Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

If R WYL CENEOLAETHOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

If R WYL CENEOLAETHOL. YR wythnos nesaf, cynelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nghasnewydd-ar-Wysg, yn ngwlad Gwent, neu fel y gelwir y lie y dyddiau hyn, sir Fynwy. Y mae yn wyl fawr, ac yn myn'd yn fwy o flwyddyn i flwyddyn, Yn mysg holl sefydliadau cen-1 edlaethol y byd, nid oes dim byd tebyg iddi. Hyd yn nod yn mhell i'r ganrif bresenol, nid oedd y dderwen lydanfrig hon ond mesen ddiolwg. 0 fewn llai na deu- gain mlynedd yn ol, ni chynelid ei chyfar- fodydd yn rheolaidd ambell i flwyddyn I y heb yr un, a'r nésaf ddwy neu dair ar draws eu gilydd. Llangollen, yn 1858, oedd y gyntaf y gellir ei galw yn genedlaethol. Cyn hyny. rhyw nythaid o feirdd, ychydig o ewyllyswyr da i'r tråd, ac ambell fonedd- wr o Gymro gwladgar yn cydfyw mewn tref neu ardal, ac yn cydymffurfio yn fath o bwyllgor i godi Eisteddfod ac yn ol eu doethineb, eu dylanwad, a'u hysbryd an. turiaethus, y byddai mesur maint y cyfar- fodydd a'u llwyddiant. Eisteddfodau o'r natur yma oedd rhai Caerfyrddiii ('19) Tralhvng, Dinbych, Beaumaris, Lerpwl ('40). Ar ol yr olaf, bu yspaid o flynyddau heb yr un cyfarfod o fawr bwys, ac wed'yn cododd yn y Deheubarth gyfres o Eistedd- fodau llwyddianus y Fenni, tan nawdd ac achles Arglwvddes Llanover ac yn y Gogledd dair Eisteddfod flynyddol yn ol- ynol o gryn enwogrwydd, sef Aberffraw, Rhuddlan, a Thremadog. Cynyrchodd y tair hyn, yn nghyda'r Fenni, gyfansodd- iadau o deilyngdod uchelryw. Yna llithr- odd pedair neu bum mlynedd ddi-eistedd- fod heibio a bu cyfarfod coIled us mewn ystyr arianol yn Llundain yn 1856. Yr oedd y colledion hyn yn lleithio brwdfryd- edd am yspaid, ond ni pharhaodd effeith- iau aflwyddiant y sefydliad yn y Brifddinas ond amser byr. Galwodd y lien gar Ab Ithel am help ei gyfeillion i gadw Eis- teddfod wir genedlaethol yn Llangollen, yr hyn a wnawd yn 1858 Yr oedd hon y fwyaf Cymreig ar lawer ystyr o'i rhag- flaenoriaid, os nid braidd yr oil o'i holaf- iaid hefyd. Parhaodd am bedwar diwrnod, daeth cynulliadau mawrion iddi, ac y mae Maes Bosworth Eben Fardd Cym- eriad Rhufain," gan Nicander a My- j fanwy Ceiriog, yn mysg ei chyfansodd- iadau buddugol Yn Llangollen y tarddodd y syniad o Bwyllgor Cenedlaethol i ofalu am yr Eisteddfod, y penderfynwyd ei chynal bob yn ail flwyddyn yn y Dehau a'r Gogledd, ac y rhoddwyd yr hwb goreu iddi yn mlaen, yr hwn sydd wedi parhau, ond nid yn ddifwlch, byth er hyny. Syrthiodd y pwyllgor cenedlaethol i brofedigaeth a dyled yn 1868 a daeth annhrefn (lied drefnus hefyd) i awdurdod drachetn, a phar- haodd hyd oni chymerodd y pwyllgor pres- enol y blaen, tan lywyddiaeth Syr Hugh Owen yn benaf, a chymhorth y beirdd tan arweiniad Clwydfardd. Dau gvmeriad ysplenydd oedd Syr Hugh Owen a Chlwyd- fardd ac iddynt hwy, gyda chymhorth Hengarwyr godidog eraill, y mae ini ddiolch am sefyllfa lewyrchus bresenol yr hen sef- ydliad sydd o gymaint anrhydedd ini fel cenedl wareiddiedig. Rhinwedd arbenig yn perthyn i'r ddau ydoedd eu pwyll, eu synwyr cyffredin cryf, a hyny wedi eu dysgu i beidio ymyryd yn nyledswyddau y naill a'r llall. Yr oedd un yn ben gyda'r Eisteddfod, ar Hall yn Archdderwydd yr Orsedd. Nid oes le i dybied ddarfod iddynt wario munyd erioed i ddeffinio terfynau eu hawdurdod. Llywodraethid hwy yn llwyr gan eu dealltwriaeth glir, yr hon oedd yn ddeddf anyjgrifenedig gan- ddynt. Dan ddeddf o'r un natur y dygir y sefydliad yn mlaen ar hyd y blynyddau. Gwnaed cais ami i dro i'w ddodi tan oruch- wyliaeth trefn a dosbarth gaeth a chyfreith- iol,nor ddiweddar ag ychydig fisoedd yn ol buwyd yn son am ei Siartro. Hyderwn fod y bwriad hwnw cystal ag eraill cyflFelyb a fu o'r blaen wedi eu rhoi heibio am byth. Mae digon o engreiphtiau o sefydliadau yn cynyddu yn Ilewyrchus tra nafyddont mewn un cylch ffurfiol, ac yn myn'd yn deilchion wrth eu cylchu. Dyna un Prydain Fawr a'i Threfedigaethau. Yn ngwres y Jiwbili, sonid llawer am undeb tynach ac agosach rhyngddynt; erbyn hyn, mae'r rhai oedd boethaf dros hyny yn nyddiau yr anmhwylledd yn dweyd mai gwell gadael llwydd yn lknydd rhag iddo droi yn aflwydd. Ond tra o blaid gadael Ilonydd i gyfan- soddiad yr Eisteddfod Genedlaethol, rhaid i'w phleidwyr penaf gydnabod nad yw o lawer yn berffaith, na'r hyn a ddylai fod, neu a fydd, os bydd hi hefyd. Credwn mai un o brif ddiffygion y sef- ydliad fel y mae yn awr ydyw rhoddi gor- mod o'r gwaith a'r cyfrifoldeb ar y pwyll- gor lleol. Nid oes yr un dref yn Nghymru ac ynddi ddigon o lenor- ion a cherddorion galluog i dynu allan restr briodol o destynau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol, chwaithach i ddewis y beirniaid priodol, &c. Pa fodd y gall ond ychydig mewn tref wybod beth oedd y testynau a fu o'r blaen, a pha mor ddiweddar y buont ac os cynygir hen destynau, cer hen gyfansoddiadau, a cheir cyfarfod diffrwyth. Bryd arall, rhoddir testynau anfuddiol a beirniaid annghym- hwys. Mae'r cyfrolau cyfansoddiadau buddugol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dwyn nodau yr amryfusedd hwn yn eglur, Mae eisiau eangu cylch yr Orsedd hefyd. Nid yr ystyr gvfyng bresenol a roddid yn yr hen amser i'r gair bardd a beirdd Yr oedd yn perthyn i bob Cadair wyrda na wyddent odid ddim am reolau Dafydd ab Edmwnd ond oeddynt er hyny lawn gallu- oced llenorion. Dau neu dri heblaw Tudur Aled y Pencerdd oedd yn Eisteddfod Caerwys y mae dim o'u gwaith cynghan- eddol ar gael- Cyn y daw'r Orsedd yn J allu, rhaid iddi gynwys pencerddiaid prifwyddoniaid. cystal a phrif-feirdd a r phwyllgor gweithiol detholedig yn flyn- yddol ohonynt, dwy ran o dair ohonynt yn myned allan o swydd bob blwyddyn. Ond fel gyda hen adeiladau, felly gyda hen sefydliadau, y mae perygl dyfetha eu nod- weddion wrth eu hadgyweirio. o —

Advertising

CWRS Y BVD.

Yr Esgob a Mr T, E. Ellis,