Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

----Newyddion Cymreig.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Cymreig. Bydd Cardinal Vaughin yn pregethu yn Eglwys St Gwenfrewi, Llanelwy, ddydd Iau. Adeiledir addoldy newydd i'r Annibynwyr yn Poncie, Rhiwabon. Gosodwyd y ceryg sylfaen DOS Fawrth. Ddydd Gwener, cychwynodd Mr Lloyd George a Mr Herbert Lewis i Buenos Ayres, ac ni ddychwel- ant hyd y Nadolig. Gwnaed elw o l,000p mewn nodachfa gynaliwyd yn Llandudno er budd yr Eglwys yr wythnos ddiweddaf. Ymddengys fod y Parch T. Eynon Davies, Glas- gow, wedi penderfynu gadael Glasgow i gymeryd gofal eglwys Beckenhan., Llundain. Oherwydd afiechyd bwr:ada'r Parch Maurice Griffiths, Llanidloes, fyned am fordaith er ceisic adnewyddiad nerth. Mae'r Parch W. R. Edwards, cyn-weinidog eglwys Annibynol Llanwddyn, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys Annibynol Gymraeg Chicago. Yr oedd gan Williams o'r Wern gwestiwn pan sonid wrtho fod pregethwr newydd yn codi yn y lie a'r lie. I-Fedr o wneud mellt ?' oedd y cwestiwn. Adeiladir addoldy newydd i'r Wesleyaid yn Llangefni, eangir addoldy Beaumaris, ac yn Llan- goed y mae'r enwad yn prynu tir i adeiladu. Gwelir felly fod Wesleyaeth yn enill nerth yn Mon. Ilysbysir fod priod Arglwydd Penrhyn yn medru siarad Cymraeg yn dda. Y mae yn berthynas i Mrs Gladstone, a dywedir ei bod yn gymeiadwy iawn gan ehwa>elwyr Bethesda, am y teimla gymaint dyddordeb yn eu hamgylchiadau. Hysbysir fod rhai o berchenogion glofeydd Gog- ledd Cymru yn dechrpu "stacio" glo. Cred y glowyr fod eu buddiant mewn perygl oblegyd hyn, ac yn nghyfarfod diweddaf y Cynghrair, gwrth- dystiwyd yn erbyn hyn. Yn mhlith y gweinidogion Cymreig oedd vn bresenol yn nghynadledd Grindelwald, ceir y Parchn Daniel Rowlands, Bangor E. Griffiths, Meifod J. Evans, Llanfair Caereinion; a W. Morgan, Abergwaun. Mae'r ddelw o'r Santes Wenfrewi a ddygir o Rufain i Dreffynon wedi ei bendithio gan y Pab er Awst 14. Wrth roddi'r fendith apostolaidd, am- iysfodd obaith y byddai'r ddelw yn foddion argy- hoecffiiad llawer. Cyfarfu Joseph Havdock, Gyfeilio, a damwain ddifrifol yn nglofa'r Hafod, Rhiwabon, nosFawrth. Aeth nifer o wagem drosto, a chaed ef mewn sefyllfa anwybodol. Ychydig obaith goleddir am ei adferiad. Ddydd Iau, tra yr oedd dvn o'r enw William Parry, brodor o Lanelwy, yn dilyn ei oruchwvliaeth fel teiliwr yn ngweithdv Mri Morris & Davies, Bridge Street, Caernarfon, syrthiodd i lawr yn farw. Tybir mai clefyd y galon oedd achos ei dranc. Nos Iau yn Meifod cynaliwyd cyfarfod i ystyried ovnlluniau y reilffordd ysgafn fwriedir wneud 0 Four Crosses i Llanfair Caereinion trwy Meifcd. Hyd y llinell ydyw ychydig dros 13 milldir ac arncangyfrifir y goat yn 36,141p. Cymeradwywyd y cynlluniau a barotowyd gan Mr J. E. Thomas, C.E., Gwrecsam. Ymddenvs fod mwyafrif cymanfaoedd Bedydd- wyr siroedd Cymru wedi datgan trwy bleidlais fod yr adeg wedi dod i sefydlu un coleg duwinyddol i'r enwad yn Nghymru, yn lie tri fel yn bresenol. Diau yr el cryn amser heibio cyn v gwelir hvn, obles?yd araf iawn vw ein cenedl i aberthu hawliau lleol er mwyn hawlia.u cenedlaethol. Mae'r Tywysog Ademunyjiwa, yr hwn a gymer ddyddordeb mawr yn y gwaith cenhadol yn Ngor Ilewin Affrica, yn aros yn bresenol yn y Congo Institute, Colwyn Bay. Y mae wedi sefydlu tair gnrsaf genhadol yn ei wlad frodorol, ac amcan ei ymweliad a Chymru yn awr yw enyn dyddordeb yn y sefydliad yn Ngholwyn Bay. Rhvfedd ymlyniad y Cymry wrth eu nodweddau cenedlaethol. Lie bynag y ceir hwy-yn Mhata- gonia, Deheubarth Affrica, America, ac Awstralia -byddant vn sicr o fynu pregeth. Eisteddfod, a llyfr. Y mis diweddaf bu'r Parch John Llovd, Wallaroo, ar ymweliad a'i gydwladwyr yn y Broken Hill Mines, Awstralia, ac anerchodd dorf fawr ohonynt yn Gymraeg. Pan aeth Deon Cotton o Fangor i fyw yn y palas acw svdd am y tfordd a Choleg y Brifysgol, yr oedd yn cael ei boeni'n fawr gan grwydriaid cardotus a iladronllyd a mynodd gerfio ar ocfrr y llidiardau oedd ar fin y brif ffordd y geiriau awgrymiadol:— Lie bo ci, lleidr a ffy. Ac yn mhen diwrnod neu ddau yr oedd rhyw gnaf wedi cerfio o tani Lie bo cath, Hygod 'run fath. Almanac y Oweilhizvr am 1897.-Mae y blwydd- iadur poblogaidd hwn yn awr yn barod i'r wasg, a theimla y cyhoeddwyr—Quinine Bitters Manufac- turing Company, Llanelly,-yn ddiolchgar am bob hvsbysrwydd ddanfonir iddynt yn ddioed am un- I rhyw gyfnewidiad neu gywiriad a ddichon fod yn angenrheidiol yn nvddiad ffeiriau mewn unrhvw ardal neu dref yn Nghymru, os yn annghywir yn almanac 1896, gan eu bod yn awyddus i gael taflen ffeiriau Oymru yn Almanac y Gweithiwr mor gywir a chyflawn ag y byddo modd. John Davies oedd enw'r hen wr gadwai yr hen Dy Capel Methodus er's talm yn Lon Pobty, Bangor. Yr oedd John yn dipyn o rigymwr tan yr enw 'J. D., Bangor,' neu bryd arall 'Sion Dafydd.' Yr oedd wedi gwneud bedclargraph iddo ei hun, a mynai Richard Llwyd, Beaumaris, yr hwn oedd yn dipyn o wag, iddo ei ddarllen i John Elias, yr hwn ar y pryd oedd yn gogwyddo ar v mwyaf yn marn rhai o'i frodyr at yr Eglwys Sefydl- edig. Wedi hir grefu, ebychodd J. D. y penill canlynol Yma gorwedd hen gapelwr Na fyn gydorwedd ag Eglwyswr, Un a ddymunai na fo'i enaid Yn 'run ardal a'r personiaid. Ceryddwyd ef yn llym gan Mr Elias am gablu urddas. tray chwarddai R. Llwyd wrth ei fodd. Ymddangosodd y penill modd bynag yn Goleuad Gwynedd a rhyw ddireidyn arall a ganodd yn y Dysgedydd i Sion Da'ydd fel y canlyn:- Na feddylied J. D.. druan, 'Raiff e byth i'r Nefol Ganaan Gnrtref holl enllibwyr Bangor Sydd tu arall i'r gagendor.

Nodion Amaethyddol.

---0--Dirprwyaeth Dir Cymru,

Marchnadoedd.

Sasiwn Caernarfon.

--0--Lleol

[No title]

IHaelioni Boneddwr o Sir Fflint.

-0--ICais i lofruddio gwraig…

PWLPUDAU CYMREIG, Awst 30.

Advertising

Family Notices