Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Colofn Addysg.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn Addysg. COLEG DUWINYDDOL Y BALA. CYNALIWYD cyfarfod blynyddol y Co.'eg ddydd Iau, Mr J. R. Davies, Ceris, Bangor, yn y gadair. Yn mhlith eraill yr oedd yn bresanol Parchn Dr Marcus Dods, Glasgow R. H. Morgan, Bangor W. James, Manceinion O. Owens, Lerpwl; T. Roberts, Bethesda F. Jones, Abergele D. Jones, Ffestiniog; J. J. Roberts, Porthmadog; Dr Hughes, Mri E. Griffnh, Y.H., Dolgellau ;'E Jones, J T. Jones, Bala J. Roberts, Foxhall J. E. Powell, W. R. Evans, Gwrecsam, &c.-Dar- llenwyd yr adroddiad gan y Parch R. H. Morgan, yn cyfeirio at iwyddiant y myfyrwyr, ac yn rhoddi gwedd galonog ar waith y flwyddyn ddiweddaf.— Darllenwyd adroddiad yr arholwyr. a chyflwyn- wyd y gwobrau i'r myfyrwyr llwyddiaous gan y cadeirydd.—Traddododd Dr Dods anerchiad by- awdl ar I Bet thynas Gwycldoniaeth a Duwinydd- iaeth." Talwyd diolch cynea iddo am ei sylwadau gan y Patch R. Hughes, Aberystwyth.- Y Prif- athraw T. C. Ed war da, D.D., ar ran y myfyrwyr a'r athrawon, a gyflwYllodd nifer o lyfrau gwerth- fawr i Mr Wheeier, yr athraw Hebraeg, ar ei fyn- ediad i gyloh arall. Olynir ef gan' Proff W. B. Stevenson, M.A., B.D. Y gwaith mwyaf dyddorol ydoedd dadorchuddio darlun goiidog o'r diweddar Barch Edward Mor- gan, Dyffryn, ysgrifenydd cyntaf y coleg, a'r hwn a gasglodd gymaint i'w gronfa. Caed ar erohiadau yn coffhau bywyd a gwaith y pregethwr enw og gan y Cadeirydd, Parch F. Jones, Mr Edward Griffith, ac eraill Enillwyd ysgoloriaethau Pierce, gwerth 50p yr un, gan Mri John Evans, Howell H. Hughes,B.A., a G. H. Havard, B.A. Ysgoloriaethau Roberts o 20p yr un gan Mri E. W. Roberts a W. H. Lewis. Ysgoloriaeth Morgan o lOp gan Mr T. M. Thick- ens. Gwobrau'r coleg :-lOp gan Mr Owen Evans; 6p gan Mr T. A. Jones a 5p gan Mr H. R. Wil- liams. Rhcddwyd lOp yr un hefyd i'r pedwar uchaf yn y drydedd flwyddyn y pump uohaf yn yr ail flwyddyn a'r tri uchaf yn y flwyddyn gyn- taf. Arholwyd myfyrwyr yr Ysgol Ragbarotoawl gan y Parch R. Hughes, B.A., Aberystwyth, a John Owen, B.A., Gerlan. Rhoed gwledd i Bwyllgor y Coleg a'r myfyrwyr gan y Cadeirydd. PBIITATHRAW NEWYDD COLEG LLANEEDR. Cymerodd etholiad prifathraw Coleg Llanbedr le ddydd Mawrth, sc yr oedd holl oelodau'r Cyng- hor yn bresenol ac eithrio Esgob Bangor. Chwech o ymgeiawyr oedd wedi eu dethol i'r bleidlais der- fynol, sef y Parehn Ll. J. M. Bebb, M.A., Coleg Brasenose, Rhydychain; F. J. F. Jackson, M.A., Coleg yr Iesu, Caergrawnt; C. J. H. Greene, M.A., ficer Aberdar W. H. Hutton, M.A., Coleg St. loan, Rhydychain; G. Hartwell Jones, M.A., rheithor Nutfield; a Proff Williams, Coleg Dewi Sant, Llanbedr. Penderfynwyd peidio cyhoeddi rhif y pleidleisiau a gafodd pob un ond deallir mai'r ail oedd y Parch W. H. Hutton 3, Parch G. Hartwell Jones 4, Parch Fot-kes Jackson. Treuliodd y Parch LL J. M. Bebb ran o'i febyd ar ororau sir Faesyfed, ac y mae iddo gysylltiadau teuluaidd &'r Dywyscgaeth. Aeth i Winchester yn gynar i dderbyn addysg, a dringodd i'r safle uchaf yn y coleg. Oddiyno aeth i'r Coleg Newydd yn Rhydychain, ac enillodd yno raddau uchel mewn uchrifyddeg a'r clasuron. Enillodd fri yn yr efrydiau duwinyddol hefyd. Cafodd y wobr am wybodaeth o'r Testament Groeg yn 1844; ysgolor- iaethau duwinyddol Denger a Johnson yn 1888 a'r wobr am Draitbawd Duwinyddol EUerton yn 1888. Yn fuan wedi graddio dyrehafwyd ef yn gymrawd yn Ngholeg Brasenose, a phenodwyd ef yn Ddar lithydd Grinfield yn 1888. Adwaeair ef hefyd fel un o feirniaid goreu y Testament Newydd. Bu'n efrydu ac yo teithio yn Rwsia, a chycnabyddir ei fod yn wr o alluoedd diamheuol. Dibyna ei lwydd fel prifathraw Coleg Llanbedr ar ei fedr i gym- hwyao i han at amgylchiadau addysgol a chenedi- aethol Cymru. ARHOLIAD PRIFYSGOL CYMRI*. Y MAE adroddiad yr arholwyr wedi ei gyhoeddi, ac yn dangos fod ilu mawr wedi llwyddo. Nid oes gofod genym i gyboaddi'r holl enwau; oLd gosodwn yma enwau'r rhai llwyddianus yn y celfau a'r Gymraeg ANIANEG.—Canolradd Andrew Stephenson a Catherine Thomas. Caerdydd. PoTtTiCAL SCIENCE.—Elfenol: Robert Jenkin Owen, Alice Mary Smith, a Carolina Pearse Tremain, Aberystwyth. CYMRAEG.—O Goleg y Brifysgol Aberystwyth- William Adams, Henry Davies, William Davies, Thomas Jenkins, Owen Jones, Mary Parry, David Perrott, Annie Roberts, Peter Wiliiams, William Thomas Eilis, Elizabeth Mary Lloyd, Robert Jenkin Owen, Watcyn Owen, Oscar Stephen Symond, John James Thomas, Hugh Hughes Williams, David Willia«ns (Cynddelio). 0 Goleg Bangor-Ellis Davies, Emlyn Holb Davies, William Archibald Davies, William Henry Evans, Owen Jones Griffith, Kate Hughes. Mary Jane Hugbes, Owen Robert Hughes, LI Vanghan Humphreys, John William Jones, David Hughes (Wyre), John Alun Lloyd, David Meirion Mason, James Cornelius M.orrice, Edward Owen (Trallwng), Ellis Roberts, Eliis Wil- liam Roberts, David Thomas Evans, Morgan William Griffith, John Uromwell Hughes, Thomas Hughes, Robert John Jones, William Vaughan Jones, Samuel Owens, Robert S.lyn Roberts, William Rhys Watkio, Ebenezer Aman Jones. O Goleg Caerdydd—Hugh Edward Howell James, Hugh Jones, William Phil- lips, Watcyn Cither Williams, John Brown, Richard Charles Lewys, Daniel Mark, David Eurof Williams. -0--

Dr. T. Witton Davies yn dyohwel…

Colofn Dirwest.

CRYFBAIR LLYSIEUOL.

Beirniadaethau. I

Y Beibl yn Ysgolion y Byrddau.

RHAGFARN.

Advertising