Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Helynt y Penrhyn.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Helynt y Penrhyn. ATEBIAT) Y DYNION I ARGL. PENRHYN. WELE grynodeb o atebiad y dynion i fynegiadau Argl Penrhyn pan gyfarfu a'r ddirprwyaeth Cyflog Safonol.-Dywed eich arglwyddiaeth mai sifon presanol y cyfloj; yw 4s, a bod y cyfartaledd yn 5s 3c. Teimlwu fod hyn yn brawf fod y safon yn is na'r hyn y mae sefyllfa flodeuog y fasnach lechi yn ei hawlio. Am y dosb.i.rthad;iu eraill o weithwyr, credwn y dylent hwy gael codiad cyf- atebol i'r chwarelwyr. Nid oes genym eisiau i'ch arglwyddiaeth roddi tat am segurdod—y cyfan ofynwn yw am 4s 6c y dydd i weithwyr gonest sydd wedi methu enill y cyflog safonol. Rybehoyr. — Ni amheuwn gywirdeb y mynegiad fod 90 o rybelwyr wedi cael bat-geinil,n, ond nid oes nemawr i griw newydd wedi eu ffurfio o'r dos. barth hwn. Byddai y rybelwyi yn faich o far- geinion ar ochr dde y chwarel, ac yn foddlawn i'w gweithio am haner y poundage presenol. neu tua 3p 15s ar gyfartaledd. Nis gellir cyfrif fod gweithio y graig ddrwg yn golled, yn gymaint a bod yn rhaid ei symud i ddyfod at y graig dda. Y rheswm dros fod rhai rybelwyr yn gwneud cystal a gwell cyfiogau weithiau na'r bugeinwyr yw eu bod yn gweithio dros oriau gwaith, ar nawn Sad- yrnau, ac ar ddyddiau gwvl. Methwn ddeall gwrthodiad eich arglwyddiaeth i loddi poundage ar y blocia-u a gymer y-rybalwyr i'r melinau, tra y caniateir hyny i griw. Beth sydd yn gwneud cynyroh y rybelwyr yn llai ei werth na'r eiddo criw ? Contracts. Rhaid i ni ddal at ein mynegiad blaenorol mai yn gydmarol ddiweddar y ihoed y gyfundrefn bresenol mewn gweithrediad, a'i bod yn achosi llawer o ddrwgdeimlad. Gofidus yw dweyd fod chwarelwyr profiadol yn gorfod bodd- loni ar safleoedd a gydnabyddir genych yn annheil wng o'u medr. Annicrwydd CyHogau.—Yr ydym yn cyflwyno manylion a rhestr ychwanegol i gyfiawnhau ein mynegiad fod nifer luosog o chwarelwyr profiadol, nid yn unig yn methu cyrhaedd y eyfl,g safonol ond yn methu enilllp yr wythnos. 0 berthynas i'r cyhuddiad o annghymwysder a. meddwdod, allan o'r chwe achos a nodwyd genyeh, yr ydym yn tystio fod y cyhuddiad yn annheg yn erbyn pedwar ohonynt. Wrth ystyried difrifoldeb y sefyilfa, a chan wyb d am y teimlad o anfoddlonrwydd yn mhlith -ein cydweithwyr, ac mor anhawdd yw rheoleiddio eu gweithredoedd lawer yn hiraeh, yr ydym yn birchus yn argymheil e ch arglwyddiaeth i wneud ymchwiliad trwyadl i'r materion. Gyda'r ddeiseb uchod yr oedd Lu o atodiadau. Yn un ohonynt ceir achos o rybelwyr wedi eu symud i wneud lie i fargeinwyr, a rodir Owen G. Roberts a'i bartner, y ddau gyda'u gilydd heb euill ond 7p 6s 10c mewn mis. Mewn achos arall, nodir fod dynion wedi dyoddef coiled ac anfantais oher- wydd cyfundrefn y contracts. Honir fod y con- tractor wedi gwneud clw o 20s i 27s y mis ar lafur dau ddyn a weithient o danynt. Tystir hefyd yn nglyn alr bleidlais o ddiolchgarwch am y codiad diweddaf, fod y swyddogion (overlookers) wedi dy- lanwadu ar y dynion, ac mewn un poncbu raid ys- grifenu y ffurf o ddiolchgarwch ddwywaith am nad oedd y cyntaf yn foddhaol gan Mr D. Prifcchard. CYDNABOD DEISEB Y DYNION. Wrth gydnabod deiseb y gweithwyr, anfonwyd y llythyr canlynol ddydd Mercher:— At Robert Davies alrchvjeeh craill. Wrth gydnabod eich llythyr am y 26ain o Awst, yr hwn a gyfeiriwyd at Arglwydd Penrhyn, cyfarwyddir fi i ddweyd y bydd i'w Arglwyddiaeth wneud ym- chwiliad gofalus i'r mynegiadau a gynwysa ond. mewn trefn i gynorthwyo yn yr ymchwiliad rhaid i mi ofyn i chwi rhoddi y dyddiadau yn nglyn a, phob achos a gyflwynwch i ddangos pa pryd y cafodd y pum' parti o rybelwyr eu cymeryd o'u gwaith, ac hefyd mis a blwyddyn yr holl filiau a grybwyllir yn eich tabl o berthynas i'r can' criw neu fwy.—(Arwyddwyd) E. A. YOUNG, Porth Penrhyn, Bangor, A wst 28, 1896. CYFARFOD MAWR Y CHWARELWYR. Nos Llun, yn Methesda, cynaliwvd cvfarfod mawr o'r chwarelwyr, ac yr oedd oddeutu 4,000 yn bresenol. Cymerwyd y gadair gan Mr W. R. Evans, Pant, yr hwn a obeithiai y byddai iddynt ystyried yn ofalus y cwrs a gymer- ent a gweithredu yn unol. Ilyderai eu bod oil yn benderfvnol o ymladd y frwydr i fuddugoliaeth' Mewn blynyddau diweddar ni chafodd chwarelwy y Penrhyn eugorchfygu.ac ni orchfygid hwy eto on iddvnt fod yn unol a phenderfynol Mr Robert Davies a hvsbysodd iddo osod llythyr Arglwydd Penrhyn gerbron pwyllgor yr Undeb; ac wedi i'r Uadeb hwnw gael addewid y byddai i ymchwiliad gofalus gael eu wneud yr oeddynt yn argymheil y gweithwyr i beidio sefyll allan ddydd Mawrth yn ol eu bwriad hyd nes gweled canlyniad yr ymchwiliad. Mr W. Williams, Gerlan, a gefnogai apel y pwyllgor, Nid gormod oedd dweyd na fn argvfwng pwysicach yn eu henes yn ystod y 30 mlynedd diweddaf, nag erioed angen mwy o unoliaeth. Er mwyn lies eu hachos hyderai y cydweithredent A' A, aV apel. Mr D. J. Jones, Ffestiniog, hetyd a obeithiai y gweithredid yn ystyriol ac yn ngoleuni rheswm. Cyffelyb oedd streic i gleddyf dau finiog yn tori o bobtu ac yn niweidio y meistr a'r gweithwvr. Teimlad chwarelwyr Gogledd Cymru oedd am i'w cymmrodyr yn Methesda beidio sefyll allan ddydd Mawrth. Trychineb yn eu hanes fyddai hyny. Bydded i'r dynion ieuaiacblygu i brofiad yr henaf- gwyr. Mr Robert Griffiths, fel dyn ieuanc, a anogai y dynion i wrando cynghor eu barwelnwyr, oeddynt eisoes wedi gwneud llawer ar eu rhan.. Wrth ym- ranu, nid oeddynt yn ad-dalu'n briodol i'r arwein- wyr am exi llafur er eu hudd. Mr Wrn. Thomas, Talysarn, llywydd yr Undeb, a argymhellai ofal ac amynedd. Mantais ar lawer ystyr fyddai gweithredu felly, Nid oedd y gol- euni priodol wedi ei daflu ar bethau hyd yma ac yn y dyfodol agos, trwy arafwch ystyriol, gellid cryfhau llawer ar eu sefyllfa, Dangosai llythyr Mr Young fod sefyllfa pethau yn anorphenol; ac wrth sefyll allan yn bresenol gweithredid yn afreolaidd. a rhoddid argraph anffafriol ar y wlad Da fyddai parotoi cyfriflen i ddangos canlyniadau echrydus sefyll allan cyn cymeryd y cwrs hwnw. Hyderai y byddai ymchwiliad nesaf Argl Penrhyn yn fwy ffafriol i'r gweithwyr, ac y nodweddid y cyfrvw gan fwy o foneddigeiddrwydd a llai o benarglwydd- iaeth. Nid oedd am ddigaloni y dynion o gwbl, na chreu ynddynt deimladau caethiwus ond tra yn Ifafr heddwch, nid heddwch y llyn llonydd ddy- munai ond heddwch yr afon lifeiriol a oresgynai bob rhwystr. Rheoler hwy gan egwyddorion gonest ac nid gan weithredoedd brwd a sydyn felly enillent barch y wlad. Mr Henry Jones a gynygiodd y penderfyniad canlynol:—" Fod y cyfarfod hwn, wedi cael add- ewid Argl Penrhyn i wneud ymchwiliad manwl i'n gofynion a'n cwynion, ac hefyd yn wyueb cymerad- wyaeth Undeb y Chwarelwyr, yn penderfynu fod y dynion i barhau i weithio hyd nes gwneir can- lyniad yr ymchwiliad yn hysbys." Mr Thomas Roberts a eiliodd y cynygiad, gan obeithio y byddai ei arglwyddiaeth yn un a'i air. Os na fabwysiedir y cynygiad, ymddygir at Bwyll- gor yr Undeb gyda'r gwaradwydd mwyaf. Rhoed y cynygiad i'r cyfarfod, a phan wnaed yr arwydd caed nad oedd uaoliieth llwyr. Pan fyneg- odd y cadeirydd fod y cynygiad wedi ei fabwvs- iadu, gw,teddai adran ieuengaf y gweithwyr, Na, na." Rhoed ef i fynu yr ail wsith, a mynegodd y cadeirydd fod y mwyafrif wedi arwyddo yn ei ffufr, er y gnllai weled fod llawer yn ei erbyn. Mr D. R. Daniel a amlygodd gydymdeimlad a'r adran ieuengaf oedd yn annghvdweled a'r peader- fyniad, ond teimlai yn sicr eu bod wedi en dysg- yblu yn ddigonol i syrthio i mewn i farn y mwyaf- rif. Credai fod ganddynt gwynion a ddalient ym. chwil yr holl fyd. Disgwylienb i'w argl-vyddiaebh wneud ymchwiliad trwyadl, a pheidio edrych ar y rv mater trwy wydmu lliwiedig a dibynu gormod ar y stiwardiaid. Os na wneid ymchwiliad felly, ac os na fyddai'r dynion yn Twyddianus wed'yn, vna yr oedd yn foddlawn iddynt sef, 11 allan" ('lefau o Pryd ?" ac Yfory.") Wedi diolch am fenthyg y ma.es, ymwahanwyd. o

Cwibnodion o DdyfFryn Maelor.

--0--Deddf y Reilffyrdd Ysgafn.

[No title]

- Ein Cenedl yn Manceinion.

--0--CWRS Y BYD