Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Y diweddar Barcn Evan Evans,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y diweddar Barcn Evan Evans, Boundary Street [Gan GLAPT YSTWYTH.] V CAFODD Wesleyaeth Gymreig, ac yn neillduol cylehdaith Shaw Street, Lerpwl, golled drom yn marwolaeth sydyn y Parch E. Evans. Pregethai fel arferol ddydd Sul, y 18fed cyfisol, a chafodd oedfa fendithiol iawn y nos Sul hwnw yn Shaw Street. Treuliodd ysgrifenydd y nodiadau hyn agos i awr yn ei gwmni y prydnawn Llan canlynot Er fod golwg curiedig arno yr oedd yn siriol a chymdeithasgar fel arferol. Nid oedd gymaint a chwmwl yn rhag arwyddo'r ystorm oedd yn ymyl. Cyn pen dwy awr wed'yn torodd y gwaed ar yr ymenydd, yr hyn a barodd iddo fod yn hollcjanym- wybodol a dideimlad nes tynu ohono yr anadliad olaf boreu ddydd Iau. Yr oedd Mr Evans yn enedigol o Ddinas Mawddwy. Hanai o'r un cyff a'r hen efengylwr enwog, Edmund Evans, Talysarnau. Yr oedd Edmund Evans yn frawd i'w dad, a dywedir fod y nai mewn amrai bethau yn bur debyg i'w ewythr. Yehydig o fanteision addysg a gafodd yn nyddiau maboed-dim ond yr hyn a allai yr ysgolion elfenol roddi iddo, ac nid oedd rhyw lawer o lewyrch ar y rhii hyny haner can' mlynedd yn ol. Dysgodd ei grefft fel saer coed, a dywedir ei fod yn bur fedrus yn yr alwedigaeth hono. Disgynodd ysbryd pregethu arno, ac nid cynt y dechreuodd nag y gwelwyd ynddo arwyddion o ddefnyddioldeb a phoblogrwydd. Cydnabyddid ei fod yn wr ieuanc tea chrefyddol ei ysbryd a phur ei gymeriad, ac am fod ynddo ddawn i ddweyd yr oedd ei weinidog- aetb o'r cychwyn yn dra derbyniol. Y peaodiad cyntaf a gafodd, os wyf yn cofio yn iawn, oedd i gylchdaith Llangollen, ac i fyw yn Cefnmawr. Yr oedd hyny yn 1859. Bu wedi hyny am dymhor byr yn sir Fou. Cyn iddo gael ei ordeinio, apwyntiwyd ef yn arolygwr yn Mhenmachno, ac i ofalu am yr achos oedd newydd gael ei sefydlu yn Mlaenau Ffestiniog. Yr oedd hyn yn ymddiried- aeth fwy nag a roddir yn gyffredin i wr mor ieuanc gyda'r Wesley-aid. Ond profodd fod y dyn yn y Ie iawn. Dangosodd farn addfed a medr o'r radd flaenaf i drin dynion a phethau mewn cysylltiad â lleoliad ac a.deila.daeth y capel Wesleyaidd cyntaf yu Mlaenau Ffestiniog. Bu yn teithio wedi hyny ar gylchdeithiau Llanrwst, Lerpwl, Bangor, Caer- narfon, Llanrhaiadr, Dolgellau, Treffynon, Bangor (yr ail waith), Dinbych, Lluudain, Abermaw, a Shaw Street, Lerpw!. Nis gellir dweyd ei fod yn bregethwr mawr, ond yr oedd yn bregethwr budd- iol a chymeradwy. Meddai ar feddwl aml-ochrog, ac ar gryn lawer o graffder. Nid oedd ei ddiwyll- iant o lawer yn hafal i rym ei dalentau naturiol. Ni chafodd fanteision colegawl, ac feallai na lafar- iodd mor ddygn a llawer i ddiwyllio ei hun. Medd- ai ar lais rhagorol ac ar draddodiad hylithr; a siaradai mor naturiol a chan y fwyalchen, fel na fyddai byth yn myned yn feichus ar y bob! fyddai yn gwrandaw. Tra yn hynod ddyddan yn ei gwmci, yr oedd ei ymddyddanion yn bur a'i ysbryd yn llednais a thyner. Meddai ar ddawn arbenig i adgj weirio ac adeiia.du capelau. Mae capeli rhag orol Caernarfon, Dolgellau, a Chroesoswallt nid yn nnig yn brofion o'i ffyddlondeb a'i ymroddiad o blaid yr achos da, ond hefyd yn gofgolofnau o'i farn addfed a'i chwaeth adeilyddol. Bydd yn chwith i Gyfarfod Gweinidogion Lerpwl ar ei ol. Byddai yn bresenol bron yn wastid, cymerai ran yn yr ymddiddan, a hoffai pawb ei glywed yn cael ei alw i ddiolch am y te. Byddai ei sylwadau yn wastad mor naturiol ac mor ddyddan. Yr oedd yn gyfaill serchog, ac yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Dylid dweyd iddo ym uno a'r sei it tan weinidogaeth y diweddar Barch. J. R. Chambers (tad Mr. H. H. Chambers) pan yn Nolgellau. Tr&ddodwyd pregeth angladdol nos Sul yn nghspel Boundary Street gan y Parch Hugh Jones, Birkenhead. ———— YR ANGLADD. Cymerodd angladd y Parch. E. Evans le ddydd Sadwrn yn mynwent Longmoor Lane, Ain- tree Cludwyd y corph i addoldy Boundary Street am 1.30, lie y cynaliwyd gwasanaeth, y Parch E. Humphreys, Shaw Street, yn llywycldu. Yn mhlith eraill yr oedd yn bresenol:- Prif alarwyr: Mrs Evans (gweddw), Mr J E Evans (mib), Sarah, Edith, Lillie, Etta, a Nesta Evans (merchen), Mr a Mrs Edmund Evans, Miss Mary Evans, yn nghyda'r Parchn E Humphreys, Thos Hughes, William Jones, 0 Lloyd Davies, John Hughes (Glanystivyth), Hugh Jones, Birken- head Owen Hughes, Widnes; D Gwynfryn Jones, Ashton-in-Makerfield Thos Jones Hum- phreys, Manceinion Richard Morgan, Caer John Evaes (Eglwysbach), Pontypridd John Jones, Penygraig W H Evans, Rhyl Ishmael Evans, Rhyl R Lloyd Jones, Bangor; Philip Price, Ban- gor W Caenog Jones, Tregarth; Lewis Owen, Coadpoeth; Thomas Hughes, Brymbo John Felix, Croesoswallt; Henry Hughes, Bagillt; Hugh Evans, Fflint; T 0 Jones (Try/an), Wydd. gmg Hugh Curry, Llanasa: J Hughes, Fitzclar- ence Street; Owen Owens, Antleld Peter Price, Great Mersey Street; J 0 Williams ( Pedrog), Peter Jones, Bousfield Street; Mri E Gwaenys Jones, William Da vies, Rees Lloyd, E R Jones J R Pochard, E Lloyd, J Pugh, J Jones, Daniel Jones, Edward Parry, Joseph Jones,. Evan Roberts. R Richards, R Bellia, H Potha.m, J Roberts, T By water, R Hughes, H Williams, W Roden, John Williams, E Roberts, J Bevan, J H Morris, S Parry, Hugh Parry, W A Lloyd, &c. > Yr oedd y pwipud wedi ei orchuddio. a brethyn <lu, a gosodwyd yr arch ar dreseliau yn yr allor. Ar ol canu'r emyn, Va Dy waith y mae fy myw- yd," un o ffafr emynWr ymadawftdig, darllenodd y Parch. T. Hughes, Bootle, gyfran o'r Ysgrythyr, a gweddiodd y Parcb. Ishmael Evans, Rhyl. Parch, E. Humphreys asylwoddfod yr amgylch- iadau yn drist, a'r ffaith fod y brawd anwyl wedi ein gadael mor ddisyfyd yn rhoi mwy o fin ar y brofedigaeth. Ond er yn alar s iawn, nid oeddym heb obaith. Cufodd Mr. Evans oes lafurus, lwyddianus, ac yr oedd wedi myned oddiwrth ei waithat ei wobr. Parch. R Morgan, Cer: Prra y gwyddai beth i'w ddweyd yn ngwyneb yr timgylchiad trist. Ni theimlodd yn ddwysaeh erioed wrth gladdu, ac yr oedd y ddyrnod yn dryllio ei deimladau. Cafodd ef a Mr. Evans gydgvchwya eu gweinidogaeth yn y flwyddyn 1859. Safetit yr arholiad gyda'u gil- ydd yn y Wyddgrug, a d ynr;r pryd yr adnabu ef gyntaf. Yr adeg hooo yr oedd yn ddyn cadarn, be yn ol pob golwg y tsbycaf o gael oes faith o'r chwech eraill a gydgychwynent ag ef. Yn ddilyn- ol, daeth i gydnabydd;aeth agos ag ef buont yn cyd deithio ac yn cydlafurio ar yr un gylehdaith, a chafodd fantais dda i ffuifio barn am dano. Caf odd ef yn ddyn braf iawn—" hen fachgen braf neu hen foneddwr braf fuiwai'r gwerinair i'w bortreadu. Naturioldeb oedd ei elfen amlyeaf- yr oedd yn wr caredig, rhadlon, a llawn o natur dda; ac am ei fod mor naturiol yr oedd mor wreiddiol. Meddai ar arnibyniaeth meddwl a theimlad hefyd, ac yr oedd yr annibyniaeth hwn yn rhoddi caderoid yn ei gymeriad. Fel cyd- vveithiwr, yr oedd yn frawd anwyl—" dyn yn ym- yl ydoedd, a'i galon yn y golwg bob amser. Gwir ei fod yn meddu cyfrwysdra, ond nid cyf- rwysdra annuwiol ydoedd—yr oedd yn gyfrwys fel y sarph ac yn ddiniwed fel y golomen." Er trymed y tristweh, melus oedd cofio ei luaws rhag- oriaethau, ac ymlawenhau yn y gobaith gwyofyd- edig fod gorphwysdra. eto'n ol i bobl Dduw," Parch Hugh Jones, Birkenhead Cafodd yntau gyd, gyehwyn a Mr Evans, ac yr oedd ei farwolaeth wedi effeithio'n ddwys iawn ar ei natur. Meddai argyhoeddiad llwyr yn nidwylledd a reality cymer- iad crefyddol y gwr anwyl. Clywcdd Mr Evans yn dweyd ei fod yn ofni nad oedd yn gweddio digon, a rhaid fod gwr a ymddiddaoai ac a bryderai fel yna yn byw yn agos i Dduw. Bu yn was ffyddlawn, ac er yn ddiwyd bob amser, ni wnaeth nemawr drwst gyda'i waith. Gwnelai ei waith yn drwyadl hefyd-ni esgeulusai un adran er cyflawni adran arall yn rhagorach, eithr bu yn ffyddlawn yn yr holl waith. Yn ddiau, bu ei weinidogaeth yn allu mawr, a than arddeliad amlwg. Oredai fod ami un achobwyd dan ei weinidogaeth yn ei groes- awu'r ochr draw. Adnabyddai ei le bob amser, ac yn hyn amlygai fawr ddoethineb. Yr oedd yn llygaid ac yn glust i gyd-cly wa.i a gwelai fwy nag a dybiai llawer, a medrai'r ffordd yn rhwydd i'r- llogell pan fyddai angen am hyny. Gwnaeth orchestion gyda chasglu, ac ni thybki fod neb wedi bod yn fwy ei ofal am amgylchiadau tymhorol yr achos. Adeiladodd ac adrewyddodd luaws o addoldai a meddai dalent geHyddydol fu o fawr wasanaeth iddo gyda hyn. Ni fu dyn erioed yn fwy caredig a thyner— fe ranai ei galon, a chafodd llawer gweddw a chlaf gyfaill cywir, parod ei gymwynas, ynddo. Bu'n dod adref a'i logell yn wag ami dro ar ol rhanu gyda'r anghenus. Ni ddaw ef yn ol-rhaid i ni ei ddilyn ef i'r man y mae y gwas da a ffyddlawn yn derbyn y wobr. Offrymwyd y weddi derfynol yn ddwys gan y Parch John Hughes (Glanystwydt), ac yna aed tua'r fynwsnt, lie yr oedd tyrfa luosog wedi ymgynull. Darllenwyd y gwasaEaeth claddu ar Ian y bedd gan y Parch E. Humphreys, a gweddiwyd yn effeithiol gan y Parch John Evans {Eglwysbach), ac wedi canu Bydd myrdd o ryfeddodau," gadawyd y gwr anwyl i orphwys hyd y dydd Bydd dorau beddau y byd Ar un gair yn agoryd. :0:

Eisteddfod Corwen, Cwyl y…

Advertising

-_._-------Yr Esgob a'r Seneddwr.

Yr Esgob a Mr T, E. Ellis,