Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Cwreiohlon.

[No title]

PEIRIANT CYWRAIN.

!Uchel-Wyl y Wesleyaid.

LLEOLIAD GWEINIDOGION Y GOGLEDD.

Cyfarfod Misol Liverpool.

Y Senedd a Helynt y Penrhyn.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Senedd a Helynt y Penrhyn. YN Nhy'r Cyffredin nos Fercher, sylwodd Mr William Jones nas gallai fyned yn ol at ei etholwyr heb alw sylw'r Ty at gwestiwn Arglwydd Penrhyn a'r chwarelwyr. Adgofiai'r Ty iddo ar .ddechreu'r tymhor alw sylw at y ffaith fod y dynion wedi gosod eu hunain yn ddiamodol yn nwylaw Bwrdd Masaach. Fodd bynag, gwrthododd Arglwydd Penrhyn yn bendant ganiatau unrhyw ymyriad allanol yn y mater, ac felly yr oedd y sefyllfa heb newid o gwbl. du dwy gynadledd rhwng Argl- wydd Penrhyn a'i weithwyr, ond ofer holiol fuont hyd yn hyn. Gofynodd a oedd yn bosibl dyfod i ddealltwriaeth dda pan y llefai y prif oruchwyl- iwr ar draws y bwrdd wrth arweinwyr y dynion "Dyna gelwydd." Gwyddai mai y goruchwyliwr oedd y mwyaf cyfoethog, ond anturiai ddweyd mai arweinwyr y gweithwyr oedd y mwyaf bon- eddigaidd. Cwestiwn y rheolaeth oedd yn gwa- hanu'r pleidiau, ond wrth ofyn am hawl i uno nid amcan y dynion oedd '/myryd a'r rheolaeth o gwbl. Y cwbl a geisient o--dd undeb i ddwyn cwvnion eu cydweithwyr gerbron y rheolaeth. Nid oedd angen canmol ymddygiad y dynion yn ystod yr un mis ar ddeg y buont allan-rhoed teyrnged iddynt am hyn gan y Barnwr Ridley. Y rheswm am hyn oedd cymeriad moesol a chrefyddol uchel y dynion. Bu dyoddefaint mawr yn ystod y tymhor hwn. Andwywyd masnach lechi yr ardal; a dirwasgwyd y man-fasnachwyr ac eraill oblegyd hyn. Cynelid y dynion a'u teuluoedd gin undebau llafur, a chaent gydymdeimlad y wasg a'r byd gwareidd- iedig. Yn ngwyneb y dyoddefaint enfawr, prudd oedd meddwl y fath "llu a feddai un dyn i reoli tynged miloedd o deuluoedd gyda'r mwyaf hedd- ychol yn y deyrnas. Dywedai Arglwydd Penrhyn yr ymladdai'r frwydr i'w therfyn eithaf. Gofynai ef (Mr Jonea) a oedd yn ddoeth neu ddymunol i ganiatau i'r annghydfod barhau, a gofynai i Lyw- ydd Bwrdd Masnach, caredigrwydd yr hwn a gyd- nabyddai, ai ni allai'r Llywodraeth ddylanwadu ar Arglwydd Penrhyn i dderbyn cyflafareddwr i geisio terfynu'r annghydfod anffodus. Mr Ritchie a sylwodd nas gaUai gwyno fod y boneddwr anrhydeddus wedi codi'r cwestiwn, nac ychwaith am yr araith a draddododd. Yr oedd hefyd yn barod i dystio fod Mr Jones bob amser. yn gyhoeddus a chyfrinachol, wrth ymwneud a'r cwestiwn, wedi dangos ysbryd cymedrol, parod i gytuno, a da ganddo ef fuasai i eraill fod wedi dangos ysbryd cyffelyb wrth drafod yr anhawsder hwn. Gwyddent oil fod Bwrdd Mas. nach wedi ceisio dwyn y pleidiau yn nghyd gyda golwg ar ddod i ddeallbwriaetb. Gwrthododd Arglwydd Penrhyn ganiatau i neb oddiallan ymyryd, ac yn ddiddadl yr oedd ganddo hawl gyfiawn i wrthod. Tra y cydnabyddid fod gan- ddo'r hawl hwn, da oedd ganddo ef (Mr Ritchie) feddwl mai nid dyma'r agwedd a gymerid yn gyffredin mewn helyntion llafur gan y meistriaid ac er pan ddaeth Deddf Cyflafareddiad i rym, bu llawer o feistriaid a gweithwyr yn apelio am ymyriad Bwrdd Masaach, a chydag un neu ddau o eithriadau buwyd yn llwyddianus i ddod i gytun- deb. Cyfarfu Arglwydd Penrhyn ei weithwyr mewn cynadledd a drefnwyd gan Fwrdd Masnach, a chyffesai Mr Ritchie fod ei obeithion yn uchel y deuid i ddealltwriaeth derfynol ynddynt. Yn anffodus, ofer fu'r cynadieddau. Caniataodd Arglwydd Penrhyn un neu ddau o bethau i'r dyn- ion a chredai Mr Ritchie y buasai effaith y cyn- adleddau yn twy boddhaol onibai am y ffaith fod trydydd berson yn bresenol. Gan fod Arglwydd Penrhyn wedi cydsynio i wrando pwyntiau amgen nag eiddo y cwestiwn o ymyriad a'r rheolaeth, a'r dynion ar y llaw arall wedi dweyd nad oedd gan- ddynt un bwriad o ymyryd yn y cyfryw reolaeth, credai fod gobaith y deuid i gytundeb. Ond teim- lai fod yn anmhosibl iddo ef na Bwrdd Masnach gynyg i Arglwydd Penrhyn na'i weithwyr unrhyw gyflafareddiad yn awr. Rhaid oedd i'r cais ddod oddiwrth y ddwy blaid eu hunain. Mor bell'ag yr oedd a wnelai ef yn bersonol a'r mater, croesawai yn gynes unrhyw gwrs yn y cyfeiriad hwnw gan Arglwydd Penrhyn neu ei gyn-weithwyr. Ond ofer fuasai ymyryd heb i'r pendefig a'r dynion ddymuno hyny. Da oedd ganddo dystio i ym- ddygiad rhagorol y dynion. Nis gallasai 'dim fod yn well, a hyderai y byddai i hyny ddenu Argl- wydd Penrhyn í arfer moddion i ddwyn i derfyn yr annghydfod anffodus oedd yn achosi dyoddefaint mor fawr.

-0--Nodion o'r Ddinas.

IBarddoniaeth.

Y BEDD

BEDDARGRAPH DYN GLWTH.

Y MOR.

---:0:--Y DON ASSOCIATION

Advertising

ICOLEG Y GOGLEDD, BANGOR