Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ESTABLISHED 1853 OWEN ROBERTS, ESTATE AGENT 33, Netherfield Road South, Has large and small Dwelling-houses to Lot in various parts of the town. G. H. EDWARDS" Co., 16, LORD STREET, ESTATE AGENTS, Have Cottages to LET in various parts of the &9wn, tenting from 2/6 to 8/6 per week, clear of taxes. Also larger houses at higher rents. H. E. WILLIAMS. 10, CONYERS STREET, ESTATE AGENT A AS large andemall Souses To T,e» uu various parts of the city aHd uburbs. Houses bought and sold. Mortgages arranged, Ac (F JOHN WILLIAMS. —Estate Agent,— LOMBARD CHAMBERS, 159 KIRKDALE RD. AU classes of House and Shop Property carefully and eco- ^allv mL"g"l. Sales and Purchases effected with nmptitude. Mortgages arranged and Insurances effected.(F HENRY JONES, ESTATE & MORTGAGE AGENT, 117, EVERTON ROAD, LIVERPOOL Rents Collected. Mortgages Arranged. TELEPHONE No. 1779. The Liverpool Land Companyg Limited TO ■RTTII.DEIIS, &0-—TO be Sold, Freehold and 998 -roll?Leasehold LAND, in lots to suit purchasers, in Garston, Sdale W^on, Bootle, and Seaforth, Liberal advances ^U be made to Builders. Property letting well in all the iocallties.-Apply to E. OWEN, Secretary, LIVERPOOL LAND COMPANY, 22, LORD STREET. "o". & D- WILLIAMS. Iron & Brass Founders, Engineers, Millwrights PULLEYS OF VARIOUS SIZES IN STOCK, Tool Makers, &c., METAL AND HARDWARE MERCHANTS WOTks-TAYLOB, STJMSET, iflice and -8 low Rooms-402 & AOA, Scotland Rd. Stow Booms LIVERPOOL. _v n„ ,f rrfia Gates, ar a Railings; Hot Kitchen Ranges, Cast iroa £ *!■«»,u „. Williams' <Pftwnt Winding and Adjusting Sun Shade for Shops, &c.¡ lua Bars & a" ^te Runners, &e. IT differs from all other Preparations. It con- I tains those Medical Agents which STRENGTH- EN and help the STOMACH to produce sufficient gastric juice to properly assHmilate food BENSON EVANS' G ACT R 0.0 Y N E TTOB. INDIGESTION. go, in Bottles, 1/14 (13 doses); 2/6 (40 doses) 1 TRY ONE BOTTLE. It leads the way in giving the greatest satis- faction for the cure of BILIOUS and LIVER COMPLAINTS, Pains after Meals, Heartburns, Flaoulency, Belching, and all those ailments which are caused from the one Complaint- I N DIG EST ION. GASTROCYNE strikes at the Root of the evil, giving not a temporary but a thorough cure. TRY ONE. BOTTLE! BENSON EVANS' PINK LIVER PILULES Act like Magic on the Liver & Kidneys. Small in size are easy and convenient to take. Sold in bottles, 7Jd. (40), and Is l*d. (90 Pilules) each. PROP-RIETOR- BENSON EVANS, Chemists Denbigh, T R. WHITTINGTON, I Tailor & Habit Maker (25 Years Practical Experience I 45, 8YROM STREET, LIVERPOOL. —— All Garments Cut and Made on the j Premises, in well-ventilated Workrooms. i Gymry I dewch at Gymro, CWMNI YSWIRIOI Y PWENTIAL (CYFYNGEDIG). TKYSOBFA DRoa £20..000000 AGENTS addas ychwanegol yn eisiau—kmofyner &J. W.JONES, Prudential Office Caernarfon GRIFFITHS & UVIESO I 398, SCOTLAND ROAD, Being the largest Drapers in the North End of Liverpool, are now concentrating all their attention to the following Departments, viz. Dresses. Drapery. Fancies. Haberdashery. .y. Hosiery. Mantles. Boys Clothing. Paperhanging. Underclothing. Furs. —AND— Millinery. In all these Departments will be found the Newest and most Stylish Goods of the Season at moderate prices. GRIFFITHS & DAVIES, 398, Scotland Road. F PAPAYANNI STEAMSHIP COMPANY- LARGE AND POWERFUL BRITISH STEAMERS SaU regularly to the LEVANT, BLACK SEA EGYPT CYPRUS ALGERIA, MALTA, and other Mediterranean Ports taking theifollowing two routes alternately (1) MALTA, SYR A,SMYRNA, CONSTANTINOPLE, and ODESSA Calling often on the return journey at several Ports on the Asiatic Coast of the Black Sea, Greece, and Spain ALGIERS, MALTA, ALEXANDRIA, CYPBtt BKYROUT, and ALEXANDRETTA. Calling occasionally on the homeward voyage at Spanish Ports. No over-crowding. Superior accommodation. Lofty well- ventilated Saloons and State-rooms. Stewardess carried. Safety Home comforts. Good and liberal tabla. Mods-iate fares for single and return tickets, and no extra charge for living on board during ships'stay at Porta. Tourists and pleasure-sekers taking a trip by this LIB- Ill and it most enjoyable and interesting For further partlb ftrs ftpply to PAPAYANNI ft CO., Fenwick Chambers, Liverpco lAkW- LLINELL Y WHITE STAK. ROYAL MAIL STEAMERS. LERPWL I NEW YORK via QTJEENSTOWN, BOB DYDD MERCHER:— Ni chludir cotwm ar yr un agerddlong ag ymdeithwyr "MAJESTIC Awst 18 GERMANIC Awst 25 A arwydda y ciudir yn yr Ail Gaban ar y fordaith Piis v cludiad ydyw £7 5s i iClO yn ol yr Agerddlong, y Tymhor, a'r lIe i deithwyr. Y mae y Llongau rhagorol hyn i gyd o'r dosbarth uchaf, yn unffurf o ran cynllun a Trefniadau, ac yn ddigyffelyb mewn mordeithiau. Ni chelr gwell cyfleusdra i fordaithwyr. Am fanylion, ymofyner R. Owen, Ship & Is surance Broker, a W. J. Williams, Heel y Farchnad Caernarfon; neu & R. Roberts, Bethesda; Owen E. Parry, masnachydd llechi, Dolwyddelen; Davio Rowlands, Penygraig W. D. Jones, Old Bank Caergybi; Jos. Francis, 5 Glanhwfa road, Llangefn R. G oberts ,Rock Cottage, Coigiau Mawr Tan ysarn; Hugh Hughes, 7, Market Row, Amlwob tAf. Williams Shoe Warehouse, Llanrw Matthew Goldie, 217, High Street, Bangor R U Evans, 1, Minafon, Dolgelly; neu â-g ISMAY IMRH &Co., 34, Leade nha Street, Llundain, E.L., a Water Street, Lerpwl. JOHN HUGHES, FOR SPRING AND SUMMER SUITINGS, SQUARE SHOULDERS A SPECIALITY. 24, OXTON ROAD, BIRKENHEAD, CUT, STYLE, AND QUALITY ALL GUARANTEED MODERATE PRICES. l/l a 29 gaa bob Druggist yn Liverpool PES Paa toedi 0 yn unig gan HDavies Chemist, W[acli- ynlletlj. TYSTIOLAETHAU. Dvwed Mr H. A. Evans, Post Office, Trelech.-l' Many in his Dart say that they have never userl anything equal to Davits'* Cough Mixture for Cough and Bronchitis. Dvwed Mr E. Davies, Glynarthen.— Gallaf roddi l ch rminh Mixture y eanmoliaeth uchaf fel meddyginiaeth ar gy f eranhw V 1(1 erau Imrywiol y gwddf a'r ysgyfaint." ANWYD-^r Robert Morgan, 45, Cwmavon Road, A her a von —" Yr wyf yn eich bendithio chwi am dano, ac y mae wadi gwneud lIes annhraethol yn fy nheulu at anwyd a Pbp5sWCH AS QANTOKION—Dywed Mr David Tp^idns Mus. Bac., Aberystwyth.—" Having suffered from an irritable Cough last Christmas, I took a bottle of Davies's ^touah Mixture, and by the following day I was quite free, ah]** tr» follow my public engagements, PVSWCH AB BLANT.-Dywe Mr W. Hughes p ni Y mae wedi bod o werth anmhrisiadwy y fy nheulu a bob amser wedi bod yn llwyddianus i wella y AETO dvwed Cadvan.—"Yr wythnos ddiweddaf cymerodd fy ngeneth fach oedddan anwyd cyndyn un o ch poteli a Z A- —Ysgrifena y Parch E. W Davies, Ton Pentre yn ddiweddar, Gallaf ddwyn tystiolaeth glir i boblogrwydd mawr Hugh Davtee's Cough Mixture, ac i dder byniad lies neillduol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefn- yddiad ohono, ac hefyd i'w werth yr adeg hon gyda'r haint. '"llvwedy Parch LI. B. Roberts Caernarfon,— Dan ochain anwyd yn nychu—a r lungs Yn rhyw lesg weithredu Mwy cais trwy y Cough Mixture cu, Oes o iechyd ddi-besychu." PBIDIWCH Cymeryd eich twyllo gan unrhyw efelychiad o DAVIES'S COUGH MIXTURE Y mae llu yn y farchnad. QOPALWCH Fod y Trade Mark Uchod yn y golwg. MYFWOH V Tirnl Thina—DAVIBS'S COUGH MIXTURE, parotoedig Y Real ^^u6U/Davib8, Fferyllydd, MachynUeth. BSYSIWCH geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atech, cyn j 8 Anwyd fyned yn waeth.
HELBULON ANEURIN RIWEL,I
HELBULON ANEURIN RIWEL, [Gan AP CYTFIN.] PEV. VIII.—ANEURIN A'R ARIAN COLLEDIG GWELAI Aneurin yn union y perygl yr oedd yn- ddo-y perygl o golli ei gymeriad a'i Ie yn y mas- nachdy. Fel y digwydrtai, yr oedd rhywun o'r dwylaw yn euog o ladrata nwvddau o'r masnachdy yr wythnosau hyny, a'r meistri wedi gosod detec- tives ar waith, a buasai'r ambeuaeth leiaf am un o'r gweision yn setlo ei dynged ar unwaith. Rhoddai hyn fwy o lymder yn ei brofedigaeth. Awgrym ei fod yn anonest fuasai'n ddigon. Ond cafodd rhyw nerth i gadw ei hunan-feddiant ac amddiffyneihun mewn modd pendant. "Wel," meddai, wedi i chwi fel hyn ddweyd eich neges, mae'n bryd i minau ddweyd ger eich bron fy mod yn ddieuog 'Rwy'n eithaf parod i addef fod yr amgylchiadau neithiwr, a gwrid fy wyneb yn awr, wedi bod yn dra aeffafriol i mi, ond nis gallaf wrth hyny. Chwi sydd wedi eu cam- ddeongli. Ac os oes iaith i'r gwrid hwn, fel yr addefaf fod, oblegyd mae gwrid wyneb yn wastad yn dweyd y gwir ond nid datgan fy mod yn lleidr y mae'r tro hwn, beth bynag. Nid fy lie i yw ceisio cysoni'r amgylchiadau a ddygwch ger- bron a fy niniweidrwydd, nac esbonio dirgelwch y digwyddiad. Eich lie chwi yw profi fy mod yn euog. Hwyrach na allaf fi brofi fy hunan yn ddi- euog i'ch borldloni chwi-nid oes genyf dyst ond fy nghydwybod, ac nid yw eich clust chwi yn ddigon teneu i glywed ei llais, Yr wyf yn ddi- euog ac os dewiswch, cewch chwilio fy llogellau a dod i'm Hetty i chwilio fy nghist." Y maent yn panderfynu myn'd i'r lletty, ond ar haner y ffordd yno dywedai Albert wrth ei dad mai afreidiol oedd chwilio ei gist, gan awgrymu, os oedd Aneurin yn ddigon drwg i ladrata'r arian, ei fod hefyd yn ddigon cyfrwys i'w cuddio yn rhywle heblaw ei gist. A phe baem yn csel pum sofren yn ei gist," meddai, pwy all brofi nad ei arian ef ei hunan ydynt ?" Troisant yn ol; ac yma mae Aneurin yn eu cynghori i beidio gwneud eu meddyliau i fynu yn rhy bendant mai efe oedd y lleidr-fod hyny yn eu hannghymhwyso i ddwyn neb arall i'r fagl. Wedi i Albert a'i dad gyrhaedd adref, y mae'r holl amgylchiad yn cael ei ail drafod uwchben y bwrdd ciniaw, ac addefai'r tad mai gwaeth na methiant a fu eu gwaith gydag Aneurin, a bod pob arwyddion eu bod wedi ei gythryblu yn ddirfawr, ac yn ol pob golwg yn hollol ddiachos. Ond os yw Aneurin yn euog, nis gall byth ein gwynebu fel teulu yr un fath ag o'r blaen o'r ochr arall, os yw'n ddieuog, nis gallwn byth ddisgwyl iddo fadd- eu i ni. A ydyw'n bosibl, tybed, fod y lleidr yn nes adref ?" Yna mae John yn siarad-yn falch o'r cyfle i roi gair i mewn o blaid Aneurin. Ebai Mae fy nhad wedi awgrymu fod y Heidr yn nes adref. Nis gwn a yw fy mrawd a'm chwaer yn hollol glir oddi- wrth eiddigedd cot Aneurin. Feallai eu bod yn teimlo na ddylai gael y fath dderbyniad yn ein ty: ond mae mor anhawdd genyf gredu y buasai'r naill na'r Hall yn chwareu cast o'r fath yn ei erbyn ag yw genyf gredu fod Aneurin yn euog." Gwelodd y fam y perygl i John, wrth geisio cadw cymeriad Aneurin, dori cymeriad ei frawd a'i chwaer ei hun, a gwrthdystiai yn erbyn y petb. Cymerodd y chwaer fu'n cyfrif yr arian y cyfle cyntaf i ddweyd nad oedd gan John y sail leiaf i awgrymu ei bod hi a'i brawd Albert yn eiddigus o Aneurin. Y mae ei sylwadau," meddai, wedi rhoddi brath lem i fy nghalon. Mae'r ffaith ei fod yn canfod y posiblrwydd i mi neu fy mrawd wneud y fath gast ag Aneurin i ddim ond dinvstrio ei gymeriad, yn ofid annhraethol i mi. Dywed nad oes neb ohonom yn adnabod Aneurin fel efe. Can- iatawn hyny, ond os mai dyna'i safon, y mae'n ad- waen ei chwaer agosaf ato mewn oed yu llawer gwell nag Aneurin. Yr wyf fi wedi treulio mwy o flwyddi yn ei gwmni nag y mae Aneurin wedi ei wneud o wythnosau. Yr ydym wedi cydfyw ein dwy oes gyda'n gilydd, oddigerth y ddwy flynedd sydd rhyngom mewn oed. Gwyr John o bawb am fy holl ddiffygion a'm tueddiadau ni wyr neb ond yr Hollwybodol fwy o fy hanes dirgel nag ef. Gwyr i mi gael cyfle filoedd o weithiau i fyned ag arian o'r drawers ac fe'i heriaf y foment hon i ddwyn y prawf lleiaf o'm banonestrwydd Ac ni fu genyf fi unrhyw eiddigedd at Aneurin. Ni threuliwyd munydau hamddenol erioed yn ein ty ni gyda mwy o fwynhad na phan fyddai Aneurin yn canu ei "Songs of Wales," a minau'n ei ddilyn ml ar y berdoneg a gallaf siarad dros fy mrawd Al- bert ei fad yntau yn hollol glir oddiwrth yr hyn a awgrymai John." Teimlai John on bod wedi cymeryd yn annghar- edig iawn ato oherwydd ei awgrymiad. Ond," meddai, yr ydych oil wedi cymeryd yn ganiataol fod Aneurin yn euog, ac wedi ei gyhuddo heb un- rhyw sicrwydd. Meddylier, er mwyn dadl, fod fy mrawd a'm chwaer yn euog. Sut y gellid eu profi yn euog ? Pwy cedd y cyhuddwyr i fod ? Nid v chwi, mam, na chwithau, nhad. Ond yr wyf fi wedi. anturio'r awgrym, nid am fy mod am funyd yn credu eu bod yn euog, ond er mwyn sicrhau nad oeddynt. Yr unig beth a wnaethum a hwy oedd yr hyn a wnaethant hwy ag Aneurin. A phaham y'm beiir ?" Fel yna, yr ydoedd y teulu yn myned yn ddyfnach i'r benbleth o awr i awr, a'r arian heb eu cael. Ond pwy oedd y lIeidr ? Nid Aneurin, na'r brawd na'r chwaer chwaith. Oblegyd pan oedd John yn chwilio am ryw-beth o dan y cownter, beth welai ond sofren felen yn gwenu arno yn nghanol rhyw fan bapyrau. Wedi. chwilio'n mhellach, caf- odd y pedair sofren arall megys yn llechu'n ddirgel o olwg pawb. Amlwg fod yr aur wedi neidio o'r cawg oedd yn y drawer yn yr ysgydwad a fu wrth i Albert ddisgyn y carpedi trymion ar y cownter pan yn cau y siop. Anmhosibl datgan llawenydd John pan ganfu yr aur a gollwyd a phan gafodd pawb o'r teulu yn y ty, hysbysodd iddynt ei ddarganfyddiad. Y fom- ent y gorphenodd John, ebai ei chwaer, "Faint bynag o le sydd gan Aneurin i achwyn ar Raglua- iaeth, mae genyf fiac Albert achos diolch mai i law John y daeth yr arian, oblegyd tybier fy mod i neu Albert wedi eu cael, mae'n gwestiwn a fuasai John yn ein credu. Bellach mae'r peth wedi ei setlo a phawb yn ddieuog." Yr anhawsder bellach oedd gwynebu Aneurin wediiddyntymddwyn tuag ato fel pe buasai'n lleidr, a sut i feddyginiaethn'r briw enbyd a roisant i'w deimlad. Ni wyddai Aneurin pa foment y byddai yn y ddalfa. Tybiai mai detective ydoedd pob gwr dyeithr a gwrddai yn ystod yr amser bu'r cwmwl uwch ei ben, ac y buasai'n rhaid iddo ddy- oddef cosb er ei fod yn ddieuog. Nid oedd ganddo y siawbs leiaf i ddianc. Fodd bynag, heb golli dim amser, mae'r tad yn myned i hysbysu Aneurin fod yr arian wedi eu cael. Fel y gellir tybio, yr oedd golwg wahanol ar ei wedd yn cyfarfod Aneurin y tro hwn. Son am roi pardwn iddo ar amodau neillduol yr ydoedd yn y boreu, ond erbyn hyn yr oedd y cwbl yn llaw Aneurin—y pardwn a'r amodau. A cheir gweled pa. fodd yr vmddyga tuag ato. Buasai Ilawer un yn dial hyd yr eithaf pe cawsai fantais Aneurin yma. Beth bynag, mae'r tad wedi cael Aneurin ar ei ben ei hun, yn dweyd fod yr arian wedi eu cael, ac mor ofidus oedd ganddynt fel teulu iddynt beri y fath ofid iddo. Heddyw'r bore," meddai, tybiwn os oeddech yn euog, y cawswn y pleser o faddeu i chwi, ond erbyn hyn mae'r olwyn wedi troi, a minau yn gof- yn maddeuant genych chwi—madcleuant am y fath bryder a helbul a ddygasom ar eich pen drwy aw- grymu fod yn bosibl i un mor lan ei gymeriad ym. ostwng i gyflawni y fath anonestrwydd." Atebodd Aneurin ei fod wedi cael gollyngdod o'r baich oedd yn pwyso mor enbyd ar ei ysgwyddau baich o gyfrifoldeb," meddai, oherwydd i mi ddigwydd bod yn y siop pan gollwyd yr arian, am i mi yn ddiarwybod fod mewn man a cbyfle i fod yn lleidr. Ychwaneg, bum mewn cyfwng y bu- asai'n anmhosibl i mi brofi nad oeddwn yn lleidr, a minau yn onest. Gwell i mi na llawer pum punt fod yr arian wedi eu cael. Gwn yn eithaf da mai eich cosbi chwi y buasai llawer un, ond nid dyna fy tfordd i. Yr wyf yn maddeu i chwi. Yn wir, ond i mi edrych yn deg ar y peth, achos diolch i chwi sydd genyf am fy nghyhuddd o dan amgylchiadau o'r fath, oblegyd tybier fod yr arian heb eu cael, minau'n gwybod dim eich bod wedi eu colli, a chwithau ar hyd yr amser yn tybio mai fi oedd wedi eu cymeryd oni fuasai'm sefyllfa ya ganwaith gwaeth ? Ni wna'r wers hon ond fy nghadarnhau yn fy ngonestrwydd, ac fe ddysg chwithau beidio bod yn rhy fyrbwyll yn y dyfodol. Gwnaf fy ngoreu i annghofio'r amgylchiad-y duaf fu ar fy mhen erioed. Gwnaf fy ngoreu i ym- ddwyn atoch fel teulu fel o'r blaen, a hyderaf y gwnewch chwithau oil tuag ataf finau yr un modd. Eto, er i Aneurin fwriadu bod fel o'r blaen efo'r teulu, ac iddynt hwythau benderfynu ymddwyn yr un modd tuag ato yntau, methent o'r ddeutu fod yn debyg fel cynt. Collodd y naill a'r Hall lawer o'r rhyddid a'r swyn cyfeillgar a fodolai cyd- rhyngddynt. Nis gallai hyd yn nod John fod yn hollol yr un fath gydag Aneurin, nac Aneurin gyd- ag yntau. Ni wyddai Aneurin faint o amddiffyn- iad yn ei gefn a gawsai gan J ohn ac yn snr nid oedd gan John amynedd i'w hysbysu na son wrtho am y peth o gwbl. Tybiai y buasai hyny'n rhy debyg i weniaith o flaen cyfaill oedd wedi ei dram gwyddo mor fawr. (I barhau.) -0--
0 lanau'r Mor Tawel.
0 lanau'r Mor Tawel. CYNALIWYD yn San Francisco Gorph. 7fed i'r lOfed Gymanfa Genedlaethol yr Ynndrechwyr Crefydd- ol." Ymdrechasid i'w chael yma er's blynyddao, ac ar ol ei ch'ael yr oedd y pwyllgor mewn pryder mawr oherwydd ein sefyllta belJenig, ond awd ati yn galonog a chasglwyd dros 25,000 o ddoleri ac, yr oedd pryder arall yn ein gwynebu, aef a ddeuai digon cyn belle-i er gwneud y gymanfa'n llwydd- iant. Wrth gwrs, yr oedd amryw yn ddigon parod i ddigaloni, ond aeth&nt yn mlaen rhwng ofn a pbryder. Erbyn diwedd y gymanfa sicrhaent mai hon oedd yr un fwyaf llwyddianus o ran nifer, sel, a gobeithion ei dylanwad. Cyfrifir fod tua 27,000 o Ymdrechwyr hen ac ieuanc wedi eu cof- restru, yn eu plith dros 10,000 o'r Taleithiau eraill; hefyd i tua 60,000 fanteisio ar y cludiad rhad er ymweled a Chaliffornia, a hyny mown wythnos o amser. A phan gofir nad oes ond un depot ac un llinell i'w derbyn oil, gwelir fod yma wnith caled am ychydig ddyddiau i bobl y reilffordd. Mae'n hyfryd dros ben genyf allu dweyd na fu damwain o bwys yn ein talaeth nac yn unman arall. Yr unig anffawd oedd, cryn benbleth gyda'r Trunk Line —methu a'u cael mewn pryd i'r gymanfa, a llawer heb eu cael nes oedd y gymanfa drosodd. Ac eithrio mater y Trunk Line, Ilwyddiant perffaith oedd y gymanfa o ran lleoliad, nifer y pynciau a drinid, siaradwyr enwog o bob cwr o'r byd, a'r Hymry yn elfen bwysig ynddi fel aelodau a dynion cyhoeddus, yn enwedig gyda'r canu—Cymry oedd mwyafrif blaenoriaid y gan. Cawsom weinidog- aeth yn Oakland a San Francisco y Sul gan Parchn Dr. D. Davies, Oskosh; Dr. Wm. Fouikes, Salina, Kansas; J. M. Hughes, Emporia, Kansas. Dydd Mawrth ar ol y gymanfa, yr oedd pobl Oakland wedi gwahodd yr holl ddyeithriaid a'u bwydo, a rhoi holl gerbydau'r dref at eu gwasan- aeth. Cafodd Cymry Oakland felly fantais i ddangos caredigrwydd i ddyelthriaid Cymreig. Yr eedd ty agored o ddeg o'r gioch hyd bump yn y capel Cymraeg, a daeth llu mawr o bob! Wiscou- sin, Minnesota, Lakota, Denver, Chicago, Oregon, Ohio, a Pennsylvania yn nghyd. Darparwyd ym- borth ddigonedd, ac hefyd wledd feddyliol o'r fath oreu gan y Parchn Dr. Davies, Oskoah William Fouikes, Kansas J. M. Hughes, Kansas; J. A. Jones, Port Cost; Proff. Lloyd, Oakland J. W. Phillips, Oakland; Parch. Moses Williams yn llywyddu. Cawsom ganu hefyd, a hwyl gyda'r hen emynau Gwaed y Groes," Pa dduw sy'n maddeu (ton Huddersfield ") nes gwreaogi pawb ac ni an- nghofiwyd Hen Wlad fy Nhadau" gan Clement Rowlands, yr hwn sydd newy id ddod i Oakland i fyw. Cerddor medrus yw o Victoria B.C., gynt o Abergwaun, sir Benfro. Siaradodd y brodyr ar y gymanfa, a chawsom amser da. Yr oedd yn y gymanfa gynryehiolwyr o bob cwr o'r byd. Bu cymanfa gyffelyb yn ddiweddar yn Lerpwl, ac yr oedd "Father Clarke" ac amryw eraill, lie bu golwg ar rai o India bell, o Ynys oedd Mor v De, Alaska, Awstralia, Ceylon, Core& Japan, a China—oil yn cymeryd rhan—yn argoel fod y byd yn prysur weIla. Golwg hardd oedd gweled deuddeng mil mewn un adeilad o bobl yr Arglwydd yn San Francisco yn canu Ei fawl ac yn hyrwyddo'r achos da yn mlaen, a'r rhan fwyaf yn bobl ieuainc. Ni welodd San Franciscq olwg tebyg o'r blaen. Canu emynau ar yr heolydd, yn y street cars, ar yr agerlougau pan yn croesi'r bau, ac yn y gwesttai. Argraph dda maent wedi adael ar bawb -da fuasai gan rai ohonom i'r gymanfa aros gyda ni am byth. Ond erbyn hyn maent wedi chwalu, miloedd wedi troi eu gwynebau tua chartref gyda I mwy o sel i wneud y byd yn well. R.J.
[No title]
Oakland, Gorph. 18, 1897. o t Mae Mri J. P. Gregory a J. R. Hughes, I Caernarfon, wedi eu dyrchafu i'r faine ynadol. i Tori yw'r cyntaf, a Rhyddfrydwr yw'r ail.