Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

-',...-,.---CWRS Y BVD.

Lleol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lleol. Newsham, Park. -Taflwyd yr eglwys hon i brudd- der dwys ar dderbyniad y newydd trist am farwolaeth annisgwyliadwy, yn Llandrinclod, un o'i haelodau ieuainc mwyaf anwyl a gobeithiol, sef Griffith, mab hynaf Mr a Mrs Evan Jones, Garfield Terra.ce, Bel- mont Road, a Llanengan, Lleyn. PythefnoB i ddydd Sadwrn aeth yno i dreulio rhan o'i wyliau gyda'i chwaer hynaf, gan ddisgwyl mwynbad ac adnewyddiad nerth. Blinid ef yn ddiweddar gan beswch, ac yn ddioed ymgynghorodd ag un o feddyg- on y lie. Gwaethygodd, ac er gwaethaf ymdrechion meddygon a gofal diball ei fam a'i chwaer, ehedodd ei ysbryd ymaith foreu Gwener, ac efe ond 21ain oed. Teimlir colled fawr ar ei ol yn mhob cyloh, yn arbenig yny Gymdeithas Ymdrech Grefyddol, aelodan yr hon a ddangosasant eu parch tuag ato trwy anfon cadwen flodau hardd i addarno ei arch. Y geiriau diweddaf a sibrydodd oeddynt, O. Iesu, derbyn fy yabryd." Hebryngwyd ei weddillion i fynwent Llanengan ddydd Llun gan dyrfa luosog, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch Abraham Roberts. Llundain, (cyn- weinidog yr eglwys uchod).-Cyfaill. Y ddiweddar Mrs George Lamb.—Ganwyd Mrs Mary M. Lamb ger Remsen, Talaeth New York. Cafodd ddygiad i fynu crefyddol, a bu am flynyddau yn aelod o eglwys Penycaerau,—yr eglwys Fethodist- aidd gyntaf a ffurfiwyd yn yr Unol Daleithiau, Er wedi ei geni a'i magu yn yr America, yr oedd yn Gymraes drwyadl heb y llediaith leiaf ami. Yrc briododd yn 188-4 a,'r Parch George Lamb, yr hwn gyda dau o blant—yr ieuengaf ond ugain mis oed— sydd mewn galar dwys. Yr oedd yn wraig addfwyn, graffus a gwir grefyddol; rhoddwyd iddi lais soniarus iawn a thalent gerddorol uchel, a chysegrodd yr oil i wasanaeth crefydd. Dyoddefodd gystudd blin a maith yn hynod ddirwgnach, ac er yn awyddus iawn i wella, fel pawb yn yr oedran cynar o 34 mlwydd, eto ymostyngodd yn hollol i ewyllys Duw. Pryd- nawn LInn, A wst 23ain, yn 9. Littledale Road, Sea- combe, bu farw yn dawel fel un yn huno ac aeth yn ddiddadl i lawenydd ei Harglwydd. Claddwyd ei gweddilllon brydnawn Gwener yn Nghladdfa newydd Wallasey. Gweir.yddwyd gan y Parchn Griffith Ellis, M.A., Bootle; John Hughes, M.A., Fitzclarence Street; ac R. G. Jones, Falkland Road. Pasiodd amryw o eglwysi y cylch gydymdeimlad ;Vr teulu galarus, y rhai a fwriadant dreulio y gauaf dyfodol yn Seacombe cyn dychwelyd i'r America. Cormibia Self-Raising Flour is the Best in the Market.

Advertising

----Gohebiaethau.

.Ffestiniog,

Anfoddionrwydd yn India.

---;0:--Moch Cymreig.

-0-Esgob newycfci Wakefield.

Advertising

--0-Y SEDD WAC.