Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Tlodi yn Ngogledd Cymru.

Advertising

|Gadeirydd Newydd y Cynadiedd…

Cohebiaethau.

[No title]

--YR EISTEDDFOD GENEDLAETIJOL…

--0--.-CWRS Y BYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr. Chamberlain MAE'R bod dyrchafedig a elwir Joseph, yr hwn cldwy neu dair blynedd yn ol oedd yn myn'd i droi Cyfandir Affrig yn ardd Brydeinig, ond a luddiwyd yn ei amcanion uchelryw gan yr hen wr gwargaled Kruger oedd cyn ddiweddared a deufis yn ol yn myned i ddechreu'r milflwydd- iant trwy gaei gan Brydain a'r Unol Daleithiau syrthio ar yddfau ei gilydd ac ymgusanu, ond a dynodd fwy o gilwenan arno nag a gafodd o gymeradwyaeth dynion call a'r hwn hefyd a addawai mor deg a chadarn dair blynedd yn ol ar fin yr etboli, fi cyfiredinol, cofier, roi pension i bob bod dynol yn y wlad a gyrhaeddai ei 65 mlwydd oed, ond y dywed dau gomisiwn, ar ol hir ystyried y mater,sydd yn hollol anymarferol beb filiwnau o buuau gan. y Llywodraeth y Mae Joseph wedi sori'n enbyd, a barnu oddiwrth ei don, ac yn ei soriant yn dweyd ei fod ef yn gwbl ddidaro beth "ddywed y Radicaliaid am dano." Ond hyd y gellir deall yr byn oil a ofyn y giwed hyny gan y dyn mawr ydyw iddo egluro paham yr addawai ef ar fin etholiad yr byn y mae dau gomisiwn, ac un comisiwn yn bobl o'i ddewisiad ei bun, yn ddweyd sydd yn anymarferol; ac nad yw eu dyfarniad hwy yn gywir, pabam na ddatguddia ef ei sciam ei hun, ar ba un y sylfaenai ei addewid. Mae o'n gais pur deg, leddyliwn i. Hael Hywel (Salisbury) ar bwrs y wlad. £ 600,000 yn flwyddyn ydyw'r cyfan fedr y Lywodraeth fforddio i'w rhoi i dirfeddianwyr Iwerddon. Mae'r swm braidd yn fychan, ond wed'yn rhaid cofio fod ei haner yn myn'd i bobl eraill yn y trefi ac ychydig hyd yn nod i denant- iaid. Wrth gwrs, o logellau trethdalwyr Ynys Prydain, ac o chwys ei gweithwyr, y daw y chwe' chan mil hyn. Gan fod y Toriaid a'r Gwyddelod o bob daliadau yn pleidio'r mesur, Rhyddfrydwyr yn unig oedd yn ei wrthwynebu, a'r blaenaf ohonynt oedd M r Lloyd George. Yr oedd Mr Georgeyn ei elfen yn pwnio ac yn panu y Mil. Saunderson, y gor-Brotestant Gwyddelig. Ymddengys y bydd i'r Milwriad dewr elwa rhyw ganpunt yn flynyddol oddiwrth y rhodd a phan hysbyswyd ef o hyny, atebodd "Clywch, clywch." Trodd Mr George arno gan ddweyd fod yn dda ganddo glywed y Milwr- iad yn cydnabod ei fai, ac y byddai rbyw ddynion yn arfer gwneud hyny er mwyn cael cosb ysgafnach.