Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Llenydaiaeth.
Llenydaiaeth. "LLAWLYFR DIRWESTOL at viamnaeth Temlwyr Da, j, Cymdeithasau Dirwestol, a'r Gobeith- luoedd Cymreig. Gan THOMAS JONES, Birken- head.—Uyhoeddiad swllt ydyw hwn, wedi ei argraphu yn Swyddfa'r Gymro tros Demi Bosbarth Lerpwl a'r cylch. Efe enillodd y lOp. a'r llawiyf yn Eisteddfod ddiweddaf Hope Hall y ddinas; a diau y bytid dirwestwyr Cymreig yn ddiolchgar 1 r awdwr ac i'r Demi Dosbarth am lanw mor rhagorol fwlch pwysig yn llenyddiaeth y pwnc. Ar i ddeehreu ceir rhagymadrodd gan y l'arch G. Elli". M.A., Beetle rhanau o'r feirniadaeth, yn nghyd ■■ barn rhai o arweinwyr dirwestol Cymru a'i gwe! sant tra mewn Ilawysgrif-vr oil yn dra chymerad wyol, ae yn galw"ia cryf am ei gyhoeddi. Fel y gweddai i lawlyfr yn anad un cyfansoddiad, y mae hwn wedi ei yagrifenu'n glir a gweddot gryno, heb fawr o'r areithyddiaeth flodeuog sy'n esgusodol mewn areithiau ar y llwyfan gy hoeddus. Trwsgl a. pheirianyddol ydyw y cyfieitb iad o rai termau gwyddonol; ac wrth basio, pw; wpa'r gymwynas hon S lleayddiaeth Gymraeg, sef parotoi iddi Gyfieithiadur cryno o dafodiaith Owyddoreg ddiweddar yn ei gwahanol ganghenau, Dengys yr awdwr iddo ddarllen ei bwnc yn helaeth a gofalus ei feddwl a'i dreulio trosto'i hun ac yna ei gyfieu yn ddestlus ac argyhoeddiadol i w ddarllenwyr. Anbebcor arail llawlyfr ydyw fod ei gynllun yn drefous a hwylus i ddysgu egwyddorion v pwnc i blant a dosbarthiadau ieuainc. Y mae hn felly. Treulir Pennod 1. i egluro cyfansodd- iad y gwlybur alcohol; Pen. II., ei effeithiau nl weidiol ar iechyd corph a roeddwl, yn cael eu hit- egu gyda darluniau a thablau lliw edig IV., Ar- gymhellion i Lwyrymwrthocliad, lie yr ail adroadir tipyn o'r hyn a ddywedwyd eisoes ond mewn ffordd negyddol tan Pen. II. Nis gellir, ac nid oes angen, fel y ceisir yma, brofi fod y Beibl drwyddo'n pleidio'n glir lwyrymwrthodiad Did oes angen gwneud yn fater o ddatguddiad dwyfol wirionedd sydd wedi ei adael i reswm ei ddarganfod a chyd- wybod ei gymhell yn mhlith dynion. Ar 01 Pen. IV. daw Hanes a Chynydd yr Achos Dirwestol; a diweddir gyda chrynodeb gwerthfawr o ddeddfwr- iaeth ddirwestol Senedd Prydam ynyatod yr haner canrif diweddaf. Rhwng y cwbl, dyma lawlyfr rhagorol i'r dosbarth ieuanc, teilwng o dderbyniad helaeth, ac yn rhwym o wneud gwasanaeth dirfawr i'r achos y dadieua drosto. Deallwn fed yr Uwch Demi Gymreig eisoes wedi ei fabwysiadu yn faes llafur yr arholiadau a diau, pan gaffont drem arno, y dilynir yr esiampl gan y cymdeithas- au dirwestol eraill.
-0-Marchnadoedd.
-0- Marchnadoedd. Lerpwl, Meh 14. Galwad araf oedd yn marchnad yr yd heddyw. a'r prisiau fie i Is y cental yn is na dydd Gwener. Yr oedd blawd wedi gostwng 2s y sach; indrawn yr Am- erica lc i ic'r cental yn is. Haidd, ceirch, a phys yn bur ddigynhwrf yn ol tua'r hen brisiau. Gwenith gwyn Califfornia, 37s i 38s; Walla Walla, 3os 6c 1 37s; Chilian, 43s; Cocli, 38s i 38s Go am Santa I ee. Indrawn Coch America, 7s 6c Cymysg eto, 16s. Birmingham, Meh 14. Biff, 41c i 610 y pwys molltgig, 61c i He cig oen, Sic i 9ic'; cig lloi, 5c i no y pwys. Moch bacwn, 8s-9c i 8s 10c perchyll, 9s 3c i 9s Ge; hychod, 7s i 7 s 2c yr 20 pwys. Salford, Meh. 14. Biff, 610 i 60; molltgig, 5c i no cig oen, 8c i 9c cig lloi, 5-le i Tic y pwys. Caer-Meh 9 Gwartheg blithion, 16p i 21p; cyfloion, 14p i 118p; bespion, 9p i 13p heffrod, 8p i 14p; styres, 5p i 8p; bustych, 8p i 9p; mamogiaid, 23s i 25s y pen. Gwrecsam. Meh 13. Biff, 50 i 6c v nwvs molltgig, 8c i 9c y pwys cig oen, 80 i 9c lloi, 23s i 37s yr un eto tewion, 42s i 81s y pen, neu 60 y pwys gwartheg blithion, 14p i 2 18p 10s y pen. Caer, Meh 11. Ni wnaed fawr o fusnes mewn gwenith Seisnig. Gostyngodd y tramor tua 9c y 75 pwys. Dyma'r priaiauGwenith gwyn, 9s 9c y 75 pwys coch, 5s 6c i 5s 9c y 75 pwys ceirch, 28 3c i 3s y 46 pwys indrawn, 9s 3c i 9s 9c y 240 pwys. Amwythig. -Meh. 11. Gwenith yn tueddu at ostwng; ceirch yn sefydlog blawd wedi gostwng o Is i 2s y uach Prisiau Gwenith gwyn, 18800 i 18s 6c coch, 17s 00 i 17s 6c y 225 pwys; ceirch, 15s 00 i 16s 6c pys, 13s 6e i 14s 5c y 225 pwys; ffa, 15s i 16s y 240 pwys. Bangor, Meh, 10. Ymenyn ffres, 8c i 80 y pwys wyau ffres, 18 am Is biff, 6c i 10c y pwys molltgig, 7c i 10c. Caernarfon, Meh 11 Ymenyn, 10c i 110 y pwys; wyau, 7 i 8 am swllt; biff, 5c i 8c y pwys molltgig, 80 i 9c cig oen, Is y pwys ieir, 3 00 i 4s Oe y cwpl; hwyaid, 4s i 5s y cwpl; perchyll, 14s i 18s y pen. Croesoswallt, Meh. 8. Ymenyn ffres, 8c i 10c y pwys; wyau, 16 am Is; biff, 60 i 8c y pwys molltgig, 7c i 9c cig lloi, 7c i 9c cig oen, 10c i Is ieir, 4s i 4s 6c y cwpl; hwy- aid, 5s i 6s y cwpl; gwenith gwyn. newydd, 6s 80 i 6s 10c y 200 pwys coch, newydd, 6s 4c i 6s 8c ceirch, hen, 12s Oc i 14s y 200 pwys. Llangefni, Meh 10. Ymenyn ffres, 9c y pwys; wyau, 20 am swilt biff. 6c i 8c y pwys molltgig, 7c i 9c y pwys cig oen, 10c y pwys cig lloi, 7c i 9c y pwys; pore, 60 i 8c y pwys ieir, 3s 0c i 4s 0c y cwpl; hwyaid, 53 0c i 6s 6c y cwpl; moch tewion, 3^c y pwys; per- chyll, 16s i 21s yr un ceirch, 18s y chwarter. -0- I ddathlu cwbihad y rhodfa ar lan y m6r yn Ngholwyn Bay, agorwyd pistyll newydd hardd ddvid Sadwrn, yn mhresenoldeb canoedd o bobl, Anrheg Mr T. Parry yw'r pistyll, a chostiodd. tua 60p. Caed amryw anerchiadau, a gosodai'r oil bwys ar atdyniadau'r dref a'r ardal, gan dalu fteyrnged i ymroddiad Mr T. Parry i'w gwneud felly.
Advertising
CYFRES Y PIFLENOION CYREIG. 1-BARDD CWSC, gan Ellis Wynne o Lasynys. Pris 3c. Trwy y post. 4c. I'w ddilyn gan amryw eraill o'r un safon. LERPWL :—Cylne Idedig yo Swy L!F4'r Gymro, 8, Paradise Street.
.lIeol.
lIeol. Bydd yn dda gan bawb ddeall fod Pedrog wedi cael adferiad iechyd, ac wedi dychwelyd at bobl ei ofal.' Bydd swyddfa'r Cymro yn gauedig ddydd Sadwrn nesaf, gan fod y gweithwvr yn myned ar eu pleser- daith flynyddol. Dymunwn ar i bob archeb y dis- gwylir ei chyflenwi cyn y Sul gael ei hanfon yma yn gynar ddydd Gwener fan bellaf. Yn nehyfarfod misol Bwrdd Ysgol Lerpwl, ddydd Mawrth, darll'-mvvyd y penderfyniad canlynol a ddan- fonodd y Parch W. O. Jones, B. A., ysgrifenydd Un- deb Eglwysi Rhyddion Cymreig Lerpwl:—"Fod y Cynghor hwn o Eglwysi Rhyddion ac Efengylaidd Lerpwl a'r Cylch, wrth weled fod canoedd o blant yn perthyn i'n heglwysi, oherwydd diffyg He, yn gorfod myned i ysgolion sectol, yn erbyn ew.yllys eu rhieni, yn dymuno galw sylw'r Bwrdd at y ffaith, a gofyn yn ostyngedig i'r Bwrdd adeiladu ysgolion newyddion yn y parthau hyny o'r ddinas lie nad oes darpariaeth ddi- gonol i gyflenwi'r angen." Ddydd Llun ymwelwyd a'n swyddfa gan yr h en Gymro trylen Gutyn Ebrill. Gadawodd ef a'i ferch, Miss Gwladys Ruffydd, y Wladfa Ebrill 25, a chyr- haeddodd y ddau i Lundain Mehefin 5, ar ol mordaith ddymunol. Dyma'r tro cyntaf iddo ymweled a'r Hen Wlad er pan aeth i'r Gvmru Newydd hwnt i'r mor yn Tachwedd 1881. Bu'n gweithio yn Lerpwl fel saer coed ar St. George's Hall. Nid pawb o'n dar- llenwyr sy'n gwybod mai Cymro, sef David Hughes, brodor o Fallwyd, a weinyddai fel clerk of works ar St Georges Hall pan yr adeiledid y neuadd odidog hono. Edrychai'r lienor yn rhagorol; a bwriada aros yn mro ei faboed hyd fis Tachwedd nesaf. Ddydd Sul, yr oedd iyrfaoedd lluosog fore, bryd- nawn a hwyr yn gwrando ar y Patch Trevor Davies, mab ein gyd-drefwr hybarch, y Parch Owen Lloyd Davies, yn pregethu yn Nghapel y Wesleyaid Seisnig, Whitefield Road, Gwyl yr Ysgol Sul yn y lie oedd yr achlysnr, ac yr oedd amryw eisteddleoedd o flaen y pwlpud wedi eu gorchuddio & blodeu tlysaf yr ardd a'r maes. Canwyd amryw anthemau yn ardderchog yn ystod y dydd gan gor y lie ac eraill, yn cael eu cyfeilio gan yr organ a cherddorfa linynog. Ond ardderchawgrwydd pob oedfa oedd y bregeth. Fel y gwyddis, bu Mr Davies yn yr ysgolion a'r colegau yn llwyddianus annghyffredin: ac nid oes genym un amheuaeth na fydd yn y weinidogaeth, gyda bendith, yr un mor llwyddianus. Yr oedd Mr ROBERT THOMAS y fferyllydd, marwol- aeth yr hwn a gofnodir genym heddyw, yn arfer cymeryd cryn ddyddordeb mewn raaterion cen edlaeth- ol Cymreig flynyddau yn ol, ac yn ddyn deallus a darllengar. Ond wedi symud i'r owr pellenig o'r dref yr oedd yn byw ynddo, cynydd ei fasnach, a'i wneuthur yn churchwarden mewn Eglwys Seisnig, ymddyeithriodd mwy na heb oddiwrth ei genedl. Er hyny, daliodd i gymeryd dyddordeb mewn rhyw beth- au hyd y diwedd. Buom yn rhyfeddu na fuasai Mr Thomas a'r diweddar gerddor Owen Alaw yn efeill- iaid, gan mor debyg oeddynt i'w gilydd, o ran pryd a gwedd ac o ran yspryd yr oeddynt yr un mor hynaws a charedig. Brodor o Fon oedd Mr Thomas, a bu yn llanw rhai swyddau cyhoeddus yn y rhan- barth yr oedd yn trigianu. Pleserdaith Gweithwyr MriD. Jones < £ ■ Co. -Ddydd Sadwrn diweddaf, talodd gweithwyr Mri David Jones & Co., Redcross Street, yn nghyda'r adran sydd yn gweithio yn y Cheshire Preserving Co. Caer, ym- weliad a Llandudno. Teimlai pawb ddyddordeb neillduol yn y bleserdaith hon (y burned wyl flynydd- ol). Cychwynwyd mewn tren arbenig ar gyfer y cwmni. Gan fod y dydd mor hafaidd, yr oedd pawb yn eu hwyliau goreu, ac yn edrych yn mlaen am fwyniant mawr yn y dref brydferth. Wedi taith ddymunol, cyrhaeddwyd Llandudno am 9 40. Yr oedd y darpariadau er diwallu'r corph wedi eu hym- ddiried i Mr J. Crockatt, Avondale Restaurant. Cyd- eisteddai wrth y bwrdd ciniaw Mr R. D. Roberts, Y.H., C.S., a Mrs Roberts, Brongraig, Corwen Mr a Mrs Owen Jones, Glanbeuno, Caernarfon, &c., &c. Wedi ciniaw, cynygiodd Mr T. E Davies, ar ran ei gydweithwyr, fod y diolch gwresocaf yn cael ei gyf- lwyno i'r perchenogion am y croesaw a'r oaredigrwydd a ddangoswyd ganddynt y diwrnod hwnw at eu gwas- anaethyddion, gan sylwi mai arwydd ychwanegol eleni eto oedd y bleserdaith hon o'r teimladau da rhwng y meistri a'r gweithwyr.—Cefnogodd Mr A. J. Davies (Caer) mewn araith ddoniol, a chariwyd gyda brwdfrydedd.—Cydnabyddwyd y diolchgarwch gan Mri R. D. Roberts ac Owen Jones mewn areithiau pwrpasol, gan ddatgan mai llawenydd iddynt ydoedd sylwi ar y dyddordeb a gymerai'r gweithwyr yn eu dyledswyddau, a bod hyny'n peri iddynt hwythau fel, meistriaid deimlo dyddordeb neillduol yn y gweith- wyr,—Wedi treulio un o'r dyddiau mwyaf hapus yn Llandudno a'r cylchoedd, trowyd tua Llynlleifiad tan ganu, ac yr oedd pawb yn yr orsaf erbyn 7. Gwas- anaethwyd fel ysgrifenydd gan Mr T. E. Davies, ac y mae llwyddiant y daith i raddau mawr i'w briodoli i'w lafur ef. Rhifai'r cwmni eleni tros 250. Da yw gweied cwmni Cymreig yn enill tir ac yn cynyddu'n flynyddol, a rhaid wrth gydweithrediad y meistri a'r gweithwyr er sicrhau y cyfryw lwyddiant.-E.D. DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO Ddydd Gwener, cynaliwyd trengholiad ar gorph Wm. Pierce, 79 oed, asiedldd, 67 Holden Street Ymddsngvs fod golwg y uaneedig yn wan. Pryd- nawn ddydd Mawrth tra yn croesi Princes Avenue, tarawyd ef i lawr gan gerbyd. Ni welodd y gyr- iedyddef nes oedd o dan ben y oeffyi, a safodd gynted ag y gallai ond nid cyn i'r cerbyd fyned dros Mr Pierce. Cludwyd ef i'r Yspytty Deheuol, lie y bu farw tranoeth, Dychwelwyd rheithfarn 0" F.;l.rwo'aeth Ddamweiniol," ac amlygwyd nad oedd bai o g vbl ar yriedydd y cerbyd. Cymro oedd Mr Pierce, ac yn dra adnabyddus i gylch eang oblegyd ei breswyiiad hir yn y ddinas. Meddai gvmeriad a chryn lawer o neillduolioa yaddo. Yr oedd wedi darllen Uawer, ac wedi coledd rhai syniadau dyeithr ond er fod parthynas agos rhwng cred a buchsdd, eto barn pawb a ad Wctenent yr ymadawedig ydoedd ei fod yn ymar weddu'n hardd. Bu'n mynychu addoldai y Tab- ernacl, Park Roai, a Grove Street, ac yr oedd ya un o ffyddloniaid yr Ysgol Sul. Cyfeiriodd y Parch D. Adams, B.A., at ei farwolaeth mewn geiriau tyner nos Sul, ac efe a weinyddai yn yr lingladd ddydd Llun. Mab i'r ymadawedig yw y Parch William Pierce, aydd wedi enill gradd dda o boblogrwydd fe! gweimdog yn Llundain, a'r hwn a briododd ferch i'r diweddar Barch Noah Stephens, Park Road. YR HAF YN Y WLAD. Pwy bynag sydd ganddynt Dai neu Ystafelloedd ar osod yn y dref neu yn y wlad neu pwy bynag sy'n dymuno cael lletty mewn unrhyw ran o Gymru, modd goreu iddynt sicrhau yr hyn a geisiant yw trwy hysbysebu yn y Cymro—y cyfrwng hysbysiadol goren. 18 gair am 6ch., a cheiniog am bob tri gair dros hyny
Undeb Cynuileidfaol Cymru…
Undeb Cynuileidfaol Cymru yn Liundainl, AM y tro cyntaf erioed cyfarfu yr Undeb Cynul1- eidfaol Cymreig yn Llundain, gan gynal y cyrddda u yn y Memorial Hall. Deohreuwyd yr eistedti. iaahu nawn ddydd Iau, Mr. C. R. Jonep, Y.H., Llanfyllin, y llywydd am y flwyddyn, yn y gadair. Efe a Mr Thos. Williams, Y.H., Gwaelod- ygarth, yw'r unig ddau leygwr sydd wedi llanw swydd bwysig hon. Dyma grynhodeb byr o'r gweithrediadau, a bydd adroddiad cyflawnach yn ein nesaf. Darllenwyd yr ystadegau gan y Parch T. G. Jeokyn, Llwynpia: Eglwysi, 1,058 cymunwyr, 143,484, cynydd o 2,832; aelodau'r Ysgol Su), 131,876 gwrandawyr a phlant, 140,196; casgliad- au eglwysig, 143,544 at y colegau, 12 503p cen- adaethau, 6,417p. talwyd o ddyledion capeli, 29,721p cyfanswm y casgliadau, 173,092p. Penodwyd y Parchn H M. Hughes, Caerdydd D. Oliver, Treffynon; W. Thomas, Whitland; Job Miles, Abprystwyth; Mri W. Williams, Aber- tawe, a B. G. Evans, Caernarfon, i gynrychioli'r Undeb ar Gynghrair Eglwysi Rhyddion Cymru. Ymgeisiai Llanelli a'r Bala am gyrddau'r Undeb y flwyddyn nesaf. Trwy fwyafrif o 13, pasiwyd i'w cynal yn Llanelli. Pasiwyd penderfyniadau (1) yn condemnio'r cais i sefydlu Prifysgol Babyddol yn y Werddon dan nawdd y Wladwriaeth (2) yu datgan cydymdeim- lad a theulu Mr Gladstone, ac yn datgan gofid o golli'r gwladweinydd; (3) yn cydymdeimlo a theuluoedd brodyr fuont feirw. Etholwyd y swyddogion canlynol am y flwydd, yn nesaf trwy bleidlais :-Llywydd, Parch W. Thomas, Whitland ysgrifenydd am dair blynedd, Parch Ben Evans, Llanelli trysorydd, Mr Thomas Williams, Y.H. ystadegydd, Parch T. G. Jenkyn; ysgrifenydd arianol, Parch D. A. Griffith. Yn yr hwyr, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn y City Temple, Dr Parker yn y gadair, gan yr hwn y caed anerchiid grymus yn condemnio defodaeth. Caed areithiau gan y Parchn O. Lloyd Owen, Cei- newydd, ar Ddyledswyddau Ymneiilduwyr yn ngwyneb ymosodiad y Babaeth Parch J. T. Davies, Pontardawe, ar Ddirwest a'r Parch 0 L. Robeits, Lerpwl, ar Fywyd ^iyddol y trefi mawrion ei fanteision a'i beryglon." -:0: Bwrie dir ail-argraphu yn swyddfa'r Cymro hun- an-gofiant Richard Davies, Cloddiau Cochion, sir Drefaldwyn. Mae hanes bywyd y gwr yma, prL arwr y Crynwyr Cymreig, ac un o'r rhai mwya. hynod yn mhlith enwogion y Ffydd, yn ddyddoroi iawn. Bu Ysgol Laeth Symudol Coleg y Brifysgol Bangor yn cynal arddaDgosiadau yn Gronant. Eoillwyd y chwe' ysgoloriaeth gan y rhai canlynoi: -1, Mrs Jones, Nant, Prestatyn; 2, Mrs E. Davies, Tanllan, Llanasa; 3, Miss Maria Profit, Top Gronant; 4, Miss Emily Jones, Pant Glas, Llanasa; 5, Miss Elizabeth Williams, Grocas, Llanasa 6, Miss M. J. Evans, Canol-y dre, Gronant. Caiff y rhai hyn fyned i Ysgol Laeth Lleweni am chwech wythnos. Paham y telir Is 10c a 2s y pwys am De Ceylon ewn pecmyaau addurnedig ? Grellir cael Te o ansawdd rhagorach am Is 6c y pwys gan BARBER a'i GWMNI, Masnachwyr Te, 1, Church Street, Lerpwl, a thelir ludiad i Chwe' Phwys unrhyw gyfeiriad yn y Deyrnas Gyfunol.
Advertising
Yn awr yn barod, pris Swllt. LLAWLYFR DIRWESTOL: At wasanaeth Temlwyr Da, y Cymdeithasau Dirwestol, a'r Gobeitbluoedd Cymreig (buddugol yn Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl, 1897). .Gan THOMAS JONES, Birkenhead, gyda rhagymadrodd Gan y Parch. GRIFFITH ELLIS, M.A. ARN Y BEIRNIAID AC ERAILL. Rhydd yntau ddarluniau a rhestrau gwerthfawr. Dyma y cyfansoddiad sydd, yn fy marn i, yn deiiwng o gael ei osod yn orea a derby a y wobr. Y mae hefyd yn gwbl deiiwng o gael ei argraphu, a hyderaf y gwna fawr les-Parch DANIEL ROWLANDS M,A., Bangor. Mae yn wiv muitum in parvo, yn llawer mewn ychydig, heb ddun lie i gwtogi arno, Os argrephir ef yn fuan gwna lawer iawn o les.—Dr R. THOMAS JONES, Y H., Ha, lech. Yr wyf yn credu fod y Llawlyfr yn bollol deilwng i'w argraphu, ac y gwua les mawr i weithwyr gyda'r Achos Dirwestol ac eraill. Nis gallaf ond rhodui canmol- iaeth uctiel iddo.-Parch GRIFFITH ELLIS, M.A. Aethum drosto mor ofalus ag y gallwn, ac yr oeddwn yn cael fy moddhau yn fawr ynddo. Y mae yn syml, yn gryno, ac yn gyflawn ac nis gall ei gyhoeddiad a'i ledaeniad lai na dylanwadu yn nerthol yn mhlaid llwyrymwrthodiad.—Parch EVAS JONES, Caernarfon. Ystyriaf ei y trysor dirwestol gwerthfawrocaf a gyflwynwyd yn Gymraeg i'r genedl o gwbl.—PI-ENYDD. I w gael gan LLEW WYNNE, 93 Westbourne Rd, Birkenhead Tylerau arbenig i Demlau, Cymdeithasau, a Gobeithluoedd. Ailan o'r Wasg, pris Is. Ce. MYNYDD PARYS (GYDA DARLUNIAU), gan yr Henadur O. GRIFFITH, Pensarn, Amlwch. Gwel sylwadau y Genedl,' New Age,' Cymro,' Llusern,' Werin,' 1 Cymru,' Herald Cymraeg,' &«., &c., &c. Fel h>u y dywed Mr Owen M. Edwards, M.A.: Y mae'r difrif- wch a r direidi yn adlewyrchu ar eu gilydd yn gan pus. Mae'r Awdwr yn cydio yn y darllenydd ac yn ei gario gydag ef- weitiiiau i chwerthin nes bo'i ochrau'n gwynio, dro arall i lidio'n enbyd wrth edrych ar gam ddarlunir mor gynil ond mor rymus, dro arall i gael golygfeydd a dwluniau nas gwyr yn iawu pa un ai gwenu neu wylo yw'r peth hawddaf iddo uwch eu pen." Pob archebion i'w danfon yn uniongyrchol i'r Awdwr. YN EISIAU. Am Hysbysiadau o Yn Eisiau," &c., yn cynwys 18 o Eiriau neu lai, codir 6c ac yn ol Ie am bob tri gair dros hyny. Blaen-dal yn unig.] T^WAIJA HOME AND REGISTRY, 2, \J' Hope Place, Liverpool. YN EISIAU.— MORWYNION parchus i leoedd da. Ymofyner i'r Atoiyges, Miss K. B DAVIES, 2, Hope Place, LI ver pool. MRS. ROBERTS'S First Class AGENCY ler ladies and reliable servants only. Special interest in country girls. Call or write. Stamp lOr reply.—10, HATHERLEY STREET, Princes Ivenue, Liverpool. Hoults :-10 till 4. Saturday, 12, YR HAF YN Y WLAD. I LLETTY YN Y WLAD.-Parlwr ac Ystafell j Wely ar osod mewn ffermdy cysurus yn nghanol i Uyffryn Clwyd. Telerau rhesymot. Cyfeirier yn Inghyntaf "D. Clwyd," Cymro Office. I I CYFARFOD CYSTA LEUOL CAPEL ANFIELD ROAD, [ A gynelir TACHWEDD 2Qain, 1898 RHAI O'R TESTYNAU. I RHYDDIAETH. 1.—rHanes Eglwys Anfield Road o'i cbychwyniad L cyntaf yn Walmsley Street Gwobr, 4p. 4s. 2.—Bywgraphiad o'r ddiweddav Miss Annie Wil- liams (1 rai dan 25 oed). Gwobr, Ip. la. BARDDONIAETH. 5.—Dernyn, heb fod dros 150 na than 120 0 lin- ellau, Deuwch a gwelwch" (loan i, 39). Gwobr, lp. Is. ¡ 6.—^Duchangerdd, heb fod dros 50 0 linellau, Liadron Amser." Gwobr, 103. 6c, CERDDORIAETH. ¡ 8.-Cor, heb fod dros 25 na than 16 mewn nifer, a gano oreu, "Y dwfn ddistawrwydd (Mendel- ssohn). Gwobr, 2p. 2s. 1 9.—Cor o Blant (dan 16 oed), heb fod dros 20 na than 16 mewn nifer a gano oreu, "Cysegriad" [Tom Price). Gwobr, lp. Is. ADRODDIADAU. 17.-Agored i bob oed, Marwolaeth Eagob Heber (Blackwell). Gwobr, 78. 6c. CELF. 19. -Crayon Drawing of David Hughes, Esq., J.P. Gwobr, 2p. 2s. I Rhestr gyflawn i'w chael am geiniog oddiwrth 11 yr Ysgrifenydd, S. G. ROBERTS, 10, Couingsby Road, Anfield. A oes genych eisieu MORWYN Hysbysebwoh yn y Hymro. 18 gair am 60h. I Telephone No. 2308. W. BOOTE & Co 120, Paddington. Jams, Marmalade, Bottled Fruit and Candied Peel Factory- 61, Mason St., and Brydges St. Pickle, Sauce, &c., Factory- 64, Mason Street. Mineral Water Company— Back Mason Street, Te Blending Rooms- 122a Paddington. Coffee Roasting Warehouse- 122, Paddington. Teas, 7s. 4d., Is. 8d. and 2s. per lbrl Prynwch y Te Cymreig hen ffasiwn. I'w gael yn unig yn y lleoedd canlynol "Branch Establishments: 124, Paddington, 119, Brunswick Road, 121, Prescot Road, Fairfield, 407, Smithdown Road, 135, Upper Warwick Street, 4. St. James' Placa, 285, Breck Road, 115, Kensington, 69, Breckfteld Road, N. 32, Smithdown Road, 66, Lodge Lane, 93, Byrom Street I LIVERPOOL.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU Hughes-Meh. 9, yn 26 Cam Street, Lerpwl, priod Joseph Hughes, ar fab. Roberts-Meh. 7, yn 32 Harlech Road, Blundellaands, priod R. Roberts, F.R.C.V.S., ar fab. Williams -Meh. 6, yn 25 Priory Street, Birkenhead, priod John Williams, ar ferch. winiama-Meh. 10, yn 4 Mandeville Street, Walton, priod R. P. Williams, ar fab. prioOasau Hughes-Thomas-Meh. 13. yn Eglwys St. Bride, Lerpwl, gan y Parch W G. Stote, Ivor Aneurin Hughes, mab y diweddar Barch R. O. Hughes, rheithor Llysfaen, a Louie, merch Peter Thomas, Lerpwl. JoneSl-Morgan-Meh. 8, yn nghapel M.C Penuel, Ponty- pridd, gan y Parch William Lewis, ya cael ei gynorthwyo gan y Parch J. Morgan Jones, Caerdydd Thomas Lloyd, mab hynaf Thomas Jones. Five Elms, Grassendale, a Lizzie Morgan, merch ieuengaf y diweddar Morgan Morgan, Ysw The Grove, Pontypridd, imarwotaetl)au. Fraucis-Mehefin 2, yn ddisyfyd, yn 5 mis oed, John Thomas anwyl faban, ac un o efeilliaid, Mr a Mrs Francis, Merte, Place, Birkenhead. Lloyd-Meh. 10 yn 1, Lothair Road, Anfield, yn 78 oed, Margaret, gweddw Wm. Lloyd. Morris—Meh 11, yn 6 Ridgeway Street, Edgehill, yn 5. oed, John G. Morris. Owen-Ebrill 5, tuallan i Cape Horn, yn 32 mlwydd oad, David, unig fab Mr a Mrs Owen, Ty'n Park, Sarn, LIeyn. Owen-Meh. 12, yn y Woodlands, Ledsham, yn 70 oed, Ed- ward Owen (gynt o Bodfari) Pierce-Meh 9. yn Ysbytty Deheuol Lerpwl, yn 79 oed, Robert William Pierce, 67 Holden Street. Thomas—Meh. 11, yn 38 Linnet Lane. ar ol cystudd byr, yn 65 oed, Robert Thomas Williams-Meh. 9, yn 157 Kensington, yn 63 oed, Frances Ann, gweddw Evan Williams, gynt o Saltney. Williams—Meh. 9, yn mhreswyl ei frawd, y Pa.rch W M. Williams, 14 Milton Road. Birkenhead, B. T., mab ieuengaf y Parch W. Williams, Llangenech. Williams-Meli. 9, yn Gwalia House, Hi»lifield Street, Ler- pwl, Gaynor, priod Robert R. Williams.
Advertising
PRETTf TEETH ARE ATTRACTIVE. W. JONES, Dentist, 29, HIGH ST., W A VERTREE. All Clients receive Mr. JONES'S personal attention, and the benefit of his 22 years experience as a Deatiat. Painless Extractions under Nitrous Oxide Gas. HIGH CLASS ARTIFICIAL TEETH, natural Shape, Size and Colour, 3s. to Sis. each. Old Sets and Misfits re-made on New Setting at about half the original cost. Repairs to Artificial Teeth and Plates, any Makers', completed in a day if required. Consulations Free. Telephone, No. 25 Wavertree. Siiriedir Cymraeg neu Saesneg. Pamphlet gratis. Printed and Published by ISAAC FOULKFS at his Printing Establishment, 8, Parodlae Street in the Parish ef Liverpool, in the Ceaaty of Laaoaster