Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Athrofa Prifysgol Cymru, Aberystwyth.I
Athrofa Prifysgol Cymru, Aberystwyth. LLWYDDIANT YR EFRYDWYR. I YN rnhlith rbestr ymgeiswyr llwyddianus yn arholiadau Intermediate Art and Science Prifysgol Llundain a gynaliwyd yn mis Gorphenaf diweddaf, ymddengys enwau yr efrydwyr canlynol o'r athrofa uchod :-Arholiad Intermediate yn y Gdfyddydau (Arts). Dosbarth I-Miss E. M. Theobald. Dos- barth 2—Misses B. Adry, F, E. Burns, Amy S. Fayr, Annie Fulford, F, W. Hall, W. L. James, J. B. Morgan, F A. Swann, Mri J. S. Townsend, G. Ambrose Williams, a Miss E. B. Williams. J. B. Morgan, F A. Swann, Mri J. S. Townsend, G. Ambrose Williams, a Miss E. B. Williams.- Arholiad Intermediate mewn Givyddoriaeth(Science). Dosbarth Anrhydeddus: Chemistry (adran 3) Wm. Burton. Dosbarth I-R. L. Da vies, Miss M. E. Iredale, T. C. James, 0 R. Jones, Thomas Picton, J. H. Shaxby, a R. J. Williams. Dosbarth 2- Miss E. C. Denman, Wm St Bodfan Griffith, a Miss Dor* Turner. Arholiad Preliminary Scientific (M.B.S.)-Dosbarth I-Rees Phillips a M. T. Williams Dosbarth 2—H. S. Jones a J. K. Jones. Llwyddianus mewn Chemistry and Ex- pertmental Physics. -T. ilonnar Davies a J. W. Evans (hen efrydwr). Llwyddianus mewn Bi-I ,.ology-W. Collins Lewis (hen efrydwr). -0--
Cwreichion.
Cwreichion. IT MAE llawer ffordd i bopio y cwestiwn, a'r diweddaf ydyw hon. Rhoddodd housekeeper Pen- llwyn siwgr yu nwr ymolchi ei mheistr y boreu o'r blaen, a phan ddaeth efe i'w foreufwyd yr oedd rhai ugeiniau o wybed yn disgyn "r ei wyneb. Wedi blino yn'eu shiwio i ffwrdd, dywedai yr hen lane yu ei gynddaredd, Be sy ar y gwybed 'ma, Sara ?" pryd y dywedodd hithau, rhwng swil a phedio, Hwyrach mai eisio'ch cusanu chi sy' arnyn nhw, mistar, achos does gynoch chi 'run wraig 1T Ac ebe'r hen lane, Wel diaist, cawn i rywun i'm cymyd, mi briodwn i yforu nesa yo hytrach na dyodde 'rhain," pryd y rho4dodd Sara air yn ei bryd, Wel mistar, os na fedrwch chi gael neb gwell,mi leieiwn i gael y siawnscynta yn y nghalon." Mae'r ystegion allan. IT Yr un mor dwyllodrus ydyw pobl erioed, onide? "Nos dawch," ebe un wrth ei gymydog nn o'r nosweithiau diweddaf, a chyri y boreu fe'i daliwyd yn dwyn ei bys o'r ardd. Y mae y Prophwyd Jeremiah yn dweyd rhywbeth cyffelyb A'i enau y traetha heddwch i'w gymydog, eithr o'i fewn y gesyd efe gynllwyn iddo." IT Y mae llawer ffordd i ladd cath heblaw ei chrogi," meddai'r hen bobl; a'r ffordd ddiweddaf, yn ol hen ferch yn Rhew!, ydyw ei chloi i fynu mewn ystafell wag nes ei llwgu, am fwyta'r ymenyn. IT "Sut ddaru chi gysgu neithiwr, Mr Joyce?" ebe cymydog wrth un oedd wedi bod yn gwla er's tro, pryd yr atebodd, canys un hengras ydyw ef— Ddim yn dda 'tol—yr oedd yma garden party yn yr ardd tu ol i'r ty, ac mi cadson o i fynu tan un o'r gloch y boreu, a doedd dim posib cysgu." IT Diar i mi, garden party mor hwyr a hyny I" ychwanegai y cymydog, (a dyeithrddyn 0 Lerpwl ydoedd). Ie, welwch chi," ebe Joyce, ond nid w aynt nag y rhutbrodd ci yr Efel i'w canol nhw nag x yr oedd rhai ohonynt yn nhop y pren afalau, a'r ileill over the garden wall am eu bywyd. Ar ol hyny mi gefes gysgu. "Nid plant oedd yno, tybed ?" gofynai y Llerpwlliad. Nage, cathod," ebe'r damhegwr, mor ddifrifol a phe buasai yn dar- lIen llith yn yr Eglwys. IT Elai y Frenhines yn ei cherbyd trwy nodachfa er budd yr Ysgol Wladwriaethol yn East Cowes ddechreu yr wythnos, a phrynodd gryd ar lun cwcb. Y mae yr hen wraig yn credu yn i'w theulu nofio i'r dyfodol, ac yn sicr hefyd y maent yn lied debyg o wneud. IT Yr oedd gan Robert Charles bedwar o blant i'w eadw, ae fe'u eadwai yn hynod o daclus ar ei gyflog labrwr, ond y diwrnod o'r blaen, pan rodd- odd ei briod hawddgar enedigaeth i ddau efell, bu yn mron i Robert druan dori ei galon, a chwynai Robert, a'i freichiau i fynu-" Wel, Marged bach, y mae hi ar ben arnon ni rwan-wn i ddim be ddaw ohonon ni pryd yr atebodd Marged, yn bur gall, Wel, Robet, gwna di dy ran, ac mi wna ine, ac y mae yr Arglwydd wedi addaw gwneud y diffyg i fynu." Y mae Robert mor galonog ag erioed byth wed'yn. IT Y mae yn Hanes Dafydd Evans, Ffynonhenri, sdn am ddau gwynai am ddyfodiad efeilliaid i'r fceulu, ac ebe y Dryw, Pw I pw! beth ydyw dau at bedwar-ar-ddeg yr un pryd ? Nid oes yr un dyn yn dweyd yr he! pa fi ond Duw yn unig." Fe fyddai yn dda i lawer pe myfyrient fwy yn Athrofa Natur. Gallai Proffeswr Dryw ddysgu llawer arnynt, II Chwedl Ffynonhenri-" Pan y byddo'r dryw a'r wraig yn hela bwyd i'r crug plant, yr wyf yn aicr nad oes amser gan y gwr i ddweyd stori hir y pryd hyny wrth ei Pymyclogion na'r fam hithau, fyned o dy i dy i hela clep a chelwydd, a hala dyn- ion benben a'u gilydd." CYFARWYDD --0--
BETH YW CYNILDEB?
BETH YW CYNILDEB? MAE gan lawer o bobl syniadau cyfeiliornus am yr hyn yw gwir gynildeb. Creda rhai mai ymwadu â'u hunain yn mhob dim ydyw, ac o ganlyniad, ymgad- want yn ami rhag yr hyn a wnai wir les iddynt. Camsyniad mawr yw byn. Nid yw y fath ymddyg- iad, ond rhith o gynildeb, ac, mewn gwirionedd,. mae yn ami yn achos o esgeulusdra sydd yn profi yn aiweidiol. Gwir gynildeb yw gwneud y defnydd goreu o bob peth yn eu meddiant. Mae y gost o fyned i lan y mor, neu i'r ffynonau, yn enwedig i'r dosbarth gweithiol, gymaint fel mae yn ddyledswydd arbemg arnynt, ao yn neillduol ar y rhai sydd wan neu glaf, i geiaio cael y lies mwyaf sydd yn ddichonadwy. Mae profiad lluoedd yn ein gwlad yn tystio fod •cymeryd cwrs o Quinine Bitters Gwilym Evans yn ystod eu hymweliad a glan y mor, neu pa le bynag yr atit i dreulio eu gwyliau, wedi profi yn llesol iawn iddynt, ac wedi dyblu y budd a dderbynient oddiwrth y cyfnewidiad, pe heb gymeryd y cwrs o'r meddyglyn rhagorol hwn. Mae Quinine Bitters Gwilym Evans yn gyd-gasgliad godidog o'r hyn sydd feddyginiaethol ac adgryfhaol yn holl brif lysiau y byd llysie^uol. Mae pawb sydd wedi roddi prawf arno yn eydnabod ell rinweddau a'i effeithiolrwydd, ac mae llawer wedi ceisio ei efelychu ond yn ofer. Gwerthir Bitters Gwilym Eyans gan fferyllwyr yn mhob man mewn Poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, a gellir ei gael trwy y post ¡ am y prisiau uchod yn uniongyrchol oddiwrth y Perchenogion Quinine Bitters Manufacturing Co., •"Wid., Llanelly. South Wales.
Nodion o'r Odinas.
Nodion o'r Odinas. [Gan CWILSYNI. CYMRO o Bwcle, rneddir, yw Thomas Lloyd, yr hwn sydd dan gollfarn yn ngharchar Walton, ac yn aros y dienvddwr am lofruddio ei wraig, Mae ei fam yn wraig barchus yn hyw yn Nghaer. Yn newydditoduroTl Lerpwl ddydd Llun ymddangosodd llythyr vn gofyn i Gymry Lerpwi ddeisebu'r Ys- grifenydd Cartrefol i'w arbed rhilog y crogbren a gwelais awgrym mewn mwy nug un p-lpyr y dylas. ai gweinidogion Gymreig y ddinas fod wedi ym- weled ay ef. Dyues feddw isel ei moss, oedd y wraig lofruddiwyd a gofid dwys yw gweled Cym- ro dan gollfarn am drosedd mor erchyll. Ddydd Sadwm, aeth aelodau Oymdeithas Ym- drech. Grefyddol David Street i Sefton. Er nad oedd y cwmni yn lluosog, caed hwyl rhagorol. gweinidogion Cymreig Lerpwl yn lienydd-a yn brysur. Ysgrifena'r Parch. G. Ellis, M A., gofiant i'r diweddar Barch Edward Morgan, Dyff- ryn; dstrperir cyfrol o breguthau y diweddar Barch John Hughes, D.D., gan y Parch John Wil- liams, Princes Road golygir cyfrol o nodiadau y diweddar Barch. Dr. Herber E-anc;, gan y Parch. O. L. Roberts ac ysgrifenir cyfrol ar Dduwin- yddiaeth Paul" gan y Parch. D. Adams, B A., tra y mae'r Parch. Wm. Jones wedi ysgrifenu cofiant rhagorol i'w ddiweddar dad.yn-nghyfraith, Parch. David Davies, Bermo. Degwm coch iawn gafodd un o bregethwyr Ler- pwl y Sul diweddaf ar ol gweinyddu mewn eglwys heb fod gan' milldir o'r ddinas. Derbyniodd ugeiniau o geiniogau ac edrychai ei boced fel poced porcher wrth ddychwelyd adref. Bu cor o Gymry yn canu yn nghwrdd Nawn Sul Difyr Byrom Hall ddydd Sul diweddaf. Canasant Y Pererinion" yn Gymraeg, a mawr fwynhawyd yr arlwy. Mae cryn gyffro mewn un eglwys Gymraeg yma oherwydd fod dau weinidog wedi traddodi yr un sylwadau ar eu pregethau, a mawr yw'r dyfalu pa fodd y bu hyn. Myn rhai iddynt fod yn pori yn yr un mses ond tybia rhai fod un ohonynt yn euog o bigo ymenydd y llall. Y foeswers yw. yn ngeiriau Wil Bryan, Smocied pawb ei faco'i hun. Gwelaf fod Cymry'r ddinas vn cyfranu'n hael at y gronfa i ddigolledu'r Genhadaeth yn Khasia ar 01 yr anrliaith a wnaed gan y ddaeargryn. Ceir y rhoddion car lytiol yn y rhestr Mr David Hughes, Y. H., Winterdyne, 500p Mr Thomas Edwards, Y.H., lOOp; Mrs a Misses Williams, Grove Street, lOOp; Mr David Davies, Higher Lodge, 50p Mr Wm. Evans, Elm Bank, 20p a Mr J. Harrison Jones, Princes Avenue, 20p. Lie mae eraill gyf- oethogion y ddinas. tybed ? -0- Agorwyd arddangosfa ddiwyd"'arol yn Oonnah's Qaay ddvdd Mercher gan Argl. Kenyon Dangos- wyd 700 o nwyddau. Ddydd Sadwrn, gerbron ynaden y Wyddgrug) cyhuddwyd John Edward Jones, dyn ieuanc parch" us ei ymddangosiad, a brodor o Fangor, o ladrata 16s 6c o'r New Inn, Connah's Quay. Dirwywyd ef i 10s a'r costa u. Y DON ASSOCIATION SIWTIAU OLWYNO AM BRISIAU POBLOGAIDD.—Mae Y Don Association Lord Street a Paradise Street yn awr ya dangos y Patrymau' newyddion o Siwtiau Olwyno am y tymhor presenol, ac yn eu plith cf>i^ rhai o'r patrymau mwyaf hardd a chwaethus. Y maent wedi eti. gwnend a'u gorphen vn y dull goreu'n bosibl, ac wedi eu leinio a gwlan iechydol. Gellir eu cael yn ffurfiau Lounge neu Norfolk, pob maint, am 16s. 10c. y siwt, llawn werth 36s. Anfonir patrymau trwy y post yn rhad ond gwneud cais am hyny.
-----Eisteddfod Cenedlaethol…
Eisteddfod Cenedlaethol Casnewydd. BEIRNIADAETH Y GADAIR Testyn-11 BRAWDOLIAETH GYFFRBDINOL." DAETH i law 18 o gyfans iddiadau ar y testyn hwn. Buasem yn hoffi pe gallem sylwi yn lied helaeth ar y goreuon, a dangos trwy ddyfyniadau pa mor res- ymol yw ein nodiadau beirniadol. Ond mae'r am- ser a ganiateir i ddarllen beirniadaeth mewn Eis- teddfod erbyn hyn yn ein gorfodi i fod yn fyr iawn. Skylark.—Can Seisnig ilr a thlos sydd gan yr awdures. Efallai mai y Gadair Genedlaethol fydd y llecyn olaf a oresgynir gan 44 yr iaith fain yn ein gwlad. Breuddwydiwr.—Breuddwydiodd mewn mesurau rhyddion, ac mae hyny'n ddigon i brofi mai nid yn y Gadair y deffry Myfyr Hafren.-Dyma'r cyfansoddiad mwyaf caeth gynghaneddol a ddarllenasom erioed ond camgymeriad dybryd oedd tybio mai cryfder yw unig ogoniant y gynghanedd Gymreig yn hytrach nag amrywiaeth a naturioldeb, Mae cynghanedd- iad yr awdl hon mor gadwynog a Phoot Meuai, ond ychydig iawn o feddylddrych sy'n ei thramwyo hi. Dyntuniad. -Rhagflaenir yr awdl hon gan "fras- luut anaddawol iawn—diraen i'r eithaf. Er gwaethaf ambell benill pert a byw, cyfansoddiad anaddfed iawn ar y cyfan sydd ganddo. Stanley.-Dyma gynghaneddwr celfydd, ond yn boddlooi'n rhy fynych ar swyn cynghaneddol yn unig. Nid ymddengys ddarfod i'r awdwr gymeryd hamdden i fyfyrio ei destyn a chynllunio ei gyfan- soddiad cyn dechreu canu. Gwasgarog iawn ydyw. Ceir yma rai darnau pur dda, ond eraill yndruenus -yn draethodol, amleiriog, ac ail-adroddiadol. 0 Isel Radd.-Mae ganddo gynllun digon clir, a gweithia ef allan yn bur gyson ond cana yntau'n rhy gyffredinol ei synia.dau, ac. yn rhy draethodol ar y cyfan. Gwna ga's da, fodd bynag, at fardd- oni pan ddesgrifia "Y sbryd Brawdgarwch" fel wedi adgyfodi yn y (haredwr, gan fyned drwy'r byd a thelyn yn ei law A byw d6n dros y byd aeth 0 bur delyn Brawdoliaeth. Ond ni lwydda i weithio allan y syniad hwn yn na. turiol. Sonia am gan" y delyn hon fel yn tleiddio dan furiau gwahanol Hyd isel feini' ngwaelod sylfaenol. Yr ydym yn cofio hanes y cyrn hyrddod yn nymchweliad caerau Jerico hen, a chwedl brydferth telyn Orpheus, peroriaeth yr hon a swynodd deyrn y fagddu ac a ataliodd olwyn Ixion ond nid yw'r naill na'r llall ohonynt yn peri i ni gyfiawnhau yr annaturioldeb sy'n nhelyn yr ymgeisydd hwn. Disgybl Luc-—Awdl gymysglyd o'r gwych a'r gwael sydd ganddo. Mae ei gynllun yn feddylgar, ond yn dangos mwy o'r traethodwr na'r bardd. Ceir ganddo lawer 0 fedr mydryddol, ond mynych y gormesir naturioldeb gan gelfyddyd. Eto ceir yn yr awdl rai penillion campus. Yn wir, gallem yn hawddxgredu fod y cyfansoddiad yn gynyrch dau awdwr gwahanol, gan mor fawr y gwahaniaeth rhwng rhai rbanau ohono. Pwy byth a feddyliasai fod y ddau englyn canlynol yn gynyrch yr un awd- wr :— Mwynhaf edrych-mynaf ad-drem,—codaf Er cydio'n fy anthem Cryfha'm traith—ceir haf i'm trem-o gynwys Gwyn deithi bythlwys ganiadaeth Bethlem. Cywir hefyd i'r cryfaf-o ddynion Ddyddanu y gwanaf; A da y rhanwyd i'r hynaf-fachgen Briodi angen y brawd ieuengaf. Un o'r Brodyr.-Dechreua'n llesg, ond gwellha wrth fyned yn mlaen. Dilyna'r cysgodion o Frawd- oliaeth a wgl yn y byd materol ac anifeilaidd mewn trefn esgynol, a cheir ganddo lawer o linellau des- grifiadol da yn mhob ystyr ond fel cyfanwaith, anorphenol ac anaddfed iawn yw'r awdl hon, a gormod o linellau diffrwyth fel hyn ynddi:— Beth wnaeth Frawdoliaeth y dyn—mor helaeth ? Addewid arfaeth y Fron ddiderfyn. Edeyrn Dafod A itr. Wele rai o raniadau ei awd af :-Gobaith-Anturiaeth-Buddugoliaeth-Gwa.l haniaeth Sefyllfaoedd-Cyd-deimlad-Ymrafaelion -Cenadaeth y Frawdoliaeth-Anfarwoldeb-Dy- muniad am Anfarwoldeb, &c. Er nad yw'r awdl yn amddifad o feddylgarwch ac ambell ddarn barddonol, nid ymddengys fod yr awdwr wedi ei feddianu gan ei bwnc, a chana'n rhy anmhenodol ar ei destyn, fel lluaws eraill. Ni lwyddodd i- ar- graphu meddylddrych arweiniol ei bwnc yn ddigon amlwg ar wahanol ranau ei awdl, ac nid oas ddig- on o dan awenyddol yn llosgi drwyddi. Oariad, Diolch iddo am ysgrifenu mor glir. Ceir ganddo lawer o gywreinrwydd cynghaneddol, ac amryw benillion byw a phert-ddiarebol. Oana ddarnau da iawn ar frawdgarweh, ond ni lwyddodd i gyifllunio'n ddeheuig, nac i gadw o fewn terfynau neillduol ei destyn. Ar y cyfan, mae ei awdl ef yn amddifad o newydd-deb a gwres awenyddol ac un- oliaeth cyfansoddiadol. Mynych y cyfarfyddwn ynddi a gair anffodus, megys y "mill yn y llinell Rhoi mel i friwiau'r miloedd. Ac mae'n syn ddarfod i gynghaneddwr mor dda gyfansoddi mewn mesurau mor undonog. Tennyn.-Dyina awdl feddylgar, a phrofa fod ei hawdwr wedi deall ei destyn yn glir, a'i fyfyrio'n ddwys yn ei wahanol gysyiltiadau. Desgrifia'n eff- eithiol iawn y frwydr sy'n y byd rhwng cariad a chis, ac fel mae dylanwad Cristionogaeth o'r di- wedd yn sicr o sylweddoli cymdeithas o frodyr Hawn o gariad a heddwch. Bydd i egwyddorion y Gwaredwr oresgyn calonau a llywodraethu yn nheyrnasoedd y byd, a daw y ddaear oil yn un ael- wyd ddedwydd. Y pryd hwnw bydd y diwyd yn cael ei wobr, ac ni chaiff segur-swyddwyr en eyd- nabod mwyach Gorseddau segur-swyddwyr-a dyna 0 danynt; ac egyr Iddynt waith, a byddant wkr 0 unfrydedd iawn frodyr. Gallasem ddyfynu lluaws o gwpledau tarawgar o'r awdl hon, megys y canlvnol ar ferch anffodus Ifim dyner d'wed am dani, Na churia hon--chwaer yw hi." Ond mae diffygion pwysig yn y cyfansoddiad fel cyfanwaith. Tua haner y ffordd trwyddo, gadaw- odd yr Awen ei bardd am yspaid, a chyfansoddodd yn dra sychlyd, fel y gwelir oddiwrth linellau fel hyn :— Brawdoliaeth gyffredinol ganola Yn y Brawd Dwyfol a fythol weithia; Gwresog hael Weithiwr hen Groes Golgotha, Y gadwen frawdol a ysol asia A'r gwaed iddi ergydia !—coeh elfen, Ie'n mhob dolen—yn mhawb i'w dala. Anurddir yr awdl gan amryw wallau cynghanedd- 01, megys :— Gwresog hael Weithiwr hen Groes Golgotha, Er y gwarlo-mor garuaidd. A'i llaw a'i monwes a gwell mwynianau. Cyfoethog o effeithiau. Mown cyffion boed dynion dan. O'i fron fel pentyrion tân. ¡ John Howard. -Mae hon yn awdl alluog, a'i hawdwr wedi cael gweledigaeth led oleu ar ei des- tyn. Mae ganddo gynllun clir, a gweithia ef allan yn bur gyeson-y syniadau yn dilyn eu gilydd yn naturiol. M ie graddau o hwyl aweayddol ynddi, ond nid yw fel!y drwyddi. Llesgha'r awen yn fyn- ych, ac nid oes ganddi ddigon o nerth ymgynhaliol ar hyd y ffordd. Pan esgyna i uchder barddonol, nid erys yno'n hir, eithr diegyna i gyffredinedd syn iadol a llacrwydd mydryddol. Mae yma lawer o hen syniadau penwyn, a llwybrau cochion hen dra- faelwyr awdurol. Mae ynddi ormod o ddarnau cyffelyb i'r canlynol—yn ddim ond pentwr disyn- wyr o eiriau trvstfawr Tra'n eistedd ar sedd swyddol-drybelaid, Cynheddfau'r enaid cynyddfawr, rhiniol, Frwd gadfridog difrodol—yrai'i chwim Orchymyn gormesol, I roi hadau rhos brawdol-dynol Iii I'w hylym ysu'n ei fflarn ysol. Eto, wrth sylwi ar ddirywiad dyn, a'r golled 0 ddelw Duw, dywed :— Delw'n ddarnau man ganoedd. Ymddengys i'r ymgeisydd gymeryd gormod yn ganiataol gyda golwg ar y cais am gyflafareddiad rhwng Prydain ac America Caf haelaf rodd cyflafareddol-fwrdd Byth i fod yn gydiol Ag Amerig,—ymorol—heb lesghau Wna'n llawn bwriadau gynlluniau brawdol. Mae amledd liirtellau fel hyn yn lleih&u llawer ar werth yr awdl fel cyfanwaith, er fod ynddi amryw ddarnau rhagorol. Llwch y L'.awr.—Dechreua'n dra dieneiniad ac anaddawol Wele rhanau olrheiniwn 0 ddyfodol uthrol hwn,— Ymestyn wna nhestyn i I dalar pob bodoli. Ond wedi myned trwy'r rbugarweiniad Hesg a llwfr hwn, cawn yr awdwr yn ymddeffro, a chyfansodda yn awenyddol iawn. Cymer olwg tra eang ar ei destyn, gan gymeryd i mewn iddo holl gylch bodol aeth materol, anifeilaidd, a rhesymol; a boed a fyno gvda golwg ar ei berthynas a'i destvn, rhaid cydnabod ei awenyddiaeth farddonol. Ymddeng- ys fel un yn cael ei feddianu mor llwyr gan y gwrthrych ddigwydda ddod o fluen ei feddwl fel ag i ymdroi'n ormodol gydag ef, ac felly wneud ei gyf ansoddiad yn anngbymesur iawn. nana tua 200 Uinel) gan mwyaf ar y fath "Frawdoleth" ag a wêl yn mysg elfenau materol a bywyd anifeilaidd. Mewn cyfansoddiad mor fyr nis gellir cyfiawnhau'r fath yrndroad, pi mor awenyddol bynag fo. Ac addefa yntau mai cysgodol, megys, yw'r hyn a geir mewn mater ac anifail. o'r wir Frawdoliaeth :— Delw o serch brawdol sydd—i'w weled Yn nheulu'r wybrenydd, Ar ei orau, &c. Pan ddaw at Frawdoliaeth Dyn, cana'n rhagorol Ac nid oes na gwyn na du Dan y nen nad yw'n hanu 0 rudd waed yr Adda hen- Cain frodor cynfro Eden. Gyda'r eithriad o ambell linell lesg a syniad amwys—ychydig iawn o hyny-mae rhanau olaf yr awdl yn bur awenyddol, a hawdd fyddai dethol ohoni lawer darn nodedig o dda :— Angau i ragfarnau fydd Gweladwy undeb gwledydd; Daw'n arian gadwen einioes, A rhwymyn aur am ein hoes. Ceir yma linellau ar gariad at druenusion cym- deithas wnant eu ffordd i'r galon yn dalpiau o dan byw. Dyma linellau prydferth i'r eglwys-- Gwraig yr Oen Gwraig yr Oen, gorbygar yw, Archadail ei serch ydyw Uniawn Fanon o fonedd, A gwrid ei Gwr hyd ei gwedd. Terfyna gyda liinellau cryfion, yn llawn o ym- chwydd awenyddol. Dinesydd.-Mae ganddo awdl alluog, glir a dy- feisgar ei chynilun, celfydd ei mydryddiaeth, ac yn cynwys llawer o fydryddiaeth y testyn, ond heb gymaint o danbeidrwydd awenyddol a rhai o'r gor- euon yn y gystadleuaeth. Golyga Frawdoliaeth fel dinas:- Y ddinas a'i nawdd unol-yw rhandir Undeb oymdeithasol: Yn glaer iawn eglura hi Fawrhydi'r elfen frawdol. Arweinia ni trwy'r ddinas hon, a desgrifia hi gyda graddau helaeth o fedr. Mae iddi bedair o brif heolydd—Cydraddoldeb, Rhyddid, Cydymdeimlad, Hunanymwadiad. Efallai nad oes un term mewn arferiad yn ddiweddar m-ivy amwys na Sosialaeth, oblegyd defnyddir ef mewn cynifer o wahanol ys- tyron. Ond rhaid fod y bardd hwn yn edrych ar- no yn ei ystyr mwyaf eithafol, onide nis gallasai ei gondemnio mor vsgubol a hyn Dwys yswilied Sosialaetb,-aed i'w ffau Gyda'i phwdr athrawieth Oil yn oil, camddeall wnaeth Briod hawliau Brawdoliaeth. Diffyg mawr yr awdl ar y cyfan yw eneiniad awen- yddol ceir ynddi rai darnau dioglyd a sychlyd tros ben, ac arwyddion ymdrech annaturiol mewn manau. Anurddir hi gan amryw ddarnau fel hyn Diamheu dyheu am hyn-o hyd wnel Dynoliaeth mewn dychryn Taranu gwaedd wna'r teyrn gwyn I waered at gardotyn. Quartus. DArllena ei awdl ef yn rhwydd, acmae idrli lawer o swyn mydryddol. Disgyna'n ddiym- droi ar Frawdoliaeth Dyn. Gwêl yn bresenol ar- wyddion o anfrawdgarwch-gelyniaetb, ymran- iadau, a chwerylon Gwýs enwog yw swn y gad,—a di-glod Yw galwadau cariad; Fe rodda hyf wareiddiad Y llawryf i gleddyf gwlad. Olrheinia ryfe!oe,dd ac annghydfod y byd i duedd- iadau traws calon huioanol Oer wahanwr yw hunan. Ond er dued y nos, gwet wawr dydd Brawdoliaeth yn tori mewn egnyou dvrg%rol:- 0 Awen dlos, dos i dai—Brawdoliaeth, Briw deulu'r yspyttai; Annheilwng enw hawliai-ein gwlad heb Balasau undeb ei helusendai. Gwel ffynonell wreiddiol Brawdoliaeth yn Nuw Dad, ac mai Crist ya unig, trwy Ei giriad, all gyng- haneddu calonau dyniDn-nid athroniaeth ddynol na deddfau gwladol. Ceir ganddo ddesgrifiad byw iawn o ystad ddymunol y byd pan fydd pawb wedi eu meddianu gan ysbryd y Brawd Hynaf. Nid yw'n aaobsithio hyd yn nod am y beirdd Yn llys can lleisiau cynhen-ni ysant Fynwesau meib Awen Brawdoliaeth fal brwd heulwen Bereiddia swydd Barddas hen. Hawdd fuasai i ni' ddethol llawer penill rhagorol o'r awdl hon, ond bvddai yv ua mor h:¡,wdd dyfynu darnau eraill annheilwng iawn, megvs Gwael amod i gylymu—eneidiau Nwvdol ydyw tyngu Brawaoliaeth-berw deulu-y Ffrancod Un tymhor hynod a wnaent ymranu. Aderon -Awdl awenyddol iawn, a'r oreu hyd yn hyn. Dechreua'r bardd fel un cvnefin a'i waith :— Pur syniad y presenol-yw di-ail Frawdoliaeth fawr, ddynol; Heddyw'i chynllunio'n haeddd-a, wnawn ni, Mwynhad i'w fedi yw mewn dyfodol. Mae yntau, lei amryw eraill, yn tynu darlun du iawn o ystad cymdeithas ddigariad. Er hyny, mae amser gwell yn miaeu ond nid trwy ddynion di- Dduw y dvgir hyay oddiamgylc1 Da i'w cylch wnai peidio cau Canwyll Ion o'u cynlluniau. Cana'n gryf iawa i ddesgrifio a filinge'du'r gorth- rymwr calon gaied ac mae yn yr adran hon o'r awdl dditraau, o ran cryfder cynghaneddol c ym- chwydd awenyddol, ydynt deilwng o Elusengar- wch" Dewi Wyn. Darlunia'r cyfnod pan edrychir ar werth hanfodol petiiau, a phan gvdnabyddir y dyn, gan nad beth fo'i amgyichiadau. Llesgha'i awen weithiau, a gollyoga o'i law linellau diraen fel hyn I goedd rwysgedd yr esgyn Yn syndod oes, nid yw dyn Yn ddim ond pridd, waeth iddo Yn y byd yn mha le bo. Grymus i,wn y ciw I undeb meibion llafur — Digryndod gewri undeb Uniawn W5'l', na phryna neb. Svlwa ar yr arwyddion o gyuydd cariad yn y byd, fel y tyr allan mewn sefydliadau dyngarol ac arwr- iaeth hunanymwadol mewn gwledydd pell. Mae dylanwad ar waith i ladd hunanoldeb dyn, ac yna ca byd diryfel Bur fendith heb arf undyn Heb waedu neb daw yn wyn. Ond cyn y geilir sefydlu heddwch a llwyddiant par- haol a dwfn, rhaid fydd gorchfygu gelynion a dar- ostwng anhawsderau Ac i fedru claddu cledd, Rhaid ymyryd a mawredd. Gydag eneiniad awenyddol helaeth desgrifia Gym- deithas yn cerdded i'w hetifeddiaeth trwy chwyl- droadau. Campus hefyd yw'r darluu dynir ganddo o lwyddiant terfynol y Frawdoliaeth :— Ddihalog, hardd wehelyth, Heb ddrws bedd i'w haros byth. Dyna gipdrem frysiog ar rediad yr awdl ragorol hon-rh,i,gorol ar gyfrif ei mydryddiaeth feistroi- aidd, ei thanbeidrwydd awenyddol, a newydd-deb ei syniadau. N!d yw'n wastad dda trwyddi, acyrn- foddloQi}'r awdwr weithiau ar ddi¡r¡ osd cynghan- eddu Ond p-if ddiffyg yr awdl, i'n tyb ni, nad yw yn ddigon testynol, ao uid oes fawr o ddyfais yn ei chynilun. Nid yw'n cadw golwg digon clir ar eg- 1 9 wyddorion hanfodol Brawdoliaeth, nac yn gosod digon o amlvgrwydd i ffynonell y dylanwad sy'a sicrhau y sylweddolir yn myag dynion Frawdoliaeth berffaith. (I orphen yn ein nesaj). 0:-