Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
D. R. JONES & Co., PIANOFORTE ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning & Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. Aiff yr hen offerynau- heb allu Bellach i'r cysgodau; Bwa celf sy'n bywiocau Gallu tyner gwell thnau.Tudno. PIANOS o IOS. 6ch. y mis ac uchod, AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, ;&c. HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. Stock ragorol o'r Caneuon goreu, newydd a hen. School of Music, Voice Training, Violin, Piano, &0., &c. Prospectus free on application. EISTEDDFOD tiADEIRIOL GOLWYN BAY, DT.BB eWYL DBWI, MAW.RTH laf, 1898. PRIF DESTYNAU. PRIF GYSTADLEUAETH GO ftAWL.-I'r Ger, heb fod o dan 35 mewn nifer, a gano oreu Pwy yw y rhai hyn ?' Gwobr, £ 8, a Choroii Ari-ui i'r Arweinydd. BRASS BAND CONTEST —" Gems of Victorian Melodies" (Round). Prize, Seven Guineas. TEST YN V >AD ME.—Pryddest heb fod dros 300 llinell, Y Cynhauaf." Gwobr, Cadair Dderw Gerfiedig. PRIF DRA.ET0AVD.—" Dewi Sant a'i Amserau." Gwobr, £ 1 10s. BEIRNIAID Mr Wilfrid Jones, R.A.M., a'r Parchn J. Cadvan Davies, T. O. Jones (Try/an), a T. C. Roberts. Ahfonir rhestr gyfbwn o'r Teetynau &c., ar dderbyniad stamp ceiniog. YSíwifenyddwn-O. JCNES ROBERTS, a H. 0. MORRIS, Grove Park, Mr. J. II. ROBERTS, Mas, Blic., Caiolab. (Organist of Chatham Street Presbyterian Church; Associate of the Royal Academy of Music, London: Fe/iow of the Ionic, Solla College, Lozidon Musical Editor of the jollowinq Publications C.J.Vf Tune Book; 'Llawtyfr Moiiant'; Novello's Anthem Book; Author of I Handbook on the Elements of Mw-ic ). Begs to announce that he has taken up his Residence at 149, GROVE STREETr LIVERPOOL. MR. ROBERTS is prepared to accept Engagements as Musical Adjudicator, Conductor of Psalmody Festivals, &c., and for Organ Recitals. Lessons given on the Pianoforte, Organ, and in Sieging, Harmony, and Composition. Pupils prepared for all Examinations. A Specif) course of Lessons may commence at any date. Postal Lessons given. Term begins SEPTEMBER 8th. Particulars on application. CARTREF CY&RGIG I YMWELWYR a LLUNDAIN. Pa )e i gael l'sfcf cysurus yn Llun.daic ? Ewch o PaddinZ- ton Station, G.W.R., gyda'r Underground i Gower Street Station, am No. 9 neu 30, Euston -q\iare, neu o Euston Station (L. & S. VV.Rv.), p* un sydd yn tgos iddyn. GLASLYN HOUSE RVAHS: TUMPB-RANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. D. EVANS, Perchenog. Neu CELT (KELT) TEMPEHANCE HOTEL, 30, Euston Square, London. N.W. F. DUNN, Perchenog. Y rnwyaf canolog i bob rhan o Lundain. SEA COMBE t_}J .B j, Welsli Congregational CQucq. A eRA D+ ;(16., BAZAAR p"" Will be held in connection with the above Church in SPRING of 18g8 Particulars will be published later C'UAI¡FOD CygTADLEUOL GROVE STREET, LERPWL, JNTOS XAU, H'YDLIF 14, 1897. Dry sarin agored am 6-30 i ddechreu am 7. TESTYNAU AGORED I'R BYD. Traethawd: "Y moddion goreli i wrthsefyll ymos- odiad Pabyddiaeth yn Nghyrnru." Gwobr, Bl Is. 1 Am y 50 llinell goreu ar "Farwolaeth Absalom." Gwobr, 10s. 6c. Dau Englyn, Tawch Tachwedd." Gwobr, 3s. I Barfci o 12 a gino orei-i Y Lloer (J. Thomas Llanwrtycl). Gwobr, £1108. Unawd Tenor, "Llwybr yr Wyddfa (W. Davies). Gwobr, 5s. Unawd Baritone, Y Milwr Dewr" (Dr Parry- nid J. Henry, R. A.M., fel y nodir yn y rhaglen-yw l awdwr y gan hon). Gwobr, 5s. Unawd Soprano, "Y Gloch" [Wm. Davies). Gwobr, 5s, Pedwarawd ar yr olwg gyntaf (dewisedig gan y beirniad). Gwobr, 48. Beirniad-Mr. J. T..TONES. Cystadleuaeth Canu Penillion ar yr Alaw, Pen Rh- w gyda'r Delyn. Gwobr, ios. 6c. Bydd TELYNORES LLEIFIAD yn y cyfarfod gyda'r Delyn yn barod i chwareu i'r holl gystadleuwyr. Beirniad—Mr. W. O. JONES, Blaenau Ffestiniog. Ceic hefyd amryw destynau eraill agored i Anni- bynwyr Lerpwl, Birkenhead, a Seacombe. Rhestr gyflawn o'r testynau i'w cbael gan yr Ysg.,— E. G. EDWARDS, 3, Arundel Street, Princes Park. LIVERPOOL TO LLANDUDNO, BEAUMARIS, BANGOR. & MENAI BRIDGE. DAILY MORNING SAILINGS from Prince's Landing Stage (Sundays excepted, and circumstances permitting). "ST. TUDNO" Leaves Liverpool 10-45 am Leaves Menai Bridge 3-0 pm Llandudno. 1 0 pm Bangor Pier 3-10 pm Beaumaris 2 0 pm Beaumaris. 3-30 pm Bangor Pier 2 20 pm Llandudno 4 30pm Arrives Menai Bridge 2 30 p»o Arrives Liverpool. 6-45 pm AFTERNOON SAILINGS—"ST. ELVIESV *Last Trip Mondav, ISth September, from Wales. MONDAYS, :TUESDAYS, and SATURDAYS (until 11th September), for North Wales, leaving Liverpool at 2 o'clock, connecting with the "St. Tudno "leaving Llandudno at 5.15 p -Da., and arriving back in Liveroool at 7,30 I),m. Cheap Day Excursions and Week-end Tickets issued to 27th September. For fares and sll further particulars apply to THE LIVERPOOL & NORTH WALES STEAMSHIP CO., LTD., T. G. BREVT, Secretary, 20, WATER STREET, T LIVERPOOL. Telephone 6366. NORTH WALES AND BACK .I- IV THE SAME DAY. THE CHEAPEST AND BEST SEA TRIPS OUT OF LIVERPOOL. Best and Quickest Routs to Holywell, St. Winifred's Well, Pantasaph, Prestatyn, and Rhyl. The Fast Paddle Saloon St amer I FLYING FALCON Will Sail from the Prince's Landing Stage and Mostyn (weather and other circumstances neraritting), as under ;— LIVERPOOL to MOSTYN and Back the same day. Average passage 1 hour and 45 minutes, giving pass.engers two or three hours ashore in one of the prettiest spots in North Wales. Long Day Trips, about ten hours ashore, From LIVERPOOL. -From MOSTYN. Thursday, Sept. 2 ..10.0 am Thursday, Sept. 2..330pm Friday 3 ..10.0 am Friday 3 4-30 pm Saturday 4 ..12 noon Saturday 4..5.15pm Monday 6: 2.0 pm Monday 6 7.0pm Tuesday. 7.. 3.0 pm Tuesday, „ 7..7.30pm Wednesday S ..7.30am Wednesday 8 9.30am 8. 5 0pm ,,8 7.30pm September 8th, Long Day Excursion from Liverpool to Mostyn and Back. September 8th, Long Day Excursion from Mostyn to Liverpool and Back. Single Fare, 1/6; Return Fare, 2/6 Bridge ex-tra. Tickets not transferable, and available for day of issue only SOUTHPORT everv SUND k Y at 3 p rn. Return Fare, 1/6. Refreshments on Board at Moderate Charges. Office; 27. WATER STREET, LIVERPOOL. Telephone 2334. JUST PUBLISHED. Printed on Antique Paper, and bound in appropriate cloth cover at 2s. bd. The Visions of the Sleepig Bard Being a translation of Gweledigaethau y Bardd Cwsg, by ROBERT GWYNEDDON DAVIES Containing Biographical and other Notes, Genealogical Tables, fac- simile of Ellis Wynne's handwriting, &c. LONDON: SIMPKIN, MARSHALL & Co. I CARNARVON WELSH NATIONAL PRESS Co. LTD. AT JOBBERS, HOUSE REPAIRERS, DRAINERS. Yr wyf yn dymuno gwneud yn hysbys fy mod yn gwneud Planiau a Drawings o bob I math o waith, ac yn unol a bye-laws j Corporation, am y prisiau iselaf. Cyfeirier—WILL/ AM THOMAS, 34, J Norton Street, Liverpool. i
Y CYMRO. -------_---_---__-----
Y CYMRO. NODYN I'R BONEDDIGESAU. YN Lerpwl yn bresenol. gwerthir y Crysau a'r Blowsus mwyaf defnyddiol yn masnach- dy Hussevs, 116 Bold Street. Y, maent wedi eu gorphen yn brydferth, ac yn y ffurfiau mwyaf ffasi yooI. Hefyd yr holl hugan-ddefnyddiau ffrilins, ffunod, gwe- nwyddau, &c., &c., di weddaraf; yn nghyda detholiad gwych o dlysau rhesymol eu pris- iau. Bron-addumau arian am is. ac uchod; eto rhai aur-orchuddedig am o is. i 5s. yr un a detholia d diddiwedd o anrheg nwyddau heirdd- Cofiwch y cyfeiriad— Husseys, 116 Bold Street, Lerpwl
Advertising
THOS JONES& Co. Ltd. TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20/- and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLICA TION. T H 0 S. JONES* Co. Ltd. Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL GELLIR cael Y Cyrnro yn Llundain gan Mr J. J Kelly, 2, Southampton Buildings; a Mr W. H. Roberts, 10, Cecil Court, Charing Cross Road, W.C. o; At Ein Cohebwyr. Cyfaill.—Nid ydym yn cyhoeddi ymfflimychiadau awenyddol ar briodasau, &c., ond fel hysbys. iadau. Cronfa Llewelyn.—Yn ein nesaf.
SYR CEORCE OSBORNE MORCAN.
SYR CEORCE OSBORNE MORCAN. WEDI naw mlynedd ar hugain o wasanaeth ardderchog i'w wlad a'i genedl yn y Sen- edd, daeth yr alwad braidd yn annisgwyl- iadwy. Mae'n wir nad oedd yn gwbi iach er's misoedd, ond ni wyddai'r wlad mo hyny a phan gludodd y trydan ddydd la a y newydd am ei farwolaeth, tarawyd pawb a. syndod a dechreuasant ystyried pa fath wladwr rhagorol oeddynt wedi golli, a phwy a geid i lanw y lie mawr oedd efe wedi ei wneud iddo ei hun ac wedi ei lanw mor anrhydeddus a diymhongar. Cafodd y barwnig anrhydeddus ddygiad ifynu o'r fath oreu. Ganwyd ef mewn persondy, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o'r un cyfundeb crefyddol a'i dad hyd ddi- wedd y daith. Gwelsom ddynion bryntion yn ei gernodio, ac yn dweyd na dclylasai ymosod ar yr eglwys a'i dad yn glerigwr o'r eglwys hono. Ymosod ar yr eglwys y geilw y cyfryw y sawl fyddo'n ceisio c^rthu ohoni ei bydolrwydd a'i rhagfarn- au. Nid oedd yn esgobaeth Llanelwy eglwyswr mwy cydwybodol ac anrhydedd- us na'r barwnig ymadawedig; a phrawf o hyny ydyw'r aberth a wnaeth, er mwyn ei phuro a'i glanhau. Cafodd yr ysgolion goreu, a gwnaeth y defnydd goreu ohonynt. Enillodd wobrau clodfawr ar hyd ei yrfaaddysgol; cychwyn- odd yn Ysgol y Friars, Bangor a chan yn ffodus ysgoi Rhuthin, aeth i Ysgol Am- wythig, ac oddiyno i Goleg Balliol, Rhyd- ychain, lie y bu ei gwrs yn neillduol lwyddianus, ac y cafodd ysgoloriaethau o fri mawr. Gadawodd ei goleg wedi graddio yn ysgolhaig o'r dosbarth cyntaf a dewisodd y gyfraith yn foddion bywol- iaeth galwyd ef i'r bar,—cyfyngodd ei hun yn benaf i adran y Sianseri, ac yr oedd iddo y gair uwchaf fel cynghorydd gwybod- us a llwyddianus. Cyhoeddodd lyfr ar y ganghen hon o'r gyfraith a aeth trwy chwech o argraphiadau, ac a restrir gan gyfreithwyr gyda'r awdurdodau uwchaf ar y pwnc. Yr oedd Etholiad Cyffredinol 1868 yn gareg filldir bwysig yn hanes politicaidd Cymru nid yn gymaint oblegyd i nifer o etholfeydd newid eu cynrychiolwyr, ond fod y Rhyddfrydwyr a etholwyd yn well Rhyddfrydwyr, mwy diamwys a goleuedig. Pan ddaeth Mr Morgan allan fel ymgeisydd tros sir Ddinbych, bwriad y blaid yn yr ymgyrch hono oedd diseddu Syr Watkin ond yn lie taflu alian y Tori pendant, di- seddwyd y Whig liipa, Biddulph. Sais yn mhobpeth ond yr ystad a gafodd un o'i I gyndadau yn gynysgaeth briodasol trwy briodi i deulu Miltwniaid CastelJ y Waun oedd y Milwriad ac yr oedd ef a Syr Watkin wedi cadw'r ddwy sedd iddynt eu hunain er's blynyddau. Ni fynai barwn I Wynnstayi'r un Tori wrthwynebu Bid- I dulph, na Biddulph i'r un Whig wrthwyn- ebu Syr Watkin a phan benderfynodd y Rhyddfrydwyr (Whigiaid yr oes hono) ddwyn Mr Morgan allan, ni fynai Mr Bid- dulph ddim a wnelai ag ef, a marchogodd i'w ddinystr ei hun. Felly gwell oedd gan sir Ddinbych y Tori rhonc na'r Whig clauar, a rhoisant yr hen Gymro hoyw o I Wynnstay a'r bargyfreithiwr ieuanc o Gonwy ar ben y rhestr. Ac o 1868 hyd farwolaeth y diweddar Syr Watkin, bu ef a Mr Morgan yn cyn- rychioli sir Ddinbych. Yn 1885, pan wnaed y sir yn ddwy gynrychiolaeth, de- wisodd ef a'r Syr Watkin presenol ran- barth Maelor ohoni, a bu brwydr galed rhyngddynt, ond y Rhyddfrydwr enillodd gyda mwyafrif o agos i bed war cant. Bu dwy frwydr wed'yn rhyngddo a'r un bon- eddwr, ac efe a enillodd gyda'r mwyafrif cuI yn 1886 o 26, yn 1892 o 765. Yn 1895, ni ddaeth perchen Wynnstay i'r maes, a bu un Mr St. John Raikes mor ddewr a neidio i'r adwy; ond druan ohono, rhoddwyd mwy o bleidleisiau i Mr Morgan nag iddo ef o 1,784. Mae'n debyg y cawsai lonydd mwy- ach am rai blynyddau gan ei wrthwyneb- wyr ond gofidus meddwl mai hono oedd ei ymdrechfa boliticaidd olaf. Yn y Senedd efallai na fu mor llwydd- ianus ag y buasid yn disgwyl oddiwrth ei hyawdledd ar y llwyfan gyhoeddus. Yn wahanol i lu o'i gyd-seneddwyr, nid oedd Syr George yn gallu siarad mor argyhoedd- iadol yn y Ty ag allan ohono. Er hyny, ni fu'r un Cymro mor llwyddianus ag ef i basio nifer o fesurau buddiol, a gadawodd ei argraph yn ddwfn ar ddeddfwriaeth y wlad. Yn fuan wedi ei etholiad cyntaf, cyrnerodd digwyddiad dibwys ar un olwg le yn mynwent Llandysilio, Mon, yn nghynhebrwng un o bregethwyr enwocaf Cymru yn ei ddydd, sef y Parch Henry Rees. Gwrthododd y clerigwr ganiatau i'r galarwyr ganu emyn nac arfer moddion yn y byd oddeutu'r bedd. Parodd yr ym- ddygiad brwnt gynhwrf mawr trwy y wlad, a dechreuodd croesgad i gael mwy o ryddid yn mynwent y plwyf na pheidiodd am ddeng mlynedd ond y liwyddodd Syr George yn y diwedd i'w gorphori ar ddeddf- lyfrau Prydain. Pe na wnaethai ddim ond rhoi bodolaeth i'r mesur bendithfawr hwnw, haeddasai barch pawb sydd yn caru rhyddid a chydraddoldeb crefyddol. Methodd ei gael mor berffaith ag y buasai yn ddymunol ganddo ond fel y mae, bendith werthfawr ydyw iic afu. Mesurau eraill o'i eiddo yd- ynt Mesur yr Addoldai," trwy yr hwn y gosodid Ymneillduwyr ar yr un telerau ag Eglwyswyr gyda golwg ar brynu tir i godi lie o' addoliad. A dyna fesurau er- aill o'i eiddo Sicrhad eu heiddo personol i wragedd priod," a Dilead fflangellu yn y fyddin." Llwyddodd i gario'r olaf pan yn llanw'r swydd o uJudge Advocate Generalyr hon, yn nghydag is-Ysgrifen- ydd y Trefedigaethau,oedd yr unig swyddau a roddwyd iddo gan yr arweinyddion. Teimlai ei edmygwyr yn siomedig na fuasai wedi ei gydnabod yn amgenach, ac yn arbenig pan yr estynwyd iddo yn 1892 y teitl o farwnig yn lie swydd yn y Wein- yddiaeth a ffurfiwyd, ond yr oedd ef ei hun yn gwbl ddidramgwydd. Anaml y cafwyd Seneddwr mor ddihunangais a Syr George. Ni ddylem annghofio y cyfaill pur a'r cefn nerthol a fu bob amser i Addysg Cymru yn ei holl agweddau. Gellid di- bynu am ei gynorthwy ef i bob symudiad a sefydliad oedd yn ceisio gwneud y dyn yn well Cymro a'r Cymro yn well dyn." Ni fuasai cyfundrefn addysg Cymru yn ei sefyllfa lewyrchus brese .ol, oni buasai am wasanaeth Syr G. O. Morgan. A byth er yr Eisteddfod lewyrchus a gynahwyd yn Nghonwy, ei dref enedigol, yn 1861, anaml y byddai ef yn absenol o'r wyl genedlaeth- ol. Yn Eisteddfod Conwy, efe oedd ei llywydd, y gwelwyd ac y clywyd ef gyntaf gan filoedd o'i gydwladwyr yn Eisteddfod Black Park, gerllaw ei dfigfa, ddydd Llun, Awst 16-naw diwrnod cyn ei farwolaeth --y gwelwyd ac y clywyd ef gan filoedd o'i gydwladwyr am y tro olaf. Yn ei farwolaeth, collwyd dyn da yn meddu profiad maith a gwerthfawr, hardd ei rodiad, glan ei fuchedd, a pharod i bob gweithred dda. Pwy fydd ei olynydd ? Gyda doethineb yn newisiad ymgeisydd, a chydweithrediad dylai Rhyddfrydwyr y dosbarth osod eu dyn ar ben y rhestr gyda mwyafrif aruthrol.
--0-Y SEDD WAC.
--0- Y SEDD WAC. Y MAE chwedleuaeth eisoes yn brysur gyda'r gwaith o enwi un i lenwi'r sedd wag yn sir Ddinbych. Dyma rai o'r enwau a grybwyllir :-(Rhyddfrydwyr) Mr Frank Edwards, diweddar aelod dros sir Faesyfed; Mr Edward Evans, Bronywylfa Mr Samuel Moss, diweddar gadeirydd Rhaith sir Ddinbych; Mr Lever, diweddar ym- geisydd dros Birkenhead, a pherchenog Gwaith Sebon y "Sunlight." (Toriaid)