Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Nodion o Fon ac Arfon.

--:0:— Ar Ffnion y Ddyfrdwy.

[No title]

Tom Ellis a'r Esgob eto.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Tom Ellis a'r Esgob eto. DYMA grynhodeb o lythyr eto gan Mr T. E. Ellis, A.S., ar gamhoniadau Esgob Llanelwy :— Yn ei lythyr diweddaf, dystaw iawn yw can yr Esgob, ac er fod y Ficer wedi dod allan o nyth eglwysig gorlawn Llanelwy nid yw hyd N n nod ei bibell ef yn effeithio nemawr ar swm y gynghanedd esgobyddol. Yr oedd ton yr esgob yn wahanol iawn ychydig wythnosau yn ol Yr adeg hono yr oedd holl reolaeth Ysgol Dolgellau yn nwylaw Undod- iaid." Yn awr, ni wiw i'r Esgob wadu fod 10 o'r 12 rheolwyr yn perthyn i enwadau amgen Undod iaeth. Ysgol Undodaidd hollol," ydoedd y pryd hwnw yn awr ni faidd yr Esgob honi fod un Undodiad yn mysg yr athrawon na'r disgyblion Ei unig nodiad yn ei lythyr diweddaf ydyw "fod gwaddoliadau'r ysgol wedi eu corphori yn yr ymddiriedolwyr Undodaidd yn Llundain. Ond y mae'r nodiad hwn eto wedi ei agenu'n anobeithiol, oblegyd mae'r gwaddoliadau wedi eu corphori yn Ymddiriedolwr Swyddogol Tir Elusenol a'i olynwyr Apeliodd yr Esgob at ragfarnau Tv'r Arglwyddi i amddifadu Ysgol Dolgellau o'r 120p ag yr oedd pob awdurdod arall yn foddlon ei roddi i eangu gwaith rhagorol yr ysgol, ac er mwyn darnio cyn- llun oedd wedi ei barotoi'n ofalus i ddiwygio rheolaeth wastraffus Ysgol Dinbych, a helaethu ei defnyddioldeb, ac i'w gwneud yn ysgol gyhoeddus yn lie yn ysgol sectol. Haerodd yr Esgob fod Ysgol Howell 11 yn agored i Ymneillduwyr ac Eglwyswyr heb gysgod o annhegwch na rhagfarn." Oydnabyddwyd yn Ninbych fod yr holl reolwyr Ileol yn Eglwyswyr, ac nad oedd un amddifad Ymneillduol yn cael addysg yn yr ysgol. A wnaiff yr Esgob nodi faint o Ymneillduwyr sydd yn awr yn 1897 yn mhlith y rheolwyr, a pha faint o amddifaid addysgir sydd yn Ymneillduol ? Dywed y Record :Mae rhai arfau na wna dynion doeth ac na all dynion da eu harfer mewn unrhyw ornest, ac yn neillduol yn ngwasanaeth Eglwys Crist." Dyma'r arfau a arferodd Esgob Llanelwy, heb feddwl am ddoeth- ineb na daioni, er budd rhagfarn a chamreolaeth.

--0--Cohebiaethau.j

[No title]

- Colofn Dirwest.

Ficer y Rhos yn owyno.

Advertising