Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o Fon ac Arfon

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion o Fon ac Arfon Al AE'.N dda genyf gael y cyfle i longyfarch Sein- dorf Naotlle ar eu lJwyddiant yn y gystadleu- aeth fu'n yrnyl Gwrecsam ddydd LInn. Yn ys- tod yr wythnosau diweddaf maent wedi enill arian lawer. Feallai fod Seindorf Llan Ffestin- iog wedi chwythu gormod yn eu hudgyrn wrth gyhoeddi'r E steddfod ddydd Sadwrn, ac fod hyny yn cyfrif i raddau am iddynt golli'r brif wobr y waith hon. Y dydd o'r blaen yr oedd dau aelod o Gyng- hor Trefol Caernarfon yn pleidgeisio tros un o'r ymgeiswyr am y sedd wag. Yr oedd yn rhyfedd genyf eu gweled—un yn Rbvddfrydwr a'r llall yn Dori. Betb oedd yn cyfrif am hyn, tybed ? Os etholir y gwr, cawn weled gyda pha blaid y cydweithia ar y Cynghor. Bu'r Parch. D. S. Davies, Caerfyrddin, yn y cylcboedd yma'r wythnos hon yn gwerthu ei lyfr ar Fedydd. Gwerthodd infer dda. Ddydd Sul yr oedd cyfarfod pregethu Silob. Gwaaanaethwyd gan y Parcbn. William Jones (Trawsfynydd gynt) Abraham P.)berts, Llun- dain a Moelwyn Hughes, Aberdyfi. Cafwyd oedfeuon hyfryd. Pregethai y ddau olaf i dyrfa fawr yn Moriah nos Lun. Peth cyftredin yw gweled pregethwyr fel yn ymdrechu pa un i bregethu gyntaf. Dylent benderfynu o'r gol- wg, ac nid gerbron y gynulleidfa. Y mae'r hen frawd anwyl y Parch. W. Lloyd, Caergybi, wedi gorphwyso oddiwrth ei lafur. Pregethodd yn gymeradwy am oes faith. Bu hefyd yn gofrestrydd priodasau. Dywedir ei fod wedi priodi dros 900. Yr edd wedi rhoi'r swydd hono i fynu er's amser, a'r Parch. R. ,P. Williams wedi ei ethol iddi yn ei le Bydd cyf- rifoldeb ofoadwy ar R.P. os y prioda gynifer a'i ragflaenydd. Bu aelodau Bwrdd Ysgol Caernarfon yn es- bonio yn mhlith eu hunain paham yr etbolwyd Sais ganddynt yn lie Cymro. Pe buasent heb gondemnio eraill am yr un trosedd, buasai yn haws maddeu iddynt o'r haner. Bll nifer o lanciau Eryri drosodd yn Mon yr wythnos hon yn parotoi i fyned gyda Chor Caer- gybi i Gasnewydd. Mae'n anturiaeth fawr, ond cyfrenir yn galonog i'w cynorthwyo, a dymunir eu llwyddiant. Deallaf fod gweithwyr Chwarel Bryn Hafod y Wern wedi ail ddechreu gweithio. Da awn. Mae amryw o chwatelwyr Bethesda yn myn'd o gwmp-ts i werthu llyfrau, te, &c., ac yn cael cefnogaeth dda. Ond y maent yn cyfarfod a phrofedigaeth i'w teimladau weithiau. Aeth un i geisio gwerthu llyfr at wraig weddw arianog, ac yr oedd hi'n myn'd i bryou'r llyfr pan yr ym- yrodd gweinidog ac y dywedodd, Mae'r Myfr gen i, a chewch hwnw am ddim." Felly atal- iwyd gwerthiant y llyfr yn yr amgylcbiad hwn. Ymddengys fod yn well ganddo gael arian na llyfrau ar ol y weddw. Mac wedi dwyn llyfrau allan ei hun cyn hyn, ac mae'n ddigon tebyg na charai efe i neb geisio atal eu cylchrediad. Live and let live." Nos Sadwrn. OBADIAH DAVIES. CAERNARFON.—Ddvdd hn rhoddoddyr Hen adur M. T. Morris, Y.H. (Mri. Morris a Davies, Kelson; fordaith i'w wasanaethyddion yn ngydag ychvaic gyfeillion-tlla 95 o gwbl i r Belan, sef caerfa'r Anrh. F.G. Wynn, Glynllifon, a. saif ar drwyn deheeol y fynedfa o'r Fenai i Far Caernarfon. Llogwyd yr agerlong Arfon, a red rhwng Arfon a Mon. Gan fod gwelliantan yn myn'd yn rnlaen ar hyn o bryd yn y Belan, rhoed ffermdy'r Warren gerllaw at wasanaeth y cwmni. Trodd y tywydd braidd yn anffafriol, ond llwyddodd pob un i wneud ei hun yn dded- wydd, er mai hoewal, ystablau, cytiau Hoi, &c., oedd cynullfan ami un, tra pawb yn ei dro yn ymweled ar ffarmdy a manau eraill i yraosod ar y lluniaeth danteithiol osodwvd ar y bvrddau. Yr oedd Mr. Morris a'i ferched yn gwyli-d fod pawb yn cael ei wala, tra yr oedd boned-iigesau ieuainc y siop a bechgyn y countars yn sicrhau na chai yr un cwsmer fyned ymaith yn wag ei gylia ac ansiriol ei feddwl. Mwynhawyd y prydnawn gyda chanu a difyrion eraill. Ar y Hong wrtb ddychwelyd cynaliwyd cwrdd diolcb, pcyd y cydnabyddwyd caredigrwydd Mr. Morris a'r teulu bob amser, yn enwedig ar yr achlysur presenol. Wrth ateb, ymfalchiai Mr. Morris fod ganddo yn ei wasanaeth rai fu yn y He yn ddidor am 12, 18, a 25 mlynedd.

[No title]

MYNED I NEWID AWYR.

Ffestiniog.I

--0--Prif Weinidogion y Trefedigaethau…

[No title]

Dathlu'r Jiwbili yn y Corliewin…

--:0:--Dyffryn Clwyd.

Y DON ASSOCIATION