Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Cwlad yr Aur.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwlad yr Aur. [Can R.J., Oakland.] MAF darganfyddiad aur yn Alaska oer yn un o rai pwysicaf yr oes-yn rhoi rhai Awstralia a dyddiau '49 yn Califfornia yn y cysgod, ac mae yma gyffro nas gallaf ei ddesgrifio. Mae'r agerfadau yn dech- reu dod i lawr o'r Gogledd-daeth y cyntaf i lawr yr wythnos ddiweddaf gyda saith gant o filoedd mewn aur un arall ddoe 200,009p mewn aur a dywedir fod tros bedair miliwn y¡:o'n disgwyl ager- fadau era-ill i lawr. Daeth 65 o fwnwyr gyda'r gyctaf, a deuai y rhai tlotaf a 15,000p mewn llwch ac aur bras gyda hwy. Mae yma helynt mawr am fyn'd yno, ond mae'n wlad wahanol i Awstralia a Chaliffomia. Mae tua 4,000 ofilldiroedd oddiyma, a chyfandir fel o New York yma i'w groesi, yn or- chuddiedig a rhew ac eira. Ac er ei bod yn oer ddvchrynllyd yma. yn y wlad ogleddol bydd yr hiii fesurydd yn 60 a 70. Gwelodd y dychweledig- ion amser a thywydd garw. Mae'r cloddfeydd lie bu'r darganfyddiadau diweddaf ar diriogaeth Brydeinig, sef yn Canada-yn Klondyke, ar yr afon Yukon. Mae'n auaf caled am ragor nag wyth mis yno, ac ni ellir gweithio ond ycbydig yn y cyf. nod hwnw. Placer mining ydyw'r dull, am mai ar wyneb y ddaear y caed y rhan fwyaf o'r m&n gwerthfawr, er i rai gloddio 15 troedfedd i lawr. Mae'r rhan fwyaf a ddaethant a ffortun yn ol yn hollol ddibrofiad a dyna sy'n peri cymaint o ysfa yn yr hen fwnwyr yma i fyn'd yno yn awr. Yr oedd pob agerfad sy'n myn'd i Juneaeo, tuhwnt i Sitka—1,600 o filldiroedd o San Francisco, a chyrchfan y rhai ant dros y mynyddoedd-wedi eu sicrhau cyn pen tri diwrnod ar ol i'r aur ddod i lawr. Ffurfir llu o gwmniau, a phawb yn credu fod yno aur. Ond antur ddychrynllyd yw myned ato, gan fod y tywydd mor eitbafol, y pellder gy- maint, a'r ffaith mai ychydig, os dim, o bobl wyn- ion fu yn y wlar1, cyn hyn. Nid "fake," ys dywed yr Ianci, yw Klondyke, ond ffaith, Mawr yw'r dyfalu yma beth ddaw o'r blaid ariataidd barodd, gymaint eyffro yn y wlad hon adeg yr etholiad y llynedd, gan y disgwylir y fath doraeth o aur o hyn i ben y flwyddyn. O'm rhan fy hun, a llawer eraili, mae'r wlad, er cyfoethoced yw, yn ddigon prin o aur cylchredol, fel y bydd aur Alaska yn hynod dderbyniol os gwneir ag ef fei yn yr hen amser gynt, sef ei wario; a rhai garw ydyw'r hen fwnwyr am hyn. Ciywais am un a ddaetb i lawr a chanddo werth dros 200,000p mewn aur. Yr oedd golwg fel tramp arno pan yn dod oddiar y llong ond yn mhen y ddwy awr, yr oedd wedi ymwisgo fel gwr boneddig ac wedi gwario ffortun bychan arno ei hun. Yr oedd ei aur ef mewn gwrthban a chydau blawd, ac yr oedd golwg ddifrifol arno ef a'i bartner yn plygu o dan eu liwythau wrth ei gario o'r llong i'r porthladd. Gobeithiaf na fydd i'r ysfa aur yma ymaflyd yn neh o ddarllenwyr y Cpmro i beri iddynt ruthro yno heb ystyriaeth ddifrifol; ac os teimla un ar ei galon fyn'd yno, fe ddylai fod yn feddian- 01 ar ddigon o arian, ac hefyd iechyd da, a bod yn gynefin ig oerni mawr-ac yna fe all lwyddo. Oakland, ger San Francisco, California, Gorph 22.

-ioi-Dyffryn Clwyd.

[No title]

Tom Ellis yn pwyolr Esgob…

--0-Cohebiaethau.

Marchnadoedd

Advertising

Angladd y diweddar Barch H.…

-0--PWLPUDAU CYMREIG, Awst…

--:0:--Rhagolwg Cysurus.

.Y CARTREF

Lleol.

Advertising

Family Notices