Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
EISTEDDFOD GENEDLIETIjOL FpHIROL CYpU, 18981 a cynelir yn BLA.EIsr.ATJ FFESTINIOG. GORPHENAF 19, 20, 21, 22, 23. CYSTADLEUON CORAWL POBLOGAIDD, 40 o Gorau yn Cystadlu. Xifer y Cjstadleuwyr ar y gwahanol destynau yn eithriadol o fawr CYNGHERDDAT" MA WREDDOG. PERFFORMIR y ddwv Oratorio Gymreig et.wog Ystorm Tiberias "{Stephen), a Traeth y Lafan" (D. G. Williams), yn nghyda'r "Elijah" (Mendelssohn), gan ¡ GOR YR EISTEDDFOD, YN RHIFO TRI CHANT. Cerddorfa ac Organ fawr arbsnig i'r aehlysur. Yn mhlith y Datgeiniaid y mae I Miss MACCIE DAVIES. Madame HANNAH JONES. Mr. BEN DAVIES. Mr. FFRANCCON DAVIES. j Pavilion eiif.wr i ddal dros ddeng mil. Rhaglen ddyddorol bob dydd. Trens rhad o bob cyfeiriad I Rhagleni t'w cael (pris 8c. yr un) yn Swyddfa'r Genedl, Caernarfon. j MYNEDTAD I MEWN- I Blaenseddau (Reserved), Season Tickets (8 cyfarfod), transferable, 25s. eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 4s Dosbarth laf, Season Tickets, (8 cyfarfod), not transferable, 20s. eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 3s. Dosbarth 2il Season Tickets, (8 cyfarfod), not transferable, 12s.; eto, un cyfarfod neu gyngherdd, 2s. 3ydd Dosbarth, an cyfarfod neu gyngherdd, Is. Dydd Sadwrn, pris unffurf, Is. Am bob many lion ychwanegol, ymofyner a Mr H. ART ANPER HUGHES, Llys Llywelyn, Blaenau Ffestiniog. EISTEDDFOD GADEIRIOL CORWEN ¡ DYDD LLTJN (GWYL Y BANC), AWST I, 1898. I "r,>J' '>> PRIF EISTEDDFOD GWYL Y BANC, Llywyddion—W. R. M. WYNNE, Ysw.; SAMUEL MOSS, Ysw., A.S.; PROFF. J. E. LLOYD. DATGEINIAIlJ- soprayio-MISS Maggie Davies. Tenor-Mr. Maldwyn Humphreys. Bass-Mr. Daniel Price, Telynorcs—H\i& Jenny Parry (Telynores Lleifiad). Arweinydd Llifon. RHAGOLYGGN YSPLENYDD. TRI 0 GORAU MAWR-Corau Rhuthin, Cefnmawr, a Bangor. TRI 0 CORAU MEIBION — Cor Meibion Walton Park, Oldham, a Cwalia, Lerpwl. AIL GYSTADLEUAETH GORAWL—Toxteth, Lerpwl. PEDWAR 0 CORAU PLANT-Corau Dinbych, Bala, Corwen, a Trawsfynydd. PUMP 0 YMGEISWYR AM Y GADAIR. A llu mawr o ymgeiswyr ar y Gelfyddydwaith, y Cyfansoddiadau Barddonol a Llenyddol, (be. Am far.ylion pellach gweler y Rhagieni, pris 3a., trwy'r Llythyrdy 4c., i'w cael gan yr Ysq.-HUGH MORRIS, Tea., Cesail y Berwyn, Corwen. CYNELIR GRAND INDIAN PALACE BAZAAR YN LLANGEFNI, Medi 7, 8, 9, a 10, 1898. Yr elw at Gapel Coffadwriaethol y Parch. John Elias. D. R. JONES & Co., I PIANOFORTE ORGAN, HARMONIUM & MUSIC SELLERS 106, HOLT ROAD, LIVERPOOL. Tuning £ 5* Repairing a Speciality Music sent by Post cannot be exchanged, Cedwir Stock helaeth o bob math o offerynau Cerdd. PIANOS o ios. 6ch. y mis ac uchod, AMERICAN ORGANS, 5s. y mis, &c. HARMONIUMS, 4s. y mis, &c. Stock ngorol o'r Oaneuon goreu, newydd a hen. School of Music, Voice Training, Violin, Piano, &c., &c. Voice Trainer, JOHN HENRY, R.A.M. MR. J. EL ROBERTS- Mus. Bae. (Cantab), A.R.A.M., F.T.S.O., London (Organist of Gnatham Street Presbyterian Church). Begs to announce that he gives Lessons at 149, GROVE STREET, LIVERPOOL, On the Pianoforte, and Organ, also in Singing, ;Harmony and Composition Papils thoroughly prepared for the various Exams, in the above subjects,also in Musical Analysis, Foira, Orchestration, and Acoustics, and in reading from Score and Figured Bass. The largest money prize ever given at an Eisteddfod for Solo Singing was won by one of his pupils. Out of a lar je number of cmdidites throughout the United Kingdom at the Local Exam, of the Royal Academy, "six took honours in Harmony, two of whom were Mr Roberts' Papils. His Pupils have also taken valuable prizes in Piano" playing, and in composition. Postal Lessons in Harmony and Composition. Full particulars on application. *ooxwo Song CrlS YpyofrW* CftOSS. '■ ^Competition piece at the National Eisteddfod, ISaS. 2s. net* Trwy brynu yr argraphiad rhad o'r Bardd Owsc, a gyhoeddir yn y Swyddfa hon, gellir dod i feddu un o'r clasaron Cymreig rhagoraf. Golygir ef gan on o Gymreigwyr goreu'r dydd, ac y mae'r fath ofal wedi ei gymeryd fel na raid i'r un rhiant ofni ei roddi yn Haw yr un aelod 'o'r selwyd.1 ITAIR CEINIOG yw ei bris. Ystyrir y priodoldeb o oleno Towyn ac Aber- dyfi a thrydan. A oes genych eisieu MORWYN ? Hysbyaebwch yn fjymro. 18 gair am 6ch. CARTREF CYMRSIGr I YMWELWYR a LLUNDAIN. Pa le i gael Ilety cysurus yn Llundain ? Ewch o Padding- ton Station, G.W.R., gyda'r Underground i Gower Street station, am No. 9 neu 30, Euston Square, neu o Euston Station (L. &' N. W. Ry.), pa un sydd yn agos iddyn. GLASLYN HOUSE EVANS' TEMPERANCE HOTEL, 9, Euston Square, London, N.W. D. EVANS, Perchenog CELT (KELTr TEMPERANCE HOTEL. 30, Euston Square, London, N.W. F. DUNN, Percheaog Y mwyttf eanelog i bob rhan o Lundain. TH0S JONES&Co. Ltd TIME-TESTED TEAS @ 1/3. 1/7, and 2/- per 11>. SPECIAL VALUE. Parcels of Tea value 20f. and upwards sent carriage paid by Rail when remittance is sent with the order. SAMPLES FREE ON APPLIOAJION. THOS, JONES Co. Ltd Tea & Coffee Importers, 9, PARKER STREET, LIVERPOOL. Y CYMRO: Danfonir TTN oopi yn ddidraul trwy y Post: r- Am. 12 mis, 5/6— Am 6 mis, 3/0 Am 3 mis, 1/8 BlaendAl yn unig. Yn ein rhifyn nesaf bydd ADRODDIAD CYFLAWN A CHYWIR o EISTEDDFOD GEHEDLAETpi FFESTINIOG GAN EIN GOHEBYDD NEILLDUOL.
YR WYL FAWR CENEDLAETHOL.
YR WYL FAWR CENEDLAETHOL. YR wythnos nesaf, cynelir yr Eisteddfod Genedlaethol yn Mlaenau Ffestiniog. Dyma ei hymweliad cyntaf a sir Feirion- ydd. Os dyddir ei sefydliad yn ei ffurf bresenol yn Eisteddfod Llangollen, gwelir ei bod yn ddeugain oed a rhyfedd na fuasai hi cyn hyn wedi ei galw i un o dref- ydd Ilengar y sir uchelfraint hon. Felly y mae hi mewn tir newydd eleni, yr hyn, yn ddiau, ydyw un achos o'r bywyd a'r yni newydd a welwyd ac a welir yn ei darpar- iadau. Fyth er pan gydsyniodd Cym- deithas yr Eisteddfod a Chymdeithas yr Orsedd i dderbyn gwahoddiad llengarwyr prifddinas y llechi, ymrodd y pwyllgor lleol i'w waith yn ddoeth, diwyd, a phen- derfynol. Ni adawsant, fel y dywedir, "yr un gareg heb ei throi." Ffrwyth hyn ydyw rhestr o danysgrifiadau yn cyrhaedd y swm anrhydeddus o bymtheg cant o bun- au a rhestr o destynau, sydd wedi cyn- yrchu tua deuddeg cant o ymgeiswyr o bob math. Nid yw y pwyllgor felly wedi siomi disgwyliadau eu cyfeillion mwyaf aiddgar ac y mae eu llwyddiant wedi troi llawer o wrthwynebwyr yn gydweithwyr. Gyda thywydd braf a bendith, nid oes genym un amheuaeth am lwyddiant ymdrechion mor egniol a gwladgar. Ac fe ellir dweyd hyn hefyd. Ni chyn- aliwyd yr Wyl Genedlaethol erioed mewn lie mor ramantus, ac mor ddyddorol o ran traddodiad a hanes, ag yn Ffestiniog. Y mae miloedd o weithwyr diwyd er's oesau yn troi ei mynyddau yn llechi, ac nid ym- ddengys y mynyddau hyny, er cymaint a dynir ohonynt ac oddiarnynt, fawr iawn gwaeth. Dvma'r lie i weled Gwyllt Walia yn ei gwylltineb, a'r creigiau gwyllt caregog, muriau dedwydd Cymru odidog mewn godidowgrwydd. Mewn rhai manau edrychant mor serth nes yr ydych yn crynu rhag ofn iddynt syrthio arnoch, ond ad-deimlwch yn ddyogel wrth ganfod y geifr yn ysboncio o'r naill bigyn i'r llall ar eu llechweddau. Diaspedir eleni ganeu- on a gorhoian yr Eisteddfod Genedlaethol gan y Fanod a'r Moelwyn-mynyddau na fu eu cyffelvb, hyd y gallwn gofio, o ran nerth ac arucheledd, erioed o'r blaen yn clochydda i'r Eisteddfod. Pe buasai'r Gymdeithas hono y galwyd sylw droion yn y papyr hwn at yr angen- rhaid am dani wedi ei sefydlu, sef i ymwel- ed a manau o ddyddordeb anarferol fyddo yn yr ardal lie cynelir yr wyl, cawsai faes cyfoethog i'w hymchwiliadau yn Ffestiniog a'r gymydogaeth. Nid oes yn Mhrydain, yn ol tystiolaeth teithwyr o fri, ddim go- lygfa ddeil i'w chyffelybu o ran prydfeKth- weh i Ddyffryn Maentwrog-hen drigfa yr Archddiacon Prys, a'r haner cylch coediog sydd yn uwch i fynu, ac a elwir Cynfal, cartref yr hen fardd anfarwol Huw Llwyd, os nid lie genedigol ei ddisgynydd yn ol y cnawd, Morgan Llwyd o Wynedd, awdwr y llyfr haner-ysprydoledig Y Tri Aderyn. Llawer chwedl a rhamant ddifyr a adrodd- ir am y llecyn tlws hwn, gan ddechreu mor gynar a Math ab Mathonwy, pan y Has Llew. Llaw Gyffes y Goronwy Pefyr o Benllyn yn Bryn Cyfergyr, ger y Maen Tyriawc. Y mae'r manau hyn ychydig filldiroedd i'r gorllewin, ac i'w canfod o'r u tren bach ar ei ffordd o Borthmadog i Ffestiniog. Ar du'r de-ddwyrain drachefn ceir Llyn y Morwynion a Beddau Gwyr Ardudwy-yr hanesion rhamantus am ba rai sy'n ddigon hysbys i ddarllenwyr Cymreig. Er mwyn ein darllenwyr sydd yn byw yn mhell gellir dweyd fod tair reiltfordd i dramwy ar hyd-ddynt i'r Eisteddfod, sef y Great Western o'r Bala, y L. & N TY ar hyd glan y mor c Gaer ac i fynu Dyffryn Conwy a'r relwe fach," fel ei gelwir, yn dringo i fynu ar hyd llechwedd serth Dyffryn Maentwrog. Os gydag un o'r ddwy gyntaf y deuant, bydd yn werth iddynt fynnu egwyl yn ystod eu harosiad yn Ffestiniog i fyn'd i Borthmadog ac yn 01 gyda'r toy railway" fel y gelwir y drydedd yn y rhestr. Diau y bydd yr wyl eleni eto yn gyrchfa I pobloedd lawer. 0 flwyddyn i flwyddyn, a ei chynulliadau ar gynydd ac yn an- ffodus, ei chyfrifoldeb a'i threuliau gyflym- ed a hwythau. Digalon iawn ydyw i bwyllgor orfod gwneud diffygion arianol i I fvnu ar ol gweithio'n galed am fisoedd. Felly fa mewn amryw fanau yn ddiwedd- ar, trwy or-antur. Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ei diffygion-hawdd fyddai eu nodi, ond gwaith yn gofyn pwyll a gofal y doethaf mewn cynghor fyddai eu symud; ac amser cyfaddas gyda hyny. Gwyl fawr cenedl y Cymry ydyw-un o'i nodweddion mwyaf arfcen g, ac un o offerynau ei gwar- eiddiad. Efaliai nas gall hi ddygymod a. gwareiddiad cecedujeJd eraill, gan mor Gymreig ei hanian ond y mae hi'n dy- gymod yn iawn a Chymru. Gwnawn yn fawr ohoni; felly y gwneir yn ddiau yn Ffestiniog yr wythnos nesaf.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Disgwyi. DYWED yr hen air" hit" pob disgwyl." Dyn yn disgwyl i'w hen fodryb farw-y fodryd yn werth purn' mil o bunau, yntau mewn dyled- 0 mor araf ydyw cerddediad angau. Dyn diog yn disgwyi cadw noswyl, dyn barns yn disgwyl am awr gillio, mae'r ddau'n rhyfeddu os nad yw eu tiadip wedi sefyll. Ond y lie yr ymgynull disgwyledigion o bob gradd ac oed wrth y canoedd bob dydd, a llawer gwaith yn y dydd, ydyw gorsafau reilffyrdd. Dyna'r man am f&n a dirgel felldithion y cyhoedd; mae megys yn eu costrelu ar gyfer eu siomedigaethau a'u hir ddisgwyliadau yn y llauerchau anudonol hyny. Rhoddir mwy o achlysuron i arfer yr anras o felldithio yn ngorsafoedd reilffyrdd Gogledd Cymru nag yn un wlad arall gobeithio yn y byd. Y Cambrian unwaith fu y prif bechadur, ond y mis diweddaf, beth bynag, nid yw hi werth ei chrybwyll ochr a'r ddau gwmni arall. Ai profi amynedd Cymry ydyw prif ddyben reilffyrdd ? hyny ydyw, yn nesaf i gludo pobl o'r naill fan i'r Hall pan welont yn dda, ac nid yn ol eu haddewid yn eu tablau. Bu gorsaf Afonwen am hir amser yn cael y gair am oediad a hirymarhoedd. Ond go rsaf Caer pia'r dorcb ar bob gorsaf yn y deyrnaa fel magi ddynol. Rhaid i bawb, ar ei ffordd o neu i Lerpwl beth bynag, dalu ei dreth o chwarter awr fan lleiaf cyn myned yn miaen i'w daith. Nid oes fawr rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru pe gellid ysgili yr aflwydd hwn. Chwaeth yr Des. MAE'N syn gymaint o gyfnewidiad sydd wedi iy fod tros chwaeth prynwyr Uyfrau yn yatod y chwarter canrif diweddaf. Y pryd hwnw, telid symiau uchel am gyfrolau mawrion ar dduwin yddiaeth ail argrephid, am fodgalwad, gweitb- iau yr hen Baritaniaid, ac yr wyf yn cofio dau neu dri oeddynt wedi darllen holl gyfrolau trwchus Dr John Owen a Manton. Erbyn hyn ychydig ydyw nifer y rhai a adwaenant en henwau. Mewn arwerthiad cyhoeddus yn Edinburgh wythnos neu ddwy yn ol, gwerthwyd 22 cyfrol o waith Manton am 4s 25 cyfrol o waith D.r Owen am 5s 6c a 43 cyfrol o gyfres dduwin- yddol Nithol am 3s—89 cyfrol am 12a 6ch. Mae'n ddigon tebyg fod eu cludo gartref wedi costio mwy i'r prynwr na'r cyfrolau eu hunain, Fe ddywedir, hwyrach, mai chwaeth wydd- onol yr oes sydd yn gyfrifol am hyn-" fod pobol yn myn'd yn fwy cysact "-iod yr hen dduwinyddion Puritanaidd yn dweyd mwy nag a wyddent," yn ymhelaethu'n ddirfawr ar bwyntiau dyrus o greadigaeth eu dychymyg eu hunain, a'u geiriau a'u hymadroddion, ys dy- wedai'r bardd ymfflamychol, yn Dawnsio wrth y dengmil Ar flaen y nodwydd ddur. Pnrion. Ond a ydyw duwinyddion yn yr oes hon, sy'n cornbriddo tua seiliau cred ae yn byhwman yn nghylch sacramentau, ronyn mwy "cysact," mwy ymarferol, neu gydwybodol rt Pan elo chwarter canrif heibio, faint, tybed, roddir am eu cyfrolau hwy ? Difyrwch barbar- aidd un oes ydyw wfftio a diystyru chwaeth yr oes aeth o'i blaen. Wythnos brurd. WYTHNOS lawn o ddigwyddiadau prudd a chyff rous a fu'r ddiweddaf. Dygadd gyda hi lon'd ei breichiau o ofidiau o bob math, gan eu dos- barthu yn lied gyfartal rhwngbonedda gwreng. Dyma rai ohonynt:—