Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Cyrnreig.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Cyrnreig. Er hyrwyddo buddianau Deganwy, mae'r I trethdalwyr wedi ffurfio'n gymdeithas. Nid yw Bwrdd Llywodraeth Leol yn fodd- lawn i Undeb Bangor a Beaumaris gael ei ranu'n ddau. Meistr a meistres newydd tlotty Bangor yd ynt Mr a Mrs Davies, Abertawe. Penodwyd hwy ddydd Gwener. Ddydd Iau, aeth cerbyd dros blentyn Mr Parry, fferyllydd, Llandudno, gan achosi ei farwolaetb. Mae Cwmni Coedwig Pwllycrochon, Colwyn Bay, wedi cau y goedwig a'r trigolion a'r ym- welwyr yn dra llidiog am hyn. Mae Mr Fred. LJ. Jones, B.A., Ll.B., cyf- reithiwr, Dinbych, wedi ei benodi yn ddirprwy- drerigholydd sir Fflint. Adnewyddwyd holl drwyddedan tafarnau ar- da 1 Din bych yn y llys trwyddedol ddydd Mer- cb er. Gwahoddir y Parch D M. Phillips, Tylorstowri, Cwm Rhoodda, i gymeryd gofal eglwys Carneddi, Bethesda, fel olynydd i'r diweddar Barch Griffith Roberts. Am achub boneddigea o ddyfrilyd fedd, an- rhegwyd E. F. Browning, chwarelwr, Porth- aethwy, a bathodyn gan y Gymdeithas Ddyn- garol ddydd Mercher. Yn ystod y tri mis diweddaf, llettywyd 5,575 o grwydriaid yn Maldwyn. Er cymaint y rfnf, mae yn llai o 51 na'r cliwarter cyfat-jbol y llyn- edd. Fore dydd Gwener aeth tren bach Ffestiniog oddiar y llinelL Yr oedd llu o deithwyr yno ar y pryd, ond heblaw dychryn yn acaele ni chaw sant fawr niwaid. Dydd Mercher, cyhoeddwyd Eisteddfod Genedl- aethol 1897 gyda rhwysg yn Nghasnewydd. Gym- erwyd rhan gan Hwfa Mon, Dyfed, Gwynedd, yr Archddiacon Griffiths, y Tad Ignatius, Eos Dar, Teiynores Lleifiad, &c. Dywed Major Best, Prifgwnstabl Meirion- ydd, fod cybuddiad y Parch Samuel Owen, Tanygrisian, fod cynydd meddwdod yn Ffestin- iog i'w briodoli i brinder heddgeidwaid, yn ddi- sail. Yn mynwent newydd y Rhos, ddydd Mer- cher, ciaddwyd gweddillion y Parch T. Ro- berts, ac amlygwyd galar cySredinol o'i golli yn yr ardal. Gw^inyddwyd gan y Parchn R. Jones, R. Williams, a J. Jones, Rhiwabon. Ni bu'r cnwd o mnshrvvms mor drwm yn sir Ffl!nt er's blynyddau ag eleni. Yn ardaioedd Gwernaffield a Chileen mae'r meusydd yn wyn- 1011 ohonynt bob dydd, a gwerthir hwy am He 2 y pwys. Dydd Gwener gwnaed apel gerbron ynadon Porthmadog ar ran Cwmni Reilffordd y Wydd, fa am drwydded i westty fwriedir adeiladu ar gopa teyrn y mynvddoedd. Gwrthodwyd yr apel. Mae Mr Samuel Pope, Q.C., sydd a'i anedd ger Llanbedr, Meirion, wedi ei banodi i gyn- rycbioli Mr Cecil Rhodes gerbron y pwyllgor a benod wyd i wneud vmchwiliad i'r helyntioii di- weddar yn y Transvaal. Yn Ngwrecsam, ddydd Mercher, bu miri mawr ar yr acblysur o ddathlu dyfodiad Mr F. A. E. Cunliffe, aer Syr Robert Cunliffe, i'w oed. Cyfiwynwyd anrbegion i'r aer gan y trefwyr ac amryw gymdeithasau, a threuiivvyd y prydnawn yn Mharc Acton, lie y cynelid mabolgampau. Ddydd Iau, bu farw Mr Ebenezer Morris, Porthaethwy. Ganwyd ef yn ardal Dinbych, a bu yn ysgolfeistr yn Llanfair Talhaiarn, Waen- fawr, ac am 24 mlynedd yn Mhorthaethwy. Ymneillduodd yn 1893, ac anrhegwyd ef a thysteb werthfawr. Bu yn nychu'n hir. Gwr a fawr gerid ydoedd, a bydd colled ar ei ol. Llwyddodd Sais o Lerpwl o'r enw W. Ho- ratio Inwards i gael gini trwy dwyll gan wr Gwestty'r Frenhines, Llanfairfechan, ac am ei fedr anfonodd ynadon Bangor efi sefyll ei brawf yn y frawdlys ddydd Sadwrn. Yn yr un llys anfonwyd Elizabeth Perry i sefyll ei phrawf ar y cyhuddiad o ladrata dau rod. Darganfyddwyd gwythien gyfoethog o lo yn Mryncinallt, ger Rhiwabon, yr wythnos ddi- weddaf, ac y mae peirianau newydd yn cael eu gosod er gweithio'r mv/n. Derbyniodd y glowyr rybudd dro yn ol i ymadael oherwydd prinder glo, ond yn awr y mae eu rhagolygon wedi gloewi llawer. Bu rheolwyr addysg ganolradd Treffynon yn cynal cwrdd ddydd Gwener. Y prif waitb oedd dewis ail athraw, a'r ddau gymhwysaf oedd Mr Robert Jones, Bangor, Cymro. a Mr Foster Smith, Nelson, Lancaster, Sais. —Mynai yr Henadur W. Jones ddewis y Sais am y rheswm, meddai, nad allai y Cymro ddysgn'r plant i seinio Saesneg yn briodol.—Y Parch D. Oliver a sylwodd y gallai Cymro seinio Saesneg cystal a'r un Sais yn y wlad.—\n ddiiynol dewiswyd y Sais i'r swydd. Mae pwyllgor ysgolion gwrth-Babyddol, dan nawdd Cyfarfod Misol y M C., newydd gyf- lwyno'r ëtdroddiad blynyddol i'r tanysgrifwyr. Ceir ysgolion yn Rhuallt, Gronant, Oarmel, a Ffynongroew, ac y mae'r adroddiad yn galon- ogol am yr oil ohonynt. Dywedir fod y pwyll- gor wedi cynal cynadledd arbenig i drafod y pwrkc o ledaeniad Pabyddiaeth yn Nghymru. Penderfynwyd nodi pwyllgor i nodi pa gwrs i gymeryd er budd Protestaniaeth. Beth wnaed nid yw hysbys.

YFWYR TE—DALIWCH SYLW.

-:0:-Abermaw.

--- 0 ---RHAGFARN.

0 Wlad yr Estron.

Y PARCH JOHN PUGH, CAERDYDD,…

MR W. R. JONES,

Caerlleon. .--

-0-0 BEN Y MURIAU.

Dyffryn Clwyd.