Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Cardd y Cerddor.j

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cardd y Cerddor. j CYMA-NFA ganu fendigedig gaed yn Nghaernarfon I Gorph. 1 gan y M 0., meddai cyfaill i mi fu yno- torf enfawr o gantorion, y lleisiau'n rhagorol, a'r brwdfrydedd wedi codi'n ben llanw." Cynorth- wyid gan gerddorfa yn rhifo tua 115, tan arwein- iad Mr. Torn Shaw, a llywyddid yr oil gan Mr. D Jenkins. Nid ydym yn rhyfeddu dim at y llwydd- iant mawr hwn yn Arfon. Fisoedd yn ol, tra'n gwrando ar nifer cydmarol fychan yn parotoi at yr wyl hon, svnwyd ni'n fawr gan yr ymroddiad a ddangosid, y pwyntiau uohel a gyrhaeddwyd, a'r feistroiaetfi gmpu8 a geid gan y cantorion ar eu gwaith. A ph rvfedd ? Nis gellir myned trwy nemawr ardai na phentref heb deimlo ein bod mewn awyrgylch gerddorol. Nid oea odid deulu nad oes rhywun ohono'n gerddgar, a chenir yn mhob man- yn y ty, ir y ffordd, yn y chwarel, yn y tren, ac yn y gwely. Ddydd Mercher, Gorph. 7, cynaliodd M.C. Dos. barth Treff^non, eu cymanfa ganu hwythau, tan arweiniad MTom Price, Merthyr. Caed cyfar- fodydd llwyddianus a chanu da. Nid oedd dim newydd yn v rhaglen eleni ond dwy d6n gan ein hen gyfaill awengar Mr. Japheth Jones, Chwit- ffordd. Pa ddewin all ddehongli y dyfyniad canlynol o Adroddiad Cyfarfod Misal Dyffrvn Clwyd a gynal- twyd yn Niubych Hysbyswyd y cynelir arhol- iad cerddorol y Cyfarfod Misol yn ystod mis Hyd- ref nesaf, a chytnhellir yr eglwysi i barotoi ar ei gyfer." Colegau ac athrofau sydd wedi bod yn cynal arholiadau cerddorol yn y gorphenol, nifer gydmarol fychan o ba ral a feddant awdurdod freiniol i gynal y cyfryw tra ar y llaw arall ceir nifer luosog o "limited companies," gyda theitlau cerddorol rhwysgfawr, yn cario arholiadau yn mlaen gyda'r amcan o wneud arian. Nis gall y Cyfarfod Misol fod y naill na'r llall. Sylwer eto ar yr adran olaf, sef "cymhell yr eglwysi i barotoi ar ei gyfer." Yn sicr hefyd, os nad oes rhyw gam- gymeriad, dyddorol fyddai cael manylion y symud- iad, cynllun, neu y gyfundrefn hon yn neillduol felly os yw yn werth ei efelychu mewn cylchoedd eraill. Beth yn y byd mawr ydyw amcan offerynau cerdd mudion ? Nage, ddarUenydd hynaws, nid math newydd o offeryn yw hwn, nid dyfais ddi- weddar mohono: mae rhai canoedd ohonynt yn ein dinas ni, a chanoedd ychwaneg ar hyd a lied Cymru-nid cymaint, hwyrach, yn y wlad ag yn y trefi. Ychydig sy'n meddwl er's blynyddau bellach am ddodrefol1 eu tai, neu o leiaf yn foddlon bod, n y ty yn hir, heb gael rhyw fath o offeryu cerdd. Onid yw perdoneg neu American organ vn ddod- refnyn mor hardd, wyddoch, ac onid yw'n edrych yn foneddigaidd cael ua yn y ty ? Gwyddom am rai dwsinau na chawsom erioed y fraint o glywed en lIais-os braint hefvd, hw.vrach mai trugaredd &'n cyfansoddiad egwan yw fod eu llelsiau rhydlyd ac atmghydsain yn ddystaw tra byddom yn eu pres- enoldeb, oherwydd gan mai fel addirn yr edrychir arnynt, ni feddylir am gywiro eu tonyddiaeth yn anolach na phob blwyddyn, ac ysywaeth fwy na hyny. Er yr holl gyflawnder o offerynau a geir, an- hawdd, os nad anmhosibl yn fynych, cael neb i chwareu ton syml mewn ami gyfarfod yn y capel na'r Ysgol Sul. Ewch i mewn i rai o'r t&i hyn ar ymweliad, ac eisteddwch yn nghanol y teulu- hwvrach i ymgomio am hyn a'r Hall, nes dihys- byddu newyddion y dydd os o duedd gerddorol, trowch at y creadur sydd yn yr ystafell, gan ddv- muno ar rai o'r plant, neu rywun arall fyddo'n bresenol, symud ychydig ar ei ddanedd fel y delo swn allan ond yr esgusion glywir I Na wir, cheir dim allan ohono, os na cheir gan y plentyn ieu- engaf ddigon o ddewrder i dincian y "Maiden's Prayer neu y Mariner's Hymn i chwi, a dyna chwi ar unwaith yn gofidio yn eich calon fod offer- yn o fewn can' milldir i chwi. Rhaid fod rhyw gyfrif am bethau fel y maent. Os na chamgytnerwn, yr hyn a rydd gyfrif am amlder yr offerynau mewn tai ydyw ffasiwn- rhaid i fawrion ein gwlad gael offerynau i'w tai, o'r rhai y gwneir mwy neu lai o wasanaeth gan hyny rhaid i'r bobl gyffredin efelychu'r rhai hyn yn ym- ddangosiad y peth. Hyd yna mae rhai yn foddlon 1-1 Myned, ond a, eraill gam yn mhellach, ac anfonant eu plant i gael gwersi sut i drin yr offeryn. Yr a.mcan yn hyn eto ydyw efelychu eraill. a cheisio ynddangos yo foneddigaidd i'w cymydogion. Ychydig ystyriaeth a roddir i ddewisiad o ath- raw; chwery y cwestiwn o dAl lawer mwy a'r dewisiad na'r cymhwysder, ychydig hefyd o ddy- ddordeb a gymerir yn y modd yr addysgir yr ef- rydydd. na pha fodd y mae yn dod yn mlaeri. An. arnl iawn yr ystyrir cerddoriaeth a gwybodaeth ,v gerddorol yn fuddiol i ddyfodol y plentyn, ac fod bYWYd yn llawer hapusach a gloywaeh tan gysgod anteH cerdd Oriau hamddenol yn cael eu llanw a rhywbeth rydd gysur, moesau yn cael eu dyrch afu, crebwyll yn eangu, deall yn helaethu, blinder corphorol yn cae! ei ymlid, yr ysbryd yn gloywi ac yn bywiogi, yr enaid yn ymgodi, ac yn ymdebygu r Vyfrin Anweledig. STRADELLA. :0:

Advertising

Priodas Mr J. Herbert Lewis,…

: o j Gyfarfod Misol Liverpool.

0; Cwrelohlon.

[No title]

Advertising