Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
----____---_._------_...-----__-Nodion…
Nodion Amaethyddol. [Gan FAB Y TYDDYN.] Y GWLAW. YN ystod y dyddiau diweddaf trwytbwyd pob rhan o Brydain gan gawodydd trymion ac y mae llawer un heblaw < Y gwr sy'n gwerthu llefrith Yn diolch am y fenclith wedi'r sycbder maith. Ceir y ffermwyr hyny nad ydynt eto wedi cynull yr ydau i ddiddos- rwydd yn croesawu'r gwhw, gan dybio fod yn well i'r cynhauaf fod yn ddiweddarach nag i'r porfeydd, y maip, a chnydau eraill at angenion y gauaf ddyoddef. Er hyny, da cael tywydd braf i orphen medi'r meusydd a3 i gadw r pytatws rbag baint. Trwy fod rhagolygon da am ymborth, y mae prisiau anifeiliaid wedi codi, a disgwylir marchnad dda o hyn i galangauaf. Ddydd Llun yr oedd pris y gwenith wedi codi, yr hyn sy'n dra annghyffredin yr adeg bon o'l flwyddyn pan y mae digon o wenith newydd ar werth. Ond pa un a yw i fod yn godiad parhaol neu ynte yn ddim ond bywiogrwydd byr, amser a ddengys.
CLEFYDON AR FOCH.
CLEFYDON AR FOCH. Ar y dydd cyntaf o'r mis hwn daeth gorchym- yn newydd Bwrdd Amaethvddiaeth i ryrn o berthynas ifglefydon ar foch. Ynddo darperir nad oes dim moch i fyned i ffeiriau, marchnadoedd, arwerthiadau, nac arddangosfeydd mewn ardal lie y mae'r amheuaeth leiaf fod clefydon ynddi. Mae'r'darpariadau yn dra manwl a llym; ac er y dichon i'r gorchymyn beri i farchnadoedd a ffeiriau ambell ardal fod yn ddifywyd weithiau, eto gwell yw haint wedi ei atal na'i feddygin- iaethu.
YSTADEGAU AMAETHYDDOL PKYDAIS.
YSTADEGAU AMAETHYDDOL PKYDAIS. Crynhowyd y cyfrifon hyn o'r ystadegau am 1896 gyboeddwyd Meh. 4ydd, a gosodir yma hefyd gyfrifon blynyddau blaenorol CNYDAU A DA Byw. 1896. 1895. 1894. Aceri. Aceri Aceri. Gwenith 1,093,957 1,417,483 1,927,982 Haidd 2,104,764 ",166,279! 2,095.771 Peirch 3,095,4881 8,296.063 3,253,401 Pytatws: 533,741 541,217 504,454 Gwair oddiwrth glofer a; n „ glaswellt arall 2,171,9(56 2,303,431; 2,1l1,904 Gwair oddiwrth Borfeydd narhaus 4,638,722 14,760,889 4,Sol,442 Hops 54,219 58.940 59.535 Rhif. Rhif. Rhif. Gwartheg godro neu gyf- ii' •as*god™ ™" Dwrflwydd'^c nchoil 1,3^5,057 1-131,525 1,516.072 Blwydd a than ddwy 1,306,513! 1.19\3C8 1,217,145 Dan ftwydd ^537; 1,246.623 1,153.210 Cyi'ANRH" y-Gwabtheg 6.493,5S2 6.354.336 6-347.113 Mamogiald at fagu 9,925,58-1; 97663,129 9,669,002 MB\wTddTCUuThod J 6,4*7,932 6,334,386 6.342.730 Dan flwydd 10,351,760 9,794,680 9 8o0,<68 C vfaniur y DEI-AID 126.705,329 25.79-2.195 25,861.500 Mnohatfaeu 393,729) 415,210 351,119 Hychod eraill 2.485,072 2.469,221 _2,038,907 CTFANKTF TMOCH.i 2,878 8011 2 884,431 2,390,026 CYFATEBIAETH. 0 gydmaru'r ffigyrau uchod am 1896 a'r flwyddyn 1895, fe welir fod mwy o wenith o 276,474 acr wedi ei gynyrchu ac eto y mae byn yn llai o 234,005 acr nag yn 1894. Nid yw tyfiant haidd gymaint o 65,515 o aceri ag yd- oedd yn 1885, ond y mae yn gynydd o 8,993 acr ar 1894. Gyda cheirch mae'r gostyngiad yn fawr iawn, sef 200,575 acr, neu 6-1 y cant yn llai na'r llynedd. Caed mwy o datws a gwair clofer, ond y mae gwair porfa yn llai. Gos- tyngodd hops 5,691 o aceri neu 8 y cant Bodd- haol iawn yw canfod cynydd o 139,246 o wartheg, a 913,134 o ddefaid. Ceir Ilai o foch o 5,630 nag yn 1895, ond mwy o 488,775 nag yn 1884. AMAETHYDDIAETH YN NGHYirRu. Tymhor yr arddangosfeydd yw'r wythnosau diweddaf wedi bod yn Nghymru. Bron yn mbob cwmwd amaethyddol, ceir cyfle bob blwyddyn i ddangos yr anifeiliaid a'r cynyrch goreu a boddhaol iawn yw'r adroddiadau eleni. Gwelais sylw o eiddo nn boneddwr .fu ar ym- weliad ag Arddangosfa Mon yn hysbysu iddo weled cystal anifeiliaid yno ag a ganfu mewn nnrhyw arddangosfa yn Mhrydain y tuallan i't nn frenhinol; ac yn wir, nid oedd yn hono anifeiliaid lawer gwell. Wrth gwrs, prin y gellir disgwyl i'r ffermwr cvffredin gystadlu a'r boneddwyr arianog hyny sydd yn magu anifeil- iaid er mwyn hobi, achanddynt foddion i brynu y mathau goreu ond ceir yn Nghymru rai 'ma^wyr nad oes eu gwell yn y deyrnas, megvs MrJohn Jones, Llandudno Humphrey Ellis, Tanyfynwent, Aber P. P. Pratt, Brynllithrig ac eraill, heb enwi Arglwydd Harlech, y Milwr- iad Platt, Mr Oakeley, Tanybwlch, gymeranc y fath ddyddordeb mewn gwartheg duon Cymreig.
-0-Marchnadoedd.
-0- Marchnadoedd. YD Lerpwl, Mefli 2 Marchnad fywiog heddyw, ond y prisiau'n tueddu at ostwng. Gwenith-Danubaidd, 23s 6c Gali- ffornaidd, 27s 3c River Plate, 25s. Ychydig o indrawn gynygid ar werth, ond caed =}c y cental mwy am dano na dydd Gwener, ac yr oedd y galwad am y Coch Americanaidd yn fywiog. Blawd yn gadarn ond difywyd, Ffa, ceirch, a blawd ceirch yn dawel a'r prisiau heb newid. Xilundain, Medi 2. Lied dawel oedd y farchnad heddyw, a'r prisiau yn tueddu at ostwng. Gwenith Califfornia, 27s Danube, 23s 9c River Plate, 25s. Indrawn heb newid ei bris, ac araf oedd y gwerthiant. Haidd- Rwsiaidd, 12s 3c. ANIFEILI AID Lerpvsl Medi 1. Cyflenwad mwy o wartheg, a'r gal wad yn fywiog. Nid oedd cystal galwad am ddefaid a'r wythnos flaenorol. Prisiau-Biff, 6c i 4e; molltgig, 5c i He. Gwrecsam, Medi 1. Biff, 6c i 6 £ c; molltgig a chig oen, 7ie i Jfc; cig Ho, 7c i 8c y pwys. Moch bacwn, 6s 6c i 7s 6J y sc6r; perchyll, 6i 3c i 7s 3c. Salfoid, Medi 2. n Biff, 4c i 6^c; molltgig, 6c i 8c; cig llo, 5kc i 2 4 2 6^c. "Birmingham, Medi 2. Biff, 4e i 6e; mollvgig, 6e i nc; cig oen, 7c i 8c; 20 4 2 cig llo, 6c i ne y pwys. Moch bacwn, 7s i 7s 6c; perchyll, 8s 6c i 9s; hychod, 5s i 5s 3c y scor. --0-
Lleol
Lleol GWELIR oddiwrth hysbysiad mewn colofn arall fod y Parch John Evans, (Efflioijshach,) a'i briod yn dyfod i'r ddinas y mis nesaf. Nos Sadwrn traddodir pregeth ddirwestol o dan nawdd pwyllgor yr "United Temperance Mission," a nos Lun darlitbir gan Mrs Evans, ar "Catherine Booth, the New Woman." DA genym weled fod ein cydwladwr y meddyg galluog Dr Hugh R. Jones, Grove Street, wedi ei benodi yn un o feddygon y Main Bridewell. Bu Dr Jones yn dra llwyddianus yn y colegau, gan enill amryw wobrau gwerthfawr; ac y mae eisoes yn llanw amryw swyddan o bwys mawr yn nglyn a sefydliadau meddygol y ddinas ac uched ydyw syniad gWST o ddysg yn y ddinas am dano, fel mai efe eleni sydd yn llanw y swydd anrhydeddus o gadeirydd y Liver- pool Institute. --0--
ICohebiaethau.
Cohebiaethau. LLIFEIRIANT CORWEN. SYR,—Gwelais nodiad o'ch eiddo yn y Cymro rhyw dair wythnos yn ol yn gofyn i rywun ddweyd tipyn o hanes yr ystorm fawr o feUt a gwlaw a ddigwyddodd yn ardaloedd Cynwyd a Chorwen er's haner cant o flynyddoedd yn ol, sef 1846. Os y caniatewch ychydig o le yn eich wythnosolyn clod- wiw i'r ychydig linellau isod byddaf ddiolchgar, a cheisiaf roddi ychydig o'r hanes fel y bu gan fy mod yno ar y pryd. Yn Felinucha, Cynwyd, yr oeddwn yn byw y pryd hyny gyda'm mam mewn ty to gwellt, tua dwy filldir o Gorwen. Ty bychan isel ydoedd gyda chroglofft fechan yn un pen iddo, fel yr oedd tai yn gyffrediu yr adeg hono, ac, o ran hyny, y mae llawer eto i'w gweled yma ac acw ar hyd y wlad. Tu cefn i'r ty yr oedd gardd y Felin, yr hon oedd mor uchel bron a'r tô. Yr oeddym oil fel teulu wedi myned i orph-ys noswaith y cymer- odd yr ystorm le nid wyf yn cofio pa noswaith o'r wythnos ydoedd na'r flwyddyn, ond yr wyf yn sicr mai Awst oedd y mis a 1846 neu 1847 oedd y flwyddyn. A thua dau o'r gloch y boreu fe'n deflrowyd gan ruadau y gwynt a'r gwlaw, ac erbyn codi ac edrych o gwmpas canfyddem fod y cadeiriau, yr ystolion, y bwrdd crwn, &c., yn nofio yn hamddenol o amgylch yr ystafell ac fel yr oedd yr ystorm yn cynddeiriogi, yr oedd y dwfr yn codi yn gyflym at y groglofft ac yn llefaru yn wyllt a chroch, "Os bydd fyw, dianc." Ac felly y bu torasom dwll yn y to gwellt uwchben ac aethom i ardd y Felin i ganol yr ystorm am ddyogelwch, gan fod yr ardd, fel y dywedasom, bron mor uchel a the y ty. Yr oedd afon Trystion wedi tori dros ei cheulanau, ac yn ysgubo pobpeth o'i blaen. Yr oedd heolydd Corwen, yn neillduol y fan lie yr oedd y farchnad yn cael ei chynal, wedi eu Ilenwi bron at yr ymylon a gwahanol gelfi o'r tai a cheryg a llaid o'r afon, a golwg dorcalonus iawn oedd ar bobpeth erbyn y boreu. Ysgubwyd Pont Llangar gan y llif, a boddodd rhyw wraig—nid wyf yn cofio ei henw—tua haner y ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen. Yr oedd golwg resynus i'r eithaf ar fynwent Llansantffraid hefydl: yr oedd y beddau wedi eu malurio ac wedi eu hysgubo ymaith, ac amryw o eirch wedi eu codi i fynu a'u cymeryd ymaith gyda'r llif, fel nad oes dadl nad dyma yr ystorm fwyaf a ymwelodd a'r ardaloedd hyn erioed. Gwnaed cerdd i'r amgylchiad gan un Owen Meirion o'r Bala, a phe byddai yn bosibl dod o hyd i hono cawsid y flwyddyn a'r dydd yn gywir, a llawer o bethau eraill a fyddai o ddyddor- deb nid bychan. Dyma gymaint wyf yn gofio o'r hen gerdd- v Ca'dd mynwent Llansantffraid ei dryllio Gan gario'r meirw oddiyno i'r mor Os bydd yr ychydig linellau hyn o ryw ddyddor- deb i chwi, Mr. Gol., neu rywrai o'ch darllenwyr, bydd yr amcan oedd mewn golwg wrth eu hys- grifenu yn llwyddiant.—Ydwyf, yr eiddoch yn gywir, JOHN MORRIS. Capel Mawr, Llangristiolu8, Mon. LLANARMON-YN-IAL. Syp.Sicrheir fod y drydedd ran o blant ysgol Llanarmon yn absenol ohoni ddydd bwygilydd drwy gydol y flwyddyn. Sibrydir fod hyn i'w brtodoli mewn rhan fawr i sylw gwreiddiol. un o aelodau y Bwrdd, sef na fuasai yn golled yn y byd pe buasai haner plant yr ysgol gartref bob dydd. Y gwr hwn ydyw lladmerydd y Bwtdd a chyn- rychiolydd "trethdalwyr mawrion y plwyf. Mae yn eglur oddiwrth y sylw uchod o'i eiddo nad yw yn gredwr mewn addysg werinol. Hwyrach ei fod yn credu mai mamaeth duwioldeb ydyw anwy- bodaeth." Difyr, digrif, a doniol, meddant, ydyw ei glywed yn ymfflamychu yn y Bwrdd ac yn siarad ar ddarbodion y Cod a'r Ddeddf Addysg. Cynygiai yn ddiweddar fod y Bwrdd i erlyn y rhieni sydd fyth a hefyd yn esgeuluso addysg eu plant ar yr amod fod yr ysgolfeistr, yr hwn a dderbynia haner y grant fel rhan o'i gyflog, yn talu haner costau yr erlyniad Chwi vsgoLfeistri Cymru, beth feddyliwch o gynygiad yr Ymneilldu- wr cadarn a'r Rhyddfrydwr goleuedig hwn? Goddefwch i mi grybwyll wrth fyned heibio mai Annibynwr yw'r ysgolfeistr. Gadawaf i'r darllen- ydd ddyfalu beth yw'r oracl. CARWR ADDYSG. [Ond beth yn y byd mae'r aelodau eraill yn wneud ?] DIACON AM BA HYD? SYR,—Mae'n eithaf amlwg fod y gotyniad hwn yn cael peth sylw mewn rhai cylchoedd y dyddiau hyn. Oes yr ymchwilio ydyw yr oes hon, ac heb- law hyny nodweddir yr oes gan fesur lied helaeth o feiddgarweh. Mae rhyw ymchwil aflonydd i'w deimlo yn nghylchoedd mwyaf ceidwadol crefydd. Ac nid yw cylcli cyfrin y set fawr yn gallu dianc. Y gauaf diweddaf bu y penawd uchod yn destyn dadl gan Gymdeithas y Gwyr leuainc yn a theimlem wrth wrando'r ddadl y dylasid gwyntyll- io'r gofyniad mewn man mwy cyhoeddus nag yn ystafell y gymdeithas y cyfeiriwyd ati; ac er .mwyn cyrhaedd yr amcan hwnw i ryw raddau an- turiwn wahodd rhai o ohebwyr Y Gymro i draethu eu lien ar y cwestiwn y naill ochr a'r llall. Os yw y gofyniad yn gyfryw ag y dylid addfedu barn y Iluaws gyda golwg arno, mae'r wasg yn gyfrwng rhagorol i wneud hyny. Ar y llaw arall, os ydyw y cri a'r son sydd am newid neu ail ddewis y swyddogion pwysig hyn yn gri y dylid ei roddi i lawr a'i gladdu heb obaith adgyfodiad gwell, nis gwyddom am well cyfrwng na'r wasg i wneud hyny drachefn. Pwy ddywed air ar y mater ? UN A GARAI GLYWED 1UIAOOR.
Ffestiniog.
Ffestiniog. Y MAE dydd barn y tafarnwyr wedi myned heibio o'r diwedd. Yn ei adroddiad blynyddol dangosai yr Arolygydd Morgans fod troseddiad o'r deddfau trwyddedol wedi cynyddu yn ddir- fawr yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, a bod meddwdod ar y Sabboth wedi dod yn beth hynod o gyffredin. Barnai y Prifgwnstabl fod y diweddaf i'w biiodoli yn hollol i sefydliad y clybiau y cyfeiriwyd atynt, a chredaf fod llawer- oedd sydd wedi bod yn llygad-dystion o gyflwr rhai o ieuenctyd yr ardal ar nos Suliau yn dywedyd "Amen i hyn. Caniatawyd adnew- yddiad i bob ymgeisydd, ac yn mhellach rhodd- asant drwydded tafarn i'r Meirion Vaults, yr hon a drowyd yn glwb ar ol y llys trwyddedol diweddaf. Diau fod yr ynadon yn credu yn yr athrawiaeth iachus sydd yn gynwysedig yn y frawddeg o ddau ddrwg dewiswch y lleiaf," a chredaf yn bendifaddeu eu bod wedi hitio'r hoel y tro yma. Y mae y O.S.-iaid yn myned ar gynydd fel caseg eira yn yr ardal hon. Ni raid i mi eich hysbysu, Mr Gol., mai nid Cynghorwyr Sirol a ddynodir gan y ddwy lythyren gyfrin uchod bob amser. Ychydig amser yn ol sefydlwyd cym- deithas yn yr ardal yn dwyn yr enw Cymru Sobr," ac y mae ei haelodau yn meddu yr hawl i roddi y ddwy lythyren ar ol eu henwau. Y mae llu mawr wedi ymuno a'r gymdeithas, a byderir y gwnaiff lawer o les yn yr ardal a'r wlad. TEIGIL.
(0) Gwrthryfel yn Nghaeroystenyn.
(0) Gwrthryfel yn Nghaeroystenyn. DYDD Iau, aeth deg ar hugain o ddynion arfog, Armeniaid, meddir, i mewn i Ariandy Ottoman yn Nghaercystenyn. Lladdwyd amryw o'r gwylwyr wrth y drysau. Ffodd ewyddogion yr ariandy am eu heinioes yna cauwyd y drysau, ond ni chyffyrddwyd i'r arian. Dechreuwyd tanio drwy'r ffenestr ac oddiar y to ar y milwyr yn yr heol. Buyn ymdrechfa galed i ymlid ymaith yr haid o'r adeilad; yn wir trodd pob ymgais yn ofer o du'r milwyr. Yn yr hwyr, rhoes yr ymosodwyr eu hunain i fynu, a chymerwyd hwy ar fwrdd Hong Syr Edgar Vincent, rheolydd yr ariandy. Priodolir y gwrthryfel i'r Armeniaid; ac y mae tybiau o bob math am yr achos a gym- he)lodd yr helyntion presenol. Newyddion diweddaraf a hysbysant fod gwrth- ryfel arall wedi tori allan fore Sadwrn. De- chreuodd yr Armeniaid daflu tan-belenau at ffenestri amryw adeiladau, lladdwyd amryw filwyr ac arcbollwyd Ilu eraill. Amgylchwyd y lie gan y milwyr, a chymerwyd chwech o'r Armeniaid i'r ddalfa. Yn ddiweddarach ar y dydd cymerwyd 400 o Armeniaid yn gaeth. Gohebydd arall a ddywed :—Mae rhif yr Armeniaid laddwyd tu hwnt i ddirnadaeth. Yn ystod dyddiau Iau a Gwener, cyfrifwyd cynifer a 145 o droliau a 14 o gerbydau yn llawn o gyrph. Caed deugain o gyrph eraill wedi eu llofruddio mewn twnel, ac y mae'r creulon- derau yn erchyll i'r eithaf. Dywed rhai mai yr Armeniaid ddechreuodd y gwrthryfel gan iddynt gynddeiriogi yn herwydd ymddygiadau y Twrc at eu cenedl yn Armenia ond hyn sydd sicr fod y gyfhfan wedi bod yn arswydus i'r Tyrciaid fel yr Armeniaid.
--0--PWLPUDAU CYMREIG, Medi…
--0-- PWLPUDAU CYMREIG, Medi 6. LERPWL. Y METHODISTIAID CALFINAIDD Princes, rd-Am 10, E 0 Davies, B.Sc., am 6, E Phillips. David street-Am 10, E Phillips, Castellnewydd, am 6, E 0 Davies. Fitzclarenee st-Am 10, L Lewis, am 6, Hugh Roberts. NetherHeM road-Am 10, H Roberts, am 6, L Lewis. rhatham street-Am 1.0 a 6, W 0 Jones, B.A. Crosshall street-ADa 10 a 6, E Jones, Caernarfon. Anfield road-Am 10 a 6. J Williams, Princes Road. Newsham park-Am 10 a 6, J Hughes, M.A. Bootle-Am 10 a 6, G Ellis, M.A. Birkenhead-Am 10.30 a 6. T Gray. Seacombe-Am 10.15 a 6, E J Evans. (-;arston-Am 10 a 6, H Jones, D.D. Rock Perry-Am 10.30 a 6, 0 J Owen, Walton park-Am 10 a 6, W Jones. Waterloo-Am 10 a 6. J Pryce Davies, Caer, HUJjton Quarry-Am 10.30 a 6, John Thomas. Peel road-Am 10 a 6, Thomas Evans. Bolt road-Am 10.30 a 6, T G Roberts, Conwy. Webster road-Am 10 a 6, D T Jones, Manceinion. New Brighton-Am 10 a 6, John Williams, Anfield. West Kirby-Am 11 a 6.30, Yates street-Am. 6 15, E Lloyd. Market street Birkenhead-Am 6, H P Roberts. Brassey street, Birkenhead—Am 6, Mrs Haworth. St. Helens-Am 10 a 6. W Jones [W]. Siloh Whiston-Am 10 30 a 6, S Jones. YR ANNIBYNWYR. Tabergiact-Am 10.30, H P Thomas, am 6, Tawelfryn Thomas Grove st-Am 10.30, D M Jenkins, am 6. D Adams, B.A. Park rd-Am 10-30, D Adams, am 6, D M Jenkins. Great Mersey st-Am 10-30, am 6, KensngtonAm 10-30, R D Jones, am 6, J 0 Williams. Trinity rd Bootle-Am 10-30. J 0 Williams, am 6, R D Jones Marsh lane-Am 10.30 a 6, W V Edwards, Saron. Clifton rd B'head-Am 10.30, P Price, am 6, H P Thomas. Seacombe-Am 10.30 a 6, S Roberts. Vittoria st, B'head-Am 10-30 a 6, L Davies, Corwen, :.|' BEDYDDWYR. Everton village-Am 10 a 6, D Powell. Windsor street-Am 10-30 a 6, W Samuel. Edge lane-Am 2-30 a 6, T Jones, Manceinion. Cavel Seion. Bousfield street-Am 10 a 6, P Jones, Brasenose road, BooUe-Am 10 a 6, J Thomas,Glanwydden. Knowsley Road, Bootle-Am 10, a 6, L W Lewis. Woodlands, Birkenhead- Am 10-30 a 6, J Davies. Y WESLEYAID Shaw street-Am 10 30, T Hughes, am 6, E Humphreys. Boundary street-Am 10.3'\ E Evans, am 6, H Tudor. Trinity road, Bootle-Am 10-30, H Tudor, am 6, E Evans. Edge Hill Plimsoll st-Am 10, E Humphreys, am 6, T Hughes Knowsley road, Bootle-Am 2. E Evans, am 6, G Evans. Wiqan-Am 10.30 a 6, M Watkins. Leigh—Am 10.30 a 6, E T Hughes. St Helen's-Am 10.30 a 5, Cyfarfod Ysgol. Da,ii,en-Am 3.15 a 6, 0 Hughes Tyldesley—Am 2 a 6, E Edwards. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. Sant Devi—Am 10-30 a 6, J Davies. Sa7it Asaph-Am 10.30 a 6.30, E Williams. Sant, Nathaniel-Am 10.30 a 6.30, 0 F Williams. St. Winifred, Birkenhead-Am 10.45 a 6.30. R Edwards MANCEINION. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Aloss Side-Am 10-30, W James, B.A., am 6, W Glynne,* B.A Pendleton-Am 10, E Griffith, Lerpwl, am 6. E J Jones, M.A Heywood st-Am 10. E J Jones, am 6, Edmund Griffith. Higher Ardwiek-Am 10-30, W Glynne, am 6, W James.
Advertising
SEACOMBE Welsh Presbyterian Chapel, LISCARD ROAD. A GRAND BAZAAR tIn connection with the above Chapelt WILL E HELP IN ST, GEORGE'S HALL, LIVERPOOL, THE First Week in December next. CHESHIRE L I N E S. Mae Gwasanaeth Newydd a Gwell o DRENS CYFLYM yn rhedeg yn awr i OGLEDD CYMRU a CHYMYDOG AETHAU y CAMBRIAN. Bydd Lavatory Carriages Dos- barth Cyntaf a Thrydydd yn gysylltiol a'r Gwib-drenau a redant rhwng MANCEINIO ac ABERYSTWYTH fel y canlyn:— Gorsafoedd. Amser. a.m. p.m. Manceinion (Gorsaf Ganol) cych. 11 30 3 30 Stockport (Tiviot Dale) 11 15 3 20 Altrincham a Bowdon 11 45 3 45 Knutsford 11 53 3 53 Northwich 12 2 4 2 Hartford a Greenbank 12 8 4 8 Caerlleon (Liverpol Road) 12 29 4 29 Gwrecsam (Gorsaf Ganol) cyr. 1 10 5 10 Croesoswallt. 2 3 6 5 Trallwng „ 233 655 Dienewydd 2a59 "7 40 Aberystwyth 4 35 9 35 Bermo 50 —— Porthmadog 5 52 Pwllheli 6 25 am. p.m Pwllheli .cych. 10 10 Portbmadog 10 48 Bermo 12 10 1 45 Aberystwyth 12 5 2bl5 Drenewydd la53 420 Trallwng 222 5 5 Croesoijwallt 250 530 Gwrecsam (Gorsaf Ganol) cyr. 3 35 6 15 Caerlleon (Liverpool Road) „ 4 28 7 8 Hartford a Greenbank 4 50 7 35 Northwick 455 740 Knutsford. 5 5 7 0 Altrincham a Bowdon 515 7 59 Stockport (Tiviot Dale) 6 18 8 25 Manceinion (Gorsaf Ganol) 5 33 815 a Arwydda fod y tren yn galw pan fydd gofyn am hyny. b Awst 3ydd i Medi 12fed, yn gadael Aberystwyth 2.30 nawn. Am y cysylltiadau a rhwng-orsafoedd a manylion am drens eraill, gweler taflen amser. Yn Nghymru gofyner am docyn- au ar hyd y ffordd newydd a'r "Cheshire Lines." DAVID MELDRUM, Goruchwyliwr. Lerpwl, Gorph., 1896. CAPEL WESLEYAIDD SHAW STREET. Hydref 10, lh a 12, Gwasanaethir gan y PARCH, a MRS. JOHN EVANS (Eglwysbacl0. Ceir y manylion mewn rhifyn dyfodol. EISTEDDFOD GADEIRIO BIRKENHEAD, Ddydd Llun 11 Pasg, 1897, -tIÍ- Rhestr gyflawn o'r Testynau trwy anfon stamp Ceiniog i'r Ysgrifenydd— ISAAC DAVIES, 6, Fearnley Road, Birkenhead. AFON WEN, CAERWYS.— AR WERTH» PUMP O DAI A SHOP (Rhydd-ddaliadol),— Am fanylion pellach, ymofyner I& Mr. WILLIAM PARRY, Jessamine Cottage, Caerwys. WANTED.—An experienced CLERK, one accustomed to the Publishing Trade pre- ferred. Apply, stating age, salary, &c., to X. Office of this Paper. WANTED—ORGANIST for Welsh Chapel in W Liverpool. State Salary expected, and give references.—Address W.O., Cymro Office, Liverpool.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. (S5eneMaaetbau. GRIFFITH—Awst 27, yn 171, Bedford Road, Bootle,. priod G. R. Griffith, ar ferch. WILLIA:MS-Awst 29, yn 73, Rodney Street, Bir- kenhead, priod David Williams, ar fab. WILLIAMS—Awst 25, yn 6, Darlington Street, Egremont, priod Herbert Williams, ar ferch. WILLIA:MS-Awst 30, yn 174, Grange Road, Bir- kenhead, Annie, priod William Williams, pork butcher, ar fereh. inarwolaetbau. J ONES-A wst 27, yn Llandudno, yn 84 oed, Parch. Thomas Jones, gynt o Genadaeth Gartrefol Lerpwl. OWEN-Awst 27, yn Snowdon Terrace, Llanberis, yn 36 oed, J. H. Owen, M.R.C.S., L.R.C.P. WILLTAMS-Awst 29, yn ei breswylfod, Parkfield, Caergybi, yn 83 oed, Capten Robert Williams, diwedd ar o City of Dublin Steampacket Company Printed and^'ubTished by^SAAC FOULKES, at his Printing Establishment, 8, Paradise Street in the Parish of Liverpool, in the County of Lanoaster.