Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cwlbnodion o Ddyffryn Maelor.
Cwlbnodion o Ddyffryn Maelor. Nm yw ein gruddiau wedi sychu eto ar or marwolaeth ein ifyddlawn aelod Seneddol, na seiniau y tonau lleddf a ganwyd yn ei angladd wedi tewi yn ein clustiau. Ond er cymaint ein galar, bu rhai o bobl y Rhos yma mor wyneb- galed a threfnu i gynal cyfarfod cyn ei gladdu, i ddewis olynydd iddo, a chyhoeddwyd yn amryw o'r capeiau nos Sabboth, fod cyfarfod gwleidydd- ol i'w gynal ar y Ponciau nos Fawrtb, gyda'r amcan o ddewis ymgeisydd Rhyddfrydol. Cywilydd,, meddaf, i bwy bynag fu mor eofn ac ymyrol i ddangos y fath frys gyda hyn a'r gwynebgaledwch oedd yn eu llywodraethu i gymeryd arnynt eu bunain i ddewis ymgeisydd, heb fod ganddynt yr hawl lleiaf i byny, nac yn cynrychioli neb ond hwy eu hunain. Beth bynag, cynaliwyd y cyfarfod a daeth canoedd yn nghyd. Codasant eu lief a'u dwy- law o blaid Sais. Dyma'r bobl sydd ucbaf eu cloch i ddangos eu gwladgarwch a'a cenedlgarwch hwy sy'n lief- ain byth a hefyd am Gymru, Cymro, a Chym- raeg a phan ddaeth y cyfle iddynt weithio yn lie clochdar, dyna hwy'n taflu eu proffes gyda'r pedwar gwynt. Na soniwch mwy am eich gwladgarwch, ac na ynganwch air am eich Cymru Fydd nid yw'r cyfan ond rhagrith a shibboleth ffyliaid-11 wrth eu ffrwythau yr adnabyddir hwynt," chwi rag- rithwyr, cynffonwyr, Sais-addolwyr, a Die Shon Dafyddion Diolch nad y rhai hyn wedi'r cyfan sydd i benderfynu pwy fydd yr ymgeisydd, a llawen genym ddeall fod eu dewisddyn hwy wedi anfon gair na ddaw allan i faes y rhyfel. Diolch iddo ef, ac nid i'w bleidwyr cynamserol yn y Rhos. Dywedir fod rhyw gnefyn celwyddog wedi eu hysbysu y buasai Mr Lever yn codi gwaith sebon newydd yn ngwaelod Gallt y Gwter, a chyda'r cyflawnder o ddwfr ydym ya gael y dyddiau hyn o'r cymylau mi fasa yma le glan arw. Cyn yr ymddengys y gwibnodion hyn bydd yr ymgeisydd wedi ei ddewis yn rheolaidd, felly ofer i mi fanylu ar gymhwysderau y rhai sydd gerbron y pwyllgor ond gallaf ddweyd fod o leiaf ddau—y ddau Gymro-yn llawn deilyngu cael cerdded yn ol troed eu diweddar flaenor. Pa un bynag o'r ddau—Sam Moss a Frank Ed- wards-gaiff ei ddewis, hyderaf y ffyna undeb yn ein plith ac y cawn wared o bob nihn ym- rafaeliori sy'n parlysu ein nerth yn Nghymru. Cynaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Maelor ddydd Liun yn y Rbos, tan arweiniad y cerddor ieuanc J. O. Jones, Gwrecsam (Penycae gynt). Daeth tyrfa fawr yn nghyd,fel y bu raid benthyg y Capel Mawr yn yr bwyr, a chaed cymanfa lwyddianus iawn. Bu yr Hen Gorph yn cynal eu Cymanfa hwythau yn Brymbo, dan arweiniad Mr J. T. Rees, a chafwyd gwledd ragorol yno befyd, a diau y bu yno ganu mawi mewn gwirionedd. Hefyd yn yr Adwy bu yr un enwad parchus yn cynal eu Cyfarfod Misol, a chafwyd pregeth- au'prwltthog a ciiryn lawer o eneiniad arnynt. Yr oeddych chwi yn son yn y Cymro diweddaf am y "Boirniad Dewr"; yr wyf finau yr wyth- nos hon wedi darganfod "Adolygydd Dewrach," yn mherson D. Emlyn Evans. Y mae y gwr boneddig hwn wedi ymgymeryd ag ysgrifenu adolygiad ar Lyfr Newydd y Methodistiaid," yn y Cerddor, ac y mae yn bur ddeheuig gyda'r gorchwyl. Dengys i ni ei ddifFygion a'i ragor- iaethau yn egiur ddtgon, ond er bod yn llaw- drwrn ar rai o'r awdwyr, gesyd ei donau a'i anthemau ei hun yn ddieithriad gyda gwaith y prif feistri," fel y geilw hwynt. Ydych chwi ddim yn meddwl, mewn difrif, fod eisiau cryn lawer o ddewrder i ysgrifenu adolygiadau ar eich gwaith eich hun a'ch cyfeill ion, a chael digon o rym meddyliol i restru eich hun yn mhlith y "prif feiatri ?" Ond chwareu teg iddo hefyd ^hwyrach os na wnai ef, &c., &c. Nos Sadwrn. SAMWEL JONES.
[No title]
-0-- Dyffryn Clwyd. PRIODAS. FORE Sadwrn, yn Eglwys yr Holl Saint, Margaret Street, Llundain, priodwyd Mr E. O. Watkin- Davies, M. B., Dinbych, mab y diweddar Barch David Watkin Davies, a Mrs Frances Methven Roberts, gweddw y diweddar Mr Methven Roberts, Dinbych. Gweinyddwyd gan y Parchn F. P. Watkin Davies, ticer Llanfachreth, Dolgellau (brawd y priodfab); H. M. Scott, Brindish (nai y briodferch), a W. E. Jackson, M.A., Llundain. Cyflwynwyd y briodferch gan ei brawd-yn nghyf- raith, Mr W. B. Roberts, Waterloo, a'r gwas priodas ydoedd Mr Watkin DA vies. Yr oedd y pwyddion yn rhifo dros 250, ac yn werthfawr iawn, COLLI DWFR. Mae gan Rhuthin ddwfr-gronfeydd rhagorol, ond hysbysir fod miliwn o alwyni o ddwfr wedi eu colli'n ddiweddar trwy i dwll gael ei wneud gan wreiddyn coeden yn un o'r cronfeydd. Canlyniad hyn yw nas gellir cael dwfr ond am bedair awr bob dydd yn y d Ilef, yr hyn a achosa gryn annghyf- leusdra. CURO'R HEDDWAS Dyn nwydwyllt yw David Jones, Rhuthin, ac y mae'n credu mai un o aracanion ei ddyrnau yw taro heddgeidwaid. Treiodd ei law hefo'r Rhingyll Woolam, a byny yn bur effeithiol ond am y mwynhad hwnw rhaid iddo dreulio tri mis yn y carchar, a chaiff amgen gwaith i'w ddyrnau yno'n ddiau. TLOTTSTN EDIFEIRIOI- Caed hwyl g&rw yn Mwrdd diweddaf Gwarcheid- waid Rhuthin. Y mddengys fod un o'r enw Llew- elyn Hughes Roberts—ac efe yn derbyn cymhorth o'r plwyf—wedi meiddio myned i dfarn. Oblegyd hyn, peoderfynwyd atal ei ddogn wythnosol ac yn y cwrdd diweddaf daet.h Roberts gerbron y gwarcheidwaid i addef ei drosedd ac i ofyn am drugaredd. Parod.d lawer o hwyl, yn neillduol Pan sylwodd fod Dafydd Roland y Bala yn ddyn duwiol, ond nad oedd yn berffaith mwy nag yntau. ~7MyDai Mr White mai meddwl yr oedd wrth gyf- eirio at Dafydd Roland am y geiriau hyny :— Os etholedig cyn fy ngeni, Etholedig wedi meddwi. J^d byiuig, trugarhawyd wrtho oherwydd ei edifeirwch, a phenderfynwyd rhoddi 2s yr wyth- noe iddo. o
[No title]
Cigau gwir Gymreig o bob math i'w cael yn ddyddiol am brisiau rhesymol yn Siop COED Y •HRAXN, 17 Deane Street, gyferbyn a Marchnad St, John.
Nodion o'r Odinas.II
Nodion o'r Odinas. II [Gan CWILSYN], NasoN Medi'r 2il, rhanwyd y gwobrwyon yn I Ysgol y Bwrdd, Anfield Road, gan Mr J, E. Parrott, M.A LI.B., yr hwn a sylwodd fod 43 o dystysgrifau Undeb Sefydliadau Addysgol siroedd Lancaster a Chaer wedi eu henill gan aelodau o'r ysgol hon yn ystod y t.ymhor diweddaf. Wrth longyfarch yr athrawon ar y llwydd hwn, teimlai bleser neillduol wrth hysbysu mai Miss Eleanor Jones, o adran y eeaethod, enillodd y brif wobr mewn hanes a gynygid gan y Bwrdd Ysgol, a hyny mewn cystadleuaeth agored. Merch yw Miss Eleanor Jones i'r Parch T. Rees Jones, 51, Rockfield Road, a llawen genyf finau hefyd ei llon- gyfarch ar ei Ilwydd. Glywaf fo(I Cymdeithas Cymru Fydd y ddinas yn tori gwaith allan at y tymhor nesaf, a bod am- ryw ddarlithiau wedi eu trefou. Hyderaf na ad- ewir pynciau Cymreig allan o'r rhaglen. Bydd trafod y cyfryw yn foddion rhagorel i ddiwylliant yr aelodau, a bydd y cyfryw amcan yn rheswm cryf dros fodolaeth y gyrndeithas. Dyma. un arall o anwyliaid y pwlpud Cvmreiy wedi myned i huno, sef y Parch. Dr. David Ro- berts, Gwreesam. Efe yw'r trydydd gweinidog mewn cyfnod byr i fyned i ardal lonydd yr aur delynau" o'r ddinas; ac os oedd Pisgah yn dir cysegredig i'r meddwl Hebreig am fod Moses wedi gadael y ddaear o'i gopa,, mae'n rhaid fod Lerpwl yn gylfelyb i'r meddwl Cymreig oherwydd mae yspryd ami un oedd yn Feses i'n cenedl wedi dianc oddi yma. Yn unman nid oedd y Dr. ymadawedig yn fwy anwyl nag yn Lerpwl a bydd coffa hir am y meddyJiau tlysion oerldynt fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig" yn ei bregethau. Yn Lerpwl yr enillodd ei wobr olaf fel bardd, sef y tlws arian a gynygiodd eglwys Great Mersey Street am farwnad i'w chyn-weinidog, y diweddar Barch. Wm. Roberts. Trefnir i Miss Annie Thomas, merch y Parch. John Thomas, Catharine Street, fyned allan i faes cenadol y Methodistiaid yn India ar fyrder. Bu'r "Inglis C6s ar ofyn cynulleidfaoedd M.C. Lerpwl y Sul diweddaf. Rhyw 3c, ar gyfer pob aelod gyfrenir yn y ddinas at yr achosion hyn ac y mae n anhawdd gwybod pa un ai annghrediniaeth o werth y cyfryw neu'r aoercbiadau trwsgl a wneir o u plaid gan y gweinidogion a'r blaenoriaid ar Sul ycasgiiad sy'n priodoli fod y swm mor fychan. Hwyrach y penderfynit hyn gan y Cymdelthasau Llenyddol maes o law. Gwelaf fod cwrdd cystadleuol ar raddfa lied eang i'w gynal ddydd Calan yn Webster Road. Mae r testynau yn weddol dda ond go grintach yw cynyg dim ond gini am draithawd ar Y 60ain mlynedd diweddaf o banes Methodistiaeth yn Lerpwl a'i wersi ar gyfer y dyfodol."
Y 'DERYN DU SY'N RHODIO'R…
Y 'DERYN DU SY'N RHODIO'R GWLEDYDD. (Hen Gerdd Ben FfaÙ.) Y 'DERYN du sy'n rhodio'r gwledydd, Ti a wyr yr hen a'r newydd, A roi di gyngor i fachgenyu Sydd yn curio er's gwell na blwyddyn ? A roi di gyngor i mi ? I 0, dere'n nes, fachgenyn, gwrando Gael gwybod beth sydd yn dy flino P'run ai'r byd sy'n troi'n dy erbyn, Ai curio 'rwyt o gariad rhywun ? A fyni di gyngor gen i ? 0, nid y byd sy'n troi'n fy erbyn, Na churio 'rwyf o gariad undyn, Ond gwel'd y merched glan yn pallu, Nas gwn pa le i droi 'mhen i garu, A roi di gyngor i mi ? A fyni di yr hen wraig weddw, A'i yn llawn, yn ymyl marw, A'i gwartheg duon yn ei buches, Fe wna hono iti fawrles, A fyni di hon i ti ? Ni fynaf fi mo'r hen wraig weddw, Sydd a i chod yn ymyl marw, A'i gwartheg duon yn ei buches I mi nid ydyw hon gyd mares, Ni fynaf mohoni hi. A fyni di mo ferch tafarnwr, I Sydd a'i phen yn llawn o synwyr, A'i chwrw a'i bir a phorter pa.rod, Yn derbyn arian bob diwrnod, A, fyni di hon i ti ? Ni fynaf fi mo ferch tafarnwr, Sydd a'i pben yn llawn o synwyr, Pan fyddo'i phwrs yn brysur launchio Llawer ceiniog ddrwg fydd ynddo, Ni fynaf mohoni hi. Wei, fyni di mo'r lan wniadyddes, Sydd a'i nodwydd fain a'i phincase ? Ti gei dy grys yn lan bob amser, Fe fyddai hon yn well na llawer, A fyni di hon i ti ? Ni fynaf fi mo'r lan wniadyddes, Sydd a'i nodwydd fain a'i phinease, Pan fo arnaf eisiau nithio, Fe fydd y winrhew ar ei dwylo, j Ni fynaf mohoni hi. A fyni di mo ferch yr hwsmon, Sydd yn gangen la wen, dirion, A dyrra arian i'r cornelau, A neidia naid am naid i tithau. A fyni di hon i ti ? Wel, can' ffarwel i ti, 'r aderyn, Wei, dyma'r ferch 'rwyf fi'n ei 'mofyn, Tra llong ar f6r, a gro mewn afon, Ni fynaf fi ond merch yr hwsmon, Ffarwel, ffarwel i ti. "U
[No title]
Y diweddar Syr G. O. Morgan, meddir, oedd y cyntaf i alw Mr. Gladstone yn Grand Old Man." Hysbysir fod David Davies a Robt. Owen, y ddau chwarelwr a ataliwyd i weithio yn Methesda fis Medi diweddaf oherwydd anufudd-dod, wedi YIU- ddiheuro i Mr. Young, ac Wedi cael eu gwaith yn ol. Oinid y byddai i achos y ddan hyn beri an foddlonrwydd yn mhlith y dynion, ond da gweled y mater wedi ei benderfynu'n heddychol. -0-
[No title]
Coed y Brain, Nannerch, sir Fflint.—Mae ten- antiaid y ffarm eang hon yn magu a phesgi llu mawr o anifeiliaid eu hunain, yn eu lladd yn y Uadd-dy svdd yno, ac yn eu gwerthu yn Siop Coed y Brain, 17 Deane Street, gyferbynâ Marchnad St. John, Liverpool.
Colofn Dirwest.
Colofn Dirwest. Mewn adroddiad ddarllenwyd yn Nghymdeith- asfa Pwllheli yr wythnos cyn y ddiweddaf, cry- bwyllid fod holl weinidogion M.C. L eyn ac Eifionydd, heb un eithriad, yn llwyr-ymwrthod- wyr; a chryn nifer o'r diaconiaid. Ffermwyr ydyw llawer o'r rhai diweddaf; ac yn cydyin- ffurfio a'r hen arferiad o droi i'r daiarn i daro bargen. Y mae Esgob newydd Wakefield, fel ei raoflaen- ydd Dr Walsham How, yn bleidiwr selog i'r achos dirwestol. Vu wir, un o arwyddion yr amserau ydyw fod yr Eglwys Sefydledig, o ran ei hesgobion a'i hoffeiriaid, yn gwella'n ddirfawr yn y cyfeiriad hwn-er nad mor gyflym a'r Eglwys) Rhyddion. Lie mae'r Hen Fam fwyaf ar 01 ydyw gyda.i Chym- deithas Ddirwestol—y C. K T.S. Tra'n cefnogi llwyrymataliad, y mae rhyddid gyda hon i yfed hyu a hyn o'r diodydd meddwol dC y mae hyn yn achlysuro pob hyd a lied o lymeitian. 'Does byth lewyreh ar ddyn na sefydliad fyddo heb ifydd a chredo bendant y naill ffordd neu'r Hall. Gwell dyn o ddifrif tae o blaid cyfeilioruad na dyn difraw gyda'r gwirionedd. Y mae oes y cymdeithasau cymedrol fel y hi wedi myned heibio, ac ail fywyd i waith dirwestoi yn yr Eglwys fyddr ai gosod yr hen gyrndeithas ar sylfeini newydd a gwell. Bydded go gryf gan Archesgob Caer- gaint fyddai ddigonol, mi gredaf, i beri cyfnewid- iad felly. Ddydd Sadwrn cynelid liys trwyddedu Abergele a Colwyn Bay, pryd y galwyd sylw at amledd meddwdod yn yr ardaloedd, ya arbenig ar y Sul. Dywedwyd yn y llys fod rhai o'r Cafarnau "fel ffair" ar y diwrnod hwnw, gan arnled yr ymwel wyr bondigrybwyll ddeuent yno mewn cerbydau ac ar eu rhodau. Sylwodd y cadeirydd (Mr J. Herbert Roberts, A.S.) os dygid tystiolaeth yn mlaen o barth yr ymyfed ar y Sabboth y bydda i'r fainc ystyried ai nid gwell trwyddedu'r tai af reolaidd am chwe diwrnod yn lie saith. Mae'n bryd gwneud rhywbeth, wir, hefo'r cread- ur rhithiol y telthiwr bona fide. Mesur rhagorol ydyw Cau Tafarnau ar y Sul yn Nghyrmu; oad y mae'r adran ynddo sy'n amcanu gwneud gwaban- iaeth rhwng teithiwr anorfod a'r coeg-drempyn sy'n hela diod yn fethiant andwyol; adran cwlwm dolen ydyw, y gellir ei hestya a'i chwtogi fel y mynir. Cynaliodd y Pabyddion eu huchelwyl ddirwestol yn y Palas Grisial y Llan cyn y diweddaf. Y Pabyddion gynyrchodd y Tad Mattew-un o brif apostolion dirwest y ganrif ond lied ddifraw fu'r hen gvfundeb wedi ei farwolaeth ef hyd 1872, pan y cychwynodd y Tad Nugent ei Gynghrair Dir- westol yn Liverpool. Y mae Nugent bellach wedi ymneillduo ond dygir y gwaith yn mlaen gan bleidwyr grymus, megys Qanon Murnane a Canon Keens yn Llundain, ac yn arbenig y Tad Hays, yr hwn sydd yn anerch cynulliadau trwy'r- deyrnas gwrbwygilydd. Siaradydd grymus yn y cyfarfod uchod oedd ein cydwladwr a Phabydd, Mr Bowen Rowlands, Q.C. SEpyDMAD TEML NE ??YDD,—Dan ngwdd Dos- barth Deml swyddi Lancaster a Chaer, cynaliwyd cyfarfod i sefydlu Teml newydd yn nghapel Sutton, ger St Helen's, nos Sadwrn, pryd yr oedd 1 yn bresenol o Lerpwl y brodyr canlynol (yn' Ilenwi'r cadeiriau swyddogol am y tro) ;-Llew Wynne, D. B. D. John Williams, D., Cyng. Yaughan Jones, D. Ysg. Fvan Owen, D. Gaplan; Miss E. Parry, D.R.; Huw Parri, D.A.T.P.; John Joaes, D.A. Eth. Edw. Davies, D. Ysg. Cyn. John Evans, D.I.R.; John Lewis, D.W. Miss Hettie Harris, D. Neg. Brodyr J. J. Thomas, Lerpwl; a John Wiiliatns a Bundred, Bootle. Derbyriwyd 44 (14 o chwiorydd a 30 o frodyr) fel aelodau, a phenderfynwyd enwi'r Demi yn Noddfa Sutton." Etholwyd Infyd y swydd. ogion am y chwarter, a dechreuir y gwaith gyda phob argoel o ddyfodol lwyddiant yn mysg Cymry yr ardal. Dyledus yw cydnabod mai i waith y Brawd Edmund Griffith yn hau y dyiid priodoli dechreuad y mudiad presenol, a gofidiai'r frawdol- iaeth fod amgylchiadau yn ei gadw rhag bod yn bresenol i weled ffrwyth ei lafur.
Amaethyddiaeth Prydain Fawr.
Amaethyddiaeth Prydain Fawr. MAE Bwrdd Amaethyddiaeth wedi cyhoeddi'r ad- oddiad canlynol o gyfrifon a gasglwyd Mehefin 4. Dengys fod y tir dan wenith yn 1.889.161 o aceri haid.1, 2,035,790; ceirch, 3,036,056 pytatws, 504,914; gwair oddiar dir a ildiwvlliwyd, 2,286,261; gwair oddiar borfeydd, 4,509,977 hops, 50,863 sef cynydd o'u cydmaru a 1896 o 195,204 o aceri tan wenith, a 114,295 o wair ar dir amaethwyd, a lleihad o 68,974 o aceri 0 haidd 59,432 o geirch 58 827 o bytatws 127,946 o wair porfa a. 3,354 o hops. Nifer y gwarth- eg a'r heSrod mewn llaeth neu yn gyflo ydoedd 2,532.3/9 gwartheg eraill, dwyflwydd ac uchod, 1,323,230 blwydd a than ddwy flwydd, 1,360,741 dan flwydd, 1,284,147; cyfanrif gwartheg,6,500,497; mamogiaid at fagii, 10,006,697; defaid eraill, blwvdd ac uchod, 6,219,001 dan flwydd, 10,114,742; cyfanrif defaid, 26,340,440; hychod at fagu, 334.244 moch eraill, 2,008.058 cyfanrif moch, 2,342,302. Dengvs hyn gynydd yn rhif y gwartheg godro a chyflo o 20,704; a gwartheg eraill blwydd a than ddwyflwydd, o 54,428 a lleihad o 41,827 mewn gwartheg dros ddwyflwydd, a 26,390 dan flwydd. Ceir lleihad yn nghyfanrif defaid o 364,886, a 536,499 o foch. defaid o 364,886, a 536,499 o foch.
Advertising
Yn awr yn barod. 384 tudal. Crown 8vo. Pris 38 6ch. COFIANT A PHREGETHAU Y Parcq DAYID DAVIES, Bermo, TAN OLYGIAETH PARCH WILLIAM JONES (David Street) LERPWL. I'w cael gan y Llyfrwerthwyr neu drwy y post ar dderbyniad ei worth, gan ISAAC FOULKES, 8. Paradise Street;, Liverpool OALIEH SYLW A. IT, ACTOPJAI) GWE8TTY GWALIA CGWALIA HOTEL), UPPER WOBUqN PLACE LLUNDAIN, 0 dan arolygiaeth bersonol vr Tien barohailOflf pherchenng presenol GWBSTTY GWALIA, FFYNHONAU LLANDRINDOD. Er mwrn yr hen amser gynt." Dymuna'r perchenog hysbysu ei ",feillion a'i xydnabyddion lluosog (a pbawb eraill asr y bydd yr hysbysiad yn fantais iddynt) fod y Tf uchod wedi ei adgyweirio, ei brydferthu, a'i ddodrefnu irwvddo o'r newydd, a chan ei fod yn hvderus y oydd "Gwestty Gwalia" yn gartref oddieartref fel wnt, apelia am eu cefnogaeth. Mae mewn man canalog a chyfteu*. Y telerau yn rhai anarferol o reaymol, Am bob hysbysrwvdd chwanesroi, wfoner at Mr. EDWARD JENXiNS, GWALIA HOTEL, Upper Wo burn Place, LONDON. CERDDOBIAETH GY'M.- REIG. JOHN S, Wholesale and Retail Music Selle BETHESDA, NORTH 1;V JJES. OEDWIR ar law Stoc Fwyaf Amrywiaetho yn Nghymru o GA14 13 JX.N SO VCRS) CYMREIH; c fel rheol danf snir pob archeb gyda throad y post Anfoner am y a-talogue yn cynwys tua 500 o wahano Ganeuon. ELIAS & OWEN, Paint Manufacturars & Oil Merahants. OFFICE—IMPERIA CHAMBERS, 62, DALE STREET. WORKS-DUTTON STREET, LIVERPOOL Telegrams—Caradoy, Liverpool. Telephone. 6970 1 1. HENRY JONES (Late Saunders & Koberts) TAILOR & DRAPER. 19, CABLE STREET, LIVERPOOL. Late Cutter at F. S. Lowy, London, Excellent New Stock for Selection. (yi BEAUMARIS GRAMMAR & COUNTY SCHOOL HEAD-MASTER E. MADOC JONES, M.A., Downing College, Cambridge (Mathematical Honours ASSISTED BY EXPERIENCED UNIVERSITY STAFF. A FEW BOARDERS received by the Head- master at the SCHOOL HOUSE. Superior accommodation. Perfect sanitary arrangments. Moderate Terms. Prospectus on application to HEAD-MASTER. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau yn Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRAW H. R REICHEL, M.A.. ydag Unarddeg o Broffeswyr.Tri o Ddarlithwyr, a Dau ar bymtheg o Athrawon eraill. Dechreua y tymhor nesaf Hvdref 5, 1897. Parotoic ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddvgol yn Mbrifysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill. Rhoir addysg arbenig mewn Amaethydd- iaeth ac Electrical Engineering. M40 yn y Coleg Adran Normalaidd i athrawon elfenol a ohanol- raddol. Cynygir dros 20 o ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o 1:40 i £ 10 y flwyddyn i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y tymor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gymry. Dechreua yr arholiad am danynt Medi 21.-Ceir pob many lion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Chofrestrydd. ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH. Un o Athrofaau Cyfansoddol Prifysgol Cymru. LLYWYDD: Y GWIR ANRHYDEDDUS ARGLWYDD RENDEL. PRIFATHRAW: T. F. ROBERTS, M.A. CYNWYSA y cwrs o Addysg y parotoad angenrheidiol am raddau yn Mhrifysgoi Cymru a Phrifysgol Llundain, am Ysgoloriaethau yn Rhydychen a Chaergrawnt, ac am astudiaeth feddygol yn y Prif- ysgolion hyn ac yn Ysgotland. Gall meibion a merched a dderbynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs gofynol at fod yn Athrawon ac Athrawesau Trwyddedig, ac ar yr un pryd barotoi am y gradd o B.A. neu B.Se. Y mae y swm dderbyniant fel Ysgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymhor eu hefrydiaech. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthYLasol sydd yn gymhwys i Amaethwyr, Goruchwylwyr Tir, Athrawon mewn Amaethyddiaeth, &c., a rhoddir parutoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Lloegr. Llettya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r marched dan arolygiaeth Miss E. A. Cirfenter, mown neuadd eang (Alexandra Hall), wedi eu darparu ar eu cyfer. Cynelir arholiad yn mis Medi, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysgoloriaethau, rhai yn agored ac egpill ynlöyfynlfedig i Gymry. Am bob manylion ymofyner a T. MowimieR GREBN, Cofrestrydd.