Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT, 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelliag-houses to Let in various parts of the town. (F G. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the tawn, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taies. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS, 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT, HAS large and small Houses To Let in various parts of the city and uburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, etc. (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. All classes of House and Shop Property carefully and ec- nnmically managed, Sales and Purchases effected with promptitude. Mortgages arranged and Insurances effected. HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages tanged. TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited TO BUILDERS, &c.-To be Sold, Freehold and 99& years' Leasehold LAN O, in lots to suit purchasers, in Gars ton, Kirkdale, Walton., Bootie, and Ssaforth. Liheraladvances will be made to Builders. Property letting well in all the localities.—Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. 0- & D- WILUAMS, ton & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, <tec., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works-TAYLOR STREET, Office and 402 k 404, Scotland Rd. LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, »vd ;Hot Water, Green Houses, and Sanitary hugineers Will Patent Winding and Adjusting San Shade for Shops^ Ac Bakers Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Chaffers, Bos.fi, ffire Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &c. CYRN I' CYRN!! CYRN! MAE IF s BUNODION BENSON EVANS Yn rboddi esmwythad ar unwaith i GYRN poenus, ac yn eu symud yn hollol mewn fchydig ddyddiau. Symuda hefyd DDEFAID ar y dwylaw a'r bysedd, tyn ymaith enyniad a gwres o BUNIONS gan eu gwneud yn iach a diboen. Gwerthir mewn potelau 7!c a Is. lie. yr UD. Danfonwch am botel-mae'n feddygin- laeth anffaeledig. GASTROOYNE BENSON EVANS. Yr unig feddyginiaeth effeithiol i Ddiffyg Treuliad, Poenau ar ol Prydiau, Llosg-galon, Biliousness, &c. Derbyniwyd miloedd o gymer- adwyon i'w effeithiolrwydd rhyfeddol. Mewn Poteli, Is. 1-le. a 2s. 6c. yr un. T. BENSON EVANS, High Street, Dinbych. R. WH ITTINGTO N ) Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience), i 45, BYROM STREET LIVERPOOL. All' Garments Cat and Made on the Premises, in well-ventilated Workrooms. Gymry 1 dewch at Gymro, CWMNI YSWIRIOL Y PRUDENTIAL (CYFYNGEDIG). TRYSORFA DROS £ 20,000 000 AGENTS addas ychwanegol yn eisiau—* mofyner A J. W. JONBS, Prudential OfBice Caernarfo Messrs GRIFFITHS & DAVIES,1 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drappvo in the North End of Liverpool, are now gonrjntrating all their attention to the following Depwrments,,viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. I Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. ) —AND— ? Millinery. n all these Departments wil be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Sootland Road. F XA CURE FOR BRONCHITIS "VT for the Young and Old. THINK of the thousands of Children 1 who suffer every year with Bronchitis without receiving permanent relief. Notwithstanding many remedies given them. their systems are still weak, and every spell of bad weather brings anxiety to the parents. In all damp climates such as this country is subject to, people are inclined to Colds, Coughs, and Affection of the Throat and Lungs. The climate taxes those who are strong, while the weak suffer. TUDOR WILLIAMS' BALSAM OF HONEY is made of Pure Welsh Honey and the Finest Vegetable Preparations. In no other form is to be found the perfect combination of this valuable Nutritive and Curative Remedy. L ARGEST SALE OF ANY COUGH MEDIOINE IN THE WORLD. QVERWHELMING TESTIMONY. IT IS MORE THAN GOLD TO ME. My wife desires me to convey her best wishes for the success of your TUDOR WILLIAMS' BAL- SAM OF HONEY. It has been of great benefit to our little ones, who suffered from Bronchitis and Coughs during the last two most inclement winters. It gives them instant relief. Further, our medical attendant, Dr. Jones, quite concurs in the frequent use of the Balsam when occasions reqlire.- Y oms faithfully, JOHN WALTER MORGAN, Brynheulog House, Hirwain. Sold by all Chemists and Stores in Is. I'd., 2s. 9d., and 4s. 6d. bottles. Sample bottles sent (post paid) for Is. 3d., 3s., and 5s., from the Inventor— jQ rjnUDOR Yjy ILLIA M S MEDICAL HALL, ABERDARE. PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANV. LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMRPS Sail regularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT CYPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterrar ean ports, taking thejfollowtng two routes alternately:— (1) MALTA, SYR A,, SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA. Calling often on the return journey at sevtral Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain (2) ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPRu* BEYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty wall ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carrier. Safety. Home comfons. Good and liberal table. Mode111ta fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during sliips'aUy at Ports. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this Line 7 ill tind it most enjoyable and interesting For further partlw ars, apply to PAPAYANNI & CO., Fenwick Chambers, Li^erpoc LLINELL Y WHITE STAh. ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK. via QUEENSTOWN, BOB DYDD MERCHER:— Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr *MAJESTIC Medi 9 GERMANIC Medi 16 A arwydda y cludir yn yr Ail Gaban ar y fordaith p, is y cludiad ydyw £7 5s i B10 yn ol fyr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uehaf, yn unffurf o ran cynilut, n threfniadau, ac yn ddigyflelyb mewn mordeithiau. Ni chelr gwell cyfleusdra i fordeithwyr. Am fanylion, ymofyner 4 R. Owen, Ship & In surance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farchnad Caernarfon; neu a R. Roberts, Bethesda; Owen E. Parry, masnachydd llechi, Dolwyddelen *David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn R. G oberts ,Rock Cottage, Craigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwch W. J. Williams Shoe Warehouse, Llanrwst Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R. 0 Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu g ISMAY IMRIB & Co., 34, Leade nhal Street, Llundain, E. C., a Water Street, Lerpwl. CHAS. R. HALL, GENERAL LETTERI CUTTER &RENGRAVER 53 PARADISE STREET, LIVERPOOL. ANUFACTURER OF BURNING BRANDS, STENCIL PLATES, RUBBER STAMPS, BRASS PLATES, &C.
CATRIN PRISIARD
CATRIN PRISIARD Gan Miss WINNIE PARRY. PEN. XXXI.-ABEDNEGO MEWN DADL. AETH gwr Llwyn Onn drwy y drws ac heibio'r palis, gan lacio y golar ag un law er mwyn lleihau y dagfa yn ei wddf. Safai Catrin wrth ymyl y ffenestr. Yr oedd wrthi yn gwneud ffrog plentyn, a gorweddai y defnydd o'i hamgylch fel cymylau gwawrgoch, oedd yn gwneud i wyndra ei gwyneb ymddangos yn fwy amlwg. Yr oedd ei gwallt wedi llacio o'i afaelion, a gorweddai yn droellau ar ei thalcen ac ogylch ei chlustiau ac hyd ei gwddf fel y codai yn golofn woo dros ymyl y gwa du oedd am dabi. Fel yr edrychai Abednego ami, meddyliai ynddo'i hun, Mae hi'n edrach yn ifanc ofnatsan hefyd." Wrth ei weled yn ei ddillad goreu, meddyliai Catrin ei fod wedi bod yn Aberdoldy ar rhyw neges neillduol, ac meddai, Steddwch. 'Dach chi wedi bod yn dre ? Dw i'n siwr bo chi wedi blino." Eisteddodd Abednego ar gad air wrth ymyl y bwrdd, a chymerodd afael mewn dernyn o'r defn- ydd gwawrgoch gan ei droi a'i droi am ei fysedd caledion. Yr oedd ei neges yn anhawddach i'w dweyd nag oedd wedi tybied, ac yn enwedig o dan edrychiad clir Catrin. Synai yr eneth weled ei hen gyfaili mor ddystaw. Byddai ganddo ddigon i'w ddweyd yn gyffredin. Trodd at y peiriant, a llanwodd y swn y gegin fel nas gallai wneud iddi glywed ei lais fel y buasai yn dymuno. Pan ddaeth dystawrwydd drachefn, rhoddodd Abednego besychiad rhagbarotoawl, a dechreuodd yn fywiog ar yr hyn oedd ganddo i'w ddweyd. Yr oedd ei atal dweyd wedi ei Iwyr adael, a siaradai yn gyf- lym. Safai Catrin a'r ffrog wawrgoch yn estynedig yn ei llaw, ac yn syllu arno a llygaid mawrion, svnedig, a gwrid oedd arall nag adlewyrchiad y ffrog yn ymdaenu dros ei gwyneb. Beth oedd wedi dod at Abednego, tybed ? Oedd ef wedi dyrysu ? Buasai^yn meddwl fod yr hen lane wedi ymweled a'r Crown yn Aberdoldy onib'ai ei bod >n gwybod ei fod yn ddirwestwr selog. Ond fel y gwrandawai arno, ac y teimlai mai o ddifrif y ceis iai ganddi wneud ei chartref yn Llwyn Onn fel ei wraig. Yn mhell o weled digrifwch yn y peth, teimlai y dagrau yn codi yn araf i'w llygaid fel y meddyliai fod rhywun yn teimlo ei hunigrwydd a'i hangen ac yn ceisio ei chysuro er mewn dull cyf- eiliornus, ac yr oedd ei ymddygiad mor wahanol i ond beth oedd dy ben cydmaru ? Yr oedd ef erbyn hyn, mae'n debyg, yn myned i briodi hefo'r eneth a'r gwyneb prydferth. Tra y rhedai y meddyliau hyn trwy ei meddwl, yr oedd Abednego yn ddystaw yn disgwyl ei hateb. Edrychai megys un wedi cael ysgafnhad dirfawr ar ol llwyddo i ymadael a'r baich ddygasai o Lwyn Onn yno, a rhwbiai ben Prince hefo'i law. dechreuodd Catrin, mewn llais dystaw, toredig, ddweyd ei theimlad am yr hyn ofynasai iddi ac fel y gwrandawai Abednego, daeth edrychiad 0 siomedigaeth dros ei wyneb bochgoch. Wedi iddi orphen, cododd yn araf a chan droi ei lygaid gleis- ion, ac yr oedd y gwyria'd yn fwy amlwg nag er- ioed. Meddai—a'r atal heb ddychwelyd, Nid ar gownt f'enw i dach chi yn y ngwrthod i, Catrin ? Dydio ddim yn enw neis iawr, ond wedi'r cwbl tydio ddim ond enw yn y diwedd yn nag ydi ?" ac edrychodd arni yn erfyniadol, ac am y.tro cyntaf sylweddolodd Catrin y fath faich oedd yr hen lane wedi ei ddwyn yn yr enw hwnw, Diar anwyl, nagi," meddai, mae'r enw yn un eitha." Llonodd edrychiad Abednego yn ddirfawr, ac meddai, a'r atal yn drwm arno, Hwyrach y gnewch chi newid y'ch meddwl. Tydw i ddim mor hen, wyddoch. Dyna wr Peny- bryn-mae o'n hynach o flynyddoedd na mi, ac mae o newydd briodi merch y Sgubor, a dw i'n siwr i bod hi'n nengacholawer na chi. Mi ddo i yma eto nos Sadwrn." Danfonodd Prince ef i'r drws, ac aeth trwyyr un ffurf o gyfarchiad gyda Solomon. Yna cychwyn- odd yr olaf gyda'i feistr yn ol i LIwyn Onn, a safai Catrin yn edrych ar ol y ffurf a'r ysgwyddau braidd wedi crymu a'r dwylaw yn blygedig ar ei gefn, a theimlai rhyw dynerwch tosturiol tuag at ei hen gyfaill syml. Ond nid hyny barai i'r dagrau ddisgyn ar y defnydd gwawrgoch nes gwneud ysmotiau tywyll arno. Aeth Abednego yn ei ol ar hyd y ffordd weD, lychlyd. Yr oedd wedi ei siomi. Ond pa. un ai ar ei ran ei hun ynte ar ran Catrin yr oedd yn an- hawdd gwybod. Nid am dano ei hun, fodd bynag, yr oedd yn meddwl ar hyd y ffordd, ond yr oedd yn prysur ffurfio rhyw gyniluniau er budd yr un a ddvwedasai fod ei enw yn eitha enw. Synwyd Priscilla yn yr hwyr gan Abednego yn ei hedrych o'i phen i'w thraed cyn cychwyn i'r seiat, ac yna yn dweyd, Dd-dy-dw i'n meddwl fy-fy fod .arnat ti isio ffrog ny newydd, Priscilla; mae hona'n by-bur goch." Yna rhoddwyd gorchymyn iddi fyned i dy Moses Parri i brynu defnydd gwn—" A ch-chofia di i rhoi hi i gneud i Cy-Cy-Catrin Ty Fry," ychwan- egodd. Synai Priscilla gryn lawer at haelioni ei brawd. oherwydd nid oedd yn cydweled yn gyffredin a Phriscilla mewn perthynas i bwrcasu dilladau newyddion—yr oedd hi yn hoff o addurno ei hun yn y dull diweddaraf ddeuai o Aberdoldy pan fyddai vn myned allan neu i'r capel ar y Sul. Ni ddywedodd air, fodd bynag, ond gwnaeth fel y dywedodd ei brawd. Synwyd hi'n fwy drachefn pan y prynodd Abednego ei hun latheni o ddefnydd at wneud llieiniau a dilladau gwelyau a phethau o'r fath, ac y parodd iddi fyned ag ef at Catrin i'w wneud i fynu. Mi fedra i neud rhein yn iawn, Abed," meddai, be di iws thlu arian am i gneud nhw ?" "Mi fyddan wy.wy-wedi 'gwnio'n sowndiach hefo'r mashio," oedd ateb Abednego, a chafodd Catrin y gwaith, a theimlai'n ddiolchgar am dano hefyd, Ar ol ymweliad Abednego y prydnawn hafaidd hwnw, yr oedd Catrin wedi dechreu sylweddoli mai iddo ef yr oedd yn ddyledus am y dodrefn oedd yn ei thy bychan, a rhywfodd nid oed4 yn hoffi y telmlad o fod mewn dyled, a phenderfynodd gynilo hyny fedrai er mwyn talu iddo. Bob nos Sadwrn deuai yr hen lane at ei drws, a Solomon wrth ei sodlau, a byddai y ddau gi yn cyfarch eu gilydd yn y dull arferol, a meistr y naill yn gofyn i feistres y Hall, Yd-yd-yda-h chi wedi newid ych m-m-medd- wl ?" a phan ysgydwai Catrin ei phen, byddai yn troi i ffwrdd gyda'r geiriau, Mi ddo i yma n-n-n- nos S-S Sadwrn nesa eto." l(I barhau).
!Barddoniaeth.
Barddoniaeth. YMNEILLDUAD. 0Gyflwynedig i Mr ELLIS WILLIAMS). CEL ymlwybraw draw hyd ros—f'hunan bach Fynwn i bwynt diddos A thawel gerllaw'r Bertheoa Lie mwynhawn hedd cell min y nos. Llais cymysg derfysg y dydd—a'i gras swn A geir sy' mewn awydd O'i fiino bron syrthio sydd Yna i wael hun am lonydd. Ar wely saif yr haul sydd—a'i bryd teg Ar barotoi'r hwyrddydd- Wyro'i ben ar obenydd Gorphwyshiid hyd donad dydd. Cawn anian cyn ei huno—noswyl braf 'Nghesail bro digyffro; Daw haul drosti i hulio Ei rudd-wawl—sidanaidd do. Adar o drydar a drydd-swn eu llais Yn llesg o ddod hwyrddydd Nawdd cwsg i'w salm yn falm fydd, Yn y gwyrdd-ddail hyd gwawrddydd. Mae y cogod ymgegant—hyd y dydd Wedi dod am seibiant; Yna'n rhwydd am hun yr ant Yn gvnar Nos dawch ganant. Ai anthem gron undonoI ?"-na, o'r lion I'r Ueddf perthynasol Fyth trawsgyweiria, neidia'n ol I nod ei chywair dechreuol. Wyf dan ddeddf y Ileddf a'r lion—a newid Raid cywair fy mer-don Yn ngwyneb pob rhyw angenion Daw amser brawf o deimlad bron." "Hwylio, madael a mudo—ddaw yn rhaid Bydd yn rh'wyr cyweirio— Mhib lefn i drefn rhag oer drio Fy atal i'ch tref eto." "Na, dychwel i Ddolyddelen—gei raid Llefn neu grug dy acen I'th alw doir i'th aelwyd ben I nyddu dy don addien." Dy bib ga wrandawiad bob gwr-boed hedd Boed twrf a'i gras ddwndwr Cei groesaw pob gwrandawr Trwy dy d6n tra rhed y dwr." "Nid oes ond y ni ein dau -nad ydynt Wedi cau'u hamrantau Don, cysga, ymglwyda'n glau I adenill dy dannau." Llaw wen heddweh, lIonyddu-mae hi'r oil Mesmer hwynt i gysgu Cynar barlysa canu Diniwaid gor 'r ednod cu. Yn n6r hwyr ni chlywn weryru—o'r march Na'r mwyn braidd yn brefu Na brefiad na beichiad bu Na gwenyn yn su-ganu. Ni chlywn na swn na su—ond tirion Ddystawrwydd o'n deutu Llaw dde hedd a mantell ddu Fyn roi terfyn i'r tyrfu. 0 beraidd hud y breuddwydiol—rhedeg Raid yn uniongyrchol I ben V-wr any?t.yriol Enbyd lawnt y byd a'i lol. ISALLT. MAE NATUR I GYD YN HARDD. MAF natur i gyd yn hardd, 1 gyd yn orlawn o swyn, I olygon treiddiol bardd, Mewn dyffryn, mynydd, a llwyn Mae dyffryn, mynydd, a glyn, Melyn a glas, coeh a gwyn. A blodeu pob dol a gardd— A lliwiau diri pob bryn, I gyd yn swynol a hardd. Mae'r melyn mor dlws a'r gwyn, A'r glas mor brydferth a'r coch Y rhudd yn ei fri a fyn Gystadlu a gwrid y foch A theg yw blodau y drain— Os holir pa un o'r rhai'n Sydd fwyaf ei rin a'i glod ? Rhaid dweyd fod pob un yn gain, Pob, un yr harddaf mewn bod. Rwy'n hoffi y glas a'r gwyrdd, Ysgarlad, melyn h, gwyn A'r lluniau a'r lli wiau fyrdd Addurnant ddolydd a bryn Mae anian i gyd yn fyw, A'i hysbryd sydd yn mhob lliw, Yn gwenu fel anwyl fun Anwylyd i awen yw— Awen yv. anian ei hun. Pob mynydd, dyffryn, a glyn, Pob seren, planed, a haul, Pob afon, ffynon, a llyn, Ynt hardd heb gydmar nac ail; Pob melyn, gwyrdd, glas a gwyn, Pob blodyn ar ddol a bryn, Ddangosant dlysni diffaeI- Ni fedd y byd am a bryn Brydferthwch coeden a'i dail. R. J. DKRFHL.
--,.-0-BLWCH MEDDYGINIAETH…
0- BLWCH MEDDYGINIAETH DEULUAIDD. NID oes amheuaeth nad peth da a defnyddiol yw blwch o'r fath. Ond mae llawer teulu nas gallant fforddio ei gadw, a llawer eraill na allent wneud y defnydd priodol ohono pe caent un. Mae ei restr poteii, y blychau pills, y powdrau, &c., yn nghyda'r cyfarwyddiadau manwl pa fodd i'w defnvddio, yn rhy ddyrus i bobl gytfredin. Darllenwn yn ami am gamsyniadau angeuol yn cael eu gwneud wrth gym- ysgu a pharotoi cyfferi. Bydd gronyn neu ddau yn ormod o un, neu rhy fach or llall, neu gamsynied wrth ddarllen ysgrifen aneglur y meddyg yn ami yn esgor ar ganlyniadau angeuol. Po symlaf fyddo'r blwch meddyginiaeth goreu oil yw. Osgoir pob perygl i syrthio i un o'r camsyniadal iichod wrth ddefnyddio meddyginiaeth syml ac effeithiol nas gall dan unrhyw amgylchiad wneud niwed, ond sydd bob amser yn llesol, trwy helpu natur i symud ymaith y drwg. Meddyginiaeth o'r fath yw Quinine Bitters Gwilym Evans, ac etyb holl ddybenion Blwch Meddyginiaeth. Ceir yn y Quinine Bitters hyn—yr hyn gliria'r pen, ysgyfnha'r cylla, symuda glefydau gieuol, effeithia ar yr afu a'r arenau, bura'r gwaed, ac a rydd iechyd, nerth, a chysur newydd heb un perygl camsynied na, photel, na blwch, na phowdr, na chyfa.rwyddyd. Ni ddylai yr.un teulu fod hebddo. Pan yn ei brynu edrycher fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp a'r botel. Mae ar werth gan bob fferyllwr mewn potsli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu gellir ei gael drwy y post oddiwrth y perchenogion-Quinine Bitters Manu- facturing Co., Ltd., Llanelly, S. Wales.