Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

--0--Y Pregethwyr Cymraeg…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Y Pregethwyr Cymraeg mwyaf Poblo^aidd- YR ydym heddyw yn gallu nodi canlyniad llais y wlad a gymerasom ar gais blnedd wr o'r America, nad yw yn ewyllysio i'w enw ynl- ddangos yn bresenol. Daeth nifer anferth o enwau i law—yn rhywle rhwng deg ar hugain a deugain mil ond, wrth rheswm, yr oedd yr art enwau yn cael eu nodi gan ganoedd. Dyma'r rhai a gafodd fwyaf o bleidleisiau (wedi eu dodi i lawr yn ol trefn y wyddc r):— Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Edwards, Prifathraw T. Charles, M.A., Bala. Prythercb, Parch Wm., Abertawe. Williams, Parch John, Princes Road, Lerpwl. ANNIBYNWYR. Lewis, Parch Elfed, Llanelli. Nicholson, Parch W. John, Porthmadog. Owen, Parch 0. R., Glandwr. WESLEYAID. Evans, Parch John (Eghvysbach), Pontypridd. Hughes, Parch Hugh, Caernarfon. Jones, Parch Hugh, Birkenhead. BEDYDDWYR. Davies, Parch Charles, Caerdydd. Jones, Parch E. T., Liwynpia. Parry, Parch Abel J., Cefnmawr. EGLWYS LOEGR. Davies, Canon E. T. {Byfrig), Pwllheli, Deon Tv Ddewi (y Parch D. Howell, Llawdden) Esgob Ty Ddewi (y Parch John Owen). Gwaith llafnrfawr oedd dyfod o hyd i'r enwau a gafodd fwyaf o bleidleisiau, ac wed'yn dod o hyd i'r rhestr oedd yn cynwys enw y pymtheg gafodd y nifer luosocaf o votes a dy- munem ddiolch i Mr Llew Wynne, ac eraill, am eu help. Ni ddarfu i gynifer ag un o'r ymgeis- wyr nodi pob un o'r pymtheg enw uchod ond nododd deg ohonynt bedwai, enw ar ddeg. Nid yr un pedwar ar ddeg a nodir ganddynt oil, ond nid oes yr un o'r rhestrau hyn heb enwau y Parchn J. Williams, Princes Road Elfed Lewis J. Evans (Eglwysbach), Hugh Hughes, a Hugh Jones E. T. Jones, Llwynpia a Deon Howell. Enwyd tri ar ddeg yn gywir gan oddeutu haner cant, denddeggan gynifer bed air gwaith, ac felly yn mlaen-y nifer yn amlhau nes dyfod i naw neu ddeg, ac yna yn lleihau nes dyfod i'r nifer o tua chant na enwasant ond un o'r pymtheg a nodir uchod. Nid oes brin ddeg o'r ymgeiswyr na nodasant un nen ragor o'r pymtheg. Dylem hefyd ddweyd nad oedd hyd y gallwn gasglu yr un cellweirydd yn y gysted- lenaeth-yr agosaf at byny oedd yr un a enwodd y Tad Ignatius yn un o'r triphregethwreglwysig mwyaf poblogaidd yn Nghymraeg. Y mae mwy o amrywiaeth barn gyda'r Anni- bynwyr a llai gyda'r Wesleyaid, nag yn mysg y lleill. Gyda'r olaf, y mae agos i dri chwarter yr ymgeiswyr wedi nodi y tri enwir uchod. Yr enwau neu'r ffugenwau sydd wrth y rhestr- au yn nodi 14 ydynt H. D., Northbrook Street Llongwr o Fon; Aderyn T6; H. Roderick, lieol uniawn, Aber- tawe; Rhosyn y Rhns; Liuniedydd Lleyn, Brine ditch W. C. Jones, Oswestry Un o wybed Mawddwy; Robin Ddu Ddewin; Meirioa- fab, Scranton. Rbwng y deg hyn y rhenir y £5 ac os dan- fonant eu henwau priodol, a'u cyfeiriadau yn gyflawn danfonir i bob un ei gyfran. Hyd y bo modd, danforer y llythyrau hyn yn yr un llaw- ysgrif a'r ymgeisydd.

-----0--0 Odreu r Aran.

Y Ohwarelwyr a'r Clowyr.

--0--Cohebiaethau.

Advertising

Llythyr Watcyn Wyn,

-,)--Barddoniaeth.

CWRS Y BYD.