Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
EISTEDDFOD GENEDLiETIjOL FPNBINOL CipU, 18981 a gynelir yn BLJLElsr-ATJ FFESTINIOG, GORPHENAF 19, 20, 21, 22, 23. CYSTADLEUON CORAWL POBLOGAIDD, 40 o Gorau yn Cystadlu. Nifer y 0; sta lleuvryr ar y gwahanol destynau yn eithriadol o fawr CYNGHERDDAU MAWREDDOG, PERFFORMIR y ddwv Oratorio Gymreig enwog Ystorm Tiberias (Stephen), a Traeth y Laf an" (D. G. Williams), yn nghyda'r "Elijah" (Mendelssohn), gan GOR YR EISTEDDFOD, YN RHIFO TRI CHANT. Cerddom as Or»an fawr arbenig i'r achlysur. mhlith y Datgeiniaid y mae Miss MACCIE DAVIES. Mr. BEN DAVIES. Madame HANNAH JONES. Mr. FFRANCCON DAVIES. Pavilion enfawr i ddal dros ddeng mil. Rhaglen ddyddorol bob dydd. Trens rhad o bob cyfeiriad. Rlaagleni i'w cael (pris 60. yr un) yn Swyddfa'r Genedl, Caernarfon.: MYNEDTAD I MEWN. Blaenseddau (Reserved), Season Tickets (8 cyfarfod), transferable, 25s. eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 4s Dosbarth laf, Season Tickets, (8 eyfarfod), not transferable, 20s. eto, un eyfarfod neu gyngherdd, 3s. Dosbarth 2il, Season Tickets, (8 cyfarfod), not transferable, 12s.; eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 2s. 3ydd Dosbarth, un cyfarfod neu gyngherdd, Is. Dydd Sadwrn, pris unffurf, Is. Am bob many lion ychwanegol, ymofyner a Mr H. ARIANDER HUGHES, Llys Llywelyn, Blaenau Ffestiniog. Mp• J. II ROBERTS Mus. Bne. (Cantab),"] A.R.A.M., F. T.S. C.,ULondon (Organist of \(Jnatham \Street Presbyterian Church). Begs to announce that he gives Lessons at 149, GROVE STREET, LIVERPOOL, On the Pianoforte, andj Organ, also in Singing, -Harmony, and Composition Pupils thoroughly prepared for the various Exams, in the above subjects,also in Musical Analysis, Foim, Orchestration, and Acoustics, and in reading from Score and Figured Bass. The largest money prize ever given at an Eisteddfod for Solo Singing was won by one of his pupils. Out of a large number of candidates throughout the United Kingdom at the Local Exam. of the Royal Academy, six took honours in Harmony, two of whom were Mr Roberts' Pupils. His Pupils have also taken valuable prizes in Piano playing and in composition. Postal Lessons in Harmony and Composition. Full particulars on application. Soprano Song THE WONDROUS CROSS. 'i icompetition piece at the National Eisteddfod, 18\18. 2s. neu Cymru Lan-Gwlad y Gan. Eisteddfod Gadeiriol GWYR IEUAINC BWLGHGWYN, JDDYDD MER CHER, MEHEFIN 22, Mewn Pabell eang a chyfleus gerllaw dyffryn prydferth Nantyffrith. Diu Gor yn y Brif Gystadleuaeth. Pump yn yr ail. Chwech o Gorau Meibion. Tair Seindorf. Cystadleuon ardderchog mewn'Pedrodau, Deaawd- au, Unawdau, Adroddiadau, &c. Rhaglen y dydd yn barod yn fuan, pris ceiniog trwy y post, ceiniog a dimai, i'w chael gan yr Yssrifcnydd, ALUS ROBERTS, Bwlchgwyn. Nr. Wrexbam. Bydd Trens rhad yn rhedeg o wahanol gyfeiriadau yn ystod y dydd. Am fanylion gwel hysbysleni y cwrrmiau. Addoldy (B ) yr Woodlands. Birkenhead, Pregethir yn CYFARFODYDD BLYNYDDOL fel y canlyn: NOS SADWRN, MEHEFIN 18, am 7, gan y Parch E. T. JONES, Llwynpia, SABBOTH, MEHEFIN 19, am 10 30. y Parch. D. POWELL, Llynlleifiad, am 2 a 6, y Parch. E. T. JONES, llwynpia. Eglwys Annibynol Trinity Read, Bootle- — PREGETHIR — yn yr Addoldy uchod NOS SADWRN, MEHEFIN Wed, 1898, gan Miss ROSINA DAVIES (Efengyles), Treherbert, am 6.30 p.m. Sabboth, Mehefin 19, am 10 a.m., Miss DAVIES, 2 p m Parch. Wm. HENRY, Waterloo, b p.m., Miss DAVIES. IVERPOOL TO LLANDUDNO, I BEAUMARIS. BANGOR, & MENAI BRIDGE. DAILY SAILINGS Fiom Prince's Landing Stage (Sundays excepted, and weather and other circumstances permitting), "ST. TUDNO." Leaves Liverpool.10-45 am „ Llandudno 1-0 pm Beaumaris 2-0 pm Baneor Pier 2-20 paa I Leaves Menai Bridge 3-30 pm Bangor Pier 3-40 pm Beaumaris 4-0 pm „ Llandudno 5-15 pm Arrives Menai Bridge 2 30 pm Arrives Liverpool pm "ST. EL VIES." Week-end Trips. From Liverpool Saturdays 4th, 18th, & 25th June, at 2 p.m. From Wales,Mondays 6th, 20th, & 27th June, leaving Menai Bridge at 6-30 a.m. Vnr all further particulars apply to any of the Company s A«»Tits or to THE LIVERPOOL & NORTH WALES IIIAMSHIP CO LTD.. T G BREW, Secretary, 20 WATER ST., Tel. 636 CARTREF CYMRJIG I YMWEI.WYR a LLUNDAIN. Pa le i gael llety cysurtw yn Llundain? Ewch o Padding- Station, G.W.R., gyda'r Underground 1 Gower Street TftUan am No. 9 neu 30, Euston Square, neu 0 Euston & N. W. Rv.), pa un sydd yn agos iddyn. 7 GLASLYN HOUSE »>JS' TEMPERANCE HOTEL, -1 Euston Square, London, N.W. § D. EVANS, Perchenog 'LT (KELT) IRiNCE HOT SL, t Square, London, N.W. F. DUNN, Perchenog 1 i bob rhan 0 Lundain. THOS JONES& Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7. and 21- per lb. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20;. and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is seat with the order. SAMPLES FREE ON APPLICATION. THOS. JONES Co. Ltd Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET. LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir UN OOPI yn ddidraul trwy y Post Am 12 mis, 5/6-Am 6 mis, 3/0 | Am 3 mis, 1/8 Blaend&l yn unig. At Ein Cohebwrr. Dylai pob gohebiaeth reelaidd gyrhaeda t t Swyddfa cyn caiial dydd Llzm, neu ni ellir eu cyhoeddi yn y rhifyn canlvnal
DIWEDD Y RHYFETyilTcOWa
DIWEDD Y RHYFETyilTcOWa YN ol pob arwydd presenol, y mae'r ysgar- mes-prin y gellid ei alw yn rhyfelawd- rhwng yr Unol Daleithiau a Spaen, o dru- .garedd, yn tynu at y terfyn. Po hwyaf y pery, mwyaf a welir o wendid un wlad a chyflawnder adnoddau y Hall. Nid oedd yr un o'r ddau AHu yn barod i ryfel pan gyhoeddwyd rhyfel, mae hyny bellach yn eithaf amlwg ond pan aed i hel offerynau dinystr at eu gilydd, cafwyd, er nad oedd gan yr America nemawr wrth law, fod ganddi ddigon o fodd i'w ceisio tra nad oedd gan ei gwrthwynebydd nac offerynau ond ychydig a rhydlyd, nac ychwaith fodd- ion i bwrcasu eu hamgen. Fel y gwyddai'r byd yn burion, Gallu yn crino uwchben ei draed er's rhai oesau ydyw Spaen, er mai prin y credai neb ei fod mor grin-fod ei ddeiliaid ei hun yn ei drefedigaethau mor elyniaethus iddo a'i elynion chwerwaf, ac y byddai raid iddo, er enill buddugoliaeth, eu darostwng hwy cystal a gorchfygu ei el- ynion. Ond y mae Spaen o'r dechreu wedi gweithredu'n rhagorol ar egwyddor yr hen ddiareb, Os nad wyt gryf, bydd gyfrwys." Os na allodd -hi wneud fawr niwed i'w gelyn, gallodd ami dro ei ddychrynu bron i farwolaeth. Taflodd hug fawr cyfriniaeth drosti, a gwaedodd Bw! nes oedd gwallt ei gwrthwynebydd, a siarad yn ffigyrol, yn sefyll ar ei ben fel gwrychyn baedd gwyllt, a'i liniau crynedig yn crynu yn eu gilydd. Nid hir y parhaodd yr hud, mae'n wir. Y mae'r byd yn gweloo er's Wythnosau trwy gochl y bwgan, alonathan el hun yn raddol yn cael gwared a'i fraw- lesmeiriau. Deallir fod llynges Spaen yn hen ac aneffeithiol, a'i bod gan mwyaf erbyn hyn mewn magi yn Cuba ac Ynys Philip- Pine. Gweithred feiddgar oedd maglu yr adran ohoni sydd yn Santiago suddwyd y Hong Merrimac ar draws y sianel cul sydd yn arwain o'r eigion i'r porthladd cadarn, ac ni fedr y llynges sydd yno ddyfod oddi- yno ond i'w dinystr. Gweithred ddewraf yr ymdrechfa oedd hon, a chyflawnwyd hi gan swyddog ieuanc o'r enw Hobson, a chwe' dyn dano-gwirfoddol wyr a ddewisodd ef o ganoedd oedd yn cynyg eu hunain. Am dri o'r gloch y bore, cychwynwyd y llestr, yn lhvythog o ddwy fil o dunelli o lo, i'w thynged. Tan dan pybyr y cadarnfeydd ar y lan, suddwyd hi i'r gwaelod, a cheisiodd y saith dyn anturiaethus ddianc mewn bad, ond methasant daliwyd hwy gan y Spaen- iaid, ond yn mhen ychydig oriau cyfnewid- iwyd hwy am saith carcharor Spaenaidd ac yn ddiau, rhestrir hwy yn mysg arwyr y rhyfel. Hwyrach yr anrhydeddir hwy fel yr anrhydeddodd Lloegr ei harwyr hithau yn Balaclava ac wedi rhoi medal ar fyn- wes pob un gadewir iddo y rhyddid o ddewis tylotty i fyw a marw o'i fewn. Nid yw'r byd gwleidyddol yn pryderu llawer yn nghylch y rhyfel erbyn hyn, gan wybod na fydd iddo ymledu dros ei derfyn- au presenol, fel yr ofnid yn ddigon naturiol yn y dechreu y buasai Galluoedd eraill yn cael eu tynu i'r gerwyn. Eu pryder yn awr ydyw pa effaith a ga'r rhyfel pan orpheno ar y ddwy genedl fu'n ei hymladd. Hyd yn hyn, er ei sefydliad, carodd yr Unol Daleithiau lonyddwch a heddweh hyd yr oedd yn bosibl, a chymharol ychydig a di- bwys fu eu hymrysonau hefo cenedloedd eraill. Cadwodd gartref gan edrych ar ol ei gwlad fawr a chyfcethog ei hun a dad- blygu ei hadnoddau: nid ymyrodd yn nhrachwantau Galluoedd eraill y byd, ac ni fynai iddynt hwythau ymyraeth a'i budd- ianau hithau. Pan gododd gwrthryfel yn ei therfynau ac y bygythid ei rhwygo, rhoddodd y blaid wanaf i lawr gyda braich gref. Dengys ei hanmharodrwydd presenol i ryfel mai nid gallu rhyfelgar a fu ond wedi gwisgo ei harfau, cael buddugoliaeth rwydd ar elyn gwan, enill tiriogaethau, a chlywed rhywun yn ei galw'n ymherodr- aeth, a all hi wrthsefyll y demtasiwn ? All hi ddiosg ei harfwisg, cadw y tiriogaethau a enillodd yn unig fel meichiafaeth am daliad iawn Spaen yn achosi y rhyfel, a dychwelyd at ei diwydrwydd a'i buddianau cyntefig ? Os na all, par gryn gynhwrf yn mhlith hen lywodraethau y byd ond y mae'n ddiau y byddai'r byd ar ei enill trwy hyny. Ben- dith iddo mewn llawer man gael gwareidd- iad iach America yn lie y mursendod mwy na haner paganaidd sydd ynddynt yn awr ac a gamenwir yn wareiddiad, ie er iddo gael ei gyfenwi yn Gristionogaeth. Hwyrach y bydd darostyngiad Spaen yn golled i un neu ddau o Alluoedd Ewrob, ond i Alluoedd eraill,ac yn enwedig i'r tref- edigaethau a gyll, bydd yn fendith ddi- gymysg. Mae pob trefedigaeth a fedd yn ochain tan ei gorthrwm ac yn dyheu am ryddhad o'i gafaelion., Nid Ilywodraeth- wyr presenol Spaen, ac yn neillduol nid ei brenhines waddolog, yr hon sydd yn fam ragorol i'r teyrn ieuanc-ysgutorion cam- lywodraeth eu rhagflaenoriaid ydynt hwy er's o leiaf haner can' mlynedd. Un o effeithiau uniongyrchol gorchfygiad Spaen fydd gwrthryfel yn Spaen, a phwy all enwi yr hwn a ferchyg frig y llifeiriant hwnw yn lhvyddianus ?
--0--CWRS Y BYD.
--0-- CWRS Y BYD. Llyn Tegid. YCHYDIG ddyddiau yn ol, bu farw Mr Rawlinson, yr hwn unwaith a wasanaethodd Gorphoraeth Lerpwl fel dwfr-beirianydd o tan Newlanda, os nad wyf yn camgofio. Yr oedd hyn agos i haner can' mlynedd yn ol, pan oedd newyn dwfr yn hylldremu ar Lerpwl, a mawr amryw- iaeth barn yn mysg ei gwyr cyboeddus o pa fan y byddai goreu ei gael. Mynai rhai, a hwy gariodd y dydd, mai o Rivington Pike—llynau agos i bymtbeng milldir oddiyma tua'r gogledd ni fynai eraill ddim a wnelent a Rivington, nes y rhanwyd y dref yn "Pikists" ac "Anti- Pikists," a bu dwndwr a helynt echrydus. Prif ■ wrthwynebydd y Pike oedd y diweddar Mr Rawlinson yr oedd ef yn selog, a lluaws yn ei bleidio, tros ddwyn Llyn y Bala i ddisychedu Lerpwl, Ystryw y "Pikists," meddir, a arbed- odd y "Mor mawr yn mro Meirion," rhag ei ddinystr y pryd hwnw fel y cyfryw. Yn mben Hai nag ugain mlynedd, nid digon y Pike i ddiwallu y dref fawr a gynyddai mor gyflym a thaflodd ei pheirianwyr dracbefn eu golwg tua Chymru.. Teithiodd Mr Duncan, ei dwfr-beirianydd (yr oedd Mr Rawlinson erbyn hyn wedi gadael y dref a myn'd yn benaf i wasanaeth y Llywodraetb) lawer yn Ngogledd Cymru i chwilio am ddiwalliad newydd. Un tro rhoes ei fryd ar Lynau Alwen, Aled, ac Elwy, oddiar fynydd Hiraethog, a'u crynhoi gyda tharddiadan y Glywedog yn an reservoir fawr yn y pant sydd fel potel anferth, a'i gwddf cul yn y Bontuchel. Buasai y gronfa bono ugain milldir fan lleiaf agosach i Lerpwl nag ydyw Llanwddyn; ond Llanwddyn a ddewiswyd, ac arbedwyd i edmygwyr natur a physgodwyr yr afonydd tlyaion a nodwyd, yn nghyda'r Ddyfrdwy oludog. Buasai pennod o hanes ymgyrcbiadau Mr Duncan, hyd Ogledd Cymru, tan arweiniad Mr Joseph Parry, ein cydwladwr a'r dwfr-beirianydd galluog presenol, yn banes nodedig o ddyddorol. Llyn Tegid ydyw'r mwyaf yn Nghymru, a buasai bron yn gysegr-yspeiliad ei ddwyn trwy bibellau anfarddonol i ddiw.illu un o drefi mawrion Lloegr, fel y cymerir llynau sir Frych- einiog i dori angen Birmingham y dyddiau hyn, er nad yw eto hwyraoh yn gwbl ddyogel rhag traehwant Llundain. Mae'n syndoct na fuasai fferylliaeth cyn hyn wedi dyfeisio rhyw foddion i groywi a phureiddio y dwfr hallt sydd yn ymyl rhai o'r dinasoodd mawrioi a nodwyd, a gadael llonydd i'r drychau disglaer sydd o gymaint addurn i'r wlad, yn delweddu y golygfeydd yspleaydd ar eu glanau, ac yn lie i'r llu nefol weled eu hunain ac ymbincio yaddynt. Nid yw ryfedd yn y byd fod y Bala yn gyrehfa cynifer o ddyeithriaid nid oes fawr fan yn Nghymru harddach na glanau Tegid ac y mae pob stiwdent a fu yno erioed yn son am dano fel paradwys ei fywyd. Gyda'r fath fwyn- had y dywed, Pan oeddwn in y Bala," neu 'roedd o a fine yn y Bala hefo'n gilydd," neu "Y mae yfed chwart o ddwfr y Bala cyn brecwest eystal ag yfed dau o ddyfroedd Helicon ar ol swper." Ac yn wir os na fedr efrydydd ddysgu ei wersi ar hyd y ffordd daweJ, gysgodol, fyfyriol sy'n arwain o'r Bala i Lanycil, ofer iddo geisio yn unman arall. Dyna lecyn prudd-ddymunol ydyw Llanycil -y fynwent fechan hono sydd a'i godreu yn y llyn,—mynwent beddrodau'r saint, maent hwy yn cysgu yn min y Llyn," chwedl Tegid y bardd—Thomas Charles, Dr Lewis Edwards, John Evans, Dafydd Cadwaladr, a'r ardderchog lu a wnaethant y Bala yn air mor dlws ac anwyl gan bob Cymro gwerth yr enw. Ond yr wyf wedi ymestyn yn mhell dros fy nherfynau. Rhaid i mi fyn'd i "Lanycil acw" rywbryd eto. Mr. Hooley. GwR a. ystyrid yn filiwnydd, ac a berchid fel y cyfryw, ydyw Mr Hooley. Am lawer o flynydd- oedd yr oedd pobpebh yn trol's aur tan ei law. Ganwyd ef yn sir Derby, ac yno trigianodd gan mwyaf er pan yn 21 oed hyd 1896-nid yw yn awr ond 39 neu 40-yn Nottingham, Ddwy flynedd yn ol, symudodd ei drigfan i Lundain, a chanddo, meddai, ar y pryd 150,000p. o arian parod. Y mae, meddai ef eto, wedi troi drosodd tua phum miliwn ar hugain o bunau yn ystod y ddwy flynedd. 0 hyny, gwariodd tros chwarter miliwn mewn elusenau, yn mysg yr olaf yr oedd llestri cymun i Brif Eglwys St. Paul, Llundain. Y flwyddyn ddiwediaf, yr oedd yn uchel-sirydd airoedd Caergrawnt a Huntingdon y mae yn ynad mewn pedair sir, yn un o ringyllod ei Mawrhydi yn ninas Llundain yn aelod o Glwb Carlton, ac yn ymgeisydd Toriaidd tros ran- barth Ilkeston o sir Derby. Priodola ei fethiantwch i amryw o'i ofynwyr yn cyd ruthro arno, ac i'r arian mawr a dalodd o dro i dro am ffafrau gwasg gyllidol Llundain yr oeddynt, meddai ef, yn ei flingo yn fyw. Cwynai mai ychydig help a gafodd yn y cyfwng gan aelodau o'r bendefigaeth ac eraill y bu ef yn foddion i roi aailoedd o bunau yn eu llogellau. Ychydig, a buasai wedi ysgoi'r gwaradwydd o apelio am nawdd Llys Methdaliad. Eisoes addefa ei fod wedi teimlo mai Cyfeillion haf pan gauaf ddaw, A giliant draw yn fuan, A'r hwn ni fedd ond dagrau hallt, Eu tywallt raid ei hunan. Addawa ddadlenu llawer o ddirgeledigaethau rhyfedd mewn perthynas a hyrwyddo Cwmniau Masnachol, &e. ac ar yr un pryd, sicrha na fydd yr un o'i ofynwyr yn fyr o dderbyn yn y pen draw ugain swllt yn y bunt. Mr. Leiter, vr ydianydd. Ac er pan gwympodd Hooley, cafodd mamon- ydd arall godwm casach nag yntau sef Leiter, dyn ieuainc a dybiai ei hun yn dipyn ciwtiach nag ydoedd. Prynodd werth miliwnau lawer o ddoleri o yd, gymaint yn wir ag allai gael yn yr Unol Daleithiau, a llanwodd ystorfeydd Chicago o wenith, yna daliodd ar ei gefn rhag gwerthu, cododd y farcbnad tros yr holl fyd o'r herw/dd. Gwyddom ni yn Mhrydain am y drudaniaeth a barhaodd trwy fis Mai; aeth y dorth chwech yn wyth geiniog neu naw, ac nid mater dibwys hyny pan fyddo haner llond ty o blant yn dybynu ar ddyn wrth ei ddiwrnod gwaith. Cynhyrfiadau afiach fel hyn yn y farchnad ydyw cynhauaf a gwynfyd cribddeilwyr; a chafodd pawb yn yr amgylchiad hwn, rhwng y cynyreh) dd a'r bwytawr, rhyw ychydig o fel ar c u bysedd. e Ond nid oedd gan Leiter na'i gefnogwyr ddi gon o arian i ddal y wasgfa a bu raid iddo daflu Swerth wyth miliwn dolar o yd ar y fatchnad. Parodd hyn ddyryswch newydd yn y farchnad, a dinystr i ganoadd yn masnach yr yd. Yr oedd y prisiau yn neidio i lawr ddydd Llun, a dydd Mawrth, a gwae yr hwn a brynodd pan oedd y farchnad yn uehel. Ychydig yn ol cyhoeddodd Llywodraeth yr Unol Daleithiau fod yr ystoc o yd yn y wlad hono yn fwy o bymtheng miliwn o fwsheli nag yn 1897-sef 150 miliwn ar gyfer 135 miliwn y llyoedd. Yn mhellach, y mae disgwyliad am y cynhauaf mwyaf toreithiog a gafwyd yno er 1891. Y pethau hyn, a c bym- eryd co wlaid rhy fawr, sydd wedi cornelu Leiter wrth iddo ef geisio cornelu'r farchnad yd hen stori y gath a'r cimweh. Y mae'r glanddyn hwn hefyd yn udo oher- wydd anwadalwch cyfeillion pan fo dyn ar lawr. Nid yw Hooley fawr o beth-auf a'i cododd ac aur a'i cwympodd—ond yr oedd yn frenin wrth Leiter. Nid aeth Hooley ond i byrsau yr ar- ianog i ddwyn, ond aeth y llall i ^ypyrddau'r tlawd a'r anghenus. Gwynt ar ol y dda« a'n bath sy'n aros fydd fawr o golled am danynt hwy a'u siort," chwedl yr Hen Lwyngwril.