Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Barddoniaeth.'.'

0:--Ar Finion y Ddyfrdwy.

--0-BLWCH MEDDYGTNIAETH DEULUAIDD.

Llenyddiaeth.

[No title]

Eisteddfod Cadeiriol Rhuddlan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Cadeiriol Rhuddlan. CYNALIWYD yr Eisteddfod uchod yn Nghashell Rhuddlan ddydd Gwener. Yr oedd y cynulliadau yn lluosog, a'r Eisteddfod yn llwyddiant mtwr. Llywydd y cyfarfod cyntaf oedd Mr P. P. Pratt, Bryndithrig, a'r, Parch G. Jones, ficer Mostyn yn arwain. VVedi i Miss Emily Barton ganu unawd, dyfarnwyd y gwobrwyou a ganlvn:—Ystol haiarn, Edward Morgan Rhuddlan Traithawd" Rhin- weddau dyn a merch ieuanc," Miss Williams Rhuddlan; Miss Edwards, Vachell, Abergele; a James Edwards, Rhos, yn gyfartal. Englvnion, Dyffryn Clwyd," Trebor Aled, Dinbych. Unawd soprano, Lizzie Williams, Llansannan. Par o hos- anau, Elizabeth Jones, Rhuddlan. Eto i b!ant dan 15 oed, Lizzie Owens, Llansannan. Pedwarawd otferyn >1, Mr D. LL Ddvies a'i barti, Dolyddelen. Darlun o Bont Rhuddlan, T. H. Roberts 2, T. J. Parry, Rhuddlan. Dan gor plant ddaufch yn mlaen i g'mu "Morfa Rhuddlan," a'r "Gwanwyn," sef Dinbvch a Rhuddlan, y cyntaf yn oreu dan arwein- iad Thomas Williams. Unawd bass, 1, J, A. Edwards, Rhuthin 2, Meirion Jones, Birkenhead. '\drodd Y ddinns ar dan," Maria Edwards, Wyddgrug. Par o esgidiau, William Davies, Llanrwst. Traithaw,l at- Josliua. Ephraim, yr hwn ni atebodd. Yn y brif gystadleuaeth gorawl am wobr o 10p., ymgeisiai corau Gronant a Rhudd- lan, a barnwyd y cyntaf yn fuddugol. Y Cadeirydd yn y prydnawn oedd Capten Rowley Conway, gan yr hwn y caed anerchiad byr, ac wedi i Mrs Francis, Gwrecsam, ehwareu unawd ar y berdoneg, dyfarnwyd y gwobrau a ganlyn:- Englvn, Ben. Davies, Rhuthin. Arlunio, T.J. Parry, Rhuddlan. Can gan Mr W. Bulcock. Pedol ceffyl gwedd, John Jones, Abergele pedol ceffyl ysgafn, John Evans, Chwitffordd, Traithawd, Rhuddlan a'i Hynafiaethau," E. A. Millward,' Abergele. Unawd alto, Onid oes balm yn Gil- ead ?" 1, Miss Edwards, Rhuthin; 2, Maggie Wil- liams, Dinbych. Can, Y Gan Nefol," allan o 22, Meirion Jones, Birkenhead, ynoreu, a May Morris, Rhuddlan, yn ail. Oynygid cadair dderw hardd i'r bardd a ganai oreu ar Rizpah (2 am. xxi.) Y buddugwr oedd y Parch Gwylfa Roberts, Porth- dinorwig. Cadeiriwyd ef gyd i'r ddefod arferol. Parti o Ruddlan yn unig ddaeth yn mlaen i ganu'r pedwarawd Yspryd yw Duw," a barnwyd hwy yn deilwng o'r wobr. Yn nghystadleuaeth y sein- dyrf pres, am wobr o lOp, daeth Llanddulas, Colwyn, a Dolyddelen yn mlien. Dyfa.rnwyd seindyrf Colwyn a Llanddulas yn gydradd oreu ac am chw-r-eu wrth ymdeithio Llanddu^s deilyngav'r w,, br, Unawd tenor, 1, Edward Davies, Hen Gol- wyn 2, Edward Barlow, Llanelwy. Cynaliwyd cyngherdd llwyddianus yn yr hwr, dan lywydcliaeth Mr W. Conway Bsll. Cymerwyd rhan gan y eant.orioa buddugol yn y cystidleuon Hysbysir i'r Eisteddfod fod y fath Iwydd eleni fel y cynelir hi yn flynyddol. BEIRNIADAETH Y GADAIR—Testyn, ""RIZPAI-I," Derbyniwyd pryddestau 'Linus' Barzilai Gwilym Canoldref,' Gwledisr,' « Mab Trallod'" Sibrwd yr Awel,' Pawl Hen,' Awel y Mynydd,' Gofi(lus Lluddedig' Mephibosheth (1), 'Mephi- (2), Nloses" 'Y pren teg,' 'Gwawr,' 'Pengwern.' 'Brigydon,' Gloew Gleddyfrudd,' Nox Montis,' Seraiah,' sef 19 o gyfansoddiadau, gan gynwys yn agos i bedair mil o linellau Nid ychydig o waith yw darllen y fath bentwr, a Ilawer mwy yw y ddyledswydd o'u tafoli, a'u cydmaru, a lluriio barn arnynt, Y dosbarth cyntaf a ddaw dan ein sylw a gynwys y prvddestau canlynol. sef eiddo Gwledig,' Gwilym Canoldref,' 'Sibrwd yr Awe1,' Pawl Hen,' Awel y Mynydd,' Gofidus Lluddedig,' a I Mephibosheth (1). Cyfansodd- iadau da, synwyrol, a. lied awenyddol ydynt oil ar y cyfan ond nid o ran teilvnsidod vr hyn ddylai Pryddest Cadair fod. Byddai yn hawdd dyfynu dwsinau o linellau rhagorol ohonynt; ond nid ydynt yn llawn pwysau yn y glorian feirniadol. Yn nesaf at"ut ceir pryddestau inlat) Trallod,' Linus,' 'Nox MoDtis,, BaTzili,i,' 'Moses,' Seraiah,'a I Mephibosiietli' (2). Dyma gyfan- soddiadau gwir dda, yn cynwys cryn lawer o dar- awiadau gwir farddonol, ac yn haeddu canmol- iaeth ddiffuant. Ond nid ydynt heb ddilTygion a ffaeleddau nas gellir edrych drostynt. Er eng- raipbt, ceir eiddo I Mephibostteth (2) a Moses vn dilyn yr hanes Beiblaidd yn llawer rhy wasaidd fel nad ydynt fawr gwell nag aralleiriad. Bar- zilai' sydd ddiffygiol yn ei bortread o ddyfnder a grymusder oariad mam. Diffyg cynilun yw un o brif ffaeleddau Seraiah ond y mae yn y brydd- est arnrvw ddarnau melus a nwyfus. Linus sydd feddyliwr craffus a grymus, ac y mae wedi llwytho ei lestr hyd fin y don, ond y mae wedi gwneud hyn ar draul ei awen, fel y IT) e ei gyfan- soddiad ar y cyfan yn drymaidd, sveh, a chlaiar. 'Nox Mont's' sydd brvddest bur dda o ran cyn- ilun, ac nid yw yn ddiffygiol mewn gwir farddon- iaetb, yn neillduol y chweehed adran ond nid yw boh amser mor chwaethus ag y dylai fod-er eng- raipht, Nes tremia' ei hrsgyrn i'r golwg trwy ei chroen.' Ei phrif ddiffyg yw arucheledcl awen- yddol. Y mae fpl aderyn vn ehedeg yn rhy agos i'r ddaear. Prif fai Mab Trallod' yw annghyf- artaledd, barddoniaeth o wir deilyngdod yn gym- ysgedig a phethau cyffredin. Y mae hefyd yn chwanog i ail adrodd yr un svniadau, ac nid yw yn taflu digon o dan desgrifiadol ar brif agweddau y testyn. Nid oes yn y bryddest hon ddigon o amI- liwiaeth. Yn y dosbarth nesaf ceir Pengwern,' • V pren teg,' Gloew Gleddyfrudd,' 'Gwawr,' 'a Brigydon.' Nid gormod dweyd fod pob un o'r pryddestau hyn yn deilwng o'r wobr, ac y mae yn mhob un ohonynt ragoriaethau neillduol. Y mae yn svndod genyf fod cyfansoddiadau o'r fath yn vmgvstadlu am wobr mor fechan mewn cyd- mariaeth. Daliant eu cydmaru, o ran gwir deil. yngdod, a lluaws o'r pethau anfonir i mewn i;r Eisteddfoda.u Cenedlaethol. Maent yn feddvlgar, chwaethus, a choetbedig. Nid vdynt heb frycbau a beiau dibwys ond y mae ynddynt nodweddion sr.'wir awenyddiaeth. Ni oddef amser i mi sylwi'n fanwl ar eu neillduolion ond dengvs pob un ohon. ynt allu a medrusrwydd barddonol. Wedi eu tafoli'n ofalus, ac efo hynv o gydwybodolrwydd a feddaf, yr wyf yn barnu'n ddibetrus mai pryddest 'Gwawr,' ar y cyfan, yw yr oreu. Y mae ynddi addfedrwydd meddyliol ac ardduniant awenyddol, dyfnder teim- lad a medrusrwydd darluniadol, i raddau uwch nag a fedd y lleill, ac yn hyn y mae genyf gydfarn un o feirdd mwyaf talentog Cymru ar hyn o bryd. I bryddest 'Gwawr' y byddo y Gadair, a hir y par- hao i fwynhau esmwythdra ynddi. LLAWDDEN. Ficerdy, Gresford, Awst 10, 1896. ,9 ;J:J

Nodiadau Cerddorol.

Cwreiohion.