Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Marwolaeth Esgob. 'YR oedd cysylltiadan lied agos rhwng Dr. Wal- sham How, esgob Wakefield, yr hwn a fu farw wythnos i ddydd Mawrth, si, Chymru. Gwasan- aethodd fel rheithor yn y Dre Wen (Whitting ton), yn esgobaeth Llanelwy, o 1851 hyd 1879 ac yn mynwent y plwyf hwnw, yn gyfochrog a'i wraig a'i ferch, y rhoddwyd ef i orphwys wyth- nos i heddyw. Yn y cyfr-od hwnw efe oedd Deon Gwledig Croesoswalit, a llanwai gadair Llannefydd yn y Brifeglwys, Canghellydd Llanelwy, ac Archwiliwr Ysgolion Eglwysaidd yr Esgobaeth. Dyrcbafwyd ef oddiyma yn Esgob Bedford, ac felly daefch rhanau dwyrein- iota thylotaf Llundain o dan ei ofal. Cyflawn- odd waith yn y cwr hwnw a'i dyrchafodd yn marn y cyhoedd i fod yn un o'r esgobion goreu ar y faioc ac ar ffurfiad esgobaeth newydd Wakefield, penodwyd Dr. How i'r swydd er boddbad cyffredinol. Ganwyd ef yn Amwyth- ig yn 1823. Cyfansoddodd Esgob How iyfrau gwerthfawr, a bydd yr emynau a gyfaosoddodd fyw am oes- au lawer, megys y rhai canlynol sydd eisoes mor adnabyddus, ac i'w cael bron yn mhob ,casgliad diweddar o emynau Seisnig :— 0 Jesu, Thou art standing." This day at Thy creating word." Summer's suns are glowing." "The year is swiftly waning." Winter reigneth o'er thland." We give Thee but Thy own." God of mercy and of love." Lord, Thy children guide and keep." Canodd emyn tlws hefyd ar y Jiwbili diweddar, yr hwn a ddodwyd ar gau gan Syr Arthur Sullivan, a chanwyd Hawer arnynt. Tra yn ymdrochi lawer o flynyddau yn ol yn y Bermo, j bu agos iawn iddo foddi; ac y mae can yn ei waith yn desgrifio'r amgylchiad, tan y teitl The last bathe." Bedd Maesyplwm. YCHYDIG ddyddiau'n ol, yr oeddwn yn myned heibio bedd awdwr yr emyn, Mae'n llon'd y nefoedd, llon'd y byd, Llon'd uffera hefyd yw. Mae yno golofn hardd wedi ei chodi gan Ed- ward H, Jones of Liverpool," fel y dywedir a r waelod y wyneb Se-isoig. Mae hi'n sefyll yn ymyl gwal myiwent plwyf Llanrbaiadr yn Cimeirch, ac ar fi y llwybr. Os digwydd i ra, o'm (iarllenwyr lwybro trwy'r ardal hyfryd yn ystod yr wythnosau dyfodol o wyliau, a chrwydro, trowch o'r ffordd i dalu gwarogaeth i un nad oes odid addoldy Cymr..eg yn y byd heb fod rhai o'i hymnau yn cael eu canu ynddo yn awr ac eilwaith. Er mwyn y rhai na chant y fraint hono, dyma sy'n gerfiedig ar ochr Gymraeg y golofn :— Aneddle lonydd yr hyn oedd farwol o EDWARD JONES, x Bardd Maesyplwm. Ganwyd ef yn Nhanywatm, Prion. Mawrth 19, 1761. Bu farw yn Nghilcen, Rhagfyr 27, 1836, yn 7ry oed. A dilynir gan ddau onglyn o waith "John Owen, Lerpwl." Gwlad Newydd yr Aur. ac Emynau. SON am Emynau ac Emynwyr, mae hi braidd yn anffodus nad eHir gwneud fawr os dim defnydd mewn emynau o enw gwlad newydd yr aur- Klondike. Bu Peru o wasanaeth mawr i Mr W. Williams a'i gyd-emynwyr, canys y mae'n odli gyda byw, clyw, criw, dnw, gwyw, gwiw, rhyw, rhiw, syw, ac amryw eraill. Yr oedd yn hollol naturiol dweyd- Mwy gwerthfawr im' yw Na chyfoeth Peru, &c, Ond beth fedr hyd yn nod bardd wneud o Klon- dyke heb ei dori yn ddau mal hyn :— Mwy gwerthfawr na Klon- Dyke ydyw hon, &c. Dywed y dysgedigion mai mewn un version yn unig o'r Testament Newydd y digwydd y gair "Calvaria" neu "Calvary," a beth ddaethai o Emynwyr Cymru pe na. ddigwyddasai yn hwnw. Ymladd Duel. YN blygeiniol iawn bore Sul, bu dan uchelwr yn ymladd diwel yn Paris. Nai i frenin Itali oedd un, a Count Turin wrth ei enw a'r llall oedd y Tywysog Henry, wyr i frenin diweddaf Ffrainc, Louise Phillip. Arhos y cweryl ydoedd i'r olaf, yr hwn sydd yn drafaeliwr mawr ac yn ysgrifenu banes ei deithiau, ddifrïo byddin Itali yn Abys- sinia. yn un o'r ysgrifeniadau hyny. Gan na thynai ei eiriau yn ol, acnad ymddiheurai, mynai y Count Italaidd iddo ei gyfarfod ef mewn brwydr lawlaw-gl edd yn nghledd-yn ol yr hen ddull barbaraidd o benderfynu cwerylon sydd 1Iedi ei darostwng o drugaredd yn y wlad hon, ond yn parhau mewn bri yn llawer o wledydd y "Cyfandir. Cyfarfu'r ddau ynfyttyn ucheldras am dri o'r gloch boreu SuI; gyda'u cefnogwyr a buont yn ceisio cymeryd bywyd y naill y llall am yn agos i haner awr. Plygodd cleddyf y Tywysog Henry, ond rhoddwyd iddo un arall yn ebrwydd. Bu yno bum' round o gwbl; ac yn yr olaf, plan- odd y Count flaen ei gledd yn palfais ei wrth. ^lynebydd, a phe buasai wedi ei wthio drwch dimai yn mhellacb, buasai wedi ei ladd. Syrth- lodd y Tywysog ar lawr, ac oddiyno gofynodd 1 w wrtbwynebydd ysgwyd Haw ag ef, yr,hyn a Wnaeth yn union. Nid yw allan o berygl eto. Yr holl niwed gafodd y Hall ydoedd ysgryffinio cefn ei law. Dau grancwn ydynt, ac nid oes yr Un o'r ddau yn ben llathen ar faterion cyffredin, pen dyna'r farn am danynt. Mae eu hyraddyg- lad wedi pari llawer o ysgafnder yn mysg holl newyddiaduron y byd gwareiddiedig. Fe ddylid ?uF°P^lau y ddau yn eu gilydd ond rhaid ini eidio bod yn rhy Iawdrwm arnynt, nid oes rhyw awer o flynyddau er pan oedd hyn yn oddefadwy -yn y wlad hon. Dydd o Wyth Awr. MAE hi'n frwydr ddifrifol yn Lloegr rhwng cyf- alaf a llafur ar y cwestiwn hwn. Y peirianwyj (engineers) sydd yn awr yn yr ymdrech. Mae rhai o'r meistriaid wedi caniatau cais y dynioa mae eraill yn gwrtbod yn bendant tra y cau- odd eraill ohonynt eu gweithfeydd i fynu. Cyf- rifa y Mail fod yn awr 45,000 o ddfnion yn segur a dosrana bwy fel y canlyn :—Peirian- wyr, 17,500; yn effeithio ar 10,000 o gelfydd- vd wyr eraill heb fod yn perthyn i'r Undeb 7,500 llafurwyr difedr, 10,000. Fel rhyfel- oedd o natur arall, nid yr achos houedig ydyw gwir achos y gynen. Mae anfoddogrwydd yn ffynu rhwng y pleidiau er's cryn amser ac yn tueddbena at y frwydr a dywed y ddwyblaid mewn ffordd o siarad, "W aetb i ni ei chael hi allan yn awr na rhyw dro eto." Talwyd i'r dynion sydd eisoes naill ai yn sefyll allan neu wedi eu cloi allan y swm o 27,000p, ac yr oedd hyny y pedwerydd taliad er pan ddechreuodd y cythryfwl. Chwarel y Penrhyn. MAE rhyw gath yn nghwpwrdd pawb." Nid yw symudiad yr wyth awr wedi cynbyrfu neb yn Nghymru hyd y gwelais ond dal y mae an- nghydfod y Penrhyn mor gyndyn ag erioed. Taenwyd yr banes yr wythnos hon gan un o'r papyrau Saesneg sydd yn proffesu gwybod pob- peth a thipyn dros ben fod y pleidiau ar fin heddychu, a choeliodd amryw y chwedl. Ond y mae wedi ei wadu a'i ail ddweyd er hyny. Nid oes ond ceisio gobeithio fod hyny yn wir ond a barnu oddiwrth ymddygiad Argl. Pen- rhyn yn y misoedd aetb beibio, mae yn ao- hawdd credn yr egyr ef byth mo'r chwarel ond trwy orfod, neu ar y telerau a gynygiodd eisoes. Fe wnaethai ei arglwyddiaetb bost llidiart rhagorol.
-___ Cymro ar y Crogbren yn…
Cymro ar y Crogbren yn lerpwl. FORE ddoe (Mercher) dyoddefodd Thomas Lloyd eithaf y gyfraith trwy gael ei ddienyddio yn ngharchar Walton am lofruddio ei wraig yn Til- lard Street, Kirkdale, Meh. 19. Cyflawnodd y weithred erchyll tra'n cweryla gyda'i wraig, ac yr oeddynt eu dau dan effeithiau diad. H onid yn y frawdlys iddo ei tharaw yn ei phen a bwyaH eraill a bonent mai gyda phrocer y lladdodd hi, tra y mynai ef ei hun mai syrthio a ddarfu gan daro ei phen yn haiarn y gwely. Fodd bynag, cyhuddwyd ef o'i ilofruddio ger- bron y Barnwr Bruce yn Mrawdlys Lerpwl Gorph. 30, ac wrth ei ddedfrydu i farwolaeth sylwodd y Barnwr fod y dystiolaeth i'w goll- farnu mor glir ag oedd yn bosibl iddi fod. Ym- ddengys fod Lloyd yn fyddar, ac ni wyddai fod dydd ei dranc wedi ei benu hyd nes dychwelodd o'r llysi'w gell yn y carchar. B:llington oedd y dienyddwr, a hysbyswyd fod y ddedfryd wedi ei chario allan trwy chwyfio'r faner ddu uwch muriau'r carchar. Brodor o Bwcle, sir Fflint, oedd Lloyd. Yno trealiodd ei febyd nes oedd tna 15 oed, pan y daeth i'r ddinas hon. Prentisiwyd ef i ddysgu'r grefft o boi' er maker, yr hon ydoedd grefft ei dad hefyd, a bu'n gweithio yn Belfast, Hull, Man- ceinion, Barrow, ac yn Nghymru. Dychwelodd i Lerpwl, fodd bynag, a phriododd. Ni fu'r un- deb o fawr fendith i Lloyd, druan, oblegyd un feddw, isel ei moes, halog ei geiriau, ydoedd y wraig, yn ol tystiolaeth ei chymydogion a'i mab hi ei hun. Dywed Mrs Hannah Lewis, Bwcle, adwaenai'r trancedig er's 45 mlynedd, ei fod yn ddyn sobr a diwyd, a mwyaf annbebyg i gyf- lawni'r weithred erchyll. Ymddengys hefyd fod ben wreigan o Gymraes, o'r enw Mrs. Day, aelod o eglwys M. C. Anfield, wedi bod yn llettya gydag ef. Ymwelai aelodau yr eglwys yn fynych a'r hen wreigan, a thystia'r oil o'r cyfryw mai dyn dymunol a chall ydoedd Lloyd, ond fod ei wraig yn waradwydd i'r rhyw. Bu Mrs Day farw, a thystir i Lloyd ymddwyn yn dra theilwng ar yr achlysur hwnw. Fodd bynag, trwy annghysur cartref, trodd Lloyd i yfed, a hyn a briodola am y gyflafan erchyll a gyfiawnodd. Tuag wythnos yn ol, pan ddaeth y ffeithiau yn nghylch cymeriadau Lloyd a'i wraig yn hysbys darfu i Mr Qoilliam, cyfreithiwr, Manchester Street, gychwyn deiseb yn cymhell yr Ysgrifenydd Cartrefol i ystyried yr achos i'r amcan o symud y gollfarn oddiar Lloyd, a rhoi panyd-wasanaeth yn ei lie. Cymerwyd hyn i fynu yn aiddgar, ae arwyddodd tua deng mil o bersonau eu henwau wrth v ddeiseb hon. Hefyd darfu i Mr Roberts (o ffirm Mri Roberts ac Edwards, Kirkdale Road) ffurfio deiseb, yr hon arwyddwyd gan tua dwy fil; anfonwyd un hefyd gan aelodau Eglwys Anfield Road, ac un o Rhyl, heblaw amryw eraill. Ysgrif- enodd y Parch Owen Owens, Anfield, hefyd lythyr at yr Ysgrifenydd Cartrefol yn ei gym hell yn gryf i newid y ddedfryd oberwydd cymeriad da Lloyd, a'r bywyd anhapus a dreuliodd oherwydd ymddyg- iadau gwarthus ei wraig anfonwyd liytbyr hefyd i'r un perwyl gan fab y wraig lofruddiwyd. Mawr obeithid y newidid cwrs y gyfraith, ond der- byniwyd pellebyr nawn ddydd Mawrth oddiwrth yr Ysgrifenydd Cartrefol yn hysbysu iddo ystyried y deisebau, ond na welai resymau digonol dros ymyryd a chwrs y ddeddf. Felly, fore Mercher, anfonwyd y Cymro Thomas Lloyd i'w dranc gan y dienyddwr Billington.
[No title]
o Os mynwch gael CIG OEN GWIR GYMREIG, blasus danteithiol, y mae i'w gael yn ddyddiol yn Slop COED Y BRAIN, 17 Deane Street, gyferbyn a March- nad St. John. Treiwch sf. Ni'ch siomir.
Advertising
Yn awr yn barod. 381¡ tudal. Crown 8vo. Pris 3s 6ch. COFIANT A PHREGETHAU y T% Parcli DAVID DAVIES, Bermo, TAN OLYGIAETH PARCH WILLIAM JONES (David Street) LERPWL. I'w cael gan y Llyfrwerthwyr neu drwy y post ar dderbyniad ei worth, gan ISAAC FOULKES, 8, Paradise Street, Liverpool
-__------_--Llythyr Watcyn…
Llythyr Watcyn Wyn. Gwynfryn, Ammanford, Awst 14. NTD oes dim ar glust na thafod neb yn y Sowth yma yr wythnos hon ond son am Eisteddfod Casnewydd. Dyna'r siarad, a'r darllen, a'r ys- grifenu am y presenol beth bynag. Pa hyd y pery'r swn nid oes neb yn gwybod, ond tebyg y bydd ar ben yn union deg, gan fod yr ager yn dianc yn gyflym. Nid wyf yn myned i farnu'r canu na'r barddoni, na barnu'r beirniaid chwaith yr wythnos hon, gan fod hyny yn cael ei wneud gan eraill mwy galluog. Dichon y byddai yn ddyddorol gan rai o ddar- llenwyr Y Cymro gael gair byr am rai o'r cys- tadleiiwyr-y eystadletiwyr Ilwydiianus a ad- waenwn. Y BARDD CADEIRIOL. Ganwyd y birdd cadeiriol yn mhentref Llan- debie ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Mab ydyw i frawd y Parch. Thomas Job, Cynwil. Magwyd ef yn Llandebie nes tua deg neu ddeu- ddeg oed, pryd y sym-idodd ei rieni a'r tenlu i fyw i Ammanford, pentref tua dwy filldir o Laudebie. Cafodd ei addysg yn ysgol Llan- debie, ysgol y Gwynfryn, a Cboleg Trefecca, a chafodd ei ordeinio yn Aberdar er's ychvdig flynyddau yn ol, ac y mae yn cael ei adnab<>d fel y Parch. John Tr.atats Job Aberdar- gweioidog gyda'r Metbodistiaid yn Aberdar. Yn fuan wedi sefydlu yn Aberdar priododd a, merch ieuanc o'r Oeinewydd. Y mae Job yn un o'r bechgyn mwyaf caredig a byw a barddon- ol o neb yn yr holl wlad-nis gellir ei atal i farddoni Nid oes neb mwy parchus nag ef yn ei ardal enedigol, ac yo y lie y mae yn byw heddyw. Canwyd clychau eglwys Llandebie drwy'r nos wedi clywed mai Job enilloid y gadair Ac y mae'n hysbys iddo gael croesaw cyhoeddtis yn nhref Aberdar. Beth ragor all- esid wneud ? Y BARDD CORONOG. Ganwyd y bardd coronog ychydig flynyddau Ganwyd y bardd coronog ychydig flynyddau o flaen y bardd cadeiriol yn hen ardal Cwmllvu- fell, mewn amaethdy bychan myoyddig ar ochr y Mynydd Du ar lan yr afon LlynMl. Yn y ty yn ei ymyl dros y nant y ganwyd Watcyn Wyn a Ben Davies. Yn y Coedcaemawr y ganwyd Mafonwy, ac yn y Ddolgam y ganwyd y cerxders. Cafodd Mafonwy y fraint o fyned o dan y ddaear yn ieuanc iawn, a bn yno hyd nes iddo wneud ei feddwl i fynu i fyned i'r weinidogaeth. Cafodd ei addysg yc ysgol ddyddiol Cwmllyn- fell, Ysgol Ramadegol Ammanford, ysgol breifat Laugharoe, R Choleg Caerfyrddia, a chafodd ei ordeinio yn Blaenafon, lie y mae'n weinidog llwyddianus gyda'r Annibynwyr heddyw. Y mae yntau yn briod, ac yn fachgen rhadlon, yn weitbiwr caled, ac wedi bod yn gystadleuwr cyson y blynyddau diweddaf hyn, fel y gellir dweyd fod y goron yn eistedd yn esmwyth a naturiol ar ei ben-wedi myned yno yn eithaf teg yn ei thro PENAR. Dichon mai buddugoliaeth Penar yw y fudd- ugoliaeth ragoraf ya yr Eisteddfod. Cafodd haner y wobr am y trait ha wd mawr can' gini, a chafodd Ffrancwr ieuanc yr baner arall. Mab i golier o Aberdar yw Penar, a mab i Broffeswr o Brifysgol Caerdydd oedd yn gydfuddugol ag ef. Yr oedd Penar o dan y ddaear yn ieuanc, a bu yno hyd nes iddo gymeryd yn ei ben i ddod fynn. Bu yn derbyn ei addysg ar gyfer y weinidogaeth yn Aberdar, ac ordeiniwyd ef yn Merthyr Vale yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Symudodd i gymeryd gofal Siloam, Pentre Estyll, Abertawe, er's ychydig flynyddau yn ol, ac yno y mae yn gweithio yn galed a llwydd- ianus iawn. Y mae Penar yn engraipht ragorol o un wedi eodi yn raddol ac esgyn i binacl yr Eisteddfod ar lwybr teg a naturiol. Enillodd yn Ibertawe ar Emynau ac Emynwyr," yn Llanelli ar Y Cenuadon Cymreig," ac yn Cas- newydd ar Feirdd a Barddoniaeth y ganrif hon "-y beirdd a'r farddoniaetb Gymreig, wrth gwrs, a bydd ei gyfrol yn wir ddyddorol a gwerthfawr pan ddaw allan—cyfrol fawr befyd. Amser a balla hyd y tro nesa.
.0:----Marwolaeth ofidus .March…
0: Marwolaeth ofidus March o Ddyffryn Clwyd. DDYDD Sadwrn, gerbron Mr F. Llewelyn Jones, dirprwy-drengholydd sir Ffliht. a rheithwyr, cyn- aliwyd ymchwiliad .yn Rhyl i farwolaeth Mary Jane Kendrick, Cerygllwydion, Llanynys, Dyffryn Clwyd.—Catherine Davids, mgdryb y drancedig, a dystiodfl fod ei uith yn 29 oed. Aeth gyda hi at v deintydd yn Rhyl ddydd Gwener. Yr oedd vn ddealledig fod ei nith i fyned dan chloroform. Yr oedd yn yr ystafell pan ddechreuodd y deintydd ar ei waith, ond nis galJodd ddal vr olygfa'n hir a symudwyd hi i ystafell firall. -Frederick Jenks, cynorthwywr Mr Keatinge, deintydd, Rhyl, a dystiodd i'r ferch fyned ato trwy drefniant blaen- orol ddvdd Gwener. Anfonwyd am Dr Goodwin i roddi chloroform iddi, a daeth yntau, ae wedi ei harchwilio, cafodd ei bod yn ddigon cryf i gymeryd y nwydd hwnw. Fe'i rhoed iddi, ac yn mhen chwarter awr wed'yn dechreuodd dynu ei dar edd. Wedi tynu tri, gwelodd fod rhywbeth allan o le. Ceisiodd ei hadfer, ond yn ofer.—Dr Goodwin a gadarnhaodd y dystiolaeth uchod. Yr oedd y ferch yn hollol foddlon i gymeryd chloroform, ac ni bu anhawsder o gwbl i'w roi iddi. Pan yn hollol dan ei ddvlanwad, dechreuodd y deintydd ar ei waith. Wedi tynu tri dant, gwelwyd fod gwyneb y drancedig yn glasu, ac nad oedd yn anadlu, Arferwyd pob dyfais i'w hadfer, ond bu farw yn mhen tri neu bedwar munyd. Priodolai'r farwol- aeth i glefyd y galon.-Ar ol i'r trengholydd gryn- hoi'r ffeithiau, dychwelwyd rheithfarn o Farwol- aeth trwy gam antur," gan amlygu'r farn nad oedd bai o gwbl ar y meddyg a roes y chloroform iddi. Amlygwyd cydymdeimlad dwfn hefyd a'r teulu yn eu galar.
[No title]
Sonid am oleuo Penycae, Rhiwabon, gyda nwy neu drydan, ond mewn cyfarfod o'r plwyfolion nos Wener, pasiwyi fod y pentref i barhau mewn ty- wyllwch gan fod y trethi yn rhy uchel eisoes i fyned i'r draul ychwanegol o oleuo'r lie. Although Flour is much dearer, the prices or Cornubia Self-Raising Flour have not been fraised.
Birkenhead.
Birkenhead. Yr Adar Ymfudol.-Mae'r adar ha'n dychwelyd adref fesul un ac un, rhai ohonynt yn edrych yn swil ryjeddol. Paham, tybed ? Un pwysig iawn, iawn sydd ar ol, Eryr cyflymgraff Llaadrindod. Fyddai ddim gwell i chwi fyn'd lawr, Yr Albert, rhag bod Archddiacon Sir Gaernarfon wedi tori ei esgyll ? Eisteddfod y Gwyr Isuainc.—Gwelir oddiwrth Y Cymro fod Rhaglen yr ail Eisteddfod allan o'r wasg. Fel anturiaeth gyntaf, ac o ran nifer ac ansawdd y cystadleuon a Iluosogrwydd y cynull- iadau trodd Eisteddfod y PdSg diweddaf yn llwyddiant rhyfeddol. Ac yn ddoeth iawn, y mi»e r Gwyr Ieuaine wedi ail ethol Mr Llew Wynne yn llywydd, a Mr Isaac Davies yn ysgrifenydd, y Pwyllgor Cyffredinol; gyda phrofiad y naill, a phybyrwch v lIall, ni raid pryderu am Iwyddiaot Eisteddfod No 2, Peth arall, y rnaentwedi enilled- mygedd ac ymddiriedaeth y Cymry hya a mwy cefnog hynyjoeddynt y llynedd yn glaiar a chilwgus eu hag- wedd at y ''spngynod dibrofiad yma." Fel yn mhob Aistoddfod ddiweddar, a thobyg nas gellir yssoi hyny, cerddoriaeth galff y lie mwyaf ac amlycaf yn y rhaglen, er fod am bell destyn newydd a theilwng f.DT^.hlith.yr, adran Ilea, megys y traifchawd ar Diiwygiadau Crefyddol Cymru," cyfyngedig i Gymry wedi eu magu yn nhrefi Lloegr. Syniad hapus ydoedd hwn, ac un a fanteisir arao, mae'n ddiau, gan nifer lluosog o ymgeiswyr oeddvnt hyd yma wedi eu hanwybyddu mewn cystadleuon ftisteddfodol. Fel printer, mae'n anmhosibl i mi fod yn mhlifch yr etholedigion meichiafol; ond er hyny nid oes neb a ddymuna'ch llwyddiant vn fwy gonest a dieiddigedd. j Marwolan/h Ddi~yfyd,—Cefais fraw nos Iau glvwed fod y cyfalll dyddan Mr Richard Davies, lildon Street, wedi ei gael yn farw y bore hwnw vn ei vstafeil wely. Ddeunos cynt vr oeddwn vn dy- chweiyd gartref yn ei gwmni; ae er yn gwybod ei fod yn dihoani er's misoedd, vtnddangosai yn siriol ddigon, ac ya cnoi ei gil ar hen Iyfr Cyraraeg o hanes crefydd oedd yn ei feddiant, ac yn cofio'n felu-, am il- hen bregethwyr Annibynol sir Feir- lonydd, Isaac Thomas. Yr oedd Mr Divies yn auedigol o Drawsfynydd yn wr dystaw, myfyr- gar ac yn ol arfer gyffredin rhai felly, yn fore. godwr a cherddwr cyson, diflin. Yr oedd hefyd yn un o dri Ohymro 6d o Gymreig groesent y 1 erawy gyda'r ua eweh er's blynyddau a bydd vn chwith gan y ddau weddid golli'r adgofion melus am bersonau a phethau draddodai mor dwt a di. ymffrost. Prawf o'i gymeriad gloyw ydoedd iddo dciaI swydd gvfrifol fel cyllidydd yn ffirm enfawr Mn MoreD, Victoria Street, Lerpwl, dros vsbaid 23 m>ynedd. Ciaddasai ei briod ychvdig gvda blwyddyn yn ol, a gedy unarddeg o blant i hir- » -thu am dad tyaer, gwastad ei rodi&d. Y Sadwrn cynt, ymlwybrodd am dro i fynwent Fiaybrick Hill, a'r Sadwrn diweddaf fe'i rhoed i huao vuddi Gweinyddwyd yn ddwys ac effeithiol gan y "parch. Thomas Gray. Jf AITSH. 0--
Sefyllfa Llafur ■ yn ligogtecid…
Sefyllfa Llafur yn ligogtecid Gymru. YN ol Mr G, Rowley, gohebvdd Gogledd Cymru i'r Labour Gazette, mae sefyllfa ihfllr yn N gogledd Cymru fel y eanlyn :— Mwngloddiau.—Gyda'r eith-riad o ychydig lo- feydd, mae gwa'th wedi bod ya fywiog vn ystod mis. ° J Cnioarelau.—Gyda'r eithriad o Chwarel y Pen- rhyn, mae'r gwaith yn dda yn y chwareli llechi ac eraill. Peirianwaith a Meteloedd.— Gwaith dur Brymbo yn fywiog. Ffwrnais newydd wedi ei gosod yn ngwaith h tiarn Treffynon, a rhagor o ddynion wedi eu cyfiogi. Gweddol yw sefyllfa gwaith yn mo.iith peiriaawyr CroesoswalSt; ond gweithwyr dur Bagillt ac adeiladwyr gwageni Johnstown yn fywiog. t Adeiladu. Bricklayers ynbrysuryn Ngwrecsam; a r seiri yn fywiog, ond llawer o baentwyr yn ddi- waith. Bricklayers yn ddifywyd, a'r seiri yn weddol brysur yn Nghroesoswalit. Pob canghen o waith yn Rhos, Rhiwabon, a Cefn yn dra bywiog. Y gweifcufeydd priddfeini a terra cotta yn Ngwrecsam, Rhos, Rhiwaboo, a Penybont yn par- hau'n fywiog. Gweithir amser Hawn yn ngweithiau fferyilol Ffiint a Rhiwabon. Nyddwyr Maldwyn a theilwriaid Croesoswallt a Rhyl yn dra phrysur. -:0:-
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwibnodion o Ddyffryn Maelor. MAE'R hin wedi tori dipyn yr wythnos non, a chawodydd iachusol yn disgyn yn hyfryd ar- nom. Diolch am dano, meddaf fi, ond olywaf lawer o rwgnach, fel arfer, yn ei erbyn hefyd. Yn enwedig pobl yr holidays yma. Rbai od iawn ydvw'r rhai hyn, Waeth ganddyat am neb na dim os byddant hwy'n iawn. N' raid iddynt rwgoach vchwaith, y maent wedi cael tywydd wrth fodd eu calonau hyd yn hyn. a dylent oddef ychydig. Bu yma ddau gyfarfod pregethu ddechreu yr wytbnos hon, y naill yn nghapel Weslevaidd Stryt Isa, a'r Uali gyda'r Hen Gorph yn y Capei Mawr. Ychydig bach o'r olaf yn unig y cefais i y fraint o fod ynddo, a cblywais y Parchn John Hughes, M.A., Lerpwl, a Moelwyn Hughes yn pregethu- Gwyddoch i. gyd fath bregethwr rhagorol ydyw'r Pare. J. Hughes, a gwyddoch hefyd y fath f¿rdd swynol ydyw Moelwvn, ond dyma ni yn ei gael fel pregethwr yma. Nid bardd bregethwr mohono, ond pregethwr barddoaol yw, ei ddychymyg yn eftro, a'i enaid I ar d&n. Y mae'r olwg arno, gyda'i wyneb hir a gwelw, yn y pwlpud yn enill eich cydymdeimlad, a'i ymadroddioa yn enill eich edmygedd. Caffed hir oes a iechyd 1 lanw pwlpudau ein gwlad, a llwyddiant a'i dilyno i ba. le bynag yr elo. I Y maent yn pa rotoi yma ar gyfer y Gymanfa y bwriedir ei chynal yn y Cape I Mawr y mis nesaf dan arweioiad Mr Tom Price. Merthyr, a bydd yn werth i chwi ddod yr holl ffordd o Ler- pwl i wrando'r canu hwnw. Dywedir fod yr Uenadur Walter Morgan, Pontypridd-ymgeisydd seneddol gorchfygedig bwrdeisdrefi Dinbych—wedi cael gwaho idia i i ddyfod allan dros un o seddau y DJ. Gobeith- io'r anwyl y derbynia y gwahoddiad, canys gwaeth nag ofar yw iddo ddisgwyl ciel cyn- rychioli y bwrdeisdrefi hyn B?dd yn well iddo ef, ac yn well hefyd i Ryddfrydwyr sir Ddin- bycb. » Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.