Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Gwrelchfon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwrelchfon. ? PAN ofynwyd i'r hen bregethwr doniol o Fon, Y Go bach," esbonio yr adnod hono yn Job, Yr ychain sydd yn llafurio ac yn aredig, a'r asynod sydd yn gorwedd ac yn pori gerllaw," fe ddywed- odd, Yr ychain ydynt y pregethwyr Ymneillduol, a'r asynod ydynt y personiaid sydd yn gorwedd ac yn pori gerilaw." IT Yr oedd yr esboniad yn fwy cymhwysiadol yn nyddiau y Go Bach, efallai, nac yn awr, canys gorwedd a phori, a phori a gorwedd oedd yn nod, weddu offfeinaid y dyddiau hyny. IT Daeth Wil Twllymwg o hyd i'r Person yn gorwedd ar ochr y llwybr un diwrnod, yr hwn a ofynodd iddo, yn bur floesg, ei helpu i fyned adref, ond gan fod yr hen brophwyd, yn ngolwg Wil, yn dalwr drwg, fe'i hatebodd yn swta,, Mi at a chi adre, ys leiciwch chi, syr, am haner coron, a thalu yn mlaen liaw." Tarawyd y fargen, ond tystiai Wil ei fod wedi cymyd y job yn rhy rad, am fod baner cynwys seler y Scweiar tan wasgod ei lwyth." IT Yr oedd yr hen gymrawd Robin Ddu, yn cael ei ystyried yn brophwyd pur enwog pan oedd yn yr America. Anfonodd boneddiges am dano unwaith i ffeindio ailan pwy oedd wedi lladrata modrwy werthfawr o'i heiddo. Aeth Robin at y Plas, a gweithiodd ei ffordd i'r gegin, a phan oedd y mor- wynion i gyd yn nghyd, fe ddywedodd, Yr ydw i wedi dwad yma i ffeindio modrwy ych mistres," a phan welodd un yn cochi ac yn ymliwio, fe'i galw- odd ato, ac a ddywedodd, Yn awr, y ngeneth i, rhowch chi y fodrwy i mi, a thamed o fara hefo hi, ac mi'ch cliria i chi yn ngolwg y foneddiges." IT Rhoddodd y forwyn y fodrwy iddo, fel y ceis- iai, a thaflodd v prophwyd hi, wedi ei chuddio yn y bara, i'r tyrci oedd ar y buarth, yr hwn a'i llync- odd yn ddidrafferth, Yna aeth at y foneddiges, ac a ddywedodd, Yr ydych wedi colli modrwy, mam, onid ydych ?" "Y d wyf, ac yr wyf yn fodd- Ion talu yn anrhydeddus, os gallwch ddweyd pwy a'i dygodd," atebai hithau. Wel, mam, peid- iwch ac atnheu neb. Yr ydych yn hoff iawn o fwydo'r ffowls, onid ydyeh" ychwanegai y Du. Ydwyf," atebai hithau. 11 Wel, mam," pwys- leisiai yntau, os lleddwch chi y tyrci mawr sydd yn y buarth, chwi gewch fod y fodrwy yn ei gylla -ef." Gorchymynwyd lladd y twrci ar unwfith, a chafwyd y dryll a gollasid, er clod mawr i Robin, a'r enill mwyaf a gafodd yn ei fywyd am un gwr- hydri o stremp ei awen. IT Yr wythnos ddiweddaf, yn ol yr Echo, yr oedd merch yn Dundee wedi cael swllt mewn wv iar Yr oedd hyny yn fwy hynod na ffeindio y fodrwy yn ngholuddion y tyrci. Pwy fuasai yn meddwl fod ieir mor ffond o bres. IT Hei be ydech chi'n gladdu?" gwaeddai Daniel Tycroes ar ei gymydog dros wrych yr ardd. O," ebe'r cymydog. dim ond ail blanu ychydig o hadyd." Hadyd, wir—y mae yn edrych yn debyg iawn i un o'n cywion ni," ychwanegai Daniel. Y mae hyny yn wir," ebe y cymydog, heb godi ei ben o'r ddaear, mae'r hadyd yn ei gropa fo." IT Pan oedd Barry Sullivan, vr actiwr Gwyddelig yn cymeryd rhan yn Richard III. yn yr Amwythig a phan ddaeth at y geiriau, A horse a horse my kingdom for a horse!" gwaeddodd rhyw benbwl o'r gynulleidfa, Wouldn't a doekey do?" pryd y cafodd yr ateb pert, "Yes, please come round to the stage door," er difyrwch nid bychan i'r dorf. If Pat," ebe meistr y dydd o'r blaen wrth ei was, y mae gen i ddrwgdybiaeth fod chi nea fl. yn feddw neithiwr," pryd yr atebodd Pat, "Y mae gen inau rhyw ddrwgdybiaeth felly, syr." Wel, y rascal, p'run ohono ni oedd?" Tydw i ddim yn leicio taflu dim sarhad arnoch chwi, syr, ond mi alia i ddweyd cymin a hyn, mod i'n gwenwyno na fuaswn i 'run fath a chi, syr." IT "Piygwch ar eich gliniau," ebe merch y Person wrth frawd bach merch y Siop yn yr Eglwys ar ddarlleniad y weddi, pryd yr atebodd ei chwaer, yn hynod o deimladwy, Please, mam, feder o ddim—mae'i glos o yn rhy dyn." If Fe ddylai carwrs fod yn fwy gwyliadwrus ar eu geiriau. Fe gollodd Mr Phillips ei gariad trwy ddweyd wrthi, Wyddoch chi be, y ngeneth i, yr ydwy'n caru y tir yr ydych yn sangu arno." (Yr oedd ei thad wedi marw ychydig cyn hyny, a gadael y fferm yr oedd yn byw ami i'r gariadferch), ac fe atebodd hithau yn gyrhaeddgar, Ie, yr °eddwn i wastad yn amheu ych bod chi yn meddwl flawy o'r ffarm nac ohona i; ffarwel." Wedi cael ei wynt a.to, heliodd Mr Phillips ei draed tuag adref, yn edrych cyn wirioned a chyt llo. IT Yn Maldwyn y mae Jehu yn enw eyffredin, ac Yr oedd un o'r tylwyth wedi myn'd yn wraig i .arnaethwr cyfrifol o dueddiadu crefyddol, ac un Boson yr oeddynt yn ymddiddan ar gyfran ddar- jjenid o'r Hen Destament, pryd y dywedodd yr "wsmon," Oedd, yr oedd Jehu yn un o'r bren- hlnoedd gwaethaf fu yn y byd erioed," pryd yr ytrihyllodd ef &'r sylw, "Dyma chi, Daniel, os ydych yn myn'd i son am gymeriadau y Beibl yn y ty yma, rhaid i chi siarad yn barchus am danynt." CYFARWYDD.

(o) BETH YW CYNILDEB?

Barddomaeth.

Y DON ASSOCIATION

LSenytidiaeth.i

Cardd y Cerddor.

PEIRIANT CYWRAIN.