Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--0--Yn yr Eisteddfod.

-0--' Cymraeg yn y Colegau.

YPMOR- GWISGOEDD Y MOR

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bardd Cadeiriol Ffestiniog. GANWYD R. O. Hughes (fflfyn) yn Llanrwst, Hyd. 8, 1858. Enwau ei rieni oedd Charles ac Elizibeth Hughes, ac yr oedd y Parch Robert Hughes, Conwy, yn daid iddo. Bu farw ei dad yn 1873 a'i fam yn 1890. Addysgwyd ef yn Ysgol Frytanaidd Llanrwst. Wed'yn prentis- iwyd ef yn Ariandy y Mri Pugh, Jones a'u Cyf. Bu yno tua saith mlynedd. Aeth i Lun- dain i wasanaeth Mri Kirby ac Endean, cy* hoeddwyr. Yn 1883, priododd Elizabeth, merch y diweddar Mr Joseph Roberts, trafael- iwr, Gwrecsam. Yn 1885, aeth i gysylltiad a'r Gwalia fel is olygydd byd 1888, pan y symud- odd i olygu'r Rhedegydd yn Ffestiniog. Wed'yn bu'n gofalu am ddarllenfa'r lie. Dechreuodd farddoni'n gynar, ond ar ol priodi yr ymrodd ati o ddifrif. Efallai nad oes fardd yn Nghym. ru wedi llwyddo gymaint ag ef mewn cystadl- euon. Y mae ganddo luaws o gadeiriau, tlys- au, a llawryfon eraill. Ba yn ymyl y gadair genedlaathol droion o'r blaen, a llawenha pawb ei weled yn eistedd. ynddi eleni. Y mae yn llenor mirain, a nodweddir ei awen gan swyn telynegol. Ymddangosodd hunangofiant obono yn y Cyrnro am Hydref 6, 1892.

--:0:--Gohehiaethau,

----Saethu y Barnwr Parry.

---0--Brawdfysoedd OogEedd…

--0--Llwyddiant Cantores Gymreig,

-0--Marchnadoedd.

: o; CWRS Y BYD