Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y BYD.

-___ Cymro ar y Crogbren yn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cymro ar y Crogbren yn lerpwl. FORE ddoe (Mercher) dyoddefodd Thomas Lloyd eithaf y gyfraith trwy gael ei ddienyddio yn ngharchar Walton am lofruddio ei wraig yn Til- lard Street, Kirkdale, Meh. 19. Cyflawnodd y weithred erchyll tra'n cweryla gyda'i wraig, ac yr oeddynt eu dau dan effeithiau diad. H onid yn y frawdlys iddo ei tharaw yn ei phen a bwyaH eraill a bonent mai gyda phrocer y lladdodd hi, tra y mynai ef ei hun mai syrthio a ddarfu gan daro ei phen yn haiarn y gwely. Fodd bynag, cyhuddwyd ef o'i ilofruddio ger- bron y Barnwr Bruce yn Mrawdlys Lerpwl Gorph. 30, ac wrth ei ddedfrydu i farwolaeth sylwodd y Barnwr fod y dystiolaeth i'w goll- farnu mor glir ag oedd yn bosibl iddi fod. Ym- ddengys fod Lloyd yn fyddar, ac ni wyddai fod dydd ei dranc wedi ei benu hyd nes dychwelodd o'r llysi'w gell yn y carchar. B:llington oedd y dienyddwr, a hysbyswyd fod y ddedfryd wedi ei chario allan trwy chwyfio'r faner ddu uwch muriau'r carchar. Brodor o Bwcle, sir Fflint, oedd Lloyd. Yno trealiodd ei febyd nes oedd tna 15 oed, pan y daeth i'r ddinas hon. Prentisiwyd ef i ddysgu'r grefft o boi' er maker, yr hon ydoedd grefft ei dad hefyd, a bu'n gweithio yn Belfast, Hull, Man- ceinion, Barrow, ac yn Nghymru. Dychwelodd i Lerpwl, fodd bynag, a phriododd. Ni fu'r un- deb o fawr fendith i Lloyd, druan, oblegyd un feddw, isel ei moes, halog ei geiriau, ydoedd y wraig, yn ol tystiolaeth ei chymydogion a'i mab hi ei hun. Dywed Mrs Hannah Lewis, Bwcle, adwaenai'r trancedig er's 45 mlynedd, ei fod yn ddyn sobr a diwyd, a mwyaf annbebyg i gyf- lawni'r weithred erchyll. Ymddengys hefyd fod ben wreigan o Gymraes, o'r enw Mrs. Day, aelod o eglwys M. C. Anfield, wedi bod yn llettya gydag ef. Ymwelai aelodau yr eglwys yn fynych a'r hen wreigan, a thystia'r oil o'r cyfryw mai dyn dymunol a chall ydoedd Lloyd, ond fod ei wraig yn waradwydd i'r rhyw. Bu Mrs Day farw, a thystir i Lloyd ymddwyn yn dra theilwng ar yr achlysur hwnw. Fodd bynag, trwy annghysur cartref, trodd Lloyd i yfed, a hyn a briodola am y gyflafan erchyll a gyfiawnodd. Tuag wythnos yn ol, pan ddaeth y ffeithiau yn nghylch cymeriadau Lloyd a'i wraig yn hysbys darfu i Mr Qoilliam, cyfreithiwr, Manchester Street, gychwyn deiseb yn cymhell yr Ysgrifenydd Cartrefol i ystyried yr achos i'r amcan o symud y gollfarn oddiar Lloyd, a rhoi panyd-wasanaeth yn ei lie. Cymerwyd hyn i fynu yn aiddgar, ae arwyddodd tua deng mil o bersonau eu henwau wrth v ddeiseb hon. Hefyd darfu i Mr Roberts (o ffirm Mri Roberts ac Edwards, Kirkdale Road) ffurfio deiseb, yr hon arwyddwyd gan tua dwy fil; anfonwyd un hefyd gan aelodau Eglwys Anfield Road, ac un o Rhyl, heblaw amryw eraill. Ysgrif- enodd y Parch Owen Owens, Anfield, hefyd lythyr at yr Ysgrifenydd Cartrefol yn ei gym hell yn gryf i newid y ddedfryd oberwydd cymeriad da Lloyd, a'r bywyd anhapus a dreuliodd oherwydd ymddyg- iadau gwarthus ei wraig anfonwyd liytbyr hefyd i'r un perwyl gan fab y wraig lofruddiwyd. Mawr obeithid y newidid cwrs y gyfraith, ond der- byniwyd pellebyr nawn ddydd Mawrth oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol yn hysbysu iddo ystyried y deisebau, ond na welai resymau digonol dros ymyryd a chwrs y ddeddf. Felly, fore Mercher, anfonwyd y Cymro Thomas Lloyd i'w dranc gan y dienyddwr Billington.

[No title]

Advertising

-__------_--Llythyr Watcyn…

.0:----Marwolaeth ofidus .March…

[No title]

Birkenhead.

Sefyllfa Llafur ■ yn ligogtecid…

Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.