Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Newyddion Gymreig.

Difwyno Dyffryn Conwy.

RHAGF ARN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHAGF ARN. MAE yn ffaith hynod, ond gwir, fod canoedd o bobl yn glynu mor gyndyn wrth hen syniadau fel na roddant brawf ar unrhyw nwydd newydd, pa ragor- iaeth bynag all fod yn perthyn iddo. Nid yw hyn yn ia,wn nac yn ymddygiad s.ynwyrol, ae yn ami try y cyndynrwydd a'r rhagfarn hwn yn niweidiol ae yn golled i'r rhai a'u coleddant. Mae pob dyn synwyrol yn dysgu llawer oddiwrth brofiad eraill. Mae profiad y lluaws yn ein gwlad yn tystio mai meddyginiaeth atiffaeledig at ddoluriau y cylla, yr afu, y giau, a'r gwaed yw Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae dysgeidiaeth meddygon yn tyatio ei fod yn feddyginiaeth sicr ac effeithiol, a gwybodaeth wydd- onol yn sierhau ei fod yn feddyginiaetli bur a dyogel. Gan hyny, dylai pawb sydd yn dyoddef oddiwrth afiechyd neu wendid yn tarddu oddiwrth anhwylderau yn yr organau hyn wneud prawf ar Quinine Bitters Gwilym Evans. Nid yw byth yn siomi. Mae y meddyglyn rhagorol hwn yn gyd gasgliad godidog o'r hyn sydd rhinweddol a meddyginiaethol yn holl brif lysiau y byd llysieuol. Mae pawb sydd wedi rhoddi prawf teg ar Quinine Bitters Gwilym Evans yn cydnabod yn rhwydd ei rinweddau a' deilyngdod, ac yn rhoddi y ganmoliaeth uchaf iddo Oherwydd ei fawr lwyddiant a'i boblogrwydd cyffred inol mae amryw efelychiadau gwael ohono. Dyla pob un fyddo'n prynu y Quinine Bitters ochel yr efelychiadau diwerth hyn trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp, a'r botel. Ar werth gan fferyllydd yn mhob man, mewn poteli 28 9c a 4s 6c yr un,neu gellir ei gael trwy y post yn union- gyrchol oddiwrth y perchenogion, Quinine Bitters Manufacturing Co., Limd., Llanelly, South Wales. -:0: Trwy brynu yr argraphiad rhad o'r Bardd Cwsc, a gyhoeddir yn v Swyddfa hon, gellir dod i feddu un o'r clasaron Cymreig rhagoraf. Golygir ef gan un o Gymrsigwyr goreu'r dydd, ac y mae'r fath ofal wedi ei gymeryd fel na raid i'r un rhiant ofni ei roddi yn llaw yr un aelod o'r aelwyd. TAIR OEINIOG yw ei bris. -0-

Advertising