Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Esgobion Cymru yn y Ganrif…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Esgobion Cymru yn y Ganrif Ddiweddaf 11. ADDEWAIS yr wythnos cyn y ddiweddaf y buaswn yn gwneud rhai nodiadau ar ychydig o'r pymtheg a deugain esgobion a roddwyd i Gymru yn y gan- rit ddiweddaf. Pe gallaswn gael darllenwyr Y Cymro oil i'r un lie, buaswn yn gofyn i rhyw frawd yn meddu llais cryfach nag sydd yn eiddof fi i ofyn i bob un ohonvnt a welodd neu a glywodd erioed o'r blaen enwau dwsin o'r esgobion hyn i godi i fynu ei ddeheulaw. Ac mae'n amheus genyf a fuasai dwsin ohonynt yn gwneud hyny. Meddyl- ier am yr arian a dalwyd iddynt Ond pa wasan- aeth a wnaethant i Gymru ? Hwynthwy oedd yn Ilywodraethu yr Eglwys Sefydledig yn nghanrif y Diwygiad Methodistaidd; ond pwy heddyw a ddichon weled unrhyw argraph a wnaed ganddynt ar y wlad dlawd y tynent eu cyfoeth all an ohoni ? Gwnaeth un Howell Harris fwy i ddyrchafu Cymru mewn ychydig flynyddoedd nag a wnaeth y rhai hyn oil yn nghyd mewn canrif gvfan. A bydd ei enw ef byth mewn coffadwriaeth, tra y mae enwau holl esgobion Cymreig (?) ei ganrif, cyn belled ag y tnae a fyno Cymru a hwy, eisoes wedi pydru. Ond edrycher ychydig yn fanylach ar rai ohon- Ynt. Dyna bedwar wedi myned, ar ol gadael Cymru, yn archesgobion a bu dau o'r pedwar yn archesgobion yn Nghaerefrog a Chaergaint. Y ddau hyn oeddynt Thomas Herring a Matthew Hutton ac o Fangor yr aethant ill dau, yn gyntaf i Gaerefrog, ac oddiyno i Gaergaint. Yn rhestr archesgobion Caergaint, hwynthwy oeddynt yr ail a'r trydydd a phedwar ugain. Y deuddegfed a phedwar ugain ydyw yr Archesgob Benson. Y ddau eraill oeddynt John Gilbert a'r Anrhydeddus Robert H. Drummond. Aeth y cyntaf o Landaf, trwy Salisbury, i Gaerefrog a theithiodd y Hall yr un llwybr, gan gychwyn o Lanelwy. Enillodd yr Archesgob Herring enwogrwydd fel pregethwr yn Lincoln's Inn ac yr oedd yn wr digon rhyddfrydig i fod ar delerau cyfeillgar ag Ymneiliduwyr fel Chandler a Doddridge. Yn wir, yr oedd ganddo rhyw freuddwydion am Ad- Uniad Crefyddol a buasai yn hoffi cychwvn i'r cyfeiriad hwnw trwy newid pwlpudau. Nid ys- tyrid ef yn hynod am unionjirededd ac nid oedd yntau yn teimlo unrhyw duedd i gondemnio y rhai a ystyrid yn anuniongred. A chyffelyb oedd go- gwyddiadau yr Archesgob Hutton, er nad ym- ddengys fed ei ddylanwad ef mor fawr a'r eiddo ei ragflaenydd. Bu farw y flwyddyn gyntaf wedi ei Symudiad i Gaergaint. Am yr Archesgob Gilbert, dywed Horace Wal- pole ei fod yn drahaus ac anwybodus. M ab i larll Kinnoul oedd yr Archesgob Drummond, a mwy o wladweinydd ac areithydd nag o esgob nac arch- esgob. Efe a bregethodd ar yr achlysur o goron- iad Sior III. Nid oedd ond 37 mlwydd oed pan y gwnaed ef yn esgob Llanelwy ac nid oedd ond 50 pan gyrhaeddodd i Gaerefrog. Y mae y pedwar archesgob wedi gadael ar eu holau nifer o bregeth- au end pwy yn awr a ddymuna eu darllen ? A gadawodd yr Archesgob Herring gwpl o gyfrolau eraill. Llanwyd mainc esgobol yn Nghyrnru gan y pedwer archesgob yn nghyd am ddeng mlynedd ar hugain a hyny rhwng 1737 a 1761. Bydd ol v blynyddoedd hyny ar Gymru am byth ond nid oes heddyw un o gan mil o Gymry yn gwybod dim am yr un o'r urcidasolion hyn yn eu cymeriad 0 esgob'on Cymru. Dichon y dylasid galw sylw yn mlaenaf oil at y nifer bychan o'r esgobion Cymreig (?) yn y ganrif ddiweddaf oedd yn Gymry. Yn Mangor, y ddau |Vntaf yn unig oeddynt yn Gymry, sef yr Esgob Humphreys a'r Esgob Evans—ill dau yn enedigol o sir Gaernarfon. Yn rhestr esgobion Llanelwy, ceir tri o enwau Cymreig, sef Edward Jones, John Wynne, a John Thomas. Genedigol o sir Dre- faldwyn oedd y cyntaf, a genedigol o sir Fflint oedd yr ail; y mae yn amheus genyf a oedd y trydydd yn Gymro o gwbl. Yn ddigon hynod, bu tri o esgobion o'r un enw- John Thomas-yn Lloegr y ganrif ddiweddaf:— 1. Llanelwy, 1743; Lincoln, 1743—1761 Salis- bury, 1761-1766. 2. Peterborough, 1747—1757 Salisbury, 1757- 1761; Winchester, 1761—1781. 3. Rochester, 1774—1793. A gwelir i'r cyntaf ddilyn yr ail fel esgob Salis- bury. Cyn eu dychweliad i'r fainc esgobol yr oedd gan y tri fywoliaeth yn ninas Llundain. Bu y cyntaf a'r olaf yn gaplaniaid brenhinol, a'r ail yn athraw i Sior y Trydydd. Adroddir stori gan yr Esgob Newton fod rhywun yn siarad am Dr Thomas, yr hyn a aiweiniodd i'r ymgom ganlynol: At ba Ddr Thomas yr ydych yn cyfeirio ?" "Dr John Thomas." "John ydyw pob un o'r ddau." Y Dr Thomas y mae ganddo fywoliaeth yn y Ddinas." Y mae gan bob un o'r ddau fywoliaeth yn y Ddinas." Y Dr Thomas sydd yn gaplan i'r brenin." Y mae pob un o'r ddau yn gaplan i'r brenin." Y Dr Thomas sydd yn bregethwr da." Y mae'r ddau yn bregethwyr da Y Dr Thomas y mae ganddo lygaid croesion." Y mae gan y ddau lygaid croesion." Ond aeth Dr John Thomas i Lincoln cyn iddo Wybod bias Llanelwy. Nid oedd yr un Sais yn ei amser, fe ddywedir, mor hyddysg yn y Germanaeg ?•§ ydoedd efe ac yr oedd Sior yr Ail yn hynod hoff o'i gwmni, er ei fod yn llygad-groes ac yn *Vudar. Nid wyf yn sicr fod yn Llandaf na Thyddewi yr Un Cymro ar hyd y ganrif. Ceir John Harris yn mysg esgobion Llandaf, yr hwn y dywedir iddo e* es £ °kaeth am ysgrifenu llyfr dan y teitl, p ^eatise upon the Modes, or, a Farewell to rench Kicks a cheir Trevor ac Ellis yn mysg esgobion Tyddewi; ond nid wyf yn digwydd gWybod i ba genedl y perthynent. Am y ddau ymro yn Mangor, nid oes gan neb lawer o dda i'w dweYd; ac am Jones o Lanelwy, gellir yn hawdd si„ e?d cryn lawer o ddrwg. Erlynwyd ef am ^onineth ac er na phrofwyd ef yn euog, am- jj yn fawr a oedd yn ddieuog. Llwyddwyd i huTJ'11 adre^ Yr Esgob Watson o Dyddewi gy- Iv dladau cyffelyb cafwyd ef, yn wir, yn euog o esfv^6^ °'r waethaf. Am un yn unig o'r Vddi l°n- 9ymreiS y teimla Mr Abbey y gall ddefn- niewn canmoliaeth iddo, sef yr Hnapti, i ^ey 0 ^y^ewi (1713—1723), yr hwn a es«ob wer ^•iwyn yn ol y syniad cyntefig am 0 ddarllenwyr Y Cymro sydd eglw«^ • T?Wy yr esgob a wrthododd urddau Vnt we^ Harris ? Ni ddiolcha neb ohon- olen j j au^m ^dwyn unwaith yn ychwaneg i U dydd- Ei enw oedd Nicholas Claggett, a bu yn esgob Tyddewi o 1731 hyd 1743, ac yn esgob Exeter am y tair blynedd diweddaf o'i oes. Ond yr oedd yn mysg esgobion Cymru yn y ganrif ddi- weddaf ychydig wyr o enwogrwydd gwirioneddol. Wedi cymeryd ei esgobaeth oddiwrth Watson, rhoed hi i George Ball. Am o bedair i bum mlynedd yn unig y cafodd efe fyw i lanw y swydd ond y mae ei ysgrifeniadau yn werthfawr hyd y dydd hwn. Mewn un o'i weithiau ymdrecha ddangos cysondeb Paul ac Iugo ar yr athrawiaeth o Gyfiawnhad ac yn ei Amddiffyniad i Gredo Nieces" ei orchwyl ydyw dangos, mewn modd ysgolheigaidd fod ath- ra.wiaeth y Drindod yn yr Eglwys cyn adeg Cynghor Niccea. Ond yr oedd gwaith ei oes wedi ei wneud cyn ei apwyntiad yn esgob. Cyn i'r I anrhydedd hwnw ddod i'w ran yr oedd uwchlaw 70 mlwydd oed. Flwyddyn cyn ei fynediad ef i Dyddewi, apwynt- iasid Beveridge yn Esgob Llanelwy. Yr oedd yntau oddeutu 68 mlwydd oed ar adeg ei ddyr- chafiad, ac ni chafodd fwynhau'r anrhydedd am fwy nag o ddwy i dair blynedd. Fel Ball yr oedd yn wr tra dysgedig, ond defosiynol yw ei ysgrifeniadau ef, tra yr oedd eiddo Ball o duedd dadleuol. Esgob arall sydd yn dra hysbys yw Sherlock. Am saith mlynedd y bu efe yn Mangor a daeth yco yn 50 mlwydd oed. Cafodd. fyw nes yn 83 oed. Yr oedd yn Master of the Temple ya 26 oed. Yn 1830, cyhoeddwyd ei holl weithiau mewn pump o gyfrolau gan y Clarendon Press. Bu rhai ohon, ynt yn dra phoblogaidd yn eu dydd. Aeth Trial of the Witnesses trwy 14 o argraphiadau. Gwrthod odd archesgobaeth Caergaint; ond derbyniodd wedi hyny esgobaeth LIundain. Ac anhawdd yw crybwyll ei enw heb grybwyll gydag ef enw arall, sef yr Esgob Hoadly. Yn 1717 pregethodd Hoadly o flaen y brenhin bregeth ar Deyrnas Ciist,' yr hon a arweiniodd i ddadl bwysig, a adnabyddir fel y 'ddadl Fangoraidd.' Yr aedd Sherlock yn un o wrthwynebwyr Hoadly. Bu Hoadly yn esgob Ba.ngor am oddeutu chwe blynedd ond yn ystod yr amser hwnw ni roddodd ei droed gymaint ag unwaith o fewn ei esgobaeth Llydan iawn oedd ei syniadau. Yr oedd yn dra chyfeillgar â Dr Samuel Clarke, a chyhuddid ef, feallai yn unig oherwydd v cyfeillgarwch, o fod mewn cydym- deimiad a'i ogwydd at Ariaeth. Dywedir fod yr Esgob Fleetwood, a fu yn Llanelwy o 1706 hyd 1714, yn bregethwr hyawdl iawn. Gan lawer ys- tyrid ef y mwyaf hyawdl yn ei oes. Whig ydoedd o ran ei olygiadau gwleidyddol, ond apwyntiwyd ef yn esgob ar ddymuniad y Frenhines Anne. Cy- hoeddodd ychydig cyn marwolaeth y Frenhines bedair o bregethau, ac yn y rbagymadrodd gwnaeth ryw sylwadau rhyddfrydig a roddasant dramgwydd mawr i'r Llywodraeth. Penderfynwyd gan Dy y Cyffredin, trwy bleidlais o 119 yn erbyn 54, fod y rhagymadrodd i gael ei losgi gan y common hang- man. Y canlyniad fu gwerthiant 14,000 o gopiau o'r gyfrol, yr hyn a roddodd foddhad gwirioieddol i'r awdwr. Ond yma y Arfyna y llith. Nid wyf yn teimlo awydd ychwanegu unrhyw sylwaclau cyffredinol. Eglwyswyr yr oes hon ydyw y rhai mwyaf piroci o bawb i gondemnio esgobion Cymru yn y ganrif ddi- weddaf. I Oni buasai am eu hannoethineb hwy,' meddent, 'ni bussem ni yn cael ein blino'n awr gan y dannodiad fod Cymru yn wlad o Ymneiliduwyr.' Ond beth a ddywedir, tybed, yn niwedd yr ugein. fed ganrif am esgobion a deoniaid y ganrif breseno), A. B.

--0-.--Llenyddiaeth.

[No title]

Yn Ngwlad Ann Griffiths,

Gwralchion.

[No title]