Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS. ESTATE AGENT, 33, Netberfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Let in various parts of the town, (F Q. H. EDWARDS & Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, H&ve Cottages to LET in various parts of the t vr:, renting from 2/6 to 8/6 per week, clear of 'taxes, Also larger houses at higher rents. H. E. W I LLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT H\g large and a mall Houses To Je- it, various parts of the city aad uburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, Jec (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. AU classes of House and Shop Property carefully and eco- omically managed. Sales and Purchases effected with ■romptifcude. Mortgages arranged and Insurances effected.(F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL. Rents Collected. Mortgages Arranged, TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Company, Limited BT3TLBEB.S, &c.—To be Sold, Freehold and 899 irons' Leasehold LAND, in lots to suit purchasers,in G&rston, IcirkAale, Walton. Bootie, and Seaforth. Liberal advances wHl h" made to Builders. Property letting well in all the to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET & 1) WILLIAMSr .1 :¡10 & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS CF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS Works—TAYLOR t'-T,ce and Office and /IQ2 £ AQA% SCOtlaild Rd. S .o* Roams Ly\jt* -w «+ t, LIVERPOOL. Kitchen Ranges, Cast Iron Gates, and Wat«T G^-esr Houses, and Sanitary Engineers Williams fasent Winding and Adjusting Sue Shaae for Shops &c;, 'Ss&s-* Oven Stocks, Confectioners' Ovens, Cb.a.iwS, box- f Iaa Bars, &c.; all sizes of Gate Runners, &o. IT differs from all other Preparations. It con 1 tains those Medical Agents which STRBiNGTS EN and help the STOMACH to produce sufficient .gastric juice to properly asslimilate £ ood. 3 EN SON EVANS' GA^TROOYNE "'PûR INDIGESTION. Re. in Bottles, 1/H (13 doses); 2/6 (40 doses). TRY ONE BOTTLE. It leads the way in giving the greatest satis- faction for the cure of BILIOUS and LIVER COMPLAINT- Pains after Meals, Heartburns, Flatulency, Belching, and all those ailments which are caused from the one Complaint- I N DIG EST ION. GASTROC VNE strikes at the Root of the evil giving not a temporary but a thorough cure. TRY ONE BOTTLE! BBNSON^JVANB' PINK LIVER PILULES Act like Magic on the Liver & Sidneys, SmeJl 5a g;ze are easy and- convenient to take. Sold in bottles, 74d. (40), and Is lid. (90 Pilules) each. PROPRIETOR- T. 8EIIS0H EVANS, Chemist, Ostibagh., -=, R. W H T G T (-) N) I \j "J,I Tailor § Habit Maker (25 Years Practical Experience 4S? BYU^m STREET, LIVERPOOL. All Garments Cut and Made on the Premises, in well-vautilated Workrooms, Gymrv dewch at Gymro, ,< m$mm yswiri&i Y pruoehtial (CYFYNGEDIG). TEYSOKPA BROS £ 20.000 OOO AGENTS addaa ychwanegol yn eisiau— Y mofyner a J. W. JONSS, Prudential Office Caernarfon Messrs GKIFFITHS&OAVIES, 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz.:— Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— j Milliner y. j L In all these Departments will be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F I papayanni steamship COMPANY. LARGS AND POWERFUL BRITISH STEAMEi- S San vegularly to the LEVANT, BLACK SEA, EGYPT YPRUS, ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Fortg, taking thelfollowing two routes alternately:- (1) MALTA, SYR A.SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and »DES3A. Calling often on the return journey at several "orts on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Suain (21 ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPKU ilKYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at SpanishPorts. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty wei2 •rratilated Saloons and State-rooms. Stewardess carriad. S&fety. Home comforts. Good and liberal table. Modeiate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during zMps'sstiy at Ports. Tourists and pleasoro-gekers taking a trip by this Li»» ill Sr-d it most enjoyable and interesting For further pan.>ci 1M3, apply to PAPAYAN.NI & CO., Konwick Chambers, Liv,(?}>r.r LLINELL Y WHITE ST AH. ROYAL MAIL STEAMERS. LSRPWL I NEW YORK via QUEENSTOWN, BCB DYDD MEROHER:— I M chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithu-yr BRITANNIC Gorph, 14 *MA,JESTIC Gorph. 21 A arwydda y ciudsr yn yr AU Gaban ar y fordaitn P¡is v cludiad yclyw £ 1 5s i £10 yn ol yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lie i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol Usn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn untfurf o ran cynlluri « Ti-efciftdaii, ftc yn ddigyífeIyb mown mordelthiau. Ni cbt-ir g;vell cyaeu.sdfa. i fordoithwyr. Am fanvlion, ymofyner x R. Owen, Ship & I:: sarance Broker, a W. J. Williams, Heol y Farehnad Caeraarfon; neu ii R. Roberta. Bethesda; Owen 1. Parry, masnachydd lleohi, Dolwyddelen; David Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefa R. G oberta .Rock Cottage. Craigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwcfc I W. Williams Shoe Warehouse, Llanrw Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R U T Evans, 1, Nrinafoll, DclgeHy; neu g ISMAY bJ nc &Co., 34, Leade nha Street, Llundsin, E.L., a Water Street, LerpwI. JOHN HUGHES, 0 R SPRING AND SUMMER SUITINGS, SQUARE SHOULDERS A SPECIALITY. 24, OXTON ROAD, iliKEHHEAi, CUT, STYLE, AND QUALITY ALL GUARANTEED MODERATE PRICES. 1/1.129 A'A toeaiB yn unig gan bob -ig^L ;i gan IV, Druggist HDavies vn < "6,».Chemist, Liyerpool M TYSTIOLAETHAU. Dvwed Mr H- A. Evans, Post Office, Treleeh.—" Many in his "pad; say that they have never used anything equal to .Davies's Cough Mixture for Cough and Bronchitis, Dywed Mr E. Davies, Glynarthen.—" Gallaf" rodrli i'ch Cough Mixture y gantcoliaeth uchaf fel meddyginiaeth ar gyfer anhwylderau amrjrwiol y gwddf a'r ysgyfaint." AN WYD.Mr Robert Morgan, 45, Cwmavon Road, ,Aberavo Yr wyf yn eich bendithio chwi am dano. ac y mae wedi gwneud lies anllhraethol yn fy nheulu at anwyd a phes wch." PESWOH AS G-ASTOSIOH.- Dywed Mr David Jenkins, Mus. Bac., Aberystwyth. Having suffered from an irritable Cough last Christmas, I took a bottle of Davies's Cough Mixture, and by the following day I was quite free, and nble to follow my public engagements." PESWOII AR BXiAMT,—Dywed Mr W. Hughes Gol. y Dydd,—" Y mae wedi bod o werth anmhrisiadwy y fy nheulu a bob amser wedi bod yn llwyddianus i wella y Anwyd." Etc dywed Cadvan.—"Yr wythnos ddiweddaf cyraerodd fy neneth hch ocdd dan anwyd cyndyn un o'ch poteli & gwnaeth iddi wir les." INFLUi3 N ZA. -Ysgrifon a y Parch E. W. Davies, Ton Pentre, yn ddiweddar, Gallaf ddwyn tystiolaeth glir i boblogrwydd mawr Hugh Davie*'s Cough Mixture, ac i dder byniad lies neillduol fel siaradwr cyboeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd i'w werth- yr adeg hon gyda'r haine- infil1enz9. Dywed y Parch Ll. B. Roberts Caernarfon,- Dan ochain anwyd yn lungs Yn rhyw lesg weithredu: Mwy cais trwy y Cough Mixture ci, Oes o iechyd ddi-besychu." ¡ PSIDIWOH I Cymeryd eich twyllo gan unrhyw efelchiad o '?7? DAVIES'S COUGH MIXTURE Y mae ilu yn y farehnad. GOPALWCH Fod y Trade Jfark Uchod yn y golwg. m Y w ("I H Y Real Thin'i-DAYIKS'S COUGH MIX TURE, parotoedig gan HUGH DAVIES, Fferyllydd, Machynlleth, BRYBIWOH I geisio potelaid gaa y FferyHydd nesaf ateck, cyn 1 Anwyd fyaed yn waeth.
HELBULON ANEURIN HYWEL.
HELBULON ANEURIN HYWEL. [Gan AP CYFFIN,] PENNOD I.—RHAGYMADRODD. MEWN tyddyn bychau o'r enw Pantyfotty, yn ngodrou Mynydd Hiraethog, y ganwyd Aneurin, arwr yr hanes canlynol, a'i rieni yn bobl barchus. Y r oedd ei dad wedi cad rhyw ychydig o addysg gwlad, ac yn dra awyddus i'r plant-dau fab ac un ferch-gaelllawer mwy nag a gafodd ef, os byddai arwyddion dysgu arnynt; ac o'r herwydd, fe'u gyrwyd i ysgol ddyddiol y plwyf. Buan y canfu'r ysgolfeistr fod talent yn Aneurin, y mab hynaf er nad yn ysgrifenwr da, rhagorai mewn rhifyddiaeth ar bstwb yn ei ddosbarth. Araf oedd gyda'i Saesneg ond prin y gallesid rhoi sym rhy ddyrus iddo. Bi6hgen direidus ond o duedd gsr- edig, wrol a dewr, ydoedd, a chynyddu gyda phobpeth yn naturiol iddo. Tynwyd et allan o'r yagol pin oddeutu deuddeg oed, a chan nad oedd dim ar ei gyfer mewn ardal wledig felly ond amaethyddiaeth, gorfu iddo fyn'd yn fugail defaid am rai blynyddau wedi gadael yr ysgol, er yn groes i'w e-vyllys, oblegyd teimlai nad oedd hyny o addysg a gaws-i o netnawr les iddo yn y cylch hwaw, a'i fod hefyd mewn perygl o golli ac annghofio yr hyn a ddysgasai, o ddiffyg mautais i'w roddi mewn ymarferiad. Fel pob bu- gail ar g^r Mynydd Hiraethog, yr oedd raid iddo yntau gadw defaid yn eu "cynefin yn yr haf- gwaith a gashai a chas perflaith oedd hwn. leiml- ai ei hunan fel alitud o olwg pawb ar ganol y myi ydd, nas gwelai wyneb dyn feallai am fis o amser, fel meudwy yn nghanol cyfandir eang o rug, heb ddim i dori ar y dystawrwydd ystyriol a'r unigedd dyeithr ond bref y defaid, ac ambell gornchwiglen yn gwaowar ei fywyd mynyddig. Yr oedd yr elfen gymdeithasol mor gref yn An- eurin fel nad allai ddygymod o gwbl a byd a byw- yd o'r fath. Teimlai'r cylch yn Ilawer rhy gyfyng i ateb dyheadau ei galon-prinder amrywiaeth mewn bywyd-prinder manteision addysg, a phrin- der cyfleuaderau o bob natur i ddadblygu ei dal- entau. Dylid dweyd fod cyfaill calon i Aiieu-rin (set mab yr Hendrefawr) wedi myned i Lundain, a chlywai nddiwrtho yn fynych, a phob llythyr a ddelai oddi- wrtho yn rhoi gwedd ddisglaer iawn ar fywyd yn y trefi mawrion, gan ddangos gymaint mwy pieserus yw yn irihob ystyr na bywyd difywyd canol gwlad. Dylanwadai'r nailllythyr ar ol y llall yn gryf ar Aneurin, nes o'r diwedd y penderfynodd newid ei fyd yntan. Y mae'n siarad a fo'i hun ar ganol y mynydd fel hyn, Pa les i mi aros yn hwy yn y fangre anaifyr hon, tra mae erail!, wedi cael l!ai o fanteision na uii, yn dod yn mlaen mor ragorol yn Lloegr ?" Y syniad o adael ei gartref bellach yw'r uchaf ar ei feddwl, a phenderfynodd fyn'd i Fanceinion. A phan wrsai Aneurin ei feddwl i fynu yn nglyn ag unrhyw beth, nid oedd dim a allai ei droi yn ol. Bu'n dyfalu a chynlluuio lawer dydd a nos pa But i ddatguddio ei fwriad i'w dad a'i fam. Beth bynag, un boreu wedi boreubryd, torodd drwodd gan osod y peth o'u blaenau yn y dull y tybiai fuasain llwyddianus, Hythryblwyd y ddau yn ddirfawr pan ddeallasant fod eu bachgen ar fedr eu gadael. Yn wir, ni allent roi ateb o gwbl iddo ar y pryd ond bore dranoetb gwelodd An- eurin wawr gobaith yn ngweddi'r tad wrth gynal dyledswydd, Erfyiiiai am gyfarwyddyd iddynt fel teulu yn y cyfwog a chyn i Aneurin droi allan at waith y dvdd, dywedai'.? tad ei fod ef a'r fam wedi bod yn dwys ystyried y mater ar hyd y dydd o'r blaen, ac heb gysgu ond ychydig y noson gynt, ac nas gwyddent yn sicr beth i'w ddweyd wrsho, Gwyddent mai rhagolygon digon tywyll oedd iddo yn yr ardal i eniil unrhyw shtle o werth ac o'r ochr arall, gwyddent fod temtasiynau a hudol- iacthau trefi ITIawr Lloegr yn gyfryw fel na buas- ent byth yn gallu maddeu iddynt eu hunain am ganiatau iddo fyned pe digwyddasai iddo syrthio i brofedigaeth. Yr oedd Aneurin yn dipyn o fardd-yn wir, y goreu yn y fro. Meddai chwaeth naturiol at y pert-yn eirliwydd rhagorol, ei lon'd o arabedd, a gwyddai, wedi iddo gael ei dad i ysbryd gwrando, y gallai ei droi bron fel y dewisai. "Gwyddoch, nhad," meddai, "yr aiff y tipyn dysg a gefais gcny;h oil yn ofer, a minau mor aw yddus i fyn'd yn mlaen ao i ddysgu rhagof, a gel!- < weh bendevfynu y bydd i mi edrych yn fwy dyfal nag adref o lawer am gadw fy hunan yn glir oddi- wrth demta8?yna-u pan af i Fanceinion. 'Rwy'n teimlo'n sicr y llwyddaf yno, ac yn addaw cyn aychwyn nad annghofiaf mohonoch yn eich hen- aint; ond beth bynag fydd fy Ilwyddiant i, y cyf- ranogweh chwitliau ohono," Rhwng bodd ac anfodd, y maent yn riiy-v led addaw psidio sefyll ar ei i-vybr, ac mae Aneurin yn gweled mai goreu cyntaf iddo fyned, o ran eu teirnkdau, a phenderfyna fynsd y bore Lion canlynol, a chyr-ghora i deulu'r ty beidio son wrth neb, am y gwyddai y buased hwn a'r liall, wrth ymddiddan a h.wy am hyny, yn eu digaloni yn fwy, ac yn dyblu ei aohawsderau yntau i gvchwya. Perthyna.i'r tenia i gapel Nebo—capel bvchan yn sghesxii y bryn. Colled fawr fyddai colli neb o eglwys mor iechan a Nebo., fel y gellir tybio, lie anhawdd dosgrifio y golled o ymadawiad' bachgen ieuaac mor addawol o'r IIE). Byddai yr addoldy byc-han hwn yn orlawn o wrandawyr, fel rheol, bob nos Sul-gwrandawyr a fwynhaent bregeth os byddai defnydd mwynhad ynddi o gwhl. Nid oedd yr Amen wedi myned o'r ffasiwn yma ac nid acfynych y byddai'r gair "Gogoniant" yn cael ei seinio fel cloch arian dros y lie o er.au am- bell hen riristion Y nos Sul canlynol yr oedd y Parch, Timothy Jones yno'o pregethu. Pregethwr rhagorol oedd Mr. Jones pan y c'ai hwyl—llais da, ardduil swyn- ol, a dawn traddodi hynod o effeithiol. Yr oedd yn feistr trwyadl ar ei gynuileidfa, ac yn meddu ar ddigon o graffder i wybod ansawdd chwaeth a chyrhaeddiadau ei wrandawyr—yn fardd a cherdd- or gwyeh, ac yn Jediwr penill heb ei fath. Gwyddai "nod angen" emyn, a chodai hwyl mol- iant yn ei wrandawyr yn wrth ledio penill weithiau trwy godi ei lais wyth dwbl (double octave) —fel y gwnai y diweddar Hybarch D. Davies y Bermo gynt, pan fyddai'r mypegiant yn galw am hyny, raegys vn y penill hwnw — Deg a thrigain saith o weithiau, Dynt rif na dderfydd byth Maddeu'r hwyr a maddeu'r boreu, Maddeu beiau rif y gwlith. Ac yn y fraich a'r llinell olaf taflai ei lais treiddgar wythawd yn uwch i ddweyd :— Mawl a seinia Trwy'r holl nefoedd fawr am hyn, nes gwefrio pawb a'r swyn a'u codi i dymher canu ac felly y bu hi yn yr oedfa hon-yr oedd rhyw naws nefolaidd yn cydfyned a phobpeth drwy'r gwasanaeth. Nid oedd neb ond teulu Aneurin yn gwybod ei fod ar ymadael i Fanceinion hyd nos Sul, a chyn yr oedfa aeth Aneurin ei hunan i dfr capel i hys- bysu Robert Pugh, y prif flaenor a'i athraw yn yr Ysgol Sul, yr hwn a ofidiai yn fawr glywed y new- ydd ac yn y seiat ar ol y bregetb, y mae Robert Pugh yn galw ar y gweinidog i wrando ar y plant yn dweyd eu hadnodau, ac yn apelio atynt hefyd i aros hyd y diwedd, fod ganddo rywbeth i'w hys- bysu oedd yn rhwym o fod yn ofid i bawb ohonynt. Yr oedd yr aelodau yn methu dyfaiu beth oedd yn bod. Gwelid fod Mr. Pugh yn teimlo'n ddwys oddiwrth yr hyn oedd ganddo i'w ddweyd, ac wedi i Timothy Jones wrando'r plant mae Robert Pugh yn eu cyfarch gan ddweyd Anwyl frodyr a chwiorydd, 'rwyf yn sicr y byddwoh oil wedi eich taro a syndod ac a gofid glywed fod ein cyfaill ieuanc Aneurin Hywel yn bwriadu ein gadael. Y mae wedi penderfynu myn'd i Fanceinion. Yn wir," meddai, nid allaf weled bai arno mewn un ystyr, nac ar neb arall, am fyned o ardal mor dlawd i le gwell, os bydd ei ddyben yn onesb a dyrchafedig eto, rhaid i ni addef fod colled fel hon yn achosi gwendid yn ein heglwys fach a'r Ysgol Sul, a chwith iawn genym fydd colli Aneurin o'n mysg y mae'n hynod ofid- us genyf fi ei golli o'r dosbarth. Feallai y bydd Mr. Jones mor garedig a rhoi gair o gynghor iddo." Cododd Mr. Jones ar ei draed a dywedodd ei fod ef yn cydymdeimlo a hwy fel eglwys yn eu proreaigaetn o golli brawd ieuanc mor da,lentog- un a fuasai yn ddiau yn fuan yn dod yn ddefnydd- iol yn yr ysgol a'r eglwys; ac wrth gyeghori An- eurin dywedai Wei, machgen i, cofia dy wlad, dy iaith, dy gyfeillion, dy berthynasau, dy Feibl, dy gymeriad, a dy Dduw. Ymwregysa a'r arfog- aeth ysbrydol, bydd ddewr i ymiadd temtasiynau, a chofia y byddant yn cael eu chwanegu ganwaith drosodd yn y ddinas fawr a phechadurus yr wyt yn myned iddi rhagor bywyd canol gwlad neu fywyd didramgwydd bugail ar lethrau Hiraethog. Byddi yn byw mwy mewn blwyddyn yn Mancein- ion nag a allet wneud mewn oes feehan mewn ar- dal fynyddig fel hon. Bydd yn fachgen dB; bob amser ae yn mhob man, a phaid byth ag annghofio dy rieni. Y sgrifena adref bob wythaos. Cofia am eu pryder yn dy gylch a phe b'ai rhywbeth yn digwydd yn dy hanes, fel yn banes amryw, ysy. waeth, wedi gadael cartref. annhe.lwng o'th gar- tref a'th rieni, cred fi y byddai ergyd o'r fath yn ddigon i'w gyru i'r bead yn anamserol yn dy gylch. Er mwyn y nefoedd, cadw dy gymeriad yn lan." Cafodd cynghorion Mr. Jones argraph ar bawb yn y lie, a thrwy'r syndod a phobpeth eollwyd llawer deigryn yn y seiat hono. Nid oedd neb oddigerth ei fam o dan fwy o ddwysder teimlad nag Aneu, in ei huu. I Fel y dywedwyd, yr oedd i gychwyn i Fancein- ion boreu dranoeth, a mynai ei dad a'i fam ddod i'w hebrwng i Lanrwst at y tren. Mawr fu eu siars iddo ar hyd y fifordd am fod yn fachgen da, ac am iddo gofio'r cynghorion gwerthfawr oedd wedi gael y noson gynt gan Timothy Jones ae eraili, ac am iddo gofio anfon llythyr y noson hono i ddweyd ei fod wedi cyrhaedd yn ddyogeL (I barhau).
o Nodion Amaethyddol,
o Nodion Amaethyddol, [Gan FAB Y TYDDYN ] ARDDAISTGOSFA MANCEINION. PRIF amgylchiad y dyddiau diweddaf i amaethwyr ydoedd Arddangosfa Frenhinol Manceinion, a hyfryd oedd gweled cynifer o Gymry yn feirniaid ac yn perchen anifeiliaid a ddangosid ynddi. Gan Gymro—Mr Green, Trallwng, yr oedd yr ystalwyn goreu ar y maes, ac iddo y dyfarnwyd cwpan arian y Gymdeichas. Rhoddir gair uchel hefyd i'r gwartheg duon Cymreig, ac fel arfer bu'r Mil. Platt yn dra llwyddianus gyda'i eiddo ef. Mr Williams, Gwerclas, Corwen, oedd y ma,gwr defaid Cymreig goreu; a chan mai Cymraes, sef Miss Roberts, Ysgol Laeth Lleweni, oedd yn arolygu y lkethdy a'i offer yn vr°arddangos?a, (a cheir darlun o'r foneddiges fedrus yn yr Agricultural Gazette am Mehefin 28) y mae gan Gymra le i ymfalehio am y rhan amlwg a gymerodd yn yr arddangosfa eleni. Hysbysir fod dros 73,000 wedi ymweled a'r maes y dydd yr oedd Due Yore yno. SAFNRWYMO OWN DEFAID. Fel cwa eraill rhaid rhwymo safnau neu roi mwshel "-ar gwn defaid. Gan fed y own hyn yn gyifredin mor ufwdd ac addfwyn, teimlai rhai y dylent fod yn eithriad i'r ddeddf, ac y dylid rhoi cyfle iddynti agor eu'safnau'n sYJl" pan y gwelenfc arnbell hen fyharen yn chwareu mwy o branciau nag y gweddai iddi. Yn Nhy'r Cyffredin nos Lun daeth y cweatiwn gerbron, a dywedodd Mr W. H. Longv Llywydd Bwrdd Amaethyddiasth, fod ym- chwihadau neillduol wedi eu gwneud, ac nad oedd dim annghyfleusdra yn cael ei achosi trwy safn- rwymo cwn defaid tr,Ù1 gwneud eu gwaith. CEFFYLAU. Yn ystod pam' mis cyntaf y flwyddyn hon, anfonwvd 12.802 o geffylau o'r wlad hoc. Aeth 7.090 i Belgium, 2,731 i Holland, 1,948 i Ffrainc, a 1,033 i arnryw wledydd eraill. Acfonwyd ymaith o'r Unol Daleithiau, 1(5,487 05; a 4,593 o wledydd *-railI. Gwerth y ceflfylau atfor- iwyd yma ydoedd 598,035p. RHAGOLYGON Y CYSHAUAF, A barnu oddiwrth y rhagolygon presenol, ni bydd y cyahauaf :vd yn eithriadol drwm, ond credir y cyrhaedda gyfartaledd blyn- yddau blaenorol, Ceir cnwd toreithiog o wair, ac y ma,o'l' gwraidd-gnydau'n addawol iawn. Ar y cyfan bydd y cynhauaf yn dra chynyrchiol. Oherwydd y gwlawogvdd trymion diweddar, a'r ffaith fed y tir yn gynns, tyfa'r cnydau yn gyflym. ABYSSINIA. Dyma wlad braf i fyw yuddi. Cynyrcha ddigon o ymborth i gyfleawi rheidiau ei holl drigolion. Aeth gohebydd o L^egr yno yn ddiwfddar, ac wrth ysgrifenu hanes y wlad, dywed mai rhadlonrwydd pobpeth yw'r nodwedd amlycaf ynddi. Fel prawf 0 hyny dyry y rhestr ganlynol o brisiau —Ieir, 10 am geiuiog; Haeth am ddim ond gofyn am dano I ymenyn, tua 3 y pwys dafad dda, o haner doler i dair doler; gwartheg, tair doler ceffylau, tair I doler; mul da, 10 i 50 doler; haidd, 14s 6c am 2,250 pwys gwenith yn rhatach na hyny py- I tatws, Jo y pwys geifr, dwy ddoler coffi, 10 i 22 2 pwys am ddoler.