Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Yr India.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yr India. DYWEDIR fod y ddaeargryn ddiweddar wedi gwneud difrod ar eiddo y Genhadaeth Gymreig yn Mryniau Khasia i'r swm o tua deng mil o bunau a chynaliwyd cyfarfod prydnawn ddydd Mercher yn nghapel Crosshall Street i dderbyn addewidion tuag at adgyweirio y golled. Unwaith yn rhagor y mae rhanau helaeth o r wlad fawr a phoblog India yn berwi drwyddi gan anfoddogrwydd, a hwnw mewn man neu ddau wedi tori drosodd yn wrthryfel. Yn ol y newyddion diweddaraf, nid oes lai na chwe chant o'r brodor- ion wedi colli eu bywydau. Achos y cythryfwl yw ymyriad y Saeson ag arferion crefyddol y brodor- ion—arferion, medd meddygon, sydd yn gyfrifol am y pla erchyll fu ac sydd yn anrheithio yn y wlad. Ond yn ol papyrau India, bu'r Saeson yn annoeth gyda'r modd o symud yr aflendid defodol, ac yn greulawn erchyll mewn rhai amgylchiadau. Enynasant ragfarn a dygasedd y bobl, ac y mae ami un ohonynt hwythau wedi syrthio i gynddaredd y brodorion. Ofnir nad yw'r drwg ond dechreu.

Cyfarfod Croesawu y Parch…

-0-ftfar&hrmdj&edd.

[No title]

Lleol

MANCEINTON.I

Yswiriant ldeniadol.

Y OARTREF A'R

Advertising

Family Notices