Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Nodiadau gan Diogenes.
Nodiadau gan Diogenes. SUL YR YSBYTTAI, 1898: CASGLIAD CYMRY LERPWL Y Twb, Mehefin xxz, Y MAE y Cymro wedi bod o wasanaeth diail Gymru, i'r Cymry, ac i'r Gymraeg ac yn neillduol yn Lerpwl yn y tri chyfeiriad. Nid y gwasanaeth Ueiaf a wnaeth oedd cynhyrfu eiddigedd o blaid yr Ysbyttai dinesig, gan ddwyn ar gof i'n cyd-ddinas- yddion ein dyledswydd i ychwanegu haelioni tuag at y sef jrdliftdau dyngarol hyn. Nid dyben y Ilytbyryn hwn ydyw cwyno fod yr hyn a wnaed yn ddieffaith, nage, y dyben ydyw cyfeirio at lwydd- iant amlwg. Yr oedd casgliadau Gymreig Lerpwl ar Sulvr Ysbyttai yn 1892 £ 92 9 0 1893 119 10 11 1894 130 3 1 1895 141 4 6 1896 178 13 1 1897 194 5 3 1898 245 8 6 Os poddefir gofod i ddangoa manylion y ddwy flynedd ddiweddaf canfyddir eu bod fel y oanlyn Meth. Calfinaidd 1897 1898 Anfield 25 0 0 38 18 7 Catherine Street 6 4 11 6 15 6 Chatham Street. 7 3 0 8 3 3 Crossha.11 Street. 2 3 0 2 10 0 David Street 14 0 6 15 6 5 Fitzclarence St 11 13 9 14 4 7 Garston 8 7 7 11 0 0 Holt Road 5 3 6 8 3 3 Netherfield Road 7 0 0 7 10 0 Newshatn Park 4 8 10 7 4 9 Oakfielcl Road 8 19 8 6 5 2 Princes Road 40 0 0 50 5 5 Walton Park 1 2 11 2 7 6 Webster Road 2 11 6 3 13 1 Spellow Lane, 2 16 9 Huyton Quarry. 0 14 0 -Rigby Street 0 10 6 144 9 2 186 8 9 Annibynwyr Tabernacl 5 14 6 5 13 1 Park Road 5 14 0 7 8 7 Gt. Mersey Street 2 7 8 2 15 9 Kensington 0 18 0 1 13 0 Grove Street 8 12 0 10 2 6 23 6 8 27 12 11 Wesleyaid Princes Avenue. 7 8 10 10 0 b Shaw Street 3 1 6 3 14 4 Boundary Street 2 6 6 3 0 0 Plimsoll Street 1 0 0 1 6 0 13 16 10 18 0 10 Bedyddwyr Everton Village. 5 18 0 4 14 6 Bousfield Street. 2 0 0 2 4 0 Windsor Street 1 15 0 2 0 0 Edge Lane 1 0 0 9 13 0 9 18 6 Bglwyswyr St Dewi 3 0 0 3 7 6 Nid oes angen hogi min y ffigyrau hyn. Dangos ant yn eglur fod mwyafrif Oymry Lerpwl yn ymr ddeffro. Yr hen bethau a aethant heibio, ar ddyledswydd sydd arnom i gvdnabod gwerth y Ysbyttai i'n ceuedl ni yn ein arwain i edifeirwch, ac i sier amcanu buchedd newydd. Yn ol ein rhif yn y ddinas dylem roi tua 750p at yr Ysbyttai, yn 01 yr hyn a roir gan eraill. Y mae genym felly dir lawer i w amaethu, a He digonol i ymhelaethu, ac i wneud chwedl Tennyson-" Stepping stones of our dead selves to higher things"—i ddefoyddio y cynydd sydd yn sylfaen ac yn ysgol i'r cynydd fydd. Nid ydyw y Cynig yn gwneud rheol o ganmaw], ond da iawn ganddo y tro hwn wneud hyny mewn ysbryd gwir ddiolchgar.-Yr eiddoch yn gywir, DIOGENES.
Llenyddiaeth.
Llenyddiaeth. COFIANT A PHREGETHAU Y PARCH JOHN HUGHES, D. D., dan olygiaeth y Parch IJ OHN \IV ILLIAMS, Princes Road, Lerpwl. YR oedd yn wybyddus er's tro beliaoh fod y Parch John Williams, Princes Road, yn parotoi cyfrol o go:ffdwriaeth i'r diweddar Dr Hughes. Erbyn hyn v mae'r Rhan 1. allan o'r wasg, a chawsom lawer I iawn o hyfrydwch wrth ei adaillen. Dywedir mewn aodyn ar ei ddechreu fod y gwaith i'w gwblhau mewn chwech o ranau swl!h yr un, as addewir y bydd yr olaf allaa cyn pan y flwyddyn. Os bydd y rhanau eraill yn debyg o ran maint, gwnant gyda'u I ?i]ydd gyfrol yn cynwys oddeutu 500 o dudalenau. Y mae yr argraphwaith yn rhagorol, y papyr yn I jda, a'r llythyren yn glir a deniadol i edrych arni. Cedwir y cofiant fel yr ymddengys hyd y diwedd, to yn sicr bydd 11awer fel lIinu yn disgwyl vn twchus am dano. Yn y rhan hon, ceir chwech o ) bregethau, yn nghyda dechreu y seitbfed-pregeth. i 1U Dr John Hughes, gan mwyaf fel yr ysgnfenwyd iwynt ganddo ef; a gwyr y Cymry yn dda. p; fath ) bregethau a gyfansoidai-yn sicr teilyngaat le yn mysg ceinion gwerthfa,wrocaf llenyddiaeth grefydd- al ein gwlad. Adwaenid eu liAwdwr gan bawb fel i »wr o alluoedd meddyliol anarferol o ddssglaer gafaeLjki yn y Beibl a n-srth cavvr, ac fel rheol dewis- li rai o ddyrys-bynciau anhawddif y Be bl i draethu irnynt. A phan yn ymlafurio ag un o'r rhai hyny, dyna.'r adeg y gwelid ef ar ei oreu. Medrai drafod pwnc o athrawiaeth mewn modd nod dig o ddy- ddorol gwyddai pa fodd i ddefnyddio ei alluoadd desgrifiadol, ei ddychymyg, a'i arabedd fel ag i ddenu y gynulleidfa i wrando. Yr oedd amryw- iaeth ei dalectau yn eithriadol. Nodwedd amlycaf ei feddwl, o bosibl, ydoedd ei dreiddgarwch a'i gryfder deal I ol--athronydd o bregethwr yn hoffi cloddio i'r dwfn ac ymholi yn nghylch y sylfei ii; ond er hyny, medrai bortreadu a thynu darluuiau byw o flaen llvgaid ei wrand-Awyr-yr ardduaol neu y toddedig, y brawychus neu y prydferth. Nid oedd yn ol i neb o'i frodyr am ffraethiDeb a doniol- deb medrai ysmalio neu wawdio, goglais neu dry- wanu, suo neu daranu a pha beth bynag a doy. wedai, gwisgai y cyfan yn yr iaith fwyaf detho;edig a dillynaidd. Yr osdd yn feistr gwirioneddol ar y Gymraeg. Y mae y nodweddion hyn i'w canfod yn ei bre- gethau argraphedig. Un peth sydd ar unwaith yn tyau ein sylw ydyw rhagoroldeb yr iaith-ei nerth a'i choethder. Y mae yn fwy Ilithrig ac ystW) th nag oeddym yn ddisgwyl, yn llawer mwy fellv nag yn ngwaith yr awdwr ar Hanes yr Athrawiaeth. Ond y mae liai o'r cywrain ynddi nag a nodweddai ei bregethau fel y traddodai hwynt. Clywsom ef lawer tro yn llunio ymadroddion ac yn bathodi geiriau celfydd dros ben weithiau byddsi yn dem- tasiwn gwylied ei orchestion pan yn cordaddu ac yn troelli ei frawddegau, nes annghofio pobpeth arall. Ond nid oes ond ychydig o hyny yn nod- weddu y pregethau hyn. Y maent mewn iaith ddyrchafedig, ond nid or gywrain, yn gwasanaethu i egluro y mater ac Did i ddangos eu hunain. Cawn hefyd rai fflachiadau o'i ddychymyg a'i arabedd, ac y m%e yma nifer o ddarluniau gwir darawiadol. Ni oddefia gofod i ni ddyfynu ei eiriau, ond gallwn gyfeirio at un enghraipht nodedig, sef ei ddarluniad o Solomon, yn y Bregeth IV,, yn chwilio am fodd- lonrwydd a gorphwysdra i'w feddwl. Yr ydym yn cofio gwrando y bregeth hon pan yn bur ieuano, ac yr oedd yn odidog wirioneddol, Yn ei chanol, cyfeiria at ddysgeidiaeth y pessimists, sef y dynion sydd yn cyfrif bodolaeth yn drychineb, ac yn dad- leu fod angeu yn well na bywyd. A dywed y pre- gethwr, "Tybiaf fod yn y llyfr hwn (Llyfr y Pre- gethwr) un adnod sydd yn dangos y bu Solomon, ar un adeg o'i oes, ar fin fjyf thio i'r cyfeiliornad." Yn y fan yma rhoddodd her i'w wrandawyr i ddar- ganfod yr adnod mewn ewestiwn. Nid yw hyn yn y bregeth argraphedig—ac yr ydym yn cofio darllen y llyfr mewn canlyniad, a dyfod i'r casgliad mai yr adnod y cyfeiriai ati ydoedd y drydedd yn y bed- waredd bennod. A oeddym yn iawn, tybed? Ond yn sicr yr hyn esyd werth parhaol ar y pre- gethau hyn ydyw y cyfoeth o feddyliau sydd yn- ddynt. Y mae rhai ohonynt, ac yn enwedig y gyntaf, yn werth eu hastudio'n fanwl. Nid ydym yn gwybod i ni erioed ddarllen trafodaeth fwy ban- igamp ar yr angenrheidrwydd am, ac eto wirfodd- olrwydd hoilol, marwolaeth y Groes y Mab o dan rwymau aaorfod i roddi ei einioes i lawr oherwydd gorchymyn ei Dad; ac eto ar yr un pryd yn gwneud hyny o'i ewyllys ei hun. Dyma fwyd cryf ac iachus, ac yr ydym yn credu yn sicr fod y bregeth gyntaf hon ya llwyddo i daflu llif o oleuni ar y ber- thynas rhwng y Tad a'r Mab yn y Drindod Sanct- aidd, Pregeth arall wir ragorol ydyw y drydedd ar "Y Gorchymyn Hen a Newydd." Yr ydym yn cofio gwrando y bregeth hon mewn Cymdeithasfa yn Mhwllheli. Yr oeddym ar y pryd yn eistedd ar ymyl yr oriel yn nghapel Salem wrth ochr un o weinidogion Dyffryn Clwyd-os y digwydda weled y sylwadau hyn hwyrach y gall yntau gofio yr am- gylchiad. Pan gymerodd y pregethwr ei destyn, trodd fy nghyfaill ataf, ac meddai, Wei, rwan am dani hi-mae gen ine bregeth ar y testyn yna." Aeth y pregethwr rhagddo i ragymadroddi ac i godi penau y bregeth, a chyn pen nemawr o amser yr oedd yn hwyiio'n fawreddog trwy ganol y gwirion- eddau mwyaf gogoneddus. Yn anffodus, nid oes mo haner y bregeth hono ar gael i'w hargraphu. Rhywbryd ar ei chanol trodd fy nghyfaill ataf dra- chefa a golwg siomedig ar ei wynebpryd, ac meddai, Dyn a'm helpo, 'doeddwn i wedi gweled dim o'r pethau yna yn y testyn." Rhywbeth yn debyg ydoedd profiad ami bregethwr wrth wrando arno pan ar ei oreu. Ac er fod y llais wedi tewi yn awr, a'r meddyliwr cryf a gloyw wedi ein gadael, y mae ef yn llefaru eto, ac i barhau, ni a obeithiwn, am lawer o flyuyddoedd, yn y pregethau sydd yn awr wedi, ac i gael, eu cyhoeddi. Hyderwn y cant led- aeniad eang, ac y darllenir hwynt yn fyfyriol gan filoedd o'n cydwhdwyr, W,
--:0:---:-Mr. T. E. Ellis
-0 Mr. T. E. Ellis HYSBYSIR fod effeithiau enyniad yr ysgyfaint ar Mr Ellis wedi ei wanychu yn fawr, ac am hyny bydd ei adferiad yn llawer arafach nag y dis- gwylid. Oblegyd hyn bu raid iddo ohirio er ymrwymiadau hyd amser anmhenodol. Ar yi un pryd, y mae gwrs yn well nag y ba, ac nid oes achos pryderu yn ei gylch yn awr. o Bwriedir ail-argraphu yn swyddfa'r Cymro hun- an-gonant Richard Davies, Cloddiau Cochion, sir Drefaldwyn. Mae hanes bywyd y gwrymi, pri arwry Crynwyr Cymreig, ac un o'r rhai mwya hynod yn mhlith enwogion y Ffydd, yn ddyddoro iawn. Penodwyd Mr Lleufer Thomas i ado!ygu'r j enwau Cymreig ar fapiau swyddegol y Llyw- odra#th.
[No title]
Mr. John Morris, Y.H. UN o Gymry parchusaf ac un o fasnachwyr mwyaf adnabyddus Lerpwl, yw Mr John Morris, Y. H., ac efe eleni yw Llywydd yr "Incorporated Trade Protection Society yn y ddinas, yr hon gymdeithas, yn ol ei harfer blynyddol, fu ar ddeuddydd o ymdaith ddyddiau Gwener a Sad- wrn cyn y diweddaf yn Hanghmond, Buildwas, a Wenlock, sir Amwythig. Mab yw Mr Morris i'r diweddar Mr Evan Morris, sefydlydd y ffirm sydd mor hysbys i Gymru oil wrth yr enw Mri Morris & Jones, rnasnachwyr cyfanwerthol, 13, Sir Thomas Street. Trwy graffder a dyfalwch Mr John Morris i raddan helaeth y cyrhaedd- odd y ffirm hon ei safle bwysig bresenol. Gan- wyd Mr Morris yn Llansannan, ger Dinbych, tua 46 mlynedd yn ol derbyniodd ei addysg yn y Liverpool Institute, ac wed'yn ymunodd a'i dad mewn masnach. Cyfunir ynddo nod- weddion goreu y Cymro ac ysbryd anturiaethus, masaachol, y Siis. Perchenoga un o'r llyfrgell- oedd goren o hen lenyddiaeth Gymreig. Chwe' blynedd yn ol, fe'i dyrchafwyd i'r fainc ynadol yn sir Ddinbycb, ac y mae ei bwyll yn ei gwbl gymhwyso i weinyddu'r swydd. Y mae'n flaenor yn eglwys Fethodistaid(I David Street; yn ael- od o Gynghor y Gymdeithas Genedlaethol, ac yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion. Y mae yn preswylio yn Parkfield Road, Ler- pwl ac y mae ganddo hefyd anedd yn nhaw- elwch ei fro enedigol Hiraethog, sef Lletty'r Eos, Llansannan, hen gartref ei henafiaid. Dyn dystaw, llednais ac addfwyn ydyw Mr Morris ae y mae'r nodweddion hyn yn ei wneud yn hoff nid yn unig gan ei gydgenedl ond hefyd gan bawb o'i luaws cydnabod. Fel llywydd y Gymdeithas bwysig a gwertbfawr a nodwyd-eymdeithas a fu o fawr fudd i fas nachwyr er eu dyogelu rhag twyll-lleinw swydd o anrbydedd a chyfrifoldeb. Fel mas- naihydd, rboddir iddo y gair ucbaf am ei un- iondeb, ac enilla barch pawb y daw i gysylltiad a hwy.
--v--Eisteddfod Genedlaethol…
--v-- Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog. YN y rhifyn diweddaf, hysbyswyd fod 5 yn 7m. gais yn y brif gysttdleuaeth gorawl, a 7 yn yr ail. Yn ychwnegol, dymunir arnom nodi a ganlyn :— Corau Meibion—Gwalia, Llanberis, Port Talbot Meib yr Eryri, Cefnmawr, Rhos, Corris ac Abergyn- olwyn, a Workington-8. Corau Merched-Beaufort, Abertawe, Nantlle, Manceinion, Cymric (Llundaiii), Gwalia, Tegid—7. Corau plant-Trawsfynydd, Corwen, Ogwen, Bryn- bowydd, Penmachno. Penrhyn, Aberdyfi. Tegid—8. Pedwarawd, 24 Triawd, 28. Deuawd, 38. Unawdau-Soprano, 43; Contralto, 45 Tenor, 52; Bariton, 64; Bass, 46. Canu Penillion gyda'r delyn-dull y De, 4; dull y Gogledd, 10; i rai na enillasant o'r blaen, 7. Canu pedwarawd ar yr olwg gyntaf-6. Offerynol—Seindyrf, 8; Seindyrf Cymreig, 11. Unawd ar offeryn, 16. Mintai Gerddorfaol, 2. Ped- warawd ar OSerdd Cerdd Llinynawl, 1. Unawd ar y Crwth, 10; eto, un arall. 14. Unawd ar y Delyn Deir- res, 2. Unawd ar Offer Cerdd neillduol, 6. Ar y berdoneg, 15; eto i rai dan 16eg oed, 24. Unawd- au ar yr Organ, 6. Celf-Darli.in mewn olew o Destyn Hanesyddol Cymreig—4. Landscape in Oils—4. Six Sketches of Welsh Subjects-12. Fireplace Frieze—3. Modelling in Clay of a Head from Life—2. Carving of an "Ancient Welsh Harp- ist "—-1, Mirror Stand —1. Cwpwrdd Tridarn-2. Six Sketches in Wales—1. Study from Life, in black and white-5. Cynllun o goffa i Llewelyn ap Gruffydd-2. Cyn- llun o gadair bardd—8. Cynllun o Dystysgrif -4. Ornamental Wrought-Iron Door Handle—1. Cyn- llun o dai gweithwyr-12. Cynllun o ffermdy-4. Six Photographs of Welsh Mountain Scenery—1. Six Photographs of Old stone bridges in Wales—1. Set of not less than six Photographs illustrating the Chief Industries of Wales-1. Series of not less than twelve Lantern Slides of any Welsh Industry—1. Llyfr-rwymo— 1. Etching—1. Casgliad o Redyn Gogledd Cymru-2. Domestic Art-Patchwork Counterpane—21. Foot Mat-12. Llian bwrdd-15. Slippers-6. Menyg gwlan-22. Hosanau-20. Four Sheets of Elementary Freehand Drawings—6. Four ditto for Standard VI.—4. Outline Drawing of a Model or Group -6. Cystadleuaeth Hollti Llechi (dosbarth A)—25 eto dosbarth B-ll. Saith lath o Tweed Cymreig -21. Deg Hath o wlanen Gymreig—11. Tair Hath o Gymreig -19. Nyddu hefo'r droell ar y llwyfan-7. Adrodd "Arwerthiad y Caetb was"52 '^Syr J Hamlyn-Williams Drummond sydd wedi ei godi yn Arglwydd-Rhaglaw sir Gaerfyrddin fe olynydd i'r diweddar Arglwydd Oawdor. Penderfynodd Cynghrair Glowyr Northumber- land gyfranu 200p yr wythnos tuag at gronfa glowyr y.De tra pery'r annghydfod yno.
Advertising
Y Iihan Gyntaf yn awr yn barod. .f Mewn Chwech o Ranau, Swllt yr un, GYDAG AMRYW ARLUNIAU, PREGETHAU A CHOFIANT Y DIWEDDAR Barch. JOHN HUGHES, D.D., TAN OLYGIAETH Y Parch. JOHN, WILLIAMS, PRINCES ROAD LERPWL. Fob archebion 2w hanfon i SWYDDFA'R "CYMRO, 8, Paradise, Street, Liverpool.
Yn Nghwmni Natur a'i Phiant.
Yn Nghwmni Natur a'i Phiant. Y TROELLWR. DYMA un o'r adar rhyfeddaf sy'n dod trosodd i'r wlad yma yn ystod misoedd yr haf, ac y mae'r olaf i ddod, gan nad yw'n cyrhaedd hyd ganol mis Mai. Yn ystod ei arosiad, fe lenwa le pwysig yn nhrefn Natur i gadw i lawr greaduriaid dyfethgar. Wedi i'r wenoliaid a'r adar eraill noswylio, daw amryw greaduraid allan gyda'r gwyll i ddechreu ar eu gw,ith-y Dylluanod, yr Ystlumod, a chyda hwy y Troellwr. Pwy sydd heb sylwi ar y swn rhyfedd a wna ? Pan yn rhodio gyda'r hwyr ar noswaith ddystaw yn mis Mehefin, clywir swn megys olwyn trcell yn mhlith y grmg a'r rhedyn. Galiech dybied fod y creadur yn ymyl ar un foment, ond y nesaf y mae fe! pe yn y pellder draw. Achosir yr effaith tafl- leisiol yma gan yr arferiad sydd ganddo o siglo ei ben o'r naill ochr i'r Hall wrth wneud y swn. Nid oes swn tebyg iddo yn mhlith yr adar. Y nesaf ato yw eiddo'r Anhywel (Grasshopper Warbler), ond y mae swn hwnw yn debycach i "glic, glic," V Sponcyn Gw&ir. Y mae gan y Troellwr swn arall heblaw &wn troell. Cefus gyfla i'w glywed yr wythnos ddr- weddaf. Digwyddodd i un ddisgyn ar graig heb fod yn mhell oddiwrthyf, an wedi gwrando arno'n troelli am ychydig, symudais yn nes ato yn araf yna cymerodd yr aden, gan alw'n uchel Co ic. co-ic "-arwydd, i'w gydmar mae'n debyg, fod perygl yn agos. Peth rhyfedd yn perthyn i'r Troellwr ydyw ei arfer o eistedd ar hyd canghen pren, ac nid yn groes, fel y gwna adar eraill. Gall fe! hyn eistedd ar ganghen nwchben yn hollol anweledig i'r aawl fo odditano, serch iddi fod ya noswaith olea leuad glir. Beth ywr rheswm dros hyn nis gwn, ac nl chlywais esboniad boddhaol arno. Ond y peth rhyfeddaf a berthyn iddo ydyw'r crib sydd ganddo ar fys canol ei droed. Nid oes dim tebyg i hyn gan yr un aderyn arall y gwyddom am dano yn y wlad yma. I ba beth y mae yn dda tybed? Dywed Gilbert, White mai i ddal gwyfon a chwilod y mae yn dia, a'i fod wedi gweled yr ad- eryn yn ei ddefayddio. oad anhawdd iawn derbyn hyn, gan mai ar yr aden y bydd yn dat y rhan fwyaf o'i fwyd, ac y mae Natur wedi ei gynysg- aeddu I cheg heb ei bath at y gw»ith—" o gluet i glust," fel y desgrifir ceg arabell wladwr—fel nad oes arno angen help troei at y gwaith. Arall a awgryma mai i lanhau ei gorph oddiwrth y pryfed raid fod wedi ctsglu arno trwy ei fod yn gorwedd cymaint ar lawr yn mhlith y grug a'r rhedyn yn ystod y dydd. Ond os angen hyn ar y Troellwr, pahatn hefyd na cheid yr un offerya yn meddiant leir Mynydd a Phetris ? Y cynyg olaf ydyw—a hwn, mi gredat, syd,l fwyaf derbyniol-mai i lanhau ei farf y mae'r crib da. Y Troellwr sy'a difa'r gwyfon mawr sy'n codi allan y nos, a chan fod adenydd y creaduriaid hyn vn llychlyd dcos ban, ac fod gan y Troellwr fwy o flew ar ei wyneb ni'r cyffredin o adar, bydd llawer o Iwch a darnau o adenydd y gwyfon yn glynu yn y blew. Rhaid oedd cael rhyw foddion i'w symud —ac fe drefnodd Natur, gan nad oeddgandlo boc- ed i gario crib, fod yna un yn barod wrth alwad ar bob troed iddo. Y mae amryw enwau snig ar y Troellwr, sef Night Jar, Churn Owl, Fern Owl, Night Hawk, a Goat Sucker. Fel yr awgryma'r enw olaf, cyhudd- ir y Troellwr o sugoo geifr, ac wrth wneud hyny eu hanafu yn y fath fodd nes achosi marwolaeth rhai. Nid oes y sail leiaf i'r fath gyhuddiad ffol, » gychwynodd draw yn ngwlad Groeg, ac mae wedi dilyn y creadur diniwed hvd heddyw, as fel llawer traddodiad arall yn anhawdd ei ddisodli. GWAS Y GOG At "ASGELL FRAITH." YN ol y desgrifiad roddir genych o'r aderyn sy'n canu yn y nos, rhaid mai Llwyd yr Helyg (Sdge Warbler) ydyw. Y mae hwn yn canu yn swynol hyd yn hwyr y nos, ac wedi bod yn foddion cyn hyn i lusgo pobl draws gwlad i wrando arno tan yr argraph eu bod yn myned i wrando'r Eos. Y mae yna un arall, ond nid yw agos mor gyfifredin, sef Llwyd y Gors (Reed Warbler), ac y mae hwn yn canu yn bur debyg i'r 1130 I-Ilai o'r dwrdio fel Aderyn y Tu yn ei ganu. Posibl ydyw fod y rhai hyn i'w cael yn Nyffryn Clwyd. Anhawdd iawn dweyd y gwahaniaeth rhwng y ddau. Pe gallech ddesgrifio'r nyth, gallwn ddweyd p'ran o'r ddan ydyw.—Gwas y Gog. O
[No title]
Mae'r gantores fwyn, Misli Maggie Davies, wedi gwella ac ail dcechreu canu yn gyhoeddus. Mae ysbad Tintern, gyda'r fynachlog hen a hardd yn y farchnad, a dywedir fod Argl. Bute ar fedr ei phrynu. Etholwyd y Cymry canlynol ar Gyngher Coleg y Tonic Soi-ffa :—Mri W T Samuel, Caerdydd D Pryce Jones, Niwburch D W Lewis, Brynaman D Jenkins, Mus Bac,Parch E Cynffig Davies,M.A., ac R Lloyd Joues, Pontyclun. Mae'r rhyfel wedi gwneud beirdd America yn orphwyllog. Dyma englyn buddugol un ohonynt i'r Llyngesydd Dewey Ein Dewey foriodd yn dawel-i fewn At fwng yr Ysbaniel; Hyf egni cegai'r fagnel— "You get out or go to hell."
CWRS Y BYD.
yn Cuba, a'u bod yn ddioed am ymosod ond yr oedd y Spaeniaid wedi codi gwrthgloddiau cryf- ion oddiamgylch Santiago, a llenwi'r dyryslwyni liefo gwifrau barfog, na fedrai na dyn nac anifail fyned trwyddynt ar chwareu bach. Streic y Glowyr. T) VIST A agos i dri rnis er pan ddecbreuodd yr ymrafael hwn, ac nid oes ond arwydd bycban ei fod ar derfynu. Mae yno dlodi mawr yn mysg y gweithwyr, eu gwragedd a'u plant yn gwybod beth ydyw newyn, ond dal i gredu a wna'r dynion nad yw'r telerau a gynygir iddynt gan y meistri yn deg. Felly, daliant i ymgyn- dynu, a than ryw amryfusedd nen trwy gyfar- wyddiadau rhywrai annoeth neu ystrywgar, cerddant yn ddyfnach i'r gors o ddydd i ddydd. Golwg dorcalonus ydyw edrych ar filoedd o ddynion medros a diwyd yn llewygu yn yrnyl digonedd o waith, ac yn ymdlodi. gerllaw cyfoeth anferth. Ba trafodaeth ddyddorol yr Nhy'r Oyffredin un noson yr wythnoa ddiweddaf ar y mater, pan y cynygid gan Mr Brynmor Jones, ar ran ei gydaelodau tros Gymru, fod i'r Llyw- odraeth gyflafareddu rhwng y pleidiau annghy- tunol. Gwrthod ymyraeth, modd bynag, a ddarfu Mr Ritchie yn bresenol, hyd oni ofynid am hyny gan un blaid neu y ddwy gyda'u o-ilydd. Hyfrydwch yn ddiau a fuasai gan foneddwr mor ddyngarol a Mr Ritchie wneud unpeth i heddychu'r pleidiau. Nos Sadwrn, bu'r aderyn y drycin hwnw, Keir Hardie, yn anerch cyfarfod mawr o'r glowyr yn Mertbyr, ac fel arfer dywedodd lawer o bethau flol. Tra y parhao collars y Deheu- barth neu unrhyw barth arall i roi clust o wrandawiad i Mr Hardie, baich ebychiadau yr hwn ydoedd dylorni Mabon a chyfeillion y glowyr yn Nhy'r Cyffredin, beth ellir wneud iddynt ond eu gadael i ferwi yn eu cawl eu hunain ? Ddydd Llun, mewn cyfarfod o gynrychiolwyr y glowyr yn Ngbaerdydd, darllenwyd llythyr oddiwrth larll Dunraven yn cynyg gosod yr holl fater i farn canolwr, a phenodwyd tri i fyn'd i Landain i weled Mr Ritchie. Gobeithio yr arweinia hyn i heddwch. -U-