Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

"'"'-Cardd y Cerddor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cardd y Cerddor. Y DIGWYDDIAD pwysicaf yn y byd cerddorol yr wythnos hon ydyw Gwyl Gerddorol Dair Blynydd- ol Caer, Hon yw y chweched yn y gyfres er pan y mae wedi cael ei hail-gychwyn. Saif yr wyl hon erbyn hyn yn bur agos at y rhai a gynelir ar yr un cycllun yn Birmingham a Leeds; y gwahaniaeth penaf, efallai, yw y ffaith y gwneir llawer i gael gweithiau holiol newydd ar gyfer y rhai hyn, tra y boddicna Caer ?r yr hyn a glybu- wyd eisoes and eleni ni buwyd yn ol o ddewis gweithiau dyddorol a phwrpasol i'r flwyddyn a gwnaed pob ymdrech hefyd i barotoi y rhai hyn, er cael y dabganiad i'r pwynt uchaf o ber- ffeithrwydd. Dengys ilwyddiant yr wyl y graddan uchel mewn perffe.thrwydd a gyrhaeddwyd. Yr oedd y tiefniadau cerddorol, yn nghyda'r arwein- iad gwbl yn nwylaw Dr J. C. Bridge ac yr cedcl ganddo at ei aiwad tua thri chant, rhwng lleiswyr ac offerynwyr, Nid rhvw dorf fawr yeh waith, ond rhaid cofio fod y rhan fwyaf ohou. yntnaiil ai yn gerddorion prcffesedig, neu ynte yn efrydwyr. Dydd Mercher, sef y diwrnod agoriadol, dechreu- wvd gyda'r Anthem Genedlaet-hol wedi ei had- crefcu gan Dr Bridge, yn seiliedig ar diefniad o eiddo Syr Michael Costa. Zadck the Priest," cyfansoddedig gan Handel ar gyfer ccroniad Sior yr Ail yn y flwyddyn 1727, oedd yr adran nesaf a gyfiwynwyd. Adeg ei gyfansoddiad, yn ddiau, ydoedd nodwedd fwyaf arbenig y gwaith hwn; oiJ, oedd llawer o ddyddordeb ynddo fel rhan o'r wyl. 'Unwaith yn rhegor cyflwynwyd i sylw waith cyfansoddedig i achlysur neillduol, sef "Festival Te Deuni," gan Syr A. Sullivan, a ysgrifenwyd ganddo gogyfer it gwasanaeth o ddiolch a gynai. iwyd yn St Paul's am adferiad Tywysog Cymru o afischyd, Diagleiria athrylith y cerddor poblog- aidd yn belvdrau byw yma a thraw yn y gw&ith hwn. Miss Esther Palliser oedd yn cymeryd gofal o'r alaw yxi v g« aith. ) Dirwynwyd cyfarfod y boreu i derfyn gyda.'r rhan gyntaf o'r Greadigaetb," gan Haydn. Yr ucawdwyr oeddynt Miss Anna. Williams, Mri Hirwen Jones a Daniel Price, am y rhai nis gellir dweyd yn well na/u bod gystal a hwy eu hunain," Gondir yn fawr gan gyfeillion Miss Williams ei bod wedi penderfynu rhoddi i fynu mor gynar y gwaith cyhceddus, ae ymneillduo o gyrhaedd y cyhoedd. Agorwyd cyngherdd y prydnawn gyda gwaith y cerddor Rwsiaidd Tchaikowsky, sef ei "Pathetic Symphony," gwaith sydd yn llawn brwdfrydedd & theimlad. Trwy y gwaith hwn ac ychydig eraill, mae yr awdwr wedi dyfod i gael ei ystyried yn un o awdwyr galluocaf y ganrif hon, a chydnabyddir yn gyffredinol fod mwy o farddoniaeth gerddorol yn ei waithiau nag a geir yn ngweithiau neb arall ar hyn o bryd. Y 1, Messe Soleuoelle gan Gounod oedd y rhan nesai; a'r unawdwyr yr un rhai eg a grybwyllwyd eisoes. Yn yr hwyr daeth torf enfawr yn nghyd i'r hen Eglwys Gadeiriol. Teimlid dyddordeb neillduol yn inan gyntaf y cyngherdd hwn, oaeiwydd fod gwaith Adolf Jeuseus, sef "The Journey to Emmauty' i gael ei roddi am y tro cyntaf yn Lloegr. Gwaith offerynol ydyw hwn yn desgrifio taith y dda.n ddiagybl 0 Emm¡¡.us, sef yr hanes a geir ya Efengyl Luc, xxiv. Yn nesaf, rhoddwyd talfyriacl o "Judas Macca- beus" (Handel). Cymerid rhan y soprano gan y gantores Itaiaidd enwog, Miss Giulia. Ravogli, a rhan "Judas" gan y tenor penig,unp, Mr Edward L'oyd, a rhanau eraill y gwaith gan Miss Palliser, Miss Hilda Foster, Miss Muriel Foster, a Mr Watkin Mills, ac yna dygwyd i derfyniad waith hynod lwyddianus y dydd cyntaf. Gwnawn ych- ydig rhagor o sylwadau ar yr wyl hon yr wythnos nesaf. Llawenydd priodasol a lanwai awyrgylch Bagillt V dydd o'r blaea, pan unwyd M;ss Jane Gratton Thomas a Mr Edward Lloyd, Oaerlleon, mewn glan briodas. Mae Miss Thomas wedi bod yn adna- byddus er's blynyddoedd yn yr ardal fel athrawes gerddorol a chyfeilydd medrus gyda'r bardoneg. CaiAsantroddiongA,ettltf3,,4r-rA n ewyllyswyr da gobeithio y bydd ea bywyd dyfodol yn llawn peror- iaeth a chynghanedd melus. Gyda gofid dwys a hiraeth dwfn y cofooaaf farw olaeth Mrs E. Hutchfield Jones, Hertford Road-, Eootle, gynt Miss Jennie Gregory, Treffvnon, lie y bu yn athrawes gerddorol hynod Iwyddianus am nifer maith o flynyddoedd. Rhoddodd gychwyn- iad i amryw sydd erbyn hyn wedi dringo yn uchel yn y byd cerddorol; hefyd gwasanaethodd fel organydd yr Eglwys Sefydledig am saitk rnlynedd, ac yn ganlynol fel organydd Eglwys St Winifred hvd ddydd ei phriodas, yr hon swydd a ddeil ei chwaer yn awr. sef Miss Clarissa. Gregory. Yr oedd yr ymadawedig yn athrawes a gymerai ddyddordeb arbenig yn y rhai fyddai tan ei gofal. r Mae y nifer luosog a basiodd yn Uwyddianus trwy y gwahano! golegau yn profl ei hyrnroddiad llwyr i'r gwaith. Cydymdeimlaf yn fawr a'i gwr, Mr Jones, a'i fab bach, hefyd a'i chwaer a'i mham yn Nhreffynon. Mewn cysylltiad ag ymnexllduad Miss Anna Williams oddiar lwyfan y gyngherdd, a sefydiu fel athrawes gerddorol, mae cyngherdd mawreddog wedi ei drefnu iddi yn yr Albert Hall ar y 13eg o Hydref, pryd y cymer y rhai canlynol yn mhlith j eraill ran ynddo, sef Mesdames Albani, Ravogli, a Marian Mackenzie, Mri Edward Lloyd, Andrew Black, Watkin Mills, a Santley. Yr ymddangos- iad cyntaf o bwys i Miss Williams oedd pan yr enillodd y wobr soprano yn nghystadleuaeth y Paias Grisial yn 1872. STRADELLA.

[No title]

- Cohebiaethau.

Y RISIAU-O'R ELFENOL I'R RADD3DIQ.

Lienyddiaeth.

Marwotaeth Mr. MundoUa.

CWyl Fawr Wesloyaid Prydain.

Cwibnodlon o Ddyffryn Maelor,