Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Yn awr yn barod. 384 tudal. Crown 8vo. Pris 38 6ch. COFIANT A PHREGETHAU Y Parch DAVID DAVIES, Bermot TAN OLYGIAETH PARCH WILLIAM JONES (David Street) LERPWL. I'w cael gan y Llyfrwerthwyr neu drwy y pos-t ar dderbyniad ei werth, gan ISAAC FOULKES, 8, Paradise Street, Liverpool
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Cwyliau, lIolidays" ydyw pobpeth yn Lerpwl y dyddiau faj n. Y cwestiwn cyntaf a ofynir i chwi gan bob ayfaill ydyw, 44 Fuocb chi am ych holidays eto V Ac wedi ateb do neu naddo, gofynir yn nesaf, 44 B'le buoch chi 1" neu B'le'r ewch chwi?" Mae yn Lerpwl yma Gymry o bron bob ardal yn Nghymru. "Cosmopolitanis," Ap Ffarmwr ond Cosmopolitans Cymreig, cofiwch; a Chymry na fedrwch chwi, gyfaill dawnus, ddim dangos ein gwladgarach (maddeuwch y gair) tan dywyn- iad haul. Fel y dylai pawb wybod, nid ydym i gyd yr un fath a'n gilydd onide ni a ddywedem wrth Mr. Jones, How di dw, Mr Huws ? Ac un o'n nodweddion digrifaf ydyw fod gan bron bob un ohonom rhyw slang neu air o'r eiddoai ein hunain. Er engraipht, y dyddiau diweddaf mi holais amryw gyfeillion yn mh'le y buont yn treulio y Diwllun cyntaf o Awst, a dyma, hyd yr wyf yn cofio, eu hatebion Yn côr8 Jones.-I Sir Fon, yn c6rs, bydda'i myn'd bob gwylia, ys bydd rhin yn Sit, yn cors. At rben bobol yn cors. Ydan, ma nhw, fel y deydwch chi, 'n myn'd yn hen, yn cors tos yr un ohonon ni, yn cors, yn myn'd yn iau, yn côrs. Wel manhw ynreitiach, tenciw ond y nhad,yn eors, dipyn ya gloff, a gwynt mam dipyn yn fyr, yn côrs. Dyna fel 'rydan ni gid, yntê, yn cors." Ondodid Prisiart oedd y nesaf a welais, a dywedai ef yn bar bwysleisiol na fyddai byth yn gadael cartref ar holidays. 44 Sut hyny?" ebre fi. "Wel," atebai, ond odid fawr na fydd y trfins yna yn orlawn, deg yn mhob cwmpartment, ond odid a'r babi hwnw, ond odid, yn y fargen." AI Wel, mi fuoch yn fabi ychun rhw dro, mi wranta, Prisiart?" araturiais ei adgoffa. Do, ond odid," atebai ganledu ei esgyll, 44 ond digon z, 9 i ddiwrnod i ddrwg i hun, ond odid." Mae" Hyny ydi Williams heb gael ei ho'i- days eto hyny ydi, heb gael ond rhyw ddiwr- nod yrwan ac yn y man, hyny ydi, heblaw wsnos yn y Pasg ac wsnos yn y Salgwyn, i fyn'd i Lan- armon-yn-Ial, hyny ydi, rbwng Llanarmon a Gwrecsam. Ond os bydd yr hin yn braf, hyny ydi, os na fydd bi'n gwlawio'n arw, mae o am gael pythefnos yn Abergele yn mhen tipyn, hyny ydi ys bydd llyfr Dafydd Dafis, Bermo, allan, gael iddo fo gael rhwbeth i'w gadw'n fyw yno,— hyny ydi i'w gadw rhag cysgu. Hyny ydi, fedrwch chi ddim aros yn swn clocie Mr. Pirs Davies beunydd ben nhw a bws y Bee, hyny ydi pan fydd hono yn myn'd, ydi'r unig bethe sy'n myn'd yn Abergele, hyny ydi a chymyd Pensarn yn y fargen. Fydd Rargien fawr Davies byth yn cael holi- days ond i gladdu neu briodi. Dwyweth es ugien mlynedd y bu o'n claddu, a chladda i dad .a'i fam, ie neno rargien fawr; ac unweth y bno'n priodi rargien fawr. Dda gan Davies ddim holidays; "rhowch iddo to," meddai "ddigon o waith, rargien fawr, a digon o fwyd, a digon o gysgu, rargien fawr a mi gewch holl holidays y flwyddyn o'i ran o, cewch neno rar- gien fawr. Roeddwn i wedi clywed fod Bethma Prys newydd ddychwelyd o Ffrainc, a phan gwrddais .ef ya ddamweiniol ddydd Mercher, gofynais pa fodd y daethai yn mlaan, a pha fodd yr oedd wedi rnwynhau ei hun. Atebodd Ddaru mi rioed bethma fbon yn fwy bethma mae hi'n wlad bethma, welwch chi a tase'r waiters yn medru bethma Cymraeg neu Sasneg, mi faswn me yn medru bethma hefo nhw, fel deydwch chi; ond 'roedd hi braidd yn bethma-fedren nhw ddim bethma hefo fi na fine ddim bethma rhefo nhwthe. Wn i ar ddaiar be oedd y dyn yn feddwl, wyddoch cbi ?'' Mae rhai yn meddwl nad yw Fel pytase Tomos ddim yn gall. A hwyrach nad ydyw pwy sydd ? Mae llawer yn meddwl eu bod ondjnid yw eu cymydogion a hwythau o'r un farn. Trafaeliwr go fychan ydi 44 Fel pytase." Bob Dywlhm cynta o Awst y bydd o'n myn'd, fel Pytase i Gymru ac mae hi'n cymeryd pob awr all o hebgor yn mis Gorphena i barotoi ar gyfer y daith, fel pytase. Rhoi ei ddillad yn y Port- ^adc c (dyna beth rnaetomos yn gal w Port manto) fel pytase, a bydd ei gyfaill Hwnw w Huws as ynte fel pytase yn cochwyn i'r stesion ,rhy,,v ddwy awr yn rhy foan. "Tydi'r tren ytna ddim yn hwnw iawn heddyw, Tomos ?" ebe Huws. "Hwnw iawn, dybygwn i, fel pytase," ebe Tomos, Hwnw ydyw pobpeth gan Huws fel pytase" ydyw pobpeth gan Tomos ond dd a a yn hwnw eu gilydd fel pytase i drwch asgell gwybedvn. Mi welais gyfeillion eraill, megys Y ntê bns," James" Myn- Cigfran bachgen don- 0 Fon, Roberts "Dai byth o'r fan yma," ac Wmffre ''Diawst V °nd nid oes ofod i ddeyd be ddydson nhw, ond i bod nhw wedi ynjoyio i "tinen "na fa rodsiwn beth." Gwneud Ewyllys- chwi," ebe gohebydd o Fon, II dywedwch Ulpyn yn Cwrs y Byd yn nghylch dyledswydd pc, penteulu, yn enwedig os bydd yno compli- eations, i wneud ei ewyllys. Mae teuiu a ad' n i, ac a adwaenoch ohwifhau, wedi talu yn ^ivveddar agos i ddeuddeg cant o bunau i Wrneiod ar ystad fechan nad oedd y diweddar HrC?enog wedi gadael ewyllys neu yn hytrach vedl priodi ar ol ei gwneud hi, a hyny yn ei gwneud hi yn ddirym a dinerth. Ond y o'r cwbt, annhraethol waeth na gwario br'U a ar gyfraith, y mae'r diffyg ewyllys v10, a'r ymgyfreithio a ganlynodd, wedi ^yru r teulxa liuosog, oedd bob amser cyn hyny be/ rau goreu a'u gilydd, yn awr yn ben- J a deg i un yr heddychir hwy byth." •■ar ■i"8? ^anes yna yn dwyn ei addysg ei hun beth fa a f°d marw'u ddiewyllys yn ra c^yffredin yn Mon ac Arfon, gan maj ■ anfynych y cynelir Brawdlys yn un o'r ddwy sir heb ynddo achos neu ddau yn codi oddiwrth ddiffyg ewyllys. Y Pregethwyr Poblogaidd. MAE Llais y Bobl" a gymerwyd yn Y Cymi-o ychydig wythnosau yn ol, ar y cyfan wedi rhoi boddlonrwydd, a barnu oddiwrth y lluaws lly- thyrau ddaeth i law. Nid yw pedwar o'r deg y barnwyd iddynt y wobr wedi ateb hyd yn hyn i'w henwau efallai eu bod yn mysg ein darllen- wyr sy'n byw tros y mor. P'run bynag, da fyddai cael gair oddiwrthyntyn fuan, fel y cauer y mater i fynu. Yn ol y South Wales Daily News, gofynodd un o bapyrau'r Deheudir rai blynyddau yn ol am farn ei d iarllenwyr parth y deuddeg pre- gethwr mwyaf poblogaidd yn Nghymru y pryd hwnw. Nid oes yn awr yn fyw o'r deuddeg a gafodd fwyafrif ond pedwar, sef y Prifathraw Charles Edwards, Eglwysbach, Ossian Davies, a Dr. Cynddylan Jones. Nid yw y ddau olaf yn y rhestr bresenol ond cyd-ddigwyddiad rhyfedd ydyw fod yn rhestr Y Oymro enw tri olynydd i rai oedd yn yr hen restr o ddeuddeg sef y Parch. Wm. Prydderch, olynydd Dr. David Saunders y Parch. Charles Davies, ol ynydd y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd a'r Parch. John Williams, olynydd Dr. Owen Thomas. Y Rhent a Chrasineb. CRAFWR trwm iawn oedd yr hen bregethwr John Jones, Edeyrn. Byddai yn tocio edyn John Eiias, pan dueddai ei atbrylith ieuanc at ehedeg yn rhy uchel. Ffarmwr bychan ydoedd, a galwai un tro i dalu rhent rhyw weirglodd a ddaliai o hyd breichiau. Nid oedd clarc y gor- uchwyliwr erioed wedi ei wel'd o'r blaen, ac ebai wrtho, Wel, be chi eisio ?" "Talu rhent," ebe J.J. mor grabet a'i holwr." Rhent b'le ?" Rhent y werglodd." Pwy werglodd ?" 44 Werglodd llygoden." 44 Llygoden fach neu llygoden fawr?" 44 Wn i ddim wir, mae'i blewyn hi'n ddigon byr, beth bynag. Da pe tase dy dafod di cyn fyred."
Modion o Fon ac Arfon.
Modion o Fon ac Arfon. DYDD Llun diweddaf yr oeddwn yn cyd-deithio &'r Parch J. W. Morris, Slatington, Pa., yr hwn sydd ar ymweliad a rCbymru wedi bod yn absenol ohoni am ddeng mlynedd ar hugain. Edrycha yn dda iawn yr oedd ar ei daith i gyfarfod misol yn Llangoed, Mon. Ugain mlynedd yn ol yr oeddym ein dan yn gweithio yn un o chwareli Slatington, ond y mae ef erbyn hyn yn weinidog sefydlog parchus, a minau, druan, fel crwydryn. Cawsom ymgom felus am yr hen amser, ac am yr hen gyfeillion. Bydd yn fuan yn dychwelyd yn ol at bobl ei ofal. Eiddunaf iddo fordaith ddymunol a llwyddiant mawr ar ei lafur. Yr oedd cyfarfod pregethu yn Pendref, Caer- narfon, y Sabboth diweddaf. Gwasanaethid gan y Parchn. Rhys J. Huws, Bethel, a T. P. Phillips, Horeb. Dydd Iau oedd diwrnod Sasiwn y gwib- deithiau o Gaernarfon. Yr oedd tren rhad wedi ei threfnu i'r Abermaw, ar gyfer pobl Pendref (A.), Caersalem (B.), a Shiloh ac Engedi (M.C.) Yr oeddynt wedi mynad yn gyfrifol yr elai putn' cant o deithwyr a chan nad aeth ond ychydig gyda haner hyny bydd yn golled fawr i'r gwyr cyfrifol. Tro gwael yn y rhai oedd wedi bod yn flaenllaw yn y mater oedd dychwelyd gartref o'r orsaf heb fyned gyda'u cyfeillion ond, wrth gwrs, yr oeddynt yn cael myned yn ol a blaen i'r orsaf am ddim, a buasai raid talu am fyn'd gyda'r trip. Drwg genyf ddeall iddynt gael gwlaw mawr yn Abermaw. Yr un dydd aeth ysgol Moriah i Bwllheli, ac Anthropos gyda phobl Beulah i Landudno, a minau gyda hwy. Mae'n ddigon posibl y ceir ysgrif gan y bardd a'r gweinidog gofalus ar ddi- gwyddiadau doniol y dydd. Drwg genyf ddeall i'r cyfaill ffraeth Cenin, Chwilog, gael cwymp oddiar ei ddeurod, a der- byn niwe i ond mae'n gwella yn gyflym. Dy- wed yn ddifrifol y cymer fwy o ofal y tro nesaf. Dydd Iau, yn sydyn, bu farw Mr. Roberts (Glan Cledwen), ysgolfeistr Maenan, ger Llan- rwst. Efe oedd awdwr y ddrama 44 Ednyfed Fychan" a gyhoeddwvd yn Cymru, am yr hon y cadeiriwyd ef yn Eisteddfod Gwyr Ieuainc Gwrecsam y Groglith diweddaf. Rhyfedd gen- yf feddwl iddo gael ei symud mor fuan. Yr oedd yn wr a berchid yn fawr. Gwelais Gwilym Cowlvd, y Prif-fardd Pen- dant, yn sefyll o flaen y fainc yn Llanrwst ddoe. Erlynid ef am ardreth. Dymunai ar i'r barnwr ohirio yr achos am fis gan nad oedd ei gyfreith- iwr yno i'w amddiftyn. 44 Wel," meddai'r barn- wr yn gellweirms, mi arbedaf gostau hwnw i chwi;" a rhoddodd ddyfarniad yn ei erbyn am y swm a ofynid. Y mae'r bardd wedi dyfod trwy bennod o drybini yn ddiweddar, ond er hyn oil y mae'n edrych yn galonog iawn. Gan y bydd arnoch eisiau lie i hanes Eistedd- fod Casnewydd, nid ysgrifenaf ragor heno. Nos Sadwrn. OBADIAH DAVIES. GWRECSAM.—Da genym fod Miss Ellen Myfanwy Jones, a'i brawd Arthur G. Jones, mab a aterch Mr Jones, Market Hall Shop, Gwrecsam, yn mhlith y rhai llwyddianus yn yr arholiad mown cysylltiad a'r Incorporated Society of Musicians, y gyntaf yn y radd elfenol ar y berdoneg a'r ail yn y radd ragarweiniol (Pre- liminary) y ddau'n ddisgyblion i Miss Sissie Hughes, Erddig Road, Gwrecaam. Coed y Brain, Nannerch, sir Fflint.—Mae ten- antiaid y ffarm eang hon yn magu a phesgi llu mawr o anifeiliaid eu hunain, yn eu lladd yn y liadd-dy sydd yno, ac yn eu gwerthu yn Siop Coed y Brain, 17 Deane Street, gyferbyn a Marchnad St. John, Liverpool.
I'Sut y dinystrwyd Elusen…
I' Sut y dinystrwyd Elusen Howell. SYP.Un Uithrig mewn trafodaeth yw Esgob Llanelwy, Ond fe ellir dal hyd yn nod llysywenod, ac wedi eu dal ni chaniateir iddynt ddiano o dru- garedd atynt am eu bod yn ymgordedd u. Anaml y bu i wr cyhoeddus, llawer llai Argl. wydd Ysbrydol, gael ei ddal mor drylwyr yn ceisio twyllo Ty'r Arglwyddi a'r eyhoedd gyda mynegiadau cyhoeddus sydd wedi eu profi yn hollol anwir, nag Esgob Llanelwy. Mae Cynllun Ysgol Howell wedi bod gerbron y wlad am bump neu chwe' blynedd. Pasiodd lygaid craft yr aw- durdodau lleol, Dirprwywyr yr Elusenau, a Swyddfa Addysg. Yna ceir Esgob Llanelwy yn feiddgar a chan gadw mewn golwg nerth yr amcan- ion sy'n cyffroi a'r apeliadau sy'n dylanwadu ar Dy'r Arglwyddi, yn haeru, yn peri i eraill haeru, ac yn eistedd yn dawel pan y mae eraill yn haeru (1) mai Ysgol Eglwys Loegr yw Ysgol Howell yn Ninbych (2) mai Ysgol Undodaidd yw Yszol Genethod Dol- gellau. Yn nerth y ddau fvnegikd yna y dinystr- iwyd cynllun Howell. Yn awr, fe welir mai amcan elusen Howell oedd darpar cynysgaeth i bedair o ferched amddifaid ar eu priodas. Nid oedd ynddi amodau crefyddol nac eawadol. Yn 1852 yr oedd gweinyddiad yr elusen wedi myned mor anfoddhaol fel y cyfarwyddodd y Senedd fod ei budd i fod yn eangach fel ag i hyrwyddo addvsg merched yn Nghymru. Ymaflwyd ynddi gan Eg- lwys Loegr. Fe'i rheolir gan Eglwyswyr er budd yr Eglwys. I gyfnewid yr engraipht warthus hon o ladrad a rheoleiddiad gwastraffus (oblegyd cym- erir 2,728p y flwyddyn i addysgu 82 o enethoi, o'r rhai nad oes ond 25 yn amddifaid) y pisiwyd Deddf Ysgolion Gwaddolog a Deddf Ysgolion Cymreig'gan y Senedd. Vsgôld yr Esgob roddi'r elusen ar brawf gerbron PwyllgorBirnol y Cyfrin- Gynghor, gan ddewis, yn hytrach, apelio at ragfarn a chulni. Nid heb briodoldeb y mae r (JHcii'diciu a'r Record, dau organ yr Eglwys. yn teimlo'n annghysurus oherwydd y weithred esgobol hon. Heb foddloni ar hyn, dywedodd yr Esgob, a hudodd y Prif Weinidog i ddweyd, mai Vsgol Un dodaidd oedd Ysgol Dolgellau. Ysgrifenodd yr Esgob i'r Times i'r perwyl hwnw Gorph. 23. Beth feddylia'r Prif Weinidog o gywirdeb ac an- rhydedd yr Esgob pan genfydd nad oes maen na phren yn Ysgol Dolgellau yn eiddo i ymddiried- olwyr Undodaidd yn byw yn Llundain," fod yr ysgol ynranenwadol, fod deg o leiaf o'r 12 rheolwyr yn foneldigesau a boneddwyr sy'n Eglwyswyr, Annibynwyr, Bedyddwyr, a Methodistiaid, ac nad oes gymaint ag un o'r aLhrawon na'r dysayblion yn Undodaidd ? Pan oeddis ar fedr sefydlu'r ysgol, vsgrifenodd Mr W. D. Jeremy, clerc ymddiriedolwyr Dr. Williams, fel y canlyn mewn atebiad i ymholiad Ni fydd a wnelo ymddiriedolwyr Dr. Williams o gwbl a rheoleiddiad yr ysgol. Fe'i cyflwynir i ddeg o reolwyr lleol, ac ni byddant yn gyfrifol ond yn uoig i'r Dirprwywyr Elusenol. Bydd i'r ymddir. iedolwyr dalu'r arian, ond o hyn allan ni byddant mewn un wedd yn gyfrifol nag yn ymyryd yn y modd y gweinyddir hwy. Nid oes gymhwysder nac annghymhwysder crefyddol i reolwr nac athraw. Mewn cyfeiriadau eraill rhoddir digon o alluoedd i'r rheolwyr i 'gymhwyso'r ysgol at an- genion y bobl." Cariwyd y mynegiad hwn allan yn llawn. Anfonodd yr ymddiriedolwyr yr arian bob blwyddyn yn ol y cynllue. Gwir fod gan- ddynt allu i ethol chwe' rheolwr, Bwrdd ysgol Dolgellau i ethol pedwar, ac awdurdod addysg y sir i ethol dau. Ond y mae'r ymddiriedolwyr yn Llundain yn trosglwyddo eu gallu i'r rheolwyr lleol, y rhai sydd wedi ethol pedwar allan o'r chwech sy'n aelodau o'r Eglwys. I'r rheolwyr lleol hyn y perthyn ysgol Dolgellau. Mae myn- egiad yr Esgob fod yr ysgol yn eiddo i ymddiried. olwyr Undodaidd yn byw yn Llundain yn anwiredd digywilydd. Pan gyhuddwyd yr Esgob o wneud y mynegiad- au trwy y rhai y dinystrwyd cynllun Howell, ceisiodd ymesgnsodi trwy gyfeirio at y nodyn a anfonais at Arglwydd Herschell. Anfonais y nodyn ifddweyd fod mynegiad yr Archesgob a'r Esgob fod ysgol Dolgellau yn Undodaidd yn an- wiredd dychrvnllyd." Yr wyf yn dal at y myneg- iad hwnw. Ychwanegais fod rheolwyr yr ysgol yn benaf yn cael eu hethol gan gyrph addysgo! a chyhoeddus yn yr ardal." O'r deuddeg rhe lwyr, etholir pad war gan Fwrdd Ysgol Dolgellau, dau gan reolwyr addysg y sir, a chwech gan reolwyr lleol. Mae i'r Esgob gwasgedig gan' croesaw i unrhyw gysur all ei ddychymyg dynu o'i ymdrechion i wrthbrofi fy mynegiad. Oes angen gwella'n mhell- ach gynllun Ysgol Dolgellau, 1875, sydd fater ag y gallasai'r Esgob ei godi pan oedd cynllun Meir ionydd yn pasio trwy'r Senedd, neu pan oedd vr esgobion yn ei ddarnio yn Nhy'r Arglwyddi, a mater hefyd ydyw ag y gellir unrhyw adeg ei benderfynu trwy gynyg cynllun gwell. Oad yr hyn sydd o'r pwys mwyaf yw y gallu a roed yn nwylaw Esgob Llanelwy i ddinvsfcrio cyo- lluniau addysg Cymru trwy rvm haeriadau disiil. Mvnega mai sefydliad perthynol i Eglwys Loegr yw Elusen Howell. Gan hired ag y gwrthyd gvf. lwyno'r mynegiad hwnw i Bwyllgor Barnol y Cyf. rin Gynghor, y mae efe yn wr 'sy'n ofni'r canlyn- iadau. Mynega mai ysgol Undodaidd yw ysgol Dolgellau, a'i bod yn perthyn i ymddiriedolwyr Undodaidd yn byw yn Llundain." Hyd nes tyna yn ol y mynegiadau hyn, fe saif gerbron ei gyd- wladwyr yn euog o'r brosedd o wenwvno ffynonau trafodaeth gyhoeddus.—Yr eiddoch, &c., THOMAS ELLIS. Ty'r Cyffredin, Gorph. 30, 1897. [Mae gan yr Esgob bwt o lythyr yn ateb i'r uchod yn Guardian ddydd Mercher ond os na fedd rhywbeth gwell na hyn yn arnddiffyniad," mae ei achos yn anobeithiol iawn. ] --0-- Although Flour is much dearer, the prices for Cornubia Self Raising Flour have not been raised. Yn Connan's Quay, ddydd Mercher, dirwywyd Thomas Griffiths, siopwr, i lp. a'r costau am werthu margarine heb nodi mai dyna ydoedd. Dywedir y bydd o 40 i 50 o chwarelwyr Ffestin- iog yn ymfudo i Canada yn fuan. Dirwywyd gcruchwyliwr Chwarel Croesor i 10s. a'r costau gan ynadon Penrhyndeudraeth ddydd Iau am dori Deddf y Mwngloddiau. -0-
[No title]
Os mynwch gael CIG OEN GWIR GYMREIG, blasus a I danteithiol, y mae i'w gael yn ddyddiol yn Sio? COED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn a March- nad St. John. Treiwch cf. Ni'ch siomir.
Yr Eisteddfod Gensdlaetljol…
Yr Eisteddfod Gensdlaetljol YN NGHASNEWYDD. (GAN EIN GOHEBYDD NEILLDUOL). Dydd Llun. DYDDOROL bob amser i'r Cymro gwladgar ydyw yr hen Wyl Genedlaethol, ac y mae yn cynyddu mewn dyddordeb a brwdfrydedd fel yr heneiddia, fei y prawf y rhagolygon digyffelyb sydd am Eistedd od wir lewyrchus yr wythnos hon. Am v tro cynta.f mewn hanes dyrna'r Eisteddfod Genedlaetbol wedi myned i dir Gwent i ymyl llys Arthur y Ford Gron, a phwy mwyach a faidd wadu nad yw Mynwy yn rhan o Gymru, a i phen tref- 44 Casnewydd ar Wysg "—yn deilwng o'i rhestru yn mhlith trefydd gwladgar ein mam-wlad. Ie, yn Nghasnewydd-neu, fel y myn yr oes hon ei galw, yn .Newport "-y cynelir yr Eisteddfod Genedl- aethol eleni. Saif y dref henafol hon ar lanau'r afou Wysg, mewn llanerch bur ddymunol onibai am y gwe^thfeydd a'r mwg sydd o gwmpas. Rhifa ei thrigoliou dros 60,000, lie y mae ei henw yn adnabyddus drwy y byd masnachol, yn ngnyda'i phorthladd prysur ac eang ei drafnidiaeth. Ceir ar y pwyllgor ddynion gwladgar a diwylliedig, ac yn Eisteddfodwyr aiddgar. 1A weithiasant yn galed gan amcanu rhagori ar yr oil o'u blaenoriaid, ac yr ydys felly yn disgwyl Eisteddfod ddihafal yr wyth- nos hon. Adran Celf a Gwyddor. Y mae yr adran hon wedi cael sylw neillduol yn nglyn a'r Eisteddfod eleni, ac y maent wedi cynyg gwobrwyon anrhydeddua ar nifer luosog o des- tynau. Agnrwyd yr adran ddydd Sadwrn gan Arglwydd Tredegar, ond ychydig oedd yn bresenol. Ar ol i Arglwydd Tredegar dra.ddodi anerchiad byr a synwyrol, cafwyd anerchiad dyddorol gan y Proffeswr Herkomer (Ab Gomer), yr hwn sydd yn beirniadu y darluniau a'r cerfiadau, a'r hwn hefyd sydd wedi bod yn brysur am rai dyddiau yn trefnu a thacluso yr ystafell gelf. Yr oedd yu teimlo yn IIawen wrth feirniadu y tro hwn am fod cynydd amlwg wedi bod, a gweithiau teilwng a gwir ragorol wedi eu hanfon i mewn. Llongyfarchai yr Eisteddfod ar y llwyddiant amlwg hwn. Yna aeth yn ei flaen i roddi ei feirniadaeth. Oeir enwau y buddugwyr eto yn mhlith y cystadleuun eraill ya eu lleoedd priodol. YR EISTEDDFOD. Gan fod nifer y cystadleuwyr mor luosog, pen- derfynwyd dechreu arni boreu Llun, a chymeryd pum diwrnod ati yn lie pedwar. Boreu Liun, torodd y wawr yn glir a chynes, ac y mae rhagol- ygon am wythnos o hafaidd hin. Dechreuodd y bobloedd, yn feirdd, llenorion, a cherddorion, gasglu i lun y Wysg yn foreu. Deuent o bob cyfeiriad, a chynrychiolir pob rhan o Gymru, Lloegr, a'r Airerig yma. Y mae golwg siriol ar eu gwynebau a llewyrch yn eu llygaid. Pawb mewn hwyi eisteddfodol, a'r trydan eisoes yn dechreu croni yn yr awyr o gwmpas y babell. Y mae y babell yn eang a chyfleus ac yn un bur gyfforddus. Gall 17,000 o bobl eistedd ynddi, ond y mae bron yn hollol ddiaddurn. Yn unig ceir nifer o enwau enwogion ymadawedig ar y parwyd- ydd, yn nghyda'r gair Seisnig mawreddog Wel. come" uwchben y llwyfan. Paham Seisnig nis gwn. Oni fuasai y gair "Croesaw" yn Ilawer tiysach ? A ganlyn ydyw enwau y beirniaid yn y gwahanol adranaii Barddoniaeth.-Dafydd Morganwg, Tafolog, Pedrog, Dyfed, a Ceulanydd. Cyfieithiadau.-Prifathraw Silas Morris, M.A., a Proff. Youug Evans, M A. Rhyddiaeth.-Prifathraw J. Rhys, Prifathraw Roberts, O. M. Edwards, T. Darlington, y Barnwr Gwilym Williams, Colonel Bradney, Ernest Rhys, Llawdden, (deon Ty Ddewi), D. Rowlands, Syr John Williams, Bar., Proff. Tyssil Evans, W. Edwards, a J. Gwenogfryn Evans. Ghwedloniaeth, — Madame Marie Trevelyan a D. Lleufer Thomas. Cerddoriaeth.-Syr A. C, Mackenzie, Proff. WaI. ter Macfarren, D. Enilyn Evans, John Thomas (Pencerdd Gwalia), Roland Rogers, David Jenkins, a F. Winteibottom. Celf a Givyddor,-Proff. Hubert Herkomer, Beresford Pite, S. W. Allen, W. Bush, A. H. Trow, E. W. Small, Mrs Edwin Phillips a Miss Evans, Caerdydd. DYDD LLUN. I Cymerodd Arglwydd Windsor y gadair am I' 10 30 o'r gloch, o flaeu cynulliad truenus o deneu. Y chydig o ddyddordeb gymerwyd vn nghystadl- euon y dydd heddyw, sef cvstadleuon offerynol gan mwyaf a ehorau cynulleidfaol a glee parties. Aethpwyd trwv y rhaglen fel y canlyn :— Cystadleuaeth y seindyrf pres heb fad dras 24 o offervnwyr, "Beauties" of England" {Newtou). Gwobr laf, 25p; ail 15p trydydd, 5p. Dwy seindorf yn unig ddaeth yn m'laen, a dyfarnwyd Whitweil Vale Bmd yn oreu, a Seindorf Glofa I Cymer yn deilwng o'r ai! wobr. f Cystadleuaefeh pedwarawd offerynol (y darn a'r offerynau at ddewisiad yr ymgeiswyr). Gwobr, 5p 5s. Ymgeisiodd pedwar parti; Whitweil yn fuddugol Unawd ar y clarionet Di Danti PaJpiti" (7m. cred). Gwobr laf, 4p 4s 2, Ip Is. D/farnwyd yn oreu W. T. Leonard, Abertawe, a G. Cain, CLS- newydd, yn ail. Cystadleuaeth agored ar unrhyw offeryn chwyth- awl, dernyn o ddewisiad yr ymgeisydd. Gwobr laf, 4p 4s 2, lp Is goreu, Wright tfoyle, Whit- 1 wen (ar v corn); ail, Charles Rielski, Caerdvdd (ar y chwibanogl). ( P a.d¡ad ar tudal 8.)