Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Ar Finion y Ddyfrdwy.
Ar Finion y Ddyfrdwy. CORWEN. Ni fu erioed well Eisteddfod oedd y farn iiii fryd, a mwynhad o'r mwyaf i bawb oedd bod ynddi. Ceid ynddi anbebgorion gwyl lwydd- ianus—digon o Gymraeg, digon o ganu, a digon o feirdd. 'Roedd y giwaid olaf wedi hel yma o bob man, ac ni welwyd cymaint o walltiau mawrion er's llawer dydd. Y syndod yw fod y dydd mor hafaidd a chymaint o elfeiiau tym- hestl wedi ymgynull Fe wnaiff Llifon eitha Archdderwydd, ac yr oedd golwg nobl ar Rhuddfryn yn yr Orsedd. Rhai garw yw pobl Maelor-y nhw oedd pobpeth bron yn yr wyl eleni, ac am ganu anhawdd yw cael eu rhagor- ach. Gall mai diwedd y gân yw'r geiniog, da yw deall fod yr wyl wedi talu ei flordd a gwedd- ill mewn llaw. Ddaw'r Eisteddfod Geaedlaeth- 01 ddim i fynu a hi am hyn beth bynag. 'IS-BISKWYN.
--0:--Colofn Dirwest.
0: Colofn Dirwest. NID oes well arwyddocad o lwyddiant yr achos na'r cynydd dirfawr yn mhlith gweinidogion llwyrymwrthodol yn y gwahanol undebau cref- yddol. Deogys adroddiad Oynghrair Dirwestol y Methodistiaid Rhyddion fod 96 y cant o'r gweini- dogion yn ymatalwyr proffesedig; fod gan yr enwad 761 o gymdeithasau dirwestol, yn cynwys 76,971 o aelodau. Nerth arall o blaid yr achos ydyw fod galw cyn- yddol am ddirwestwyr a dynion o ymddiried i lanw swyddi cyfrifol a phwysig yn ngwahanol gysyllt- iadau masnach. Un engraipht o hyn yn mhlith lluaws ydyw'r gyfraith sydd newydd basio trwy Ddeddfwrfa New York. Fel hyn y gorchymyna:— Ni chaiff yr un dyn sy'n llymeitian diodydd meddwol gymeryd gofal nwyddau ffrwydrol, berw- edydd, peiriant, na chyfodydd, ac ni chaniateir i'r cyfryw fod mewn unrhyw ran o waith mwn tra tan ddylanwad.gwirodydd." Ychwanega'r Journal of Hygiene fod y rheol newydd eisoes wedi tynu i lawr nifer y damweiniau mewn lleoedd felly agos i ddim. Yn nglyn a hyn y mae'n werth cofnodi sylw yr Henadur W. D. Stephens o Newcastle-on Tyne. Wrth siarad mewn cwrdd cyhoeddus, cyfeiriodd at y Mesur Iawri i'r Gweithiwr a ddygir yn mlaen gan y Lly wodraeth bresenol, dywedai mai un o'i effeith- iau, yn ei farn ef, fyddai ymlid dynion sy'n meddwi allan o'r gweithfeydd a rhoddai hyn hwb aruthrol i Ddirwest, gan y byddai'r meistri yn fwy gofalus i sicrhau dynion sobr, ac felly leihau peryglon a damweiniau. Buan y dysgai'r dynion hefyd roddi gwerth ychwanegol ar sobrwydd a hunan- lywodraeth. Wythnos i'r Llun diweddaf, bu'n eistedd yn Edinburgh 37ain Cynadledd Urdd y Rechabiaid a dywedai'r Prif Reolwr fod yr Urdd yn rhifo'u awr 250,000, a chanddi 800,000p o drysoria wrth gefn. Peth arall ddangoswyd yno ydoedd fod rhifedi marwolaethau yn mhlith yr aelodau ond yn ol 6i y fil, o'i gymharu ag lleg mswn Cymdeith- asau Cyfeillgar eraill. Y rheswm am y gwaban- ia.eth ydyw fod llwyrymataliad yn amod aelodaeth gyda meibion Rechab; yr hyn a anwybyddir gan y cymdeithasau eraill, heblaw eu bod yn cynal eu cyfarfodydd ac yn trafod eu holl fusnes agos mewn tai tafarnau. Allan o 40 miliwn poblogaeth y Deyrnas Gyf unol, y mae 11 miliwn yn Uwyrymwrthodwyr,— pedair miliwn o oedolion, a chwe miliwn o blant. Bu 1,500 o Babyddion o Bradford a Halifax yn talu gwarogaeth i Wenfrewi yn Nhreffynon ddydd Linn. Gofyna Arglwydd Stanley o Alderley 300p. yr acr am dir i adeiladu Ysgel Ganolradd Caergybi arno. Gerbron ynadon Treffynon ddydd Mercher, dyg- wyd Frank Wallace .Spriggs gerbron yr ail waith ar y cyhuddiad o ymosod ar a Iladratj6 eiddo Miss Annie Hughes, Rhuddlan, dan amgylchiadau sydd eisoes wedi eu cofnodi. Ar ol gwrando arnryw dystion, penderfynwyd anfon y cyhuddedig i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf yn Rhuthyn.
--0--BETH YW CYNILDEB?
--0-- BETH YW CYNILDEB? MAE gan la,wer o bobl syniadau cyfeiliornus am yr hyn yw gwir gynildeb. Creda rhai mai ymwadu â'u hunain yn mhob dim ydyw, ac o ganlyniad, ymgad- want yn ain) rhag yr hyn a wnai wir les iddynt. Gamsyniad mawr yw hyn. Nid yw y fath ymddyg- iad, ond rhith o gynildeb, ac, mewn gwirionedd, mae yn ami yn achos o esgeulusdra sydd yn profi yn niweidiol. Gwir gynildeb yw gwneud y defnydd goreu o bob peth yn eu meddiant. Mae y gost o fyned i la,n y mor, neu i'r ffynonau, yn enwedig i'r dosbarfch gweithiol, gymaint fel mae yn ddyledswydd arbenig arnynt, ac yn neillduol ar y rhai sydd wan neu glaf, i geisio caei y lies mwyaf sydd yn ddichonadwy. Mae profiad lluoedd yn ein gwlad yn tystio fod cymeryd ewrs o Quinine Bitters Gwilym Evans yn ystod eu hymweliad a, glan y mor, neu pa le bynag yr ant i dreulio eu gwyliau, wedi profi yn llesol iawn iddynt, ac wedi dyblu y budd a dderbynient oddiwrth y cyfnewidiad, pe heb gymeryd y cwrs o'r meddyglyn rhagorol hwn. Mae Quinine Bitters Gwilym Evans yn gyd-gasgliad godidog o'r hyn sydd feddyginiaethol ae adgryfhaol yn holl brif lysiam y bvd llysieuol. Mae pawb sydd wedi roddi prawf arno yn cydnabod eu rinweddau a'i effeithiolrwydd, ac mae llawer wedi ceisio ei efelychu ond yn ofer. Gwerthir Bitters Gwilym Evans gan fferyllwyr yn mhob man mewn poteli 2d 9c a 4s 6c yr un, a gellir ei gael trwy y post am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion Quinine Bitters Manufacturing Co., Limd., Llanelly. South Wales.
Newyddion Cymreig. I
Newyddion Cymreig. I Ba rbedegfeydd cycbod ar y Fenai yr wyth- nos ddiweddaf. Casglwyd 150p. at Yspytty Sarah Nicoll yn Llandudno ddydd Sadwrn. Mae sedd y Cynghorydd Robert Hughes, yr hwn a gyhnddir o dwyll, wedi ei chyhoeddi yn wag yn Nghynghor Dinesig Bangor. I Bu yspleddach yn Nghastell Conwy ddydd Iau, er ffurfio cronfa i godi ysgolion elfenol I newydd i enethod. Caed swm da. Oherwydd y gwres mawr, a'r prinder dwfr, bu raid i luaws o weithwyr Bwcle fod yn segur yr wythnos ddiweddaf. Mae llyfrgell gyhoeddus wedi ei sefydlu yn Miwmaris, a thy o'r enw Grove House wedi ei brynu i'r pwrpas. Nawn ddydd Mercher, syrthiodd peiriant ar fachgen naw oed, mab Mr Oscar Caine, Grapes Hotel, Rhyl, gan ei anafu'n dost. Ddydd Gwener, cyrhaeddodd Syr George Osborne Morgan, A.S., a'i briod i'w cartref Cymreig ger Rhiwabon, Cyfarfu tri o Saeson o Halifax a damwain ddifrifol yn ngwaith nwy Llandudno ddydd Gwener, trwy i ysgaffaldiau gwympo. Ddydd Sadwrn, cynaliwyd arddangosfa bywyd- fadau yn Rhyl, a chasglwyd swm da at y gym- deithas. Mae Mr T. B. Davies, o Goleg Annibynol Bangor, wedi derbyn galwad i fugeilio eglwysi Tabor a Phenmorfa, sir Gaernarfon. Mae Mr J. Grierson, Plas Morfa, Treffynon, wedi'ei benodi yn oruchwyliwr ystad Svr Hugh Adair yn Norfolk a Sutfolk-ystâd o 16,000 acr. Am feddwi yn ei dafarn ei hun, dirwywyd Evan Davies, King's Head, Abergele, i 10s a'r I costau ddydd Sadwrn. Aeth cerbyd ar dan ar y reilffordd rhwng Rhyl ae Abergele nos Wener, a llosgwyd yr holl nwyddau ynddo. Cynaliodd arolygwyr iechyd sir Gaernarfon gyfarfod yn Ngholwyn Bay ddydd Sadwrn, dan lywyddiaeth Dr Fraser. Achubwyd bywyd plentyn a syrthiodd i'r mor yn Mhorthmadog gan yr Heddwas Row- lands, yr wythnos ddiweddaf. Ceisir gan y Gymdeitbas Ddyngarol gydnabod ei wroldeb. Mae Ilti mawr o athrawon ac aelodau ysgolion Sul Lloegr yn mwynhau seibiant yn Aberys- twyth. Cynaliant amryw gyrddau, a'r enw a roddir ar yr undeb hwn yw Chautauqua. Mewn cyfarfod o warcbeidwaid Llanidloes a Thrallwng ddydd Mercher, penodwyd Mr a Mrs Parry, Croesoswallt, allan o 21, yn feistr a meistres y tlotty. Tra yn gweithio yn nglofa Brynmally, ger Gwrecsam, ddydd Iau, syrthiodd yspwrial ar Timothy Parsonage. Cafwyd ef yn rhydd, ond bu farw ar y ffordd i'r yspytty. Cyfarfu boneddwr o'r enw Cook o Fanceinion a damwain ger Llanberis ddydd Mercher trwy syrthio oddiar ei ddeurod. Cludwyd ef ianedd- dy, ond gwan yw'r gobaith yr adferir ef. Torodd tAn allan ar fferm Summerhill, ger Gwrecsam, ddydd Iau. Gwnaed cryn niwaid, ond arbedwyd llawer gan dan-ddiffoddwyr Gwrecsam. Yn ffair Caer ddydd Iau, caed y prisiau can- lynol :-Gwartbeg godro, 12p i 20p cyfloion, 12p i 17p; hespion, lOp i 12p heffrod, 9p i 13p styres, 5p i 7p defaid, 18s i 25s y pen. Cafodd Mr J. Jones, Gwrecsam, 273p am ddau bar o geffylau gwedd gan foneddwr o Rugby ddydd Iati yn arddangosfa ceffylau Gwrecsam. Syrthiodd plentyn o'r tren ar linell y Cam- brian ddydd Iau, ac ofnir am ei fywyd. Neid- iodd ei dad-dyn o'r enw Grant—ar ei ol, a lladdwyd ef yn y fan. Yr oedd ei briod yn llygad-dyst o'r anffawd. Wrth ddod a. llwyth o haiarn i Mostyn ddydd Gwener, cyfarfu yr agerddlong haiarn Trechieve o Hullag anffawd trwy suddo yn y IJaid. Tor- wyd hi yn ei chanol, ac os na ellir ei symud yn ftian rhaid fydd ei chwythu i fynu gan ei bod yn atal mynediad llongau i borthladd Mostyn. Ei gwerth yw 20,000p. Gerbron ynadon Oanr ddvdd Sadwrn, cyhudd- wyd David Evans a Wm. Williams, dan Gymro o Fon,o geisio twyllo Cwmni'r L. & N. Western trwy deitbio gyda thocyn anamserol, achyhudd- wyd Evans hefyd o roddi tocyn i ddyn nad oedd ganddo hawl iddo. Dirwywyd y ddau i 40s yr un a'r costau neu fis o garcbar am y trosedd cyntaf, a dirwy gyffelyb ar Evans am yr ail f drosedd. Paham y telir Is 10c a 2s y pwys am De Ceylon mewn pecynau addurnedig ? Gellir cael Te o ansawdd rtiagorach am Is 6c y pwys gan BARBER a'i GWMNI, Masnachwyr Te, 1, Church Street, Lerpwl, a thelir ludiad i Chwe' Phwys unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol. Cynaliwyd cyfarfodydd o Gynghorau Siroedd Arfon a Dinbycb ddydd Iau. Ni fu dim a ddyddordeb cyffredinol dan sylw. Yn nhrefi mawrion Lloegr, ceir Ysgotiaid ar y blaen fel peirianwyr, Gwyddelod fel gwyr y gyf raith, a Chymry fel meddygon. Hanes doniol sydd yn Nghofiant newydd-gy- hoeddedig y Parch David Davies, Bermo, am yr hen weinidog poblogaidd yn claddu ei bregethau yn ei ardd. Swyn a melusder yw nodwedd Iberaidd pregeth- wyr y De-pertrwydd a gwreicbion nerth ac arafwch athronyddol yw nodwedd gwyr y Gogledd. Mewn geiriau eraill, tan shafins a than glo. Mae'r Saeson wedi hoffi'n fawr hyawdledd y Cymro crefyddol; a than demtasiwn hudolus y eyflog uchel, yn bygwth hysbyddu Cymru o'i phre- gethwyr goreu. Mae dau gynllun i wneud reilffordd ysgafn yn Maidwyn un o Meifod a'r llall o'r Trallwng, a chryn elyniaeth rhwng hyrwyddwyr y ddau. Y canlyniad yw fod pwyllgor wedi ei benodi i ymchwil pa un o'r ddau fyddai oreu. Yn Uchel Lys Maine y Frenhines ddydd Mercher, caniatawyil apel a wnai y Mri Allsopp, darllawyr, yn erbyn dyfarniad Syr Horatio Lloyd i atal trwydded i dafarndy yn y Groeslon, Arfon. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithasau .11 Esgobaeth Bangor tfyn y Canghelldy Bangor ddydd Mercher. Oherwydd afiechyd lluddiwyd yr Esgob i fod yn bresenol i lywyddu, a chym- erwyd ei le gan y Deon. Hysbysir marwolaeth y Parch. J. Evans, fieer Liandingat, a deon gwledig Llangadog, ddydd Ian. Bu'n cleriga yn Llundain, Llanddewibrefi, ac yn 1870 penodwyd ef i fywoliaeth Llandingat fel ol- ynydd Dr. Hughes, diweddar Esgob Llanelwy. Ymddengys nad yw'r cantwr poblogaidd, Mr. Eailyn Davies, R. A. M., yn myned i Awstralia gyda Chwmni Operataidd Miss Amy Sherwin, fel yr hysbyswyd, oblegyd fod amodau ya y cytundeb nas gallai'r Cymro mwynlais gytuno a hwy. Nos Wener, bu farw Dr. Edward Davies, Gwrecsam, yn dra disyfyd. Tuag wyth o'r gloch yr oedd gyda chlaf yn ei surgery. Cwynai nad oedd yn iacb, a chymerodd ddracht o fedd- yglyn. Cerddodd i vstafell arall, aeth yn anym- wybodol, a chyn i Dr. Drinkwater, cymydog iddo gyrhaedd, yr oedd wedi marw. Yr oedd Dr. Davies yn ynad, a thua 67 oed :0:
[No title]
Mae Cynghor Plwyf Wyddgrug wedi pender- fynu deisebu'r ynadon i leihau y cyfleusterau i ddiotta yn yr ardal. Although Flour is milch dearer, the prices for Coraubia Self Raising Flour have not baen raised.
Advertising
-=- G JON ES Tailor & Habit Maker, 83. Victoria Street. LIVERPOOL FIT, STYLE and WORKMANSHIP guaran-4, ed for Reasonable Prices. Trwy y Post, l/l. Y Trydydd Argraphiald o CANIADAU ELFED," Gyda Dariun newvdd o'r Awawr. I. FOtTLKES, 8, PARADISE STREET, LIVERPOOL CYHOEDDEDIG YN SWYDDFA'R CYMRO. PRIS SWLLT YR UN. 1. Helyntion Bywyd Hen Deiliw. 2. Llythyrau yr Hen Ffarmwr. 'Take a place among the best specimens of genuine humour in modern Welsh ,it,,Iix C Beport of the Royal Commission on Land in ales. &c., 1896 3. Cyfrinach yr Aelwyd. Nid oes yn yr iaioh bovtreadnu gwell o fywyõ ew!ed;g Cymru nag eiddo Hiraethog. Efe a Daniel Owen yw r unig ddau sy,ld wedi llwyddo i dvnu dsrluniau ffyddlawn a chywir o'r bywyd hudol hwn, ac o'r cyrn. eriadau sydd yn an, vabanol trysylltiedig ag ef. Ymae dullwedd G-yitreig "f bobpeth ysgrifeno id Dr. Wm. Rees, a dylai pob Cyairo. os am fwyniant ac adeilad- aeth. ddarlien Mane* d "<'? Ffarmwr, Helynt- ion Bywyd Hen DeUiwr, a Chtjfrinach t/r Aelwyd. Gan y Parch. W. REES, D.D. 4. Gardd Eifion sef Barddoniaeth ROBERT AB GWILYM DDU 0 EIFION. 5. Goronwy Owen. Holl Waith Barddonol. Argraphiad newydd ya cynwys caneedd o Nodiadau. 6. Gwaith Beirdd Mon Ailan 0 argrph. 7. John Slackwell. Ei Waith Barddonol. 8. Yr hen Sererinion R. JONES, Llwyn- gwiii RHYS DAFIS (Y GLUN BRE:T), ac EDMUND JONES o Bontypwl. ATIIROFA PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH. Un o Athrofaau CyfansoddoS Prif.Usgol Gymru. LLYWYDD Y GWIR ANRHYDEDDUS ARGLWYDD RENDEL. PRIFATHRAW T. F. ROBERTS, M.A. CYNWYS A y cwrs o Addysg y parotoad angenrheidiol am raddaa yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysgol Llundain. am Ysgoloriaeth.au yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac am astudiaeth feddygol yn y Prif- ysgolion hyn ac yn Ysgotland. Gall meibion a merched a dderbynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs gofynot at fod yn Athrawon ac Athrawesau Trwyddedig, ac ar yr un pryd b^rotoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Y mae y swm dderbyniant fel Ysgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynil yn Aberystwyth am dymhor eu hefrydiaech. Yn yr ADRAN AMABTHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Arnaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymhwys i Amaethwyr, Goruchwylwvr Tir, Athrawon mewn Amaethyddiaath, &c., a rhoddir parctoad -tr gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr. Llettya y rayfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. Carpenter, mewn neuadd eang (Alexandra Hall), tvedi eu darparu ar eu cyfer. Ovnelir arholiad yn mis Medi, pryd y cynygir nifer helaeth o Yssroloria,ethau, rhai yn agored ac eraill yngyfyngedig i Gymry. Am bob manylion ymofyner a T. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd.
Yr Eisteddfod Genedlaetljol
Ail, lp Is. 1, Mary Thomas, Treforris 2, Ben I George. Parch r. Morgan (B), Caerdydd, oedd y budd ngol ar y Geiriadur o Enwau Cymreig ar Afonydd a Lleoedd yn sir Fynwy," lOp. Beirniaid, Milwriad Bradney. M.A., ac Ernest Rhys. Yn nghystadleuaeth y pedwarawd i S.A.T.B Ye who from His ways have turned (Mendel ssohn), 5p 58, cied datganiadau o radd uchel. Parti Mr Morgate, Aberhonddu, yn oreu. Y buddugwr ar y libretto, Ifor Hael," oedd y Parch J. T. Job, Aberdar. Ymgeisiodd 21 ar ateb nifer o gwestiynau ar gerddorið. "Musicus" oedd y buddugol, ond ni atebodd i'w enw. Dyma ni bellach wedi dyfod at v gystadleuaeth ag y eymerir mwyaf o ddyddordeb ynddi o holl gystadleuon yr Eisteddfod, sef Gystadleuaeth y Corau Meibion. Oad dyma daran gras, a'r gwlaw yn disgyn, a'i swn mor ofnadwy ar y to coed, fel nas gellid clywed dim o'r llwyfan. Ar hyn dyma'r dwr yn gwneud ei ffordd drwodd, ac yIi. pistillio ar ein penau, Doniol oedd yr olwg ar y djjrfa yn awr yn neidio ar eu traed ac ar draws eu gilydd i geisio osgoi y diluw. Methwyd myned yn mlaen a gwaith y cyfarfod am yn agos i chwarter awr, gan y gwlaw a'r taraoau, ao yr ydoedd y babell yn go lawn. Ond gyda hyn peidiodd y gwiaw, a distawodd y daran groch, a daeth yr awyrgylch yn fwy tymherus. Allan o'r 13 o gorau meibion (60 i 80 o laisiau) oedd wedi anfon eu henwau i mewn, daeth deg yn inken i gystadlu ar (a) Ah, were I on yonder plain (Mendelssohn). (b) "Llewelyn ein Ilyw olaf (Tom Prz*ce). 70p. a Thlws Aur i'r arweinydd, ail, lOp. Beirniaid.—Syr A. 0. Mac- kenzie, Proff. Macfarren, a Mr D. Jenkins, Can. asant yn y drefn ganlynol Brynaman Arweinydd, Mr E. Evans. Tredegar Mr D. Jones. Port Talbot Mr John Phillips. Porth Mr Taliesin Hopkins. Brynmawr Mr W. Evans. Moelwyn (Ffestiniog) Mr David Parry. Cyfarthfa Ferndale Mr Gwilym Jones. Abertawe MrG. Jenkins. Mountain Ash Mr T. G. Richards. Parhaodd y gystadleuaeth ddyddorol hon am ,dros bedair awr. Fel y deuai y naill gor ar ol y Hall i fynu i'r llwyfan, croesawid hwy gan eu gwahanol gyfeillion a chefnogwyr, ond ni chymer odd dim neilldnolle hyd nes y gwnaefch y cor olaf -Gor Mouutain Ash-ei ymddangosiad. A'r fuuyd yr yrnddangosodd eu gwynebauar y llwyfan, dyna gyniiwrf yn y gwers,']l, yn gymysg o groesaw a gwatwar. Y mae yn ymddangos fod yno ddos- bitrth ag oedd wedi psnderfvnu os yn bosibl rhwystro y cor hwn i ganu: a'r foment yresgyuodd yr arweinydd—Tom Richards, dyma floeddiadau a gwaeddiadau a hwtiadau ofnadwy yn cael eu dyrchafu, tra o'r ochr ara)l rhoddwyd croesaw a chymeradwyaeth fyddarol iddo. Anmhosibl oedd i'r cor gael cychwyn, ac edrychii. pethau yn bur derfysglyd, tra, yr oedd Cynonfardd a Mabon ar eu goreu yn ceisio Heddwch," ond yn hollol an- effeithiol. Wyddai Mabon ar y ddaear beth i wneud; ond dyma Cynonfardd ar ben un o'r stands, ao a'i lais clir, treiddgar, apeliodd at y dorf der- fysglyol yn enw anwyl Gwalia, yn enw pob peth oedd yn Gymreig a chysegredig, i ymddwyn yn deilwDg ohonynt eu hunain ac o'r Eisteddfod. Prr.fodd hyn yn effeithiol, a cbafwyd graddau o ddistawrwydd. Ond pilon yr esgynodd Tom Richards y stand, a'r arweinffon yn ei law, daeth allan eto fanllelau o gymeradwyaeth, ac aeth y Cor yn mlaen i roddi datganiad ardderchog, nes enill cy rnerad vvy a a th yr holl gynulleidfa. Eiddig- edd, mae'n ymddangos, oedd yr achos o'r cynhwrf. Y c- canu ar ei uchel fanau. Tom Richards oedd yn arfer arwain cor enwog Pontycymmer, ac p»n v mae wedi dechreu arwain Cor Mountain ■Ash, y mae rhyw yrngais ac eiddlgedd ofnadwy wedl eodi. Ar ol i'r holl gorau ganu, a thra yn disgwyi am y feirniadaeth, eafwyd beiiniadaeth Mr 0 M. Edwards, Dyfed, a'r Prifathraw Rhys ar y ce Cftsgliad o farddoniaeth Tudur Aled," gwobr, 50p. Yr oedd dau wedi ymgeisio, ond nid oedd Vr un yn gyflawn, a chynghorai'r beirniaid Gym Qeithas yr Eisteddfod i adael y gystadleuaeth yn agored am fiwyddyn arall, ac i'r ddau hyn fyned yn mlaen a'r gwaith erbyn Eisteddfod Ffestiniog. (( Belrniadaetfc Llawdden ac O. M. Edwards ar y Casgliad o'r Trioedd Cymreig gyda chyfieithiadau nodiadan eglurh&ol a hanesyddol," gwobr, lOp. 0 oedd wedi ymgeisio, ac ni allent roddi canmol- laeth uchel i hwnw, ond dyfarnent iddo haner y ^°br. Yr ymgeisydd ydoedd Mr M. 0. Jones, -•-reherbert. 1 Wedi hyn dyma "Gor mawr Mabon yn cael ei p i ganu eto, a chafwyd hwyl anarferol gyda I Cugybar." Yr oedd pawb yn cariu a'u holl fel pe buasai holl llwydd yr Eisteddfod yn aybynu ar hyn Yna esgynodd y beirniaid y llwyfan, a chafwyd ^istawrwydd fel y bedd tra y traddodai Syr A. C. -UcKenzie ei feirniadaeth. Yr oedd y dorf wedi ch aff" yn a bron bawb ar eu traed yn fr ? a ^ron yn anadlu gan y brwd- oddimewn, a'r trydaniaeth oddiallan. y-Fl.ddywed°dd Syr A. C. Mackenzie ond ych- oeda a c*'enai<* ei sylwadau. Yr e 71| wedi eu boddhau yn fawr yn y gystadleu- •fvn6 u raS >^>1, ond wedi gwneud eu meddyliau i Ooru "sb trafferth. Rhoddodd pob "un o'r Ca au ddatganiad ardderchog, a rhaid eu y,ejn'°l °'l. Gwellhai y gystadleuaeth hyd y di- Uch Rhorldodd Cor Mountain Ash berfformiad ar- broii n* ddywedai ei fod yn ysbryioledig ac ^iwedd yr ail ddarn, dechreuodd grwydro, diwn. Felly, drwg ganddo orfad wobr 'V* r^,a"^ Mountain Ash foddloni ar yr ail ^'l0 hwn, ac o ganlyniad elai'r wobr gyntaf i J^rtawe. cherel^r y brif gystadleuaeth gorawl ddydd Mer- ni8 ?*f°dd y dyfirniad syndod i'r gynulleidfa, ac cOndf>.f P'rua i wneud ai cymeradwyo ynte ai'dder u10' FelIy terf^no(id Jv Eisteddfod wir c"f>g hon mewn llawenydd a siomedigaeth. EISTEDDFOD 1899. fod a cyfarfod unedig o Gymd.eithas yr Eistedd- l",u d rsedd yn Neuadd y Dref am 5 nawn ddydd fyowyriUlywyddiaeth yr Atchdderwydd, pender (lydd. y E!8fce(Iclfod 1899 i'w chynal yn Nghaer- ^ani» orir? + Aberystwyth wedi anfon cais am Yq Vr ynasant yn ol yn ffafr Caerdydd. ygiad vn n ,cy^rf°3 d»veth Watcyn Wyn S'i gyn- j^rohdrlpr111 ? ° ^^fthynas i godi cofgolofn i'r 1°?' a chefnogwyd ef gan Cadfan. Dyfed welliant, sef fod y mater i'w ohirio am fiwyddyn er mwyn cael amser i'w ystyr- ied. Wrth gefnogi'r gwelliant, cyhuddodd Morien yr Archdderwyddon a swyddogion ac ael- odau'r Orsedd o'u hanwybodaeth o ystyr a chyf- rinion arwyddeiriau ac arwyddluniau'r Orsedd, a dywedodd y dylai pob Archdderwydd godi cof- golofn iddo'i hun, a hyny ar lechres calon ei gen- edl, fel na fyddai eisiau codi rhyw ddarn o gareg bigfain ar ei fedd i gadw ei enw rhag difancoll, Cynygiodd Twm Gwynedd, fodd bynag, fod y mater i'w gyflwyno i ystyriaeth pwyllgor o ddeu- ddeg, cynwysedig o chwoch o blith Cymdeithas yr Orsedd, a chwech o Gymdeithas yr Eisteddfod. Pasiwyd y cynygiad hwn, a dewiswyd y pwyllgor. o