Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Gymreig.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddion Gymreig. Y Par%h J. R. Evans. Llwynhendy, fydd bugail newydd eglwys y Bedyddwyr yn Nghaergybi. Y mae Esgob Bangor wedi gwella digon i allu ysgrifenu ychydig bach. Ddwy flynedd yn ol, yr oedd gol. newydd y Llan a'r Haul Eglwysig, yn flaenor gyda.'r Methodist- iaid. Y mae'r Parchn Owen Thomas, M.A., a J. Machreth Rees yn cychwyn i daith drimis yn yr Unol Daleithiau yn mhen y pythefnos. Y mae Bwrdd Llywodraeth Leol wedi cydsynio i Raith Dosharth Colwyn Bay fenthyca 1,564p tuag at oleuo glanfor y lie hefo thrydan. Y mae Capten W. R. Howell, Cymro o Wlad Forgan, wedi enwogi ei hun yn rhyfelawd bresenol Sierra Leone (Gwlad y L!ew), Gorllewin Affrica. Yr wythnos ddiweddsf, bc'r ail fataliwn o Wir- foddolwyr Catrawd y 23ain yn gwersyllu yn Lea. sowe, glan mdr Cilgwri, sir Gaer. Y mae awdurdodau Cwmni'r L. & N. W. wedi addaw i bobl y Wyddgrug y trefnant well a bwyJ- usach gorsaf i'r dref hono. Mae'n bryd, wir, yr hen hosan Y mae Cynghor Tref Aberystwyth, o hir ym- dderu, wedi derbyn cynyg Syr James Szlumper am dir sy'n angenrheidiol at redeg y reilffordd fwriad- cdig i Bont y Gwr Drwg. Mr J. Herbert Lewis, A.S., a'r Parch D. Chas. Edwards, M.A., sydd wedi eu hethoi i gynryehioli y Methodistiaid yn Nghyrcdeithasfa Eglwysi Di- wygiedig Holland. M&e'r Parch W. M. Jones wedi rhoi fynu ofal bugeiliol eglwya Gynulleidfaol Barkway, swydd Herts, ac wedi derbyn galwad i fugeilio eglwys y Bedyddwyr, Treorci. Ddydd Iau, mewn trengholiad yn Fflint, dy- chwelwyd rheithfarn o foddiad trwy ddamwain yn achos y bachgen James Hayes, fu foddi'r diwrnod cynt gerllaw'r Castell. LIe pybyr am hyrwyddo addysg ydyw Machyn- lleth. Y mae'r ysgol sir newydd agos a'i gorphen; bydd y gost yn 2,000p, ac at hyn y mae Mr Henry Tate, Lerpwl, wedi anfon 50p. Cadeirydd Bwrdd Pysgodfeydd Mawddach, Dyfi, a'r Glaslyn ydyw Mr Henry Bonsall, Aberystwyth, a'r isgadeirydd, Mr John Jones, Dolgellau. Yn yr Arddangosfa Arddol Frenhinol gynaliwyd yn ddiweddar, dangosid saith math ar hugain o fefus, tyfedig yn ngardd y Frenhines tan ofal y Cymro Owen Thomas ac yn ddibetrus, gwobrwy- wyd y tusw a'r tlws aar. Cydsyniodd Tywysoges Cymru i noddi Cyng- rair y Diwydianau Cymreig-mudiad newydd gychwynir yn y De i'r amcan o geisio adfer y droell nyddu, panu, cychu mêI, codi 'falau, trwytho ys- gaw, a ffyrdd hen ffasiwn eraill oedd gan y Cymry i fwydo, dioda, a dilladu eu hunain cyn adeg gor- esgyniad ein gwlad gam ddillad pared a lluniaeth y tyniau clo. Oymerodd boddiad arall le yn yr afon Dyti hrydnawn dydd Mercher. Y truaa tro hwn oedd nid ymwelydd o Sais fel y Sadwrn cynt, ond Mr. D. Davies Williams, mab ieuengaf Maer Machyn- Heth. Tra'n ymdrochi mewn pwll, aeth rhwng dwy gareg, ac fe'i gw&sgwyd. Pac y'i eodwyd i fyrm gan ei gyd yrndroehwyr, yr oedd yn farw. Mae'n syn na weithredai'r boddiadau mynych gymeraDt le yn Ilynau, afouydd, a glan mor Cym- ru i arswydo tipyn ar eraill rhag bod yn ddiofal a gorfeiddgar pan yn ymblesera ya y dw'r. Dyna'r hen ryd cul hwnw y gellir ei ddilyn ar drai o Vnys Gifftan i Abaria-llawer certnion a'i wedd, heb son am bysgotwyr y Penrhyn, a sugnwyd i'r hen dro- fewll llechwraidd sydd gyda'i yinyl. Ac eto fe eubyda rhywrai eu bywyd o hyd, er mwyn ysgoi a chwtogi tipyn ar y ffordd i Borthmadog. Ebe Sais ffroenuchel flynyddau'n ol, wrth e Irych ar Gastell Caernarfon, Welwch chi'r fath adeil- adau ardderchog a chryfion a gododd fy hynafiaid i'ch darostwng chwi'r Cymry yma.:J le," cipiai y gwladgar Eliis Jones (nai Cawrdaf), a safai yn ymyl, mor ddewr y rhaid fod y dyrnaid pobl wnaeth eich cestyll cryfion a lluoaog yn angen- rheidiol cyn y gellid en darostwng." Un diguro am esbonio gwyddoniaeth i ddynion gwlad oedd Griffith Williams, Talsarnau. Adeg gwneud y Cambrian hyd Forfa Harlech ydoedd, ac ynfnan daeth gorsaf a pheilebyr. Wil Jones yn troi at G.W. i ofyn iddo egluro'r rhyfeddod. "Bwr- iwch," ebe'r Parchedig, "fod yna glamp o gi New- ffoundland mawr, yn cyrhaedd 81idiyma i Lundain; a mod ina'n plwcian i gynffon o yn Nhalsarna a fynta'n cyfarth yn Euston-dyna. ydio i gyd." Adeg crogi'r Hwntw Mawr," llofrudd llysywen- og y ferch o Drwyn Penrhyn, Meirion, er's fcaim, yr oeddis yn ei gerdded o garchar Dolgellau i gae oerlSaw at y crogbren. Trowd i dafarn ar y ffordd a chadd lasiad. Pan ofynwyd iddo ar fin ei grogi os oedd ganddo rywbeth i'w ddweyd, Dim," ebe'r lIafngi caled, end fod rhwbio draenen grin yn shoa at danio cetyn." Yn adroddid chwarterol y prifgwnstabl i Bwyllgor Heddlu sir Gaernarfoia, dywedid fod cynifer a 1.507 o grwydriaid wedi eu cynorthwyo, yn erbyo 974 yn chwarter cyfatebol y flwyddyl cynt. Priodolid y cynydd hwn i'r gwahano weithfeydd sydd ar droed trwy'r sir, yn arbenig y dociau newyddion yn Felinheli. Aed Coedllai yn Goedmwy. Pan basiodd Bwrdd Ysgol y Wyddgrug ychydig smser yn ol mai gwll fyddai dysgu'r Gymraeg yn yagolion Coedlllu, mwmiai rhai pobl jBaeniiaw eu bod wedi anmhwyllo, ac y gwnei niwed i effeithiolrwydd addysg gyffredinol yr ysgol; end dyma'r arholydd wedi bod yno, gyda'r canlyniad fod yr yagol wedi enill y grant uchaf ar bob pwnc yn cynwys y Cymrae-ffaith a rydd daw, fel y gobeithiai Cadeirydd y Bwrdd (Mr Bithell) ar bob beirniada aeth elyniaethus. Er yr holl ysgrifenu a'r penderfyniadau Die Shon Dafyddol, nid yw'n debyg y newidir enw Llandrillo-yn-Rhos i Rboa on-Sea mor fuan ag y dymunai y giwed newydd sydd ar hyd lanau mor Gymru. Yn ateb Mr Wm Jones, aelod Arton yn y Senedd y nos o'r blaen, sicrhau Mr Hanbury nas gellid arfer yr enw newydd cynygedig hyd nes y'i defnyddid yn ngbyntaf ar gyfeiriadau mwyafrif y llvthyrau a dderbynid. yn y Ile; so nid oedd peth felly'n debygol yn ngwyaeb y teimlad cryf fodola yn yr ardal ac oddiallan iddi. Y mae eisiau llindagu'r mursendod hwn fynai ddisodli hen (lDWaU awgrymiadol a ■wynol Cymru hefo rhyw bethau llyfn ond diystyr.

Difwyno Dyffryn Conwy.

RHAGF ARN.

Advertising