a 6, R W Davies, Bangor. Edge lane-Am 2-30, D Powell, am 6, T Hugbes. Camel Seion, Bousfield street-Am 10 a 6, P Jones, Bi asenose road, Bootie-Am 10 a 6, Knowsley Road. Bootle—Am 10, a 6, L W r ewis. Woodlands, Birkenhead—Am 10-30 a 6, J Davies. Y WESLEY A ID Shaw street-Am 10 30, 0 U Davie., am 6, W C Jones. Boundary street-Am 10.30, E Evans, am 6, J R Ellis. Trinity road, Bootle.-Am 10-30, J R Ellis, am 6, E Evans. Kdge Hill Plirnsoll st-Am 10, W C Jones, a. i 6, 0 U Davies Knowsley rOfld" Bootie-Am 2.30. J R Ellis, am 6, H Tudor. Mynydd Seion-Am 10 30, J Hughes, am 6, R Morgan. flaughton rd, Birkenhead-Am 1<\ R Morgan, am C,, T Hughes Price St, Birkenhead Am 2, R Morgan, am 6, J M Davies. Widnes-Am 10.30 a 6, 0 Husrbes. Garston-Am 2 30 a 6. W Williams. Earlestown—Am 10 30, D D Jones, am 5.30, J Williams. llfrmon-Am 10.30, J William?, Rm 5, E Hughes. Gotborne-A.m 2, E Hughes, am 5.30 D D Jones. Seacombe—\rn 2, J Hughes, am 6, T Hughes. Rock Ferry-Am 2.30, Bro^yr o Birkenhead, am 6, E Edwards Wigan-Am 10.30. Cyf Gweddi, am 6, E Evans. Leiqh-Am 10 30, C, f Gweddi, am 6. M Watkins. St Helen's-Am 10.30 a ft, R Morgan. Darwen—Am 3.15 a fI, J Evans. Tyldesley—Am 2. M Watkins, am 6, Cyf Gweddi. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Sant Dewi-Am 10-30 a 6, J Davies. Sant A ,a.ph-Am 10.30 a 6.30, E Williams. Sant ATathaniel-Am 10 30 a 6.30,0 F Williams. St. Winifred, Birkenhead-Am 10.15 a 6.30. R Edwards IVIATCCEINIOTSr. Y METHODISTIAID CA-LFTNAIDD. Moss Side— Am 10-3r>, T Hughes. Stockport, am 6. W Jame Pendleton-Am 10, E J J^nes, M. A., am 6, D T Jones, UeYlVood st-Am 10. D T Jones. am 6, R J Jones Higher Ardwick-Am 10-30, W James. B. am 6, T Hughe
Advertising
YN EISIAU.-PLENTYN I'W FAGU. YMOfyDa Y â Mrs THOMAS SMITH, Brynllan, Efenechty:l ger Rhuthin. Pob references gofynoL
Family Notices
GENEDIGAETHAU. PRIODASAU MARWOLAETHAU. JONEs-SAVAGE-Awst 12, yn nghapel Wesleyaid City Road, Caer,f,-apn y Parch Hugh Jones, Treg- garth (ttd y priodfab,) yn cael ei gynorthwyo gan y Parch W. Caenog Jones, Bo tie, H. Lloyd Jones, cyfreithiwr, Liverpool, a Mary, merch hynaf v diweddar Mr John Savage, Pwllglas, Trefeglwys. WILLIAMS-LLOYD-Awst 11, yn nghapel Anni- bynol Grove Street, Liverpool. gan y Parch H. P. Thomas, (A.) Birkenhead, David G. Williamp, 119, Craven Street, Birkenhead, a Owen Anne, ail ferch Mr John Lloyd, Glan\ber, Blaenau Ffestiniog. flBarwolaetbau. EVAS-Awst 17, ar ol hir waeledd ac afiachyd poenus, yn 52 mlwydd oed, Margaret, anwyl briod David Evans, adeiladydd, Elen Cottage, Dolyddelen. Yr oedd yn aelod gyda'r Method- istiaid Calfillaidd. Gadawodd briod, dau fab, merch, a'i mham i alaru eu colled ar ei hoi. JONES-Awst 16, yn ei breswvlfod, Gwyndy, Harlech, yn 70 mlwydd oed, Daniel Jones. Printed and Published hv ISAAC FOULKES, at his Printing Establishment, 8, P^1ra Street in the Parish of Liverpool, in the County of Lancaster.