Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Tlodi yn Ngogledd Cymru.

Advertising

|Gadeirydd Newydd y Cynadiedd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

| Gadeirydd Newydd y Cynadiedd Wes- leyaid. Etholiad y Parch HUGH PRICE Hughes. BYDD yn llawenydd digymysg i bob Cymro o bob enwad a phlaid bynag y bo, glywed am eth- oliad ei gydwladwr enwog uchod i'r swydd uwcfaaf o anrhydedd yn y byd crefyddol y gellir yn y wlad hon ethol dyn iddi. Un Cymro o'r blaen fu yn Galeirydd y Gynadledd Wesley- aidd, sef Dr Cooke yntau fel Mr Hughes wedi ei eni yn Neheudir Cymru, y ddau hefyd yn mhentref y ddwy sir agosaf i'w gilydd, sef Brycheiniog a Chaerfyrddin a'r ddau, yn mhellach, yn feibion i faddygon. Yr oedd yr etholiad yn un tra unfrydol, yr hyn a chwanega at ei worth. Dyma fel y safai'r etholiad :—James Robertson (Iwerddon), Win. Perkins, Herbert Clayton, Enoch Salt, 1 bleid- lais yr un Dr Dallinger, 2 J S Banks, 4; Dr Davidson, 5 Marshall Hartley, 7 Thomas Ailer, 3.1 T A Macdonald, 83 Hugh Price Hughes, 369. Bywgraphiad. Mab ydyw Mr H. Price Hughes i Dr John Hughes, meddyg, Caerfyrddin, yn yr hon dref y ganwyd ef yn 1847 ac y mae efe yn wyr o du I ei dad i weinidog enwog gyda'r Wesleyaid yn ISighymru, sef y diweddar Barch John Hughes, yr hwn am lawer o flynyddau a fu yn gadeirydd y Dalaith Dieheuol. Ar du ei fam, dywedir fod gwaed Hebreaidd yn ei wythienau. Cafodd ei addysg ar y cyntaf mewn ysgol breifat ger- liaw Abertawe a phan mor ieuanc a 14 oed dechreuodd bregethu. Byddai yn yr oedran cynar hwn yn pregethu mewn nifer o ffermdai oddeutu'r Mumbles, a thalai o'i logell ei hun i hen wreigen am fenthyg ei chegin i bregethu i'w chymydogion ar noson yn nghanol yr wyth- nos. Pan yn bymtbeg oed, pregetbodd yn Nghapel Cymraeg Caerfyrddin, lie bu ei daid yn gweinidogaethu. Y mae Mr Hughes yn cyfaddef yu fynych fod ei bregethau yn ddy- chrynllyd o hyawdl, ac yn adlewyrchu'r haul, y lleuad, ac aneirif ser y nen yn nghyda glan- au'r Mor Coch a manau erailllle y car yr ieuanc ymfflamychol ymddigrifo." Cyn cyrhaedd ugain oed, yr oedd yn ymgeisydd am y weinidogaeth, ac aeth i Goleg Add ysgol Richmond, lie yr oedd Dr Moulton yn athraw. Wed'yn graddiodd yn uchel yn Mbrifysgol Llundain. Tra yn y coleg, cyfarfu Mr Hughes y foneddiges a ddaeth wedi hyny yn gydmares mor werthfawr yn ei fywyd, Merch ydyw. Mrs Hughes i'r Parch Alfred Barret, llywodraethwr y coleg, ac nid oedd hi pan gyfarfu gyntaf ei gwr dyfodol ond deaddeg oed. Wedi gadael y coleg bu Mr Hughes yn teithio gyntaf yn nghylcbdaith Dover; ac yno y dechreuodd gymeryd dyddordeb neillduol yn yr achos dirwestol. Wedi hyny, llafuriodd yn Brighton, rhanau o Lundain a Rbydychain, a'i glod fel pregethwr yn myn'd ar gynydd yn mhob cylchdaith. Dycbwelodd i Lundain fel arolygydd cylchdaith Brixton a thra yno y codwyd yr hyn a elwir Cenhadaeth Dinas Llundain," gyda'r hon y mae enw Mr Hughes yn annatodol. Yr wythnos nesaf (os yn bosibl) rhoddwn DDARLUN HARDD o LYWYDD NEWYDD Y GYNADLEDD WESLKSTAIDD, Yn nghyda dwy nen dair colofn o fanylion ei hanes. --0--

Cohebiaethau.

[No title]

--YR EISTEDDFOD GENEDLAETIJOL…

--0--.-CWRS Y BYD.